COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 08.06.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 08.06.23 C

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Osian Edwards, Hywel Jones, Dylan Hughes a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 12ed 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2023/24:-

Cadeirydd:-     Cyng. Eurig Hughes

Is-Gadeirydd:- Cyng. Russell Sharp

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £2,238.20 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,576.75 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma ag ei fod wedi cytuno i edrych am

gwahanol opsiynau ar ran y Cyngor. Adroddodd y Clerc bod Mr. Rob Lewis wedi bwriadu fod yn bresennol yn 

cyfarfod heno ond yn anffodus ‘roedd yn methu. ‘Roedd wedi anfon copiau o dau wahanol opsiynau er mwyn i’r 

Cyngor gael golwg arnynt. Cytunwyd i fynd am opsiwn 1.

HAL

Adroddwyd bod cyfarfod wedi gael ei gynnal rhwng aelodau o Fwrdd yr uchod a cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned yr ardal ar y 27ain o fis diwethaf. ‘Roedd y Cyng. Osian Edwards wedi mynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor hwn ac adroddwyd ei fod wedi bod yn gyfarfod buddiol iawn a bod Aelodau o’r  chwech Cyngor i gyd yn gytun hefo sut fydd angen cario ymlaen. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd a chopiau o gyfrifon elw y cholled y ganolfan am y 4 mis diwethaf, enwau rhai maen’t yn gobeithio fydd yn ymuno ar Bwrdd yn fuan ag hefyd chopi drafft o’r cynllun busnes. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Cytunwyd yn unfrydol ar ol trafodaeth i dalu cyfraniad y Cyngor am y 6 mis nesa bob mis yn lle yn un taliad. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd yn gofyn a fyddai yn bosib i’r Cyngor dalu y taliad misol ar yr 28ain o bob mis ar gyfer taliad y mis canlynol. Derbyniwyd e-bost pellach gan y Bwrdd yn gwahodd un aelod o’r Cyngor Cymuned i ddod yn aelod anweithredol o’r Bwrdd a hefyd yn gwahodd un aelod i gyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn. Roedd y Clerc wedi rhoi gwybod iddynt byddai rhaid trafod y cais hwn yng nghyfarfod nesa y Cyngor cyn bod ddim taliad yn cael ei wneud. Hefyd adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost o Gyngor Cymuned Talsarnau yn datgan pryder ynglyn a chyfrifon HAL. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon y ddau e-bost ymlaen i’r Aelodau. Cytunwyd i dal y tal precept bob mis ar hyn o bryd yn lle un taliad llawn. Ar ol trafodaeth fanwl cytunwyd bod angen i gyfrifon HAL gael eu archwilio ond i dalu y swm misol y mis hwn ag i ail drafod y sefyllfa os na fydd copi o’r cyfrifon ac adroddiad misol wedi cael eu derbyn erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Nid oedd neb yn fodlon mynychu y cyfarfod ar y 29ain o’r mis hwn na cynrychioli’r Cyngor fel aelod anweithredol o’r Bwrdd

Adroddiad Blynyddol

Adroddodd y Clerc ei bod hi yn ofynol bellach bod y Cyngor yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol am y flwyddyn ariannol sydd wedi bod ag felly I’r perwyl hyn mae hi wedi anfon copi o’r Adroddiad ‘rwyf wedi ei baratoi ar gyfer y Cyngor i bob Aelod er mwyn iddynt gael rhoi sylwadau arni os bydd angen. Cytunwyd bod hon yn iawn.

462…………………………………………….Cadeirydd

CEISIADAU CYNLLUNIO

Diddymu Cytundeb 106 dyddiedig 04/12/2007 sydd yn cyfyngu defnydd a meddiannaeth yr annedd i unigolyn sy’n cael ei gyflogi, neu a gyflogwyd ddiwethaf, mewn crefft, busnes neu broffesiwn rheolaidd mewn lleoliad o fewn radiws o dri deg milltir – Abendruhe The Garden Flat, Pensarn Hall, Llanbedr (NP5/66/101G)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £13,946.67 yn y cyfrif rhedegol a £5,542.62 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

BHIB  Insurance Ltd     –   £431.41  –  insiwrans y Cyngor

Mr. Arwel Thomas      –    £950.00 –   torri gwair y fynwent x 3 a gwaredu chwyn

Mrs Annwen Hughes  –   £380.00  –   cyflog 3 mis

Archwiliad Cymru        –   £355.00  –  cwblhau archwiliad allanol 2020/21 

Mr. M. J. Kerr                 – £440.00  –  agor bedd y diweddar Mrs Ann Dix

Llais Ardudwy             –       £20.00 –   hysbyseb torri gwair

Mr. Roy Carter             –   £322.00  –  torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyngor Gwynedd  – £8,500.00 –   hanner y precept

Mr. M. Downey          – £40.00  –  rhent cwt yr hers (Mai) 

Cyllid a Thollad       –   £103.00  –  ad-daliad TAW

Pritchard a Griffiths – £907.36 –  claddu y diweddar Mrs Ann Dix

Mr. M. Downey          – £40.00  –  rhent cwt yr hers (Mehefin) 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £4,282.19

Fe adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dim materion arwyddocaol yn codi heblaw am am y materion isod –

Gellir datgan sicrwydd yn nhrefniadau llywodraethu a datganiadau cyfrifyddu Cyngor Cymuned Llanfair ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23 yn seiliedig ar y profion a gynhaliwyd ond bod rhai elfennau y gellir eu tynhau i liniaru risgiau a adnabuwyd. Argymhellir bod y Cyngor yn ymrwymo i roi sylw i’r risgiau canlynol a chymryd camau priodol i’w lliniaru: 

Methiant i adolygu’r rheoliadau ariannol a rheolau sefydlog yn flynyddol 

Diffyg yn y rheolaethau ar gyfer sefydlu a chymeradwyo taliadau ar lein 

GOHEBIAETH

Cwmni Egnio

Wedi cael copi o adroddiad diweddaraf y Cwnni uchod ac adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.

Mr. Dylan Hughes

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor ei fod yn ymddiswyddo o fod yn Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd I anfon y llythyr hwn ymlaen at y Swyddog Etholiadol yn Gaernarfon.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybod yn dilyn ymweliad aelodau o’r grwp POBL o Llanbedr a’r Dirprwy Weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters yn Gaerdydd ar y 26ain o fis diwethaf ei fod wedi cytuno cyflwyno pecyn teithio (transport) ar gyfer y pentref a fydd yn cynnwys ffordd osgoi cyflymder isel ynghyd a datblygu palmentydd, maes parcio a chamau eraill. Ei bod wedi cysylltu gyda’r Tim Tacluso Ardal yn gofyn iddynt chwynu y maes parcio unwaith eto.

463…………………………………………..Cadeirydd

UNRHYW FATER ARALL

Angen torri yr eiddew oedd wedi gor-dyfu i’r ffordd ger y cyn Gapel Bethel.

Angen adnewyddu un o’r arwyddion 40 m.y.a ger groesffordd Frondeg.

Angen torri rhan pella o faes parcio Llandanwg.

Yr arwydd talu ag arddangos byth wedi cael ei newid a mae’r un presennol yn edrych yn fler.

Cafwyd wybod bod kerbs ger Hillside angen sylw.

Datganwyd pryder bod aelod o’r cyhoedd yn atal plant rhag chwarae yn y cae chwarae yn gefn y neuadd. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r PCSO Elliw Williams

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 19eg o Orffennaf am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

461

Share the Post:

Related Posts