YMDDIHEURIAD

YMDDIHEURIAD

ANNWEN HUGHES

Mae aelodau Cyngor Cymuned Harlech yn dymuno cymeryd y cyfle i ymddiheuro i drigolion Harlech ynglŷn â cholli’r £9,000 o arian trethdalwyr o ganlyniad i sgam a ddigwyddodd fis Rhagfyr diwethaf. Er i ymddiheuriad gael ei roi yng nghyfarfod y Cyngor nos Lun 4ydd o Fedi lle ‘roedd aelodau’r cyhoedd yn bresennol, hoffai’r Cyngor Cymuned nawr ymestyn yr ymddiheuriad hwn i drigolion Harlech nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.

Yn dilyn y cyfarfod hwn o Gyngor Cymuned Harlech, penderfynwyd er bod gweithdrefnau ariannol y Cyngor wedi’u tynhau yn unol ag adroddiad yr Archwilydd Mewnol, i ffurfio is-bwyllgor i edrych ar y ffordd ymlaen gall y Cyngor weithio o ran materion ariannol.

Share the Post:

Related Posts