COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 22.02.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 22.02.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Hywel Jones, Osian Edwards, a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

PRESENNOL

Cyng. Robert G. Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

Yn absenoldeb y Cadeirydd ar Is-Gadeirydd cymerwyd y Gadair gan y Cyng. Robert G. Owen.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 12ed 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £19,280.54 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,078.84 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma ag ei fod wedi cytuno i edrych am gwahanol opsiynau ar ran y Cyngor.

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cael gwybod bod y Gwasanaeth Traffic wedi cyfarfod i drafod y cynigion traffic ag eu bod wedi cytuno i gario ymlaen i osod y llinellau melyn uchod er bod un llythyr wedi cael ei dderbyn ganddynt ond yr oeddynt o’r farn mae sylw oedd yn y llythyr hwn a nid gwrthwynebiad. Bydd yr Adran Gyfreithiol yn nawr yn cario ymlaen i gadarnhau’r gorchymyn a byddant yn trefnu i gontractwyr ddod i baentio’r llinellau ag hefyd gosod arwyddion. Cafwyd wybod bod y llinellau hyn wedi cael eu gosod.

Gosod Mast Ffon ar Foel Gerddi

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd bod gohebiaeth wedi cael ei dderbyn yn gofyn am sylwadau yr Aelodau i osod mast ffon yn y lleoliad uchod. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y llythyr hwn ymlaen i’r Aelodau yn barod. Cytunwyd bod ddim sylwadau ar hwn ond byddai yr Aelodau yn falch o gael gwybod faint o ardal mae y mast hwn yn ei gyfro.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Caniatâd Adeilad Rhestredig i osod pared â serennog i rannu’r ystafell fyw i greu ail ystafell wely a gosod drws tân yn lle’r drws mynediad i’r ystafell wely bresennol – The Cottage, Tŷ Mawr, Llanfair (NP5/66/LB32F)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £7,774.07 yn y cyfrif rhedegol a £5,529.72 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mr. M. J. Kerr              – £440.00 – agor bedd y diweddar Mrs Maureen Parry

Mr. M. J. Kerr              – £440.00 – agor bedd y diweddar Mr. David Lambert

Mrs Annwen Hughes – £380.00 (cyflog 3 mis) + £410.36 (costau blwyddyn) = £790.36

Er bod anfoneb Mr. Kerr am agor bedd y diweddar Mr. Lambert heb gael ei dderbyn cytunodd yr Aelodau yn unfrydol bod hon yn cael ei thalu unwaith byddai y Clerc yn ei derbyn er mwyn i’r taliad gael ei ddangos yn y flwyddyn ariannol presennol.

457……………………………………………..Cadeirydd

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey      – £40.00  – rhent cwt yr hers (Chwefror) 

Pritchard a Griffiths – £856.00 – claddu y diweddar Mrs Maureen Parry

Pritchard a Griffiths – £856.00 – claddu y diweddar Mr. David Tanwg Lambert

Ceisiadau am gymorth ariannol

Ysgol Ardudwy                    –  £500.00

Ysgol Hafod Lon                  –  £500.00

Ambiwlans Awyr Cymru    –  Dim (cafwyd wybod bod amryw o flychau arian heb gael eu casglu ers amser maith)

CFFI Meirionnydd               –  Dim  

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei bod yn bwriadu newid camfa diffygion ar lwybr cyhoeddus rhif 13 ger Cilbronrhydd a thorri eithin ag ail osod giat i agor/cau ar llwybr cyhoeddus rhif 34 Ty’n Llidiart Mawr.

Ysgol Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn am gymorth ariannol tuag at uwchraddio y cwrt tenis presennol sydd yn yr ysgol trwy osod ffens newydd o’i amglych a datblygu cae aml bwrpas yna. Cytunwyd i gyfranu £500 tuag at y gwaith hwn.

Ms Rachel Heal

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod sydd yn riant i blentyn sydd yn mynychu Ysgol Hafod Lon yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon rhoid cyfraniad ariannol tuag at archebu beic arbennig i blant yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Cytunwyd i gyfranu £500 tuag at archebu beic.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod cyfarfod o bwyllgor y neuadd wedi cael ei gynnal ar y 18ed o fis diwethaf a bydd y cyfarfod blynyddol yn cael ei gynnal ar yr 22ain o fis yma.

Angen torri y gwair ar hyd ochor y ffordd o dan Ty Gwyn yn fwy aml yn yr haf oherwydd mae pobl yn cerdded ar y ffordd am bod y gwair yn cael ei adael i dyfu yn rhy hir.

Eisiau cysylltu hefo’r Adran Priffyrdd unwaith yn rhagor ynglyn a chyflwr ffordd Sarn Hir.

Bu trafodaeth ynglyn a chynnal cyfarfod cyhoeddus hefo Bwrdd HAL yn Llanfair a cytunwyd i beidio a gwneud hyn oherwydd bod y Cyngor yn gael y gwybodaeth angenrheidiol bob tro gan Aelod o’r Cyngor. Hefyd cytunwyd yn unfrydol bod y Cyngor yn cefnogi HAL.

Eisiau gadael i’r Adran Priffyrdd wybod bod rhych wedi datblygu ar ochor y ffordd ger y lloches bws wrth groesffordd Caersalem.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 12ed o Ebrill am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

458

Share the Post:

Related Posts