COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.02.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.02.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Mark Armstrong, Emma Howie.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Huw Jones, Tegid John, Gordon Howie, Rhian Corps, Ceri Griffiths, Wendy Williams, Thomas Mort, Martin Hughes, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 9ed 2023 fel rhai cywir.

DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Wendy Williams ddiddordeb yng nghais cynllunio Clwb Golff Dewi Sant, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddi ag nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

Datganodd y Cyng. Thomas Mort ddiddordeb yng nghais cynllunio Clwb Golff Dewi Sant, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddo ag nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

Datganodd y Cyng. Rhian Corps ddiddordeb yng nghais ariannol Ysgol Ardudwy, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddi a ni chymerodd ran pan drafodwyd y cais.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybod bydd gwaith trin coed angenrheidiol yn cael ei gario allan yn Mharc Bron y Graig a bod y gwaith hyn i fod i gychwyn wythnos diwethaf ond ei bod wedi cael gwybod ei fod wedi ei ohirio am y tro. Hefyd wedi cael llythyr yn datgan bydd y ffordd o bwynt gyferbyn a Llety Perygl hyd at Garreg Wen yn cau ar y 30ain o Fawrth er mwyn cario allan gwaith ceblau ag hefyd y ffordd o ganol y dref tuag at Glan y Wern ar gau ar y 26ain o fis nesa. Hefyd wedi cael gwybod gan Swyddog o Gyngor Gwynedd oherwydd eu bod wedi derbyn llawer o wrthwynebiadau ynglyn a newid yr amser aros o 2 awr i 1 awr gyferbyn ar Hen Lyfrgell maen’t yn teimlo bod yn gwrthwynebiadau hyn yn ddilys ac felly maen’t wedi penderfynu tynnu’r cynnig hwn yn nol ar hyn o bryd ac efallai edrych ar opsiynau eraill yn y dyfodol.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod torriadau llym yn mynd i gael ei wneud yng Nghyngor Gwynedd ag ei bod yn edrych fel bydd treth y Cyngor yn codi 5%, nid oedd y cais lefelu i fyny yn llwyddianus ag felly bydd y gwaith ar hyd corridor gwyrdd Ardudwy yn digwydd. Cafwyd wybod ei fod yn mynd i gyfarfod ar tim ieuenctid a cheisio cael clwb ieuenctid am 6 wythnos, ei fod wedi codi pryderon gyda Huw Dylan Owen ynglyn a diffyg gofal ychwanegol yn yr ardal. Gofynnodd am farn yr Aelodau ynglyn ar cynllun 20 m.y.a a cytunwyd bod ei angen o’r arwydd 30 m.y.a presennol i fyny at London House.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £82,612.06 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,717.30 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ers dechrau Ebrill 2022 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol.  Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.

Arwyddion Ty Canol

Adroddodd y Clerc ei bod wedi sylwi bod polion yr arwyddion hyn i fyny ers dipyn o amser ag ei bod wedi ceisio cysylltu gyda Iwan Ap Trefor i weld pryd bydd yr arwyddion eu hunain yn cael eu gosod ond heb gael ateb ganddo eto.

742……………………………………………Cadeirydd

Cae Chwarae Brenin Sior V

Yn absenoldeb y Cyng. Christopher Braithwaite nid oedd yn bosib cael diweddariad ynglyn ag uwchraddio y cae chwarae uchod ond adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn adroddiad gan Play Inspection Company o’r archwiliad oeddynt wedi ei gario allan o’r offer ag ‘roedd wedi anfon copi ymlaen i’r Cyng. Christopher Braithwaite ag Emma Howie. Cytunwyd anfon copi ymlaen i bawb.

HAL

Adroddodd y Clerc bod penderfyniad wedi ei wneud yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor i roi yr item hon ar yr agenda er mwyn gallu cytuno ar ddyddiad ag amser i gynnal cyfarfod cyhoeddus gyda Aelodau o Fwrdd HAL. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi cysylltu gyda Mrs Donna Morris-Collins, Rheolwr HAL ag hefyd gyda Mrs Linda Soar, Ysgrifennydd y Neuadd Goffa er mwyn cael gwybod pa ddyddiad fyddai yn gyfleus. Adroddodd y Clerc ei bod wedi ceisio cysylltu gyda’r Rheolwr heddiw ynglyn a chael dyddiad ond ei bod heb gael ateb ganddi. Cytunwyd i adael y mater hwn tan y cyfarfod nesa ag os bydd dyddiad heb gael ei bennu gan HAL bod y Cyngor yn pennu dyddiad ag amser ei hunain.

Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL yn gofyn am ganiatad i ddefnyddio y cwrt tenis ger y pwll nofio ar ddydd Sadwrn y 29ain o Ebrill pan maen’t yn cynnal digwyddiad cerddoriaeth byw. Cytunwyd i roi caniatad iddynt.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Cais ôl-weithredol i ailsefydlu preswylfa a trac mynediad – Fferm Cae Du, Harlech (NP5/61/L189E)

Cefnogi y cais hwn.

Trosi siop golf broffesiynol a swyddfa bresennol yn lety noswylio 9 gwely, ailleoli y siop golff broffesiynol i’r storfa troli, ystafell sychu a rhan o ystafell newid bresennol – Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech (NP5/61/100Q)

Cefnogi y cais hwn.

Trosi sgubor yn anecs un ystafell wely ynghyd ac adeiladu estyniad a gosod 4 ffenestr to (3 ar y drychiad blaen ac 1 ar y drychiad cefn), a gosod ffliw allanol (ailgyflwyniad) – Foel, Harlech (NP5/61/608B)

Cefnogi y cais hwn.

Estyniad deulawr yn y cefn, gosod simnai allanol ac ail-leoli’r corn simnai bresennol, dormer newydd a balconi llawr cyntaf ar y drychiad blaen. Gwaith peirianyddol i greu man parcio a wal gynnal newydd – Aelfor, Ffordd Isaf, Harlech (NP5/61/657)

Adroddodd y Clerc mae newydd dderbyn y cais uchod oedd hi ag felly y byddai yn ei anfon ymlaen i’r Aelodau yfory.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £65,575.61 yn y cyfrif rhedegol a £31,161.26 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Play Inspection Company – £240.00 – archwiliad offer y ddau barc chwarae

Dwr Cymru                          –   £18.54  – tap dwr y rhandiroedd

Dwr Cymru                          – £170.07  – toiledau cyhoeddus ger y Castell 

Pwyllgor Hen Lyfrgell        – £165.00  –  llogi ystafell bwyllgor am y flwyddyn

Woodland Trust                 –     £3.60  –  rhent arwydd yn Coed Llechwedd o Ionawr ’21 i Ionawr ‘24

Derbyniadau yn ystod y mis

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

GOHEBIAETH

Clwb Rygbi Harlech

Wedi derbyn llythyr gan Mr. G. Perch ar ran y clwb uchod yn diolch i’r Cyngor am eu cefnogaeth gyda prosiect y clwb yng nghae chwarae Brenin Sior ag yn rhoi diweddariad o’r hyn sydd yn digwydd hefo cael y llain ymarfer yn barod.

743……………………………………………Cadeirydd

Ysgol Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio y cwrt tenis presennol sydd yn yr ysgol trwy osod ffens newydd o’i amglych a datblygu cae aml bwrpas yna. Cytunwyd i gyfranu £5,000 tuag at y gwaith hwn a’i dalu iddynt yng nghyfarfod mis nesa ynghyd a gweddill y ceisiadau.

UNRHYW FATER ARALL

Eisiau glanhau yr hen gafn dwr ceffylau gyferbyn a’r Hen Lyfrgell ag hefyd y llwybr sydd yn rhedeg rhwng cae chwarae Y Waun ar tai.

Datganwyd pryder bod y ffens gyferbyn a toiledau y Queens yn fler.

Datganwyd pryder bod cwynion wedi ei derbyn bod rhai yn parcio ar ben rhiw Dewi Sant ag hefyd yn y llecyn arhosfan bws a datganodd y Cyng. Annwen Hughes bod yr Heddlu yn ymwybodol o hyn.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         744

Share the Post:

Related Posts