COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 07.12.22

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 07.12.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Hywel Jones,  Dylan Hughes.

PRESENNOL

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Osian Edwards, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 20ed 2022 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £18,392.49 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,198.89 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod bod y mater gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol a bod yr amserlen i’w roi yn y papur newydd wedi llithro ychydig. Maen’t yn gobeithio bydd y rhybudd yn y papurau newydd cyn y Nadolig.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Diwygiad ansylweddol i Ganiatâd Materion a Gadwyd yn ôl NP5/66/PIAW224 dyddiedig 21/03/2012 i osod paneli ffotofoltäig ar y drychiad blaen, gosod pwmp ffynhonnell gwres aer, ehangu i un ffenestr to yn y cefn, ail-leoli ffenestr to arall, a newid uchder y crib – Tir ger Tyddyn Llwyn, Llandanwg (NP5/66/224A)

Cefnogi y cais hwn.

Addasiadau a thrwsio i ffermdy presennol – Tyddyn Y Gwynt, Llanfair (NP5/66/272)

Gwrthwynebu y cais hwn oherwydd bod y cynlluniau allan o gymeriad y ty gyda’r holl wydr.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £7,857.76 yn y cyfrif rhedegol a £5,523.90 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mrs Annwen Hughes – £380.00 –  cyflog 3 mis

Mr. M. J. Kerr           –    £440.00  –  agor bedd y diweddar Mrs Margaret Williams

Y Lleng Prydeinig        –   £40.00  –   torch pabi coch

Dwr Cymru                  –   £17.79  –   tap dwr y fynwent

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey            –   £40.00    –  rhent cwt yr hers (Tachwedd) 

W. O & M. Williams    –  £856.00   –   claddu y diweddar Mrs Margaret Williams

Pritchard a Griffiths    –  £566.50   –   claddu llwch y diweddar Mr. a Mrs William Greenwood

Mr. M. Downey            –   £40.00    –  rhent cwt yr hers (Rhagfyr)

GOHEBIAETH

SARPA

Wedi cael e-bost gan Mr. Jeff Smith, Cadeirydd y grwp uchod yn gwahodd y Cyngor i ymuno a SARPA, grwp defnyddwyr rheilffordd sydd yn pwyso i wella’r gwasanaeth rheilffordd. Mae tal o £10 i ymuno a’r grwp. Cytunwyd i beidio ag ymuno ar grwp hwn.

453…………………………………….Cadeirydd

UNRHYW FATER ARALL

Eisiau cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt glerio y draeniau ar hyd ochor y ffordd A496 ar ol i’r gwair gael ei dorri.

Eisiau gwneud ymholiadau gyda pwyllgor y neuadd i ofyn a fyddai modd cael wifi wedi ei osod i mewn yn y neuadd.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael cyfarfod gyda rhai o’r Uned Morwrol i drafod gwella mynedfa i’r anabl i’r traeth ag yr oeddynt yn gofyn a oedd Aelodau y Cyngor yn gwybod am rhywun lleol a fyddai yn fodlon clerio y tywod o’r llwybr i’r traeth ag hefyd casglu y defaid marw a pethau eraill sydd yn cael eu golli i fyny ar y traeth.

Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi holi pryd byddai y Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar pentref ond yn anffodus heb gael ateb eto. Hefyd cafwyd wybod ganddi bydd Mr. Barry Davies y Swyddog Morwrol yn ymddeol ar ol 25 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 11eg Ionwar am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

454

Share the Post:

Related Posts