COFNODION CYFARFOD CYHOEDDUS RHWNG CYNGOR CYMUNED HARLECH A THRIGOLION HARLECH YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’r GLOCH 08.01.24

COFNODION CYFARFOD CYHOEDDUS RHWNG CYNGOR CYMUNED HARLECH A THRIGOLION HARLECH YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’r GLOCH 08.01.24

ANNWEN HUGHES

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort, Huw Jones, Emma Howie a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Gordon Howie, Tegid John, Rhian Corps, Martin Hughes, Giles Bentham, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd). 

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Giles Bentham i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunodd y gorau iddo at y dyfodol. Fe arwyddwyd dogfen Datganiad Derbyn Swydd gan y Cyng. Bentham ar gychwyn y cyfarfod.

Cwestiynau gan Mr. Reg Chapman

1 Yng ngoleuni adroddiad Archwilio Cymru a all y Cyngor roi gwybod i mi os oes unrhyw gyngor proffesiynol wedi’i geisio neu ei roi iddynt ar sut i ddatrys y materion a godwyd yn yr adroddiad.

Ni cheisiwyd cyngor proffesiynol pellach gan fod Aelodau’r Cyngor o’r farn y byddai’r cyngor a roddwyd gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad yn ddigonol.

2 Gofynnais 3 chwestiwn i’r cyfarfod ym mis Hydref. Wrth ddarllen y cofnodion cysylltiedig rwy’n cofio mai’r 2 ateb cyntaf a roddwyd ynghylch a ofynnwyd am gyngor gan Gyngor Gwynedd ac Un Llais Cymru yn dilyn y sgam oedd NA. Roedd yn ymddangos bod y cofnodion wedi’u haddurno y tu hwnt i’r ateb syml hwn ac efallai fy mod wedi camddeall yr ymateb. A fyddai’r Cadeirydd yn cadarnhau’r cofnodion fel yr ymateb a roddwyd i’r cyfarfod.

Ymatebodd y Cadeirydd drwy ddweud mai’r ateb canlynol oedd yr un a roddwyd yng nghyfarfod mis Hydref.

Dyw’r Cyngor Cymuned ddim wedi bod mewn cysylltiad gyda Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd gan nad oes gan y mater ddim i’w wneud â Gwynedd. Mae’r Clerc wedi bod mewn trafodaethau gydag Arweinydd Cyngor Gwynedd ynglŷn â’r mater hwn.

Nid yw’r Cyngor Cymuned wedi bod mewn cysylltiad ag Un Llais Cymru gan na fyddent yn gallu rhoi mwy o gyngor iddynt i’r hyn y mae’r Cyngor Cymuned yn gwybod ynglyn ar mater.

3 Er bod gennyf bob cydymdeimlad ynglŷn â sut y cafodd y Cyngor ei dwyllo allan o arian cyhoeddus a’r pwysau a roddwyd ar unigolion prysur, mae’n rhaid i mi ofyn i’r Cyngor fyfyrio ar y sgam. Hyn, waeth pa mor anffodus oedd methiant neu ddiystyru ei systemau ariannol a’u camreoli gan weithiwr cyflogedig. A yw’r Cyngor yn cytuno bod dyletswydd arno i ystyried a allai’r golled hon o arian fod yn weithred o “Gamymddwyn Gros” gan ei weithiwr ac os felly, a fydd yn sefydlu proses i’w chymryd yn briodol i’w gweithredu.

Dywedodd y Cyng. Martin Hughes ei fod yn wedi anfon y Cynnig canlynol er mwyn iddo gael ei ystyried yn y cyfarfod hwn a chytunwyd i’r Cyng. Martin Hughes drefnu i berson proffesiynol profiadol annibynnol fynychu cyfarfod o’r Cyngor.

Yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 dioddefodd Cyngor Cymuned Harlech golled ddifrifol o £9,000 oherwydd twyll, fel y nodir yn Adroddiad Archwilio Cymru er budd y cyhoedd: Methiannau mewn rheolaeth ariannol a llywodraethu a cholledion a achoswyd – cyhoeddodd Cyngor Cymuned Harlech ym mis Tachwedd 2023. Hyd yn hyn mae’r Cyngor wedi methu ag ymchwilio ac ystyried amgylchiadau’r twyll ei hun a’i ganlyniadau, a phenderfynu ar gamau priodol i’w cymryd. Cynigir felly bod penodi person proffesiynol profiadol annibynnol a argymhellir gan Un Llais Cymru (neu gorff arall o’r fath) i ymchwilio ar ran y Cyngor a chynghori ar gamau priodol, gan gynnwys cyfweld â’r bobl dan sylw’.

Cwestiwn gan Mr Brian Jones

Ydy’r Cyngor wedi dysgu gwers o’r busnes anffodus hwn

Ydy, mae’r Cyngor wedi dysgu o hyn ac wedi cymryd camau i sicrhau nad yw’n digwydd eto.

Share the Post:

Related Posts