COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.22

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Dylan Hughes.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Osian Edwards, Hywel Jones,  Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 14eg 2022 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £8,099.76 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,281.43 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ar sawl achlysur ynglyn ar mater uchod ond ddim yn cael ateb ganddo ag felly wedi cyfeirio hyn at y Prif Weithredwr. Yn dilyn hyn wedi derbyn yr ateb canlynol bod yr Adran Gyfreithiol yn symud ymlaen i ddilyn y proses cyfreithiol parthed i gyflwyno gwaharddiadau parcio mewn nifer o wahanol leoliadau yn yr ardal. O ganlyniad bydd hyn yn caniatau i’r Gwasaneth Traffic a Phrosiectau i drefnu i gyflwyno y marciau ffordd perthnasol.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Codi estyniadau i ffurfio portsa lolfa estynedig, teras to garej, a ffurfio to brîg dros garej to fflat presennol – Swyn y Grug 8 Pant Yr Onnen, Llanfair (NP5/66/285)

Cefnogi y cais hwn ond bod gan yr Aelodau bryderon ynglyn a mesuriadau y garej.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £16,919.35 yn y cyfrif rhedegol a £5,522.53 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Cyngor Gwynedd      –    £198.00  –  archwiliad mewnol 2021/22

Mrs Annwen Hughes  –  £380.00 –   cyflog 3 mis

Mr. D. A. Thomas      –    £580.00  –  torri gwair y fynwent gyhoeddus x 2

Mr. Roy Carter           –    £260.00  –  torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey              –   £40.00    –  rhent cwt yr hers (Awst) 

Cyngor Gwynedd        – £8,000.00   –    hanner y precept

Mr. M. Downey              –   £40.00    –  rhent cwt yr hers (Medi) 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod ynglyn ar diweddaraf gyda Tim Tacluso Ardal Ni ag yn hysbysu y Cyngor bod y gweithlu wedi ei benodi erbyn hyn a byddant yn dechrau ar eu gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn bosib derbyn ceisiadau drwy sustem fewnol y Cyngor o’r enw FFOS drwy ddilyn y ddolen http://www.gwynedd.llyw.cymru/timtacluso. Byddant yn gweithredu y gwaith hwn oddi fewn i ardaloedd 30 m.y.a. Cytunwyd bod angen gofyn iddynt dorri yn nol y goeden leylandi sydd yn gor-dyfu i’r ffordd ger Frondirion ar Ffordd Uwchglan. Hefyd eisiau gofyn iddynt glerio y nodwyddau pinwydd sydd yn disgyn ar y palmant gyferbyn a Cae Cethin.

453……………………………………….Cadeirydd

Cyngor Gwynedd – Adran Economi a Chymuned

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gwahodd Aelodau y Cyngor i ddigwyddiad “Ardal Ni 2035” Bro Ardudwy yn Theatr y Ddraig, Bermo ar y 26ain o’r mis hwn rhwng 6.15 a 8.30 o’r gloch. Nid oedd neb a diddordeb mynychu y cyfarfod hwn.

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gwahodd yr Aelodau i’r cyfarfod blynyddol sydd yn cael ei gynnal rhwng y Parc Cenedlaethol ar Cynghorau Cymuned a bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal dros zoom eleni ar y 25ain ar 27ain o Hydref. Cytunwyd i anfon y  llythyr hwn ymlaen i bob Aelod.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder ynglyn a chyflwr ffordd Sarn Hir a cytunwyd i gysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i weld beth yw y diweddaraf ynglyn a cario allan gwellianau arni.

Cytunwyd bod angen trwsio sedd cyhoeddus a gafodd ei gosod ger maes parcio Llandanwg gan Sefydliad y Merched i ddathlu y mileniwm. Cytunodd y Cyng. Hywel Jones gael golwg arni.

Cytunwyd bod angen tacluso o amgylch y maes parcio yn Llandanwg.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod y mwyafrif o’r cwynion oedd yn ei dderbyn i wneud hefo y traeth ac yn benodol bod perchnogion cwn yn mynd a nhw i’r ochor anghywir. Hefyd bod ddim Warden Cwn i’w gael i ymweld ar ardal. Y tywod wedi cael ei glerio o’r llwybr sydd yn arwain i’r traeth. Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cael cwyn bod yr arwydd yn datgan pa ochor oedd cwn i fod ar y traeth wedi ei dynnu, ond ar ol i’r cwynydd ail edrych nid oedd wedi sylwi ar yr arwydd newydd sydd yna.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor pan fydd angen

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

452

Share the Post:

Related Posts