COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 03.07.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 03.07.23

ANNWEN HUGHES

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Ceri Griffiths, Mark Armstrong, Gordon Howie, Thomas Mort, Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Tegid John, Rhian Corps, Emma Howie, Huw Jones, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd). 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mehefin 5ed 2023 fel rhai cywir.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cysylltu gyda’r Swyddogion i ddatgan pryder bod y pwyntiau gwefry dal ddim yn gweithio yn maes parcio Bron y Graig ond bod nodyn yn datgan hyn wedi cael ei osod arnynt. ‘Roedd wedi derbyn gwybodaeth bod y rhai oedd yn gweithio ar Ffordd Morfa wedi agor twll mewn gardd preifat a ger groesffordd y ty ag ‘roedd wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod eu bod wedi gwneud y gwaith hyn heb ganiatad Chyngor Gwynedd na perchennog y ty ag ‘roedd Swyddog o Gyngor Gwynedd wedi datgan y byddai yn cadw llygaid ar y gwaith hyn. ‘Roedd wedi cysylltu ar Adran Amgylchedd, Cyngor Gwynedd ar ol cael gwybodaeth bod yr himalayan balsarn oedd yn tyfu ger mynedfa yr Eglwys yn tarddu o’r llyn yn Parc Bron y Graig Uchaf ag ‘roedd wedi gofyn iddynt gael gwared o’r planhigyn hyn o’r llyn ac roedd hi wedi cael ateb yn dweud bod Arolygydd yn mynd i ymweld â’r safle ddydd Gwener diwethaf i asesu’r sefyllfa. Hefyd ‘roedd wedi cysylltu gyda Network Rail yn gofyn iddynt dorri yn nol gor-dyfiant oedd wedi tyfu ger croesfan y Nant ar ol derbyn e-bost a lluniau. Dyma oedd yr ateb oedd wedi ei dderbyn gan y Peiriannydd Ardal – mewn perthynas a materion yn Harlech. Hoffwn eich hysbysu fod trafodaethau wedi bod yn digwydd rhwng yr Adran Priffyrdd a Dwr Cymru ynglŷn a’r sefyllfa wrth Garej Morfa. Fel mae’n amlwg mae’r pant yn dilyn llwybr pibell Dwr Cymru i mewn i’r Waun. Mae’r sefyllfa hyn wedi codi yn y Waun yn flaenorol a Dwr Cymru yn gwadu cyfrifoldeb nes oedd rhaid i Adran Priffyrdd brofi mai problem gyda y bibell dwr oedd yn achosi’r difrod. O ganlyniad ein trafodaethau, mae Dwr Cymru wedi trefnu archwiliad CCTV ar y safle wythnos yma. Byddwn yn cael trafodaeth pellach unwaith fydd Dwr Cymru wedi derbyn canlyniad yr archwiliad. Os bydd y canlyniad ddim yn dangos dim, ein bwriad yw i ymchwil y safle wrth tyllu lawr. Mewn perthynas a ystâd TŶ Canol, mae rhan yma o Harlech yn dir gwastad ar dywod a mae unrhyw ddŵr ar wyneb yn rhedeg i ffosydd sydd yn dderbyniol ar y llanw neu i’r carthffos. Wrth osod unrhyw system dwr ar wyneb i garthffos mae angen “swan neck” ar y system fel bod unrhyw arogl o’r system yn amharu ar yr ardal. Mae hyn yn arafu llif y dwr o’r wyneb adael y ffordd sydd yn gallu creu sefyllfa fel Tŷ Canol yn anffodus. Hoffwn eich hysbysu fod trefniadau wedi ei wneud fod gwliau Tŷ Canol a gweddill Harlech am gael ei glanhau wythnos yma. Fydd unrhyw ddiffyg yn cael ei adnabod a derbyn sylw. Hoffwn eich hysbysu fod yr Arolygwr wedi ymweld a’r manhole sydd ar ystâd dai Bron y Graig ac yn dilyn y mater hwn. ‘Roedd wedi cael ateb gan y Swyddog Llwybrau ynglyn ar giat ar y llwybr sydd yn mynd o Ystad Castell y Morfa at cae chwarae Brenin Sior ag yn datgan ei fod wedi cael golwg ar hon ag ei bod wedi rhydu ag felly byddant yn gosod giat newydd yna.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £9,509.24 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £25,518.76 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Cae Chwarae Brenin Sior V

Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi cyfarfod a cynrychiolydd o gwmni MacVenture ynglyn ar zip wire i weld a oes posib gosod ramp un ochor i wneud yr offer i weithio yn well ag ei fod yn aros am gadarnhad 

758………………………………………………Cadeirydd

o’r prisiau. Cytunwyd i dalu yr afoneb am yr offer chwarae ond ddim talu am yr offer zip wire. . Hefyd cafwyd wybod ei fod yn aros am bris gan North Wales Fencing a chwmni o Gonwy am ffens newydd ar hyd ochor y ffordd ag am ddatblygu llwybr o’r ffordd i’r ardal chwarae. Cytunodd y Cyng. Emma Howie edrych i mewn i brisiau am offer chwarae golff pel mawr.

Cwrt Tenis

Adroddodd y Cyng. Wendy Williams ei bod wedi cael gwybod gall y Cyngor wneud cais am grant i Gyngor Chwaraeon Cymru i gael yr uchod wedi ei uwchraddio a chytunwyd i aros i weld beth fyddai gan yr arbennigwr sydd i fod i ddod i’r Cyngor i drafod y safle hwn i ddweud cyn gwneud ddim penderfyniad pellach. Cytunwyd i wahodd y sawl sydd eisiau gwneud y gwaith hwn i gyfarfod nesa y Cyngor ar y 4ydd o Fedi am 7.30 o’r gloch. 

Llochesi Bws

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi dod o hyd i gwmni sydd yn gwneud gwaith adnewyddu ar y rhai presennol ag ei fod yn aros am bris gan rhain. 

HAL

Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu y cyfarfod gyda HAL ar y 29ain o fis diwethaf a bod cynrychiolaeth dda yna. Adroddodd y Cadeirydd bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon at bob Cyngor a datganodd y Clerc ei bod wedi anfon rhain ymlaen i’r Aelodau yn barod. Aethpwyd drwy’r cofnodion hyn a datganwyd bod y Cyngor ddim yn fodlon i HAL anfon adroddiad ariannol bob tri mis a bod eu angen bob mis. Cytunodd y Cyng. Christopher Braithwaite lunio ychydig o gwestiynau i’w anfon i HAL. Cafwyd wybod bydd cyfarfod pellach yn cael ei gynnal ar y 27ain o’r mis hwn rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL a cytunodd y Cadeirydd fynychu y cyfarfod hwn.

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd â chopi o gyfrif elw a cholled y ganolfan ar gyfer mis Mai a chopi o’r dadansoddiad misol o ddefnydd o’r pwll rhwng Ionawr a Mai. Hefyd yn nodi bod y wal ddringo yn dal ar gau ac mae’r caffi yn rhedeg ar amserlen oriau agor llai oherwydd materion staffio. ‘Roedd hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Mai ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn llythyr gan Glerc Cyngor Cymuned Llanbedr yn gwahodd 2 aelod o’r Cyngor i gyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst am 7.00 o’r gloch i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Cytunodd y Cadeirydd ar Is-Gadeirydd fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor.

Ardal Ni

Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Martin Hughes ynglyn ar ffordd ymlaen gyda’r uchod a datganodd ei fod wedi dod o hyd i gopi o Gynllun Strategol Harlech ag ei fod yn meddwl bod angen ail edrych ar y ddogfen hon. Cytunwyd sefydlu is-bwyllgor i drafod y mater hwn a cytunodd y Cadeirydd, y Cyng. Martin Hughes, Rhian Corps ag Emma Howie fod yn rhan o’r pwyllgor hwn ag eu bod yn cyfarfod ar y 24ain o’r mis hwn yn yr Hen Lyfrgell am 7.00 o’r gloch.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Cais ôl-weithredol i drosi ffermdy segur yn llety gwyliau ar osod a chreu trac mynediad – Fferm Cae Du, Harlech (NP5/61/L189E)

Cefnogi y cais hwn.

Codi estyniad deulawr yn y cefn, ychwanegu simnai allanol ac ail-leoli’r corn simnai bresennol, dormer newydd a balconi llawr cyntaf ar y drychiad blaen ac ardal patio. Gwaith peirianyddol i greu man parcio a wal gynnal newydd – Aelfor, Ffordd Isaf, Harlech (NP5/61/657A)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £83,420.78 yn y cyfrif rhedegol a £31,316.66 yn y cyfrif cadw.

759………………………………………………Cadeirydd

Taliadau yn ystod y mis

Mrs Yvonne Jones                                    – £315.50 –   glanhau toiledau ger Neuadd Goffa

Cyllid a Thollad                                          – £109.80  –  treth ar gyflog y Clerc

Mr. G. J. Williams                                      – £152.00  –  torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed

UK Timber                                                   – £598.16  –  3 bollard ger cae chwarae Llyn y Felin

Japanese Knotweed Removal Wales     – £150.00 –  gwaredu himalayan balsarn ger yr Eglwys

MacVentrue Playgrounds               –     £17,862.00  – offer chwarae cae Brenin Sior (heblaw am y zip wire)

‘Roedd yn rhaid gwneud y taliad i MacVenture Playgrounds mewn dau daliad oherwydd uchafswm y Cyngor i dalu taliadau ar lein yw £15,000.

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cadeirydd, y Cyng. Edwina Evans a wnaeth y Cyng. Tegid John gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Pritchard a Griffiths  –  £1,746.00 – claddu y diweddar Ms Dawn Lynne Foulkes (bedd newydd i un)

Pritchard a Griffiths  –     £907.36  –  claddu y diweddar Mrs Eifiona Williams (ail agor bedd)

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750 – cynnig precept (taliad misol)

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd ffordd Twtil yn cau ar y 10ed o’r mis hwn er mwyn gosod pibell dwr newydd ar rhan Dwr Cymru. ‘Roedd y gwaith hwn wedi ei ohirio o’r 31ain o fis Mai.

Mrs Stephanie Evans

Wedi derbyn yr e-bost canlynol gan yr uchod ynglyn a Pharc Bron y Graig – hoffwn wneud sylw am Barc Bron y Graig os gwelwch yn dda. Mae’r glaswellt bellach wedi tyfu i fyny at y ben-glin ac mae WaterHemlock ar ochrau’r nant. Mae hwn yn wenwynig iawn.  Deuthum hefyd ar draws gwenyn mawr (2cms) yr oedd yn edrych yn eithaf tebyg i’r rhai Asiaidd sy’n ymledol hefyd. Hefyd, cwympodd Judith ym mis Mai a thorri ei ffêr ar y llwybr rhwng y coed. Mae’n edrych fel bod y Parc angen cryn dipyn o sylw. Dewch â hyn i fyny gan fod pobl eraill hefyd yn cwyno am gyflwr ein hardal hyfryd. Adroddodd y Clerc ymhellach mai dyma’r ateb a gafodd yn ôl gan Gyngor Gwynedd dywedodd er eu bod yn gwneud eu gorau o fewn y gyllideb sydd ar gael a gyda threfniadau mewn llaw i ddatrys y broblem gyda’r hemlock. Fodd bynnag, rydym yn dod yn ôl i’r hyn a drafodwyd yn ein cyfarfod safle y llynedd gyda’r Cyngor Cymuned wrth ofyn i’r Cyngor Cymuned gyfrannu tuag at dorri’r glaswellt yn amlach na’r hyn y mae ein cyllideb yn ei ganiatáu. Cytunwyd i beidio a cyfranu at dorri gwair y Parc hwn yn fwy aml ond eisiau gofyn iddynt pryd fydd y torriad nesa yn cael ei wneud.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod angen torri y brigau coed sydd yn tyfu drosodd ag yn amharu ar y llwybr cyhoeddus sydd yn mynd o Parc Bron y Graig i fyny at Pendref a cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Griffiths wneud y gwaith hwn.

Datganwyd pryder bod o amgylch y gader stori yng nghae chwarae Brenin Sior yn fler a cytunwyd gofyn i Mr. Gareth John Williams ei dacluso.

Cafwyd wybod bod pryder bod rhai yn gor-yrru lawr ffordd y Nant am ysgol Tan y Castell a cytunwyd gofyn a fyddai’n bosib gosod arwyddion 20 m.y.a yna.

Cafwyd wybod bod trigolion ystad dai Penyrhwylfa a Bronyrhwylfa eisiau arwyddion 20 m.y.a fel sydd wedi cael eu gosod ar ben ffordd ystad Ty Canol.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         760

Share the Post:

Related Posts