COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 02.10.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 02.10.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort, Ceri Griffiths, Gordon Howie, Huw Jones.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Emma Howie, Tegid John, Rhian Corps, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

‘Roedd 3 aelodau o’r cyhoedd yn bresennol i ofyn cwestiynau ag i gael atebion ynglyn ar twyll a ddigwyddodd yn y Cyngor mis Rhagfyr diwethaf. Mae copi o’r cwestiynau a ofynwyd ynghyd ar atebion ynghlwm i’r cofnodion hyn.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 4ydd 2023 fel rhai cywir. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ei fod yn brydeurs ynglyn ar gost am y ffens newydd fydd yn mynd ar hyd ochor y ffordd ger cae chwarae Brenin Sior a datganwyd bod ddim penderfyniad ynglyn a archebu ffens wedi ei wneud eto.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ei fod heb gael ateb ynglyn ar mater a gododd gyda maes parcio Bron y Graig Uchaf yng nghyfarfod mis diwethaf a datganodd y Clerc ei bod heb gael ateb i hyn eto.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi derbyn sawl cwyn ynglyn ar cyflymder gyrru o 20 m.y.a yn enwedig ar hyd Ffordd Morfa, ‘roedd wedi dod ar draws tipio slei bach yn digwydd ger y biniau yn maes parcio Min y Don a wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn ag ‘roedd y broblem wedi cael ei chlerio erbyn hyn. ‘Roedd hefyd wedi derbyn cwynion bod y ffens bren sydd ar hyd ochor y ffordd ger Siop y Morfa yn fler a cytunwyd ei bod yn cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn a hyn ag hefyd adroddod ei bod wedi cael cwynion ynglyn a cyflwr llwybr y Nant ag eisiau cysylltu a Mr. Meirion Griffiths ynglyn a hyn. Gofynnwyd a fyddai yn bosib iddi gysylltu gyda Chyngor Gwynedd I gynnig byddai y Cyngor Cymuned yn talu am osod croesfan ger ystad Ty Canol ond bod Cyngor Gwynedd yn tynnu allan y cynlluniau.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi ymweld ar eglwys gatholic yn y dref yn diweddar ag hefyd ei fod wedi cael gwybod bod Mr. Geraint Williams yn bwriadu rhoi gorau I gynnal Ffair Mop yn y dref ag hefyd fod yn ofal y goleuadau nadolig ar ol eleni. Hefyd gofynodd a fyddai yr Aelodau yn gwybod pa rif oedd y llwybr oedd yn mynd ger y Coleg.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £49,619.79 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £3,888.29 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Cae Chwarae Brenin Sior V

Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi derbyn 7 pris ar gyfer cost y Mulch Rwber Bonedig i’w osod yn ardal y Ffrâm Ddringo ag hefyd ‘roedd wedi derbyn prisiau ynglyn ar ffens a cytunwyd bod yr is-bwyllgor yn cyfarfod i drafod y prisiau hyn ag yn adrodd yn nol i’r Cyngor. Cytunwyd i dderbyn pris Mr. Meirion Evans o £750 i wneud y llwybr o’r ffordd i’r parc chwarae

765…………………………………………..Cadeirydd

Llochesi Bws

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi dod o hyd i gwmni sydd yn gwneud gwaith adnewyddu ar y rhai presennol ag ei fod wedi cael pris o £8,587 am adnewyddu y ddau loches ond ei fod yn methu cael pris arall gan neb. Cytunwyd bod yr is-bwyllgor yn cyfarfod i drafod prisiau llochesi newydd.

Rhandiroedd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda am ei bod wedi cwynion bod y lle yn fler a bod angen clerio y safle ag yr oedd wedi cael gwybod gan y Cyng. Huw Jones bod ef a Mr. Tom Edwards yn mynd i glerio y safle. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Meirion Evans bod bwlch wedi dod i lawr rhwng ei dir ef ar rhandiroedd. Cytunwyd i ofyn i Mr. Evans a fyddai yn fodlon i godi y bwlch dan sylw a bod y Cyngor yn talu hanner y gost.

HAL

Adroddodd y Cadeirydd bod hi a’r Cyng. Martin Hughes wedi mynychu y cyfarfod gyda HAL ar yr 28ain o fis diwethaf a cafwyd wybod bod y caffi bellach ddim ond yn gwneud diodydd poeth ag oer, bod dim newid gyda to y wal ddringo ag y byddant yn cau y ganolfan am fis o’r 15ed o Ragfyr tan yr 16eg o Ionawr a bydd y cyfarfod nesa gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal ar y 23ain o Dachwedd. Hefyd cafwyd wybod bod HAL yn anfon anfoneb allan am 3 mis ar y tro a bod un am fis Hydref tan Ragfyr wedi cael ei dderbyn ond cytunodd y Cyngor i barhau i dalu yn fisol iddynt. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Awst ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc bod cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn y neuadd bentref, Llanbedr ar yr 11eg o’r mis hwn i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL a cytunodd yr Is-Gadeirydd ar Cyng. Martin Hughes fynychu y cyfarfod hwn.

Ardal Ni

Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Martin Hughes ynglyn ar cyfarfod oedd wedi cael ei gynnal ar y 25ain o fis diwethaf ac adroddodd fel a ganlyn – Cynhaliwyd cyfarfod Cynllunio Strategol diweddaraf Edwina Evans, Rhian Corps a minnau ddydd Llun 25ain Medi. Aethom drwy’r drafft gweithredol o gynllun Ardal Ni Harlech ac mae canlyniadau’r drafodaeth grŵp wedi’u hymgorffori yn ‘ddrafft trafod’ y cynllun ynghlwm. Rydym yn annog aelodau eraill o’r cyngor i drafod yr hyn sydd eisoes yn y drafft a gwneud awgrymiadau ynghylch yr hyn y gellid ei ychwanegu.   Byddwn yn cyfarfod eto ddydd Mawrth 24 Hydref am 7pm, ac yn gwahodd cynghorwyr eraill i ymuno â ni. Rydym hefyd yn bwriadu gwahodd amryw o bobl leol i ymuno â ni ar gyfer y cyfarfod a chyfrannu at y drafodaeth am y cynllun.

Rheolau Sefydlog ag Ariannol

Adroddodd y Cyng. Martin Hughes bod ef ar Cadeirydd wedi cael golwg ar y rheolau uchod ac adroddodd fel a ganlyn – Mae’r modelau Un Llais Cymru Rheolau Sefydlog a Rheoliadau Ariannol bellach wedi cael eu gwirio drwodd gan y Cadeirydd a minnau. Gadawodd modelau Un Llais Cymru wedi gadael rhai bylchau i Gynghorau unigol eu cwblhau fel y bo’n briodol, mae’r rhain wedi’u cwblhau mewn porffor. Cynigir rhai gwelliannau hefyd mewn porffor ynghyd ag ychydig o nodiadau esboniadol mewn porffor. Bydd y fersiynau Cymraeg o’r Rheolau Sefydlog a’r Rheoliadau Ariannol newydd yn cael eu cynhyrchu ar ôl eu mabwysiadu.  Mae’r drafft newydd Rheolau Sefydlog a’r Rheoliadau Ariannol ynghlwm wrth eu hystyried a’u mabwysiadu o dan agenda eitem 6 (g). Maen’t yn fwy helaeth na’r Rheolau Sefydlog a’r Rheoliadau Ariannol presennol, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion cyfreithiol presennol ac arfer da cydnabyddedig. Mae’r Rheolau Sefydlog a’r Rheoliadau Ariannol presennol hefyd ynghlwm er gwybodaeth. Cytunwyd i fabwysiadu y Rheolau Sefydlog ag Ariannol newydd.

Scam

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael ymateb gan banc HSBC yn datgan eu bod ddim yn mynd i newid eu meddyliau ynglyn ag ad-dalu yr arian i’r Cyngor ag yn rhoid caniatad i’r Cyngor gysylltu gyda’r Ombwdsmon Ariannol ynglyn ar mater yma a cytunwyd i wneud hyn. Hefyd adroddodd y Clerc bod banc HSBC wedi cyfaddef eu bod wedi anfon y llythyr dyddiedig 31ain o Fawrth i’r Cyngor mewn camgymeriad ag yn gofyn i’r Cyngor ei losgi ag yn rhoi £100 i’r 

766………………………………………….Cadeirydd

Cyngor fel ewyllys da am y camgymeriad hyn. ‘Roedd y Clerc wedi derbyn adroddiad yr Archwiliwr Allanol ynglyn ar mater hyn a wedi ei anfon ymlaen i bob Aelod, ond oherwydd bod yr adroddiad hyn yn un gyfrinachol nid oedd posib cofnodi y drafodaeth a gymerodd lle ynglyn ar adroddiad. Cytunwyd yn unfrydol bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Ombwdsman Ariannol.

Creu Tudalen Weplyfr I’r Cyngor

Cytunwyd i greu tudalen o’r fath a cytunodd y Cyng. Emma Howie a Rhian Corps fod yn ofal y dudalen hon ag hefyd cytunwyd gofyn i Mrs Kim Howie am ei chymorth.

Cyfarfod y Ffordd Ymlaen – 18.9.23

Adroddwyd bod y cyfarfod uchod wedi cymeryd lle a bod gwahanol awgrymiadau wedi cael eu trafod a cytunwyd bod y Clerc yn derbyn copi o gofnodion y cyfarfod hwn er mwyn eu anfon ymlaen i bob Aelod.

Cynllun Hyfforddiant I Aelodau

Adroddodd y Cyng. Martin Hughes ei fod wedi tynnu allan cynllun draft o hyfforddiant i’r Aelodau. Cytunwyd anfon ymlaen e-bost ynglyn a gwahanol hyfforddiant mae Un Llais Cymru yn ei gynnig i bob Aelod er mwyn iddynt gael yr opsiwn o fynychu rhai os byddant eisiau.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol bod cais am etholiad wedi cael ei dderbyn ganddo a bydd y rhybudd am hyn yn cychwyn ar y 12ed o’r mis hwn ag yn dod I ben ar yr 20ed. Os bydd mwy na un enw wedi ei dderbyn ganddo bydd etholiad yn cael ei chynnal ar yr 16eg o Dachwedd. Hefyd ‘roedd y Swyddog Etholiadol angen gwybod os byddai etholiad yn cael ei chynnal a fyddai y Cyngor Cymuned yn barod I ysgwyddo cost o brintio y cardiau pleidleisio ag hefyd yn gofyn a fyddai’n bosib gadael iddo wybod os byddai y Cyngor yn rhagweld y bydd cystadleuaeth.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Newid defnydd rhan o’r llawr gwaelod o fanwerthu (A3) i ddefnydd manwerthu a domestig –  Gwalia, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/335E)

Ddim sylwdau ar y cais hwn.

Caniatâd Hysbyseb i gadw arwyddion wedi’u goleuo’n allanol – Llew Glas, 1-4 Plas Y Goits, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/ADT2J)

Cefnogi y cais hwn.

Gosod 1 ffenestr dormer newydd i ddrychiad y to blaen, gosod 1 ffenestr to newydd i ddrychiad y to blaen ac 1 ffenestr to newydd i ddrychiad y to cefn, ehangu’r ffenestr to presennol ar y drychiad to cefn, a gosod ffenestr talcen newydd i’r drychiad gogleddol – Bryn Siriol, Ffordd Uchaf, Harlech  (NP5/61/665)

Cefnogi y cais hwn.

Codi 2 estyniad unllawr (1 i’r ffrynt ac 1 i’r ochr) – 22 Tŷ Canol, Harlech (NP5/61/664)

Cefnogi y cais hwn.

Amnewid ffenestr ar y drychiad blaen gyda drws deublyg – Sibrwd Y Môr, Ffordd y Traeth, Harlech (NP5/61/663)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £20,545.63 yn y cyfrif rhedegol a £101,446.80 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad           –  £110.00 – treth ar gyflog y Clerc

Mr. G. J. Williams        – £152.00 –  torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed 

Mr. Lee Warwick        –  £567.67 –  glanhau y toiledau ger y Neuadd Goffa (taliad 4 mis)

767………………………………………………….Cadeirydd

G & J Cole                    –  £103.50 –  archebu pabi coch i’w gosod ar lampau stryd

Mr. Chris Braithwaite – £334.73 – papur toilet i’r toiledau ger y Neuadd Goffa

Mr. Meirion Evans      – £360.00  – gwaredu sedd ger maes parcio Bron y Graig Isaf

Ceisiadau am gymorth ariannol

Pwyllgor Hen Lyfrgell                  – £1,000.00

Pwyllgor Neuadd Goffa              – £1,000.00

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750.00 – cynnig precept (taliad misol)

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Tegid John gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Triathlon Harlech – £150.00 – llogi cae chwarae Brenin Sior ar gyfer parcio

Banc HSBC             – £100.00  – iawndal am anfon llythyr mewn camgymeriad

GOHEBIAETH

Pwyllgor Hen Lyfrgell

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon rhoi grant o £660.00 tuag at archebu dau plac, un er cof am Daniel Angell Jones, 5 Bronwen Terrace a oedd yn brifathro yr ysgol gynradd 100 mlynedd yn nol a Bryan Hilton Jones, mab Dr. Orthin Jones, Pen y Garth a enillodd fedal trwy gweithgareddau dan ddearol linell y tu ôl i linellau’r gelyn cyn glaniadau D Day. Hefyd fe agreuodd y caffi aml safle “The Meltin Pot” lle mae siop Y Grocer heddiw. Mae caniatad i osod y ddau plac ar y gwahanol adeiladau wedi ei dderbyn yn barod. Ar ol trafodaeth cytunwyd gofyn i Mr. Maxwell a fyddai modd iddo ddod i gyfarfod o’r Cyngor i ddweud mwy o hanes am y placiau hyn cyn bod y Cyngor yn gwneud penderfyniad ar y cais.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Martin Hughes bod ddim ond un casgliad yn cael ei wneud o’r blwch post yn y dref o hyn ymlaen ac adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi gwneud ymholiadau ynglyn a hyn a bod hyn yn digwydd trwy Wynedd ag hefyd i lawr yn y De.

Cafwyd wybod gan y Cyng. Martin Hughes bod cyfarfod o bwyllgor Ardal Un Llais Cymru yn cael ei gynnal nos Fercher y 4ydd o’r mis hwn.

Cafwyd wybod bydd sesiwn galw i mewn Treftadeth Ardudwy yn cael ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell ar y 5ed o’r mis hwn rhwng 4 a 7 o’r gloch y nos a wedi ei drefnu gan y Parc Cenedlaethol.

Ar ran y Cyngor diolchwyd i’r Cyng. Christopher Braithwaite am yr holl waith mae yn ei wneud gyda gwahanol faterion.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         768

Share the Post:

Related Posts