COFNODION DRAFFT O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM7.30 O’R GLOCH 05.02.24

COFNODION DRAFFT

COFNODION O GYFARFOD  CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD  YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH  05.02.24

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort,  

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Emma Howie, Tegid John, Gordon Howie, Rhian Corps, Martin Hughes, Giles Bentham, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

‘Roedd 5 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ionawr 8ed 2024 fel rhai cywir. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Datganwyd bod dim angen rhoid y datganiad ynglyn ar e-bost oedd y Cynghorau Cymuned wedi ei gytuno anfon allan yn mis Rhagfyr yn cofnodion y Cyngor hwn dan HAL.

Datganwyd gan y Cyng. Martin Hughes bod angen cynnwys bod yr adroddiad archwilio er budd y cyhoedd ynglyn ar twyll o £9,000 .

Datganwyd gan y Cyng. Martin Hughes bod angen rhoid y rhybudd o gynnig ynlgyn a chael person proffesiynol profiadol i ymchwilio ar ran y Cyngor a chynghori ar gamau priodol gan gynnwys cyfweld a’r bobl dan sylw yng nghofnodion y Cyngor a nid yng nghofnodion y cwestiynau.

Holodd y Cyng. Christopher Braithwaite os mai £1,000 neu £500 oedd wedi cael ei glustnodi ar gyfer yr Ardd Gymunedol a datganwyd gan mwyafrif o’r Aelodau mae £500 oedd y swm.

Gofynodd y Cyng. Martin Hughes a fyddai modd i’r Aelodau gael copiau o gyllideb y Cyngor gyda’r ffigyrau terfynol arno.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi derbyn mwy o gwynion am or-yrru lawr ffordd glan y mor ag ei bod wedi pasio y cwynion hyn ymlaen unwaith yn rhagor I Gyngor Gwynedd a wedi gofyn am arwyddion 20 m.y.a gael eu gosod ar y ffordd yn enwedig wrth ymyl yr Ysgol. ‘Roedd wedi derbyn ateb yn datgan oherwydd bod y ffordd hon wedi ei goleuo a nid oes arwyddion ar ei hyd felly y cyfyngiad yw 20 m.y.a a bydd yn codi y mater hwn mewn cyfarfod hefo’r Heddlu yn Bermo yn ystod y mis hwn. ‘Roedd hefyd wedi derbyn e-bost gan etholwr yn gofyn pam bod y system bwcio yn dal I gael ei wneud mewn cysylltid ag ymweld a Ffridd Rasus ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen at Gyngor Gwynedd a wedi derbyn ymateb yn datgan eu bod wedi gweld budd o’r system hwn ond ar yr un adeg yn ymwybodol bod y system hwn ddim yn plesio pawb ag felly yn ystod y misoedd nesa byddant yn ail edrych ar hyn ag yn adolygu y system hwn oherwydd bod y drefn arbrofol dros gyfnod y Nadolig wedi gweithio yn dda ag wedi profi yn boblogaidd. ‘Roedd wedi derbyn e-bost gan etholwr arall yn gofyn pryd fyddai y pwyntiau gwefru ceir yn gweithio yn maes parcio Bron y Graig Uchaf ag wedi pasio hwn ymlaen I Gyngor Gwynedd a wedi derbyn ateb yn datgan bod swyddogion o’r tim trafnidiaeth yn gweithio ar raglen waith I wneud y safle yn weithredol yn mis Hydref, ond yn anffodus gafodd y gweithgaredd o osod meter trydan ar y safle ei ganslo heb reswm gan y cwmni. Maen’t wedi bod yn gweithio ar ail sefydlu’r rhaglen waith a maen’t yn obeithiol y byddant yn gallu darparu gwasanaeth gwefru erbyn mis Ebrill eleni. ‘Roedd wedi derbyn cwynion gan rhai trigolion yr ardal sydd yn ymwedl ar dref I fynd I’r siopa lleol bod ddim lle I barcio yn y mannau parcio ar y stryd oherwydd bod ceir perchnogion y siopa yn parcio yna a hynny drwy’r dydd. Oherwydd hyn bydd yn dod a’r mater hwn I sylw yr Heddlu yn y cyfarfod a gofyn iddynt gael y Warden Traffic I ymweld a’r dref yn fwy cyson. O ddydd Llun Chwefror 12fed bydd amserlen newydd ar 

ddydd Sul a Gŵyl y Banc yn cael ei chyflwyno ar Wasanaeth Bws G23 a bydd 4 taith y dydd ar ddydd Sul a Gŵyl y Banc a bydd yn gweithredu rhwng Abermaw, Harlech a Phorthmadog a bydd cysylltiadau gyda Gwasanaeth TrawsCymru T3 ar gael yn Abermaw. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Lloydscoaches.com/serviceup-date/servicechanges

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael gwybod bod yr anifeiliad marw a oedd wedi cael eu golchi I fyny ar y traeth wedi cael eu clerio o fewn 24 awr gan Gyngor Gwynedd. ‘Roedd wedi mynychu y cyfarfod cyhoeddus yn y pwll nofio lle oedd nifer da wedi ymgynull, ‘roedd wedi cael gwybod bod coeden beryg wedi disgyn a bod Cyngor Gwynedd wedi ei chlerio yn fuan, ‘roedd wedi cwyno bod llinellau melyn ddim yn cael eu peintio mewn mannau am beth amser ag oedd hyn oherwydd mae cwmni allanol oedd yn gwneud y gwaith. Mae wedi trefu gwylnos heddwch a fydd y digwyddiad hwn yn cymeryd lle yn maes parcio y castell dydd Sul yr 11eg o’r mis hwn am 5.00 o gloch y prynhawn. Cafwyd wybod mae’n debyg bydd treth y cyngor yn mynd I fyny I 10% gyda thoriadau o £8 miliwn a bydd y flwyddyn ariannol nesa yn waeth.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £78,716.20 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £2,512.89 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Projectau 2024

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite bod angen i Aelodau i gytuno i gymeryd gofal o wahanol brojectau ag fe ranodd cynllun oedd wedi ei dynnu allan yn rhestru y gwahanol brojectau gyda’r gost ynghlwm wrth bob un. Cytunodd rhai o’r Aelodau i fod yn gyfrifol am wahanol brojectau.

Adroddodd y Clerc bod y cais grant o £2,500 yr oedd wedi ei gyflwyno ar ran y Cyngor i ddod a 6 rhandir yn nol i ddefnydd wedi bod yn llwyddianus. Rhaid yn nawr anfon dyfynbris o’r gwaith i Gyngor Gwynedd erbyn y 14eg o’r mis hwn. Hefyd adroddodd ei bod wedi cael un ymholiad am randir.

Tudalen We y Cyngor 

Adroddodd y Cyng. Emma Howie bod y wefan newydd wedi mynd yn fyw a bod angen edrych os yw pob dim yn iawn arni a gadael iddi hi neu Mrs Kim Howie wybod pa newidiadau sydd angen ei gwneud. Datganwyd gan y Cyng. Howie bod angen tacluso y wefan newydd oherwydd bod pethau wedi cael eu trosglwyddo o’r hen wefan. Datganodd y Cyng. Howie bod Mrs Kim Howie yn fodlon gosod deunydd ar y wefan newydd bob mis am gost o £25 y mis a cytunodd yr Aelodau i hyn.

HAL

Adroddodd y Cadeirydd ei bod hi ar Cyng. Wendy Williams a Giles Bentham wedi mynychu y cyfarfod cyhoeddus yn y pwll nofio ar y 29ain o fis diwethaf a bod gan HAL ddigon o bres tan mis Ebrill eleni a bod cyfarfod arall yn mynd i gael ei gynnal rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 14eg o Chwefror a cytunodd y Cyng. Christopher Braithwaite fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor. Cafwyd anerchiad gan Mr. Simon Dawson un o aelodau o Fwrdd HAL ag yn datgan eu bod yn disgwyl grantiau ag hefyd yn diolch i Gyngor Cymuned Harlech am eu cefnogaeth parhaol ond yn siomedig bod y Cynghorau eraill heblaw Llanfair wedi tynnu allan ag hefyd cafwyd wybod bod cynllun busnes proffesiynol yn cael ei chreu

Tir Penygraig

Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon e-bost at Mr. Arwel Williams o gwmni Tom Parry i ofyn a fyddai yn gallu gwneud y gwaith hwn ond heb gael ateb eto.

778…………………………………………..Cadeirydd

Ardal Ni

Adroddodd y Cyng. Martin Hughes bod cyfarfod o’r uchod wedi cael ei gynnal ar yr 22ain o fis diwethaf a bod Anna Lewis, Swyddog Adfywio Ardudwy yn bresennol yn y cyfarfod. Datganodd y Cyng. Rhian Corps ei bod wedi cysylltu a Chyngor Gwynedd ynglyn a safle yr Hen Ysgol.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim ceisiadau wedi dod I law ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £7,710.42 yn y cyfrif rhedegol a £92,064.32 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyngor Gwynedd            – £1,200.00 – trydan i’r goleuadau nadolig

Play Inspection Company – £324.00 – archwiliad y parciau chwarae

Archwiliad Cymru           – £1,500.00  – archwiliad allanol 2021/22 (archwiliad llawn)

Mr. M. J. Kerr                   –    £580.00  – agor bedd y diweddar Mr. Dylan Wyn Williams

Mrs K. J. Howie                –    £650.00  – creu wefan newydd a’i gweinyddu

J. B. Pest Control             –    £150.00  –  cytundeb blynyddol i ddifa pla

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750.00 – cynnig precept (taliad misol)

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Ceri Griffiths gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyngor Gwynedd         –  £990.35 – ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus

Pritchard a Griffiths  – £1,827.00 – claddu y diweddar Mr. Dylan Wyn Williams

Adroddodd y Trysorydd bod yn amser gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni. Ar ol trafodaeth ynglyn ar mater hwn fe ofynwyd am bleidlas oherwydd bod rhai Aelodau eisiau gofyn i gwmni arall gario allan y gwaith. Canlyniad y bleidlais oedd bod 8 o blaid gofyn i Gyngor Gwynedd, 1 yn erbyn ag 1 yn atal. Cytunwyd bod y Trysorydd yn cysylltu gyda Ms Luned Fon Jones. 

GOHEBIAETH

Mr. Huw Jones

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyr o ymddiswyddiad gan yr uchod oherwydd materion personnol. Cytunwyd i anfon y llythyr hwn ymlaen i’r Adran Etholiadol yng Nghyngor Gwynedd. Datganwyd siom gan yr Aelodau bod Mr. Huw Jones wedi penderfynnu ymddiswyddo a gofynnwyd i’r Clerc anfon llythyr o ddiolch iddo.

Mr. Joe Patton

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gefnogaeth y Cyngor i ddatblygu berllan o fewn yr ardal ddistaw yng nghae chwarae Brenin Sior. ‘Roedd yn gofyn os byddai y Cyngor yn cefnogi ei gais a fyddant yn fodlon darparu yr un wybodaeth a oedd ei angen gyda’r cais a wnaethpwyd ganddo am yr ardd flodau gwyllt, bod Aelodau etholedig o’r Cyngor yn ei gefnogi gyda’r prosiect hwn wrth fod yn rhan o’r grwp llywio a fydd yn rhedeg o ddiwedd y mis hwn tan fis Tachwedd a’r rhai oedd ganddo mewn golwg oedd y Cyng. Christopher Braithwaite, Emma Howie a Rhian Corps ag hefyd a fyddai y Cyngor Cymuned yn cysidro cefnogi y blaengaredd hwn 

779………………………………………………Cadeirydd

drwy ariannu am hadau blodau gwyllt er mwyn creu llain o flodau gwyllt rhwng y coed berllan fyddai wedi eu plannu, neu os fyddai y cais grant yn cael ei wrthod ei helpu i ddatblygu y darn tawel i mewn i le natur wrth ddatblygu llain blodau gwyllt. Datganodd Mr. Patton ei fod yn barod wedi trafod y mater hwn gyda’r Cyng. Christopher Braithwaite. Cytunwyd bod y Cyngor yn cefnogi y fenter hon ag hefyd cytunodd y tri Cynghorydd i fod yn rhan o’r grwp lliwio.

Roc Ardudwy

Wedi derbyn llythyr gan Gadeirydd yr uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn cynnal gŵyl fach ar ddydd Sadwrn y 18ed o Fai ag yn gofyn am ganiatad y Cyngor i ddefnyddio y cwrt tenis ynghyd a maes parcio ystafell y band am ychydig o ddiwrnodau cyn ag ar ol y digwyddiad. Cytunwyd i ganiatau hyn.

Mr. J. Maxwell

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn rhoi gwybod i’r Cyngor am y sefyllfa bresennol gyda’r placiau a maen’t  bellach yn cael eu bwrw ac rydym yn anelu at ddydd Iau 4ydd Ebrill am  11.00 y bore  ar gyfer y gosodiad. Yn ddiweddar cafodd cynnig diwrnod cynnar ei gyflwynwo yn Nhŷ’r Cyffredin gan Liz Saville Roberts ynglyn a Daniel Angell Jones ac mae ganddi ddiddordeb mewn dadorchuddio ei blac. Hoffem wahodd pob Aelod o’r Cyngor Cymuned i fynychu hefyd, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiaduron. Efallai yr hoffai y Cyng. Edwina Evans  fel Cadeirydd y Cyngor ddadorchuddio plac i John Thomas. Bydd arddangosfa mewn perthynas â’r dynion lleol hyn a gafodd lwyddiant yn eu meysydd yn y Sefydliad yn ystod y dydd. Byddaf yn anfon rhagor o fanylion am y 3ydd plac i Bryan Hilton Jones pan fydd gennyf wybodaeth am ddymuniadau y teulu. Cytunodd y Cadeirydd i ddadorchuddio y plac hwn a chytunodd yr Is-Gadeirydd i wneud yn ei lle os na fyddai ar gael.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd bod ateb byth wedi cael ei dderbyn gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar groesfan ger Ty Canol a chytunodd y Clerc i gysylltu a hwy.

Datganwyd bod angen cefnogaeth yr Aelodau i helpu gyda’r goleuadau nadolig a cytunwyd i hyn.

Datganwyd siom er bod y Clerc wedi gwneud y cofnodion drafft mewn pryd ag eu bod ar wefan y Cyngor nid oedd yr un Cynghorydd wedi ymateb iddynt a bod angen gwneud hyn.

Datganwyd bod angen mwy o wybodaeth yn yr agenda a datganodd y Clerc bydd hyn yn digwydd o fis Ebrill ymlaen.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes bod Un Llais Cymru yn dal i chwilio am person proffesiynol profiadol i gario allan yr archwiliad ag ei fod yn teimlo mae lle y Cyngor oedd dewis un a nid ef fel unigolyn a cytunwyd i hyn.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         780

Full Document

https://www.cyngorharlech.co.uk/wp-content/uploads/2024/02/COFNODION-CYNGOR-CYMUNED-HARLECH-A-GYNHALIWYD-YN-YR-HEN-LYFRGELL-12-AutoRecovered-2.pdf
Share the Post:

Related Posts