June 26, 2023
COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 08.06.23
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Osian Edwards, Hywel Jones, Dylan Hughes a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 12ed 2023 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2023/24:-
Cadeirydd:- Cyng. Eurig Hughes
Is-Gadeirydd:- Cyng. Russell Sharp
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £2,238.20 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,576.75 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Wi-Fi yn y Neuadd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma ag ei fod wedi cytuno i edrych am
gwahanol opsiynau ar ran y Cyngor. Adroddodd y Clerc bod Mr. Rob Lewis wedi bwriadu fod yn bresennol yn
cyfarfod heno ond yn anffodus ‘roedd yn methu. ‘Roedd wedi anfon copiau o dau wahanol opsiynau er mwyn i’r
Cyngor gael golwg arnynt. Cytunwyd i fynd am opsiwn 1.
HAL
Adroddwyd bod cyfarfod wedi gael ei gynnal rhwng aelodau o Fwrdd yr uchod a cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned yr ardal ar y 27ain o fis diwethaf. ‘Roedd y Cyng. Osian Edwards wedi mynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor hwn ac adroddwyd ei fod wedi bod yn gyfarfod buddiol iawn a bod Aelodau o’r chwech Cyngor i gyd yn gytun hefo sut fydd angen cario ymlaen. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd a chopiau o gyfrifon elw y cholled y ganolfan am y 4 mis diwethaf, enwau rhai maen’t yn gobeithio fydd yn ymuno ar Bwrdd yn fuan ag hefyd chopi drafft o’r cynllun busnes. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Cytunwyd yn unfrydol ar ol trafodaeth i dalu cyfraniad y Cyngor am y 6 mis nesa bob mis yn lle yn un taliad. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd yn gofyn a fyddai yn bosib i’r Cyngor dalu y taliad misol ar yr 28ain o bob mis ar gyfer taliad y mis canlynol. Derbyniwyd e-bost pellach gan y Bwrdd yn gwahodd un aelod o'r Cyngor Cymuned i ddod yn aelod anweithredol o'r Bwrdd a hefyd yn gwahodd un aelod i gyfarfod ar y 29ain o'r mis hwn. Roedd y Clerc wedi rhoi gwybod iddynt byddai rhaid trafod y cais hwn yng nghyfarfod nesa y Cyngor cyn bod ddim taliad yn cael ei wneud. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost o Gyngor Cymuned Talsarnau yn datgan pryder ynglyn a chyfrifon HAL. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y ddau e-bost ymlaen i’r Aelodau. Cytunwyd i dal y tal precept bob mis ar hyn o bryd yn lle un taliad llawn. Ar ol trafodaeth fanwl cytunwyd bod angen i gyfrifon HAL gael eu archwilio ond i dalu y swm misol y mis hwn ag i ail drafod y sefyllfa os na fydd copi o’r cyfrifon ac adroddiad misol wedi cael eu derbyn erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Nid oedd neb yn fodlon mynychu y cyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn na cynrychioli’r Cyngor fel aelod anweithredol o’r Bwrdd
Adroddiad Blynyddol
Adroddodd y Clerc ei bod hi yn ofynol bellach bod y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol sydd wedi bod ag felly I’r perwyl hyn mae hi wedi anfon copi o’r Adroddiad ‘rwyf wedi ei baratoi ar gyfer y Cyngor i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.
462....................................................Cadeirydd
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diddymu Cytundeb 106 dyddiedig 04/12/2007 sydd yn cyfyngu defnydd a meddiannaeth yr annedd i unigolyn sy’n cael ei gyflogi, neu a gyflogwyd ddiwethaf, mewn crefft, busnes neu broffesiwn rheolaidd mewn lleoliad o fewn radiws o dri deg milltir - Abendruhe The Garden Flat, Pensarn Hall, Llanbedr (NP5/66/101G)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £13,946.67 yn y cyfrif rhedegol a £5,542.62 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BHIB Insurance Ltd - £431.41 - insiwrans y Cyngor
Mr. Arwel Thomas - £950.00 - torri gwair y fynwent x 3 a gwaredu chwyn
Mrs Annwen Hughes - £380.00 - cyflog 3 mis
Archwiliad Cymru - £355.00 - cwblhau archwiliad allanol 2020/21
Mr. M. J. Kerr - £440.00 - agor bedd y diweddar Mrs Ann Dix
Llais Ardudwy - £20.00 - hysbyseb torri gwair
Mr. Roy Carter - £322.00 - torri gwair y llwybrau cyhoeddus
Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £8,500.00 – hanner y precept
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Cyllid a Thollad - £103.00 - ad-daliad TAW
Pritchard a Griffiths - £907.36 – claddu y diweddar Mrs Ann Dix
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy – £4,282.19
Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod -
Gellir datgan sicrwydd yn nhrefniadau llywodraethu a datganiadau cyfrifyddu Cyngor Cymuned Llanfair ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn seiliedig ar y profion a gynhaliwyd ond bod rhai elfennau y gellir eu tynhau i liniaru risgiau a adnabuwyd. Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru:
Methiant i adolygu’r rheoliadau ariannol a rheolau sefydlog yn flynyddol
Diffyg yn y rheolaethau ar gyfer sefydlu a chymeradwyo taliadau ar lein
GOHEBIAETH
Cwmni Egnio
Wedi cael copi o adroddiad diweddaraf y Cwnni uchod ac adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.
Mr. Dylan Hughes
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd I anfon y llythyr hwn ymlaen at y Swyddog Etholiadol yn Gaernarfon.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybod yn dilyn ymweliad aelodau o’r grwp POBL o Llanbedr a’r Dirprwy Weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters yn Gaerdydd ar y 26ain o fis diwethaf ei fod wedi cytuno cyflwyno pecyn teithio (transport) ar gyfer y pentref a fydd yn cynnwys ffordd osgoi cyflymder isel ynghyd a datblygu palmentydd, maes parcio a chamau eraill. Ei bod wedi cysylltu gyda’r Tim Tacluso Ardal yn gofyn iddynt chwynu y maes parcio unwaith eto.
463..................................................Cadeirydd
UNRHYW FATER ARALL
Angen torri yr eiddew oedd wedi gor-dyfu i’r ffordd ger y cyn Gapel Bethel.
Angen adnewyddu un o’r arwyddion 40 m.y.a ger groesffordd Frondeg.
Angen torri rhan pella o faes parcio Llandanwg.
Yr arwydd talu ag arddangos byth wedi cael ei newid a mae’r un presennol yn edrych yn fler.
Cafwyd wybod bod kerbs ger Hillside angen sylw.
Datganwyd pryder bod aelod o’r cyhoedd yn atal plant rhag chwarae yn y cae chwarae yn gefn y neuadd. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r PCSO Elliw Williams
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 19eg o Orffennaf am 7.30 o’r gloch
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
461