COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.09.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.09.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Emma Howie, Huw Jones.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Gordon Howie, Thomas Mort, Tegid John, Rhian Corps, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

‘Roedd 18 aelodau o’r cyhoedd yn bresennol i ofyn cwestiynau ag i gael atebion ynglyn ar twyll a ddigwyddodd yn y Cyngor mis Rhagfyr diwethaf. Mae cofnodion o’r cyfarfod hwn gyda’r cwestiynau a ofynwyd ynghyd ar atebion ynghlwm i’r cofnodion hyn. Hefyd cytunwyd i gyhoeddi ymddiheuriad cyhoeddus ar ran y Cyngor bod hyn wedi digwydd.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 3ydd 2023 fel rhai cywir.

Gofynnwyd am beth oedd taliad wedi cael ei wneud i Japanesse Knotweed Wales Removal ag eglurwyd bod hyn am y gwaith o waredu yr himalayan balsarn oedd yn tyfu ger yr Eglwys a bod yn rhaid i’w chwestryllu i gychwyn a’i adael am dair wythnos.

DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Wendy Williams ddiddordeb yn nghais cynllunio Llain 52 Cae Gwastad, Harlech ac fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddi.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddogion i ddatgan pryder bod y pwyntiau gwefry dal ddim yn gweithio yn maes parcio Bron y Graig ond bod nodyn yn datgan hyn wedi cael ei osod arnynt a ni fyddant yn weithredol tan mis nesa. ‘Roedd wedi cysylltu gyda’r Heddlu oherwydd ei bod wedi derbyn amryw o gwynion ynglyn a ceir yn parcio ar ben rhiw Dewi Sant a wedi cael gwybod eu bod wedi ymweld ar ardal a wedi siarad hefo rhai sydd yn gweithio ger llaw, ond yn anffodus ni yw yn bosib iddynt weithredu oherwydd does dim llinellau melyn ar ochor y ffordd. Hefyd wedi cael gwybod gan Iwan Ap Trefor bod Cyngor Gwynedd heb fod yn llwyddianus yn eu bid I geisio denu arian ar gyfer cario allan gwelliannau ar y groesfan ger ystad dai Ty Canol ond yn sicr y byddant yn ail gyflwyno y cais y flwyddyn nesa os bydd y ffynhonnell ariannol dal yn agored. Hefyd yn datgan oherwydd bod y cynlluniau 20 m.y.a yn dod I rym y mis hwn ni fyddant yn cysidro gosod arwyddion 20 m.y.a gwahanol lawr Ffordd y Nant nag ar groesffordd ystdad dai Penyrhwylfa/Bronyrwylfa. Hefyd adroddodd ei bod wedi cael y fraint o gyflwyno y gwobrau yn sioe haf y Clwb Garddio ar y 26ain o fis diwethaf.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ymgynghoriad yn cymeryd lle gyda’r gwasanaeth tan ag ei fod yn annog yr Aelodau I gwblhau option 1 o’r holiadur, cafwyd wybod bod Llywodraeth Cymru yn gwynebu twll ariannol difrifol a bydd hyn yn cael ei basio ymlaen I’r Cynghorau Sir. Mae llinellau gwyn wedi cael eu gosod ger yr Hen Ysgol o’r diwedd a bod mynedfa I’r traeth wedi cael ei glerio ond bod dim addewid I wneud y gwaith hyn eto a bod ganddo gyfarfod nes ymlaen yn y flwyddyn ynglyn a hyn. Wedi mynychu gwahanol ddigwyddiadau a gafodd eu cynnal yn y dref.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £30,465.70 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,201.30 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

761…………………………………………….Cadeirydd

Cae Chwarae Brenin Sior V

Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi cyfarfod a cynrychiolydd o gwmni MacVenture ynglyn ar zip wire ag ei fod wedi derbyn yr ateb canlynol ganddynt – Fel y trafodwyd, rydym yn bwriadu disodli pen ‘lansio’ 

Prif Far y Rhedfa Awyr gyda darn newydd a fydd yn dyrchafu’r uchder lansio o 600mm. Dyma ben chwith y Rhedfa fel y gwelir o’r ardal chwarae. Byddwn hefyd yn cyflenwi ac yn gosod ramp lansio ar yr un pen, ac yn ail-densiwn y Zip Wire i’r ddysgl briodol. Ni chodir tâl am y gwaith uchod. ‘Roedd cwmni MacVentrue hefyd wedi datgan byddant yn cadarnhau’r union ddyfynbris ar gyfer cost y Mulch Rwber Bonedig ar gyfer ardal y Ffrâm Ddringo yn ystod y dyddiau nesaf ac adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi derbyn y pris hwn sef £5,150 + TAW. ‘Roedd hefyd wedi cael pris o £600 i osod y bollards a cytunwyd i dderbyn hwn ag hefyd pris o £300 i dynnu yr hen fainc gyferbyn a maes parcio Bron y Graig Isaf a cytunwyd i dderbyn y pris hwn.’Roedd wedi cael pris o £750 i wneud y llwybr o’r ffordd i’r parc chwarae. Hefyd cafwyd wybod ei fod wedi cael y prisiau canlynol ynglyn a gosod ffens newydd 330m £48,399, £27,800, i’r Cyngor archebu y deunydd ffensio – ffens bow top £20,000, V3 12m £9,950, prisiau llafur, tynnu hen ffens a gosod un newydd yn unig £8,750, £7,800. Cytunwyd i gael pris am ffens chainlink cyn penderfynnu ag hefyd bod yr is-bwyllgor parc chwarae yn cyfarfod sef yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Rhian Corps, Emma Howie a Tegid John.

Cwrt Tenis

Adroddodd y Cyng. Wendy Williams ei bod wedi cael gwybod bydd neb yn dod i gyfarfod o’r Cyngor i drafod yr uchod a cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Griffiths i glerio y safle a rhoi y mater ar agenda mis Mawrth.

Llochesi Bws

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi dod o hyd i gwmni sydd yn gwneud gwaith adnewyddu ar y rhai presennol ag ei fod wedi cael pris o £8,587 am adnewyddu y ddau loches ganddynt ag ei fod yn chwilio am ddau bris arall. 

HAL

Adroddodd y Cadeirydd bod hi a’r Cyng. Martin Hughes wedi mynychu y cyfarfod gyda HAL ar y 27ain o Orffennaf a bod cynrychiolaeth dda yna. Adroddodd y Cadeirydd bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon at bob Cyngor a datganodd y Clerc ei bod wedi anfon rhain ymlaen i’r Aelodau yn barod. ‘Roedd hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Gorffennaf ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Cadeirydd ymhellach ei bod hi ar Is-Gadeirydd wedi mynychu cyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon cofnodion o’r cyfarfod hwn ymlaen i bob Aelod ag hefyd e-bost oedd Clerc Cyngor Llanbedr wedi ei anfon at HAL. Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL nos Iau y 24ain o fis diwethaf yn datgan bod cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal mewn awr. ‘Roedd wedi anfon hwn ymlaen i gynrychiolwyr y Cyngor ag hefyd i bod Aelod.

Ardal Ni

Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Martin Hughes ynglyn ar cyfarfod oedd wedi cael ei gynnal ar y 24ain o Orffennaf i drafod y mater uchod a cytunodd y Cyng. Martin Hughes anfon e-bost o beth gafodd ei drafod yn y cyfarfod hwn i’r Clerc ag hefyd cytunwyd i gynnal cyfarfod arall ar y 25ain o’r mis hwn.

Rheolau Sefydlog ag Ariannol

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd bod yr Archwiliwr Mewnol wedi datgan bod yn rhaid i’r Rheolau hyn gael eu adolygu yn flynyddol. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o Reolau Sefydlog Diwygiedig gan Un Llais Cymru ag hefyd ei bod wedi ychwanegu y datganiadau a oedd mewn coch yn y Rheolau Ariannol. Cytunwyd i fabwysiadu y ddau fodel newydd ond bod is-bwyllgor yn mynd drwy y Rheolau Sefydlog newydd am bod darn ohono oedd ddim yn gymwys i’r Cyngor hwn. Cytunodd y Cadeirydd ar Cyng. Martin Hughes gael golwg arnynt.

762………………………………………..Cadeirydd

Rhandiroedd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda am ei bod wedi cwynion bod y lle yn fler a bod angen clerio y safle. Agenda mis nesa.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adeiladu tŷ deulawr ar wahan gyda 4 ystafell wely a garej mewnol – Llain 52, Cae Gwastad, Harlech (NP5/61/661A)

Cefnogi y cais hwn.

Rhyddhau Amodau Rhif 2 (llechi to) a 3 (trosglwyddiad golau), a rhyddhau yn rhannol Amod 4 (tanc olew) ynghlwm wrth Ganiatâd Materion a Gadwyd yn Ôl NP5/61/PIAW505B(I) dyddiedig 25/05/2023 – Tir yn Morfa Newydd, Ffordd Glan Môr, Harlech (NP5/61/505C)

Adroddodd y Clerc mae prynhawn heddiw ‘roedd wedi derbyn y cais cynllunio uchod ag y byddai yn anfon ymlaen i’r Aelodau yfory.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £109,449.72 yn y cyfrif rhedegol a £31,398.53 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyngor Gwynedd                – £10,000.00  – cyfraniad y Cyngor i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored

Cyngor Gwynedd                     –  £294.00 –  archwiliad mewnol 2022/23

Mr. Tom Edwards                    –  £360.00 –  gwaith ar goed ar y llwybr natur a 14 Pant Mawr

Mr. G. J. Williams                     – £456.00  –  torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed x 3

Mr. M. J. Kerr                            – £790.00  –  agor bedd y diweddar Ms Freda Williams

Dwr Cymru                               –     £28.98  – tap dwr y rhandiroedd

Dwr Cymru                               –  £395.77  –  toiledau cyhoeddus ger y Castell 

Mrs Margaret Williams      –  £1,610.00  –   costau ffair mop Harlech

Mrs Annwen Hughes           – £1,661.35  –  cyflog (£882.00) a chostau 6 mis (£779.35) = £1,661.35

Mrs Annwen Hughes                – £49.99   –  sebon i’r toiledau cyhoeddus ger y neuadd goffa

‘Roedd yn rhaid gwneud y taliadau uchod mewn dau daliad oherwydd uchafswm y Cyngor i dalu taliadau ar lein yw £15,000.

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Tegid John gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Bu trafodaeth o sut I symud ymlaen I wneud taliadau yn y dyfodol ag hefyd cytunwyd I drosglwyddo swm o arian o’r cyfrif cyfredol I’r cyfrif cadw. Cytunwyd bod y Trysorydd yn ymweld ar banc er mwyn gallu cael app I alluogi I daliadau gael eu gwneud mewn cyfarfod o’r Cyngor a cytunwyd clustnodi 10 mund olaf o gyfarfod y Cyngor I wneud y taliadau hyn.

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad           –    £3,101.69 –  ad-daliad T.A.W.

Cyngor Gwynedd       –  £35,000.00 – hanner y precept

Pritchard a Griffiths  –     £1,827.00 – claddu y diweddar Mrs Freda Williams (bedd newydd)

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £3,500 – cynnig precept (taliad misol Gorffennaf ag Awst)

763……………………………………………..Cadeirydd

GOHEBIAETH

Mr. Mark Armstrong

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan yr uchod oherwydd ei fod wedi cael swydd newydd gyda’r Heddlu ag ‘roedd yn teimlo bod ddim yn iawn iddo barhau fel Cynghorydd Cymuned. Cytunwyd i anfon yr e-bost hwn ymlaen i’r Adran Etholiadol yng Nghyngor Gwynedd.

Mr. Joe Patton

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan ei fod  wedi cael gwybod bod y bydd yn derbyn £250 gan y PCSO lleol i gefnogi yr ardd gymunedol o flodau gwyllt. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i archebu mwy o blanhigion lafant, cenin pedr a nwyddau garddio. Oherwydd bod gan yr ardd gymunedol ddim cyfrif banc ‘roedd yn meddwl y byddai yn gallu gofyn iddynt ei dalu i gyfrif y Cyngor Cymuned a byddai Mr. Patton yn gallu hawlio yr arian wrth anfon anfoneb i’r Cyngor. Hefyd cafwyd wybod ganddo yn ystod y mis nesa bydd plant iau Ysgol Tan y Castell yn plannu bylbiau cennin pedr a bydd y blodau hyn yn barod iddynt eu pigo ar ddiwrnod Dydd Gwyl Dewi neu dydd Gwener cyn Sul y Mamau ar y 10ed o Fawrth fel gall y plant fynd a nhw adra i’w mamau.

Mrs Eleri Price

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor, ar ôl iddynt dderbyn caniatâd gan y Cyngor (caniatâd a roddwyd yng nghyfarfod mis Mai) iddynt ddefnyddio cae chwarae Brenin Siôr i gynnal derbyniad priodas eu merch y bydd cwmni’r babell yn ymweld â’r cae ar benwythnos y 28ain o Hydref. Hefyd yn gofyn am eglurhad y byddai’r cae cyfan ar gael gyda’r cae pêl-droed llain ar gwyrdd wedi’i ffensio i ffwrdd, yn gofyn hefyd a oes prif gyflenwad dwr ar gael a/neu drydan, ag a fyddai rhai o’r ceir gwestion yn gallu parcio ar y cae. Datganwyd bod y cae cyfan ar gael ag hefyd bod yna gyflenwad dwr ar y safle a oedd yn perthyn i’r Clwb Rygbi a cytunodd y Cyng. Gordon Howie wneud ymholiadau ynglyn a hyn ag hefyd cytunwyd bod ceir yn cael parcio ar y cae.

Mr. Paul Axon

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost  gan yr uchod yn datgan pryder bod coeden ddim yn ddiogel ger 14 Parc Pant Mawr ag ei bod wedi pasio yr e-bost ymlaen i’r Cyng. Huw Jones. Adroddodd ymhellach bod y Cyng. Jones wedi cysylltu gyda Mr. Tom Edwards ynglyn a hyn a bod y ddau wedi bod yn gwneud y gwaith angenrheidiol i’r goeden hon a coeden oedd ddim yn ddiogel ar y Llwybr Natur. ‘Roedd y Clerc wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diolch i’r Cyng. Huw Jones a Mr. Tom Edwards am eu gwaith arbenig oeddynt wedi ei wneud gyda’r goeden ger 14 Parc Pant Mawr.

UNRHYW FATER ARALL

Cytunwyd sefydlu is-bwyllgor i drafod y “ffordd ymlaen” a cytunodd yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Tegid John, Rhian Corps a Martin Hughes fod yn rhan o’r pwyllgor hwn ag eu bod yn cyfarfod ar y 18ed o’r mis hwn.

Datganwyd bod angen newid y safle parcio bysiau yn maes parcio Bron y Graig Uchaf i safleoedd parcio ceir am bod byth bws yn parcio yna.

Angen rhoi cynllun hyfforddiant ar agenda mis nesa.

Angen rhoi creu tudalen weblyfr y Cyngor ar agenda mis nesa.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         764

Share the Post:

Related Posts