COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.11.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.11.23

ANNWEN HUGHES

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort, Gordon Howie.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Huw Jones, Emma Howie, Tegid John, Rhian Corps, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

Croesawodd y Cadeirydd Mr. a Mrs Jim Maxwell i’r cyfarfod i drafod pam eu bod wedi gwneud cais i’r Cyngor am gymorth ariannol tuag at archebu 2 blac un er cof am Daniel Angell Jones, 5 Bronwen Terrace a oedd yn brifathro yr ysgol gynradd 100 mlynedd yn nol ag un arall er cof am y Dr. John Thomas oedd yn byw yn Tryfar Terrace ag oedd yn dyfeisiwr o’r broses lliwio a chwyldroodd y diwydiant lliwio brethyn. Mae y Dr. John Thomas wedi ei gladdu yn mynwent Capel Moriah yn y dref. Cafwyd wybod bod teulu Bryan Hilton Jones a oedd yn byw yn Penygarth wedi talu am blac glas gael ei osod er cof amdano. Diolchodd y Cadeirydd i Mr. a Mrs Maxwell am ddod i’r cyfarfod. Trafodwyd y mater hwn ymhellach a cytunodd yr Aelodau i gyfranu £660.00 tuag at archebu 2 blac glas.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 2il 2023 fel rhai cywir. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Nid oedd unrhyw fater yn codi o’r cofnodion gan yr Aelodau.

DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Edwina Evans ddiddordeb yn y cais am grant a gyflwynodd Mr. Jim Maxwell i’r Cyngor ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddi.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ddiddordeb yn y cais am grant a gyflwynodd Mr. Jim Maxwell i’r Cyngor ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddo.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi derbyn  ateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn datgan na ddim y nhw sydd yn gyfrifol am y ffens sydd yn rhedeg o’r groesfan draw am Siop y Morfa, ei bod wedi cysylltu unwaith yn rhagor ar Adran Priffyrdd ynglyn ar pant yn y ffordd ger Garej Morfa a wedi cael ateb ganddynt yn datgan eu bod wedi bod yn monitro’r sefyllfa dros yr haf gyda’r Arolygwr yn nodi fod y safle yn gwaethygu, ond yn anffodus mae Dwr Cymru yn dal I wrthod cymeryd cyfrifoldeb ag oherwydd hyn maen’t yn mynd I drefnu gwaith ymchwil fydd yn cael ei gario allan yn ystod y mis hwn ag os byddant yn darganfod mae cyfarpar Dwr Cymru yw’r broblem byddant yn trosglwyddo’r safle iddynt ac adennill unrhyw gost. Hefyd mae wedi cael gwybod bydd toiledau cyhoeddus ger maes parcio Min y Don yn cael eu adnewyddu yn ystod y misoedd nesa a cyn iddynt ail agor y tymor nesa. Hefyd ’roedd wedi mynyhchu cyfarfod lle bydd yn rhaid i Gyngor Gwynedd ddod o hyd i arbedion/toriadau o £6.5 miliwn yn 2024/25 os yw chwyddiant yn aros ar 6.7%. ‘Roedd wedi cael sawl galwad heddiw ynglyn ar arwyddion sydd wedi cael eu gosod o amgylch yr ardal yn dynodi bod yr A496 ar gau wrth eglwys Dewi Sant. Er bod hyn yn cyfeirio at y ffordd yn Bermo sydd ar gau am 8 wythnos, ‘roedd wedi cysylltu hefo’r Adran Priffyrdd oherwydd bod yr arwyddion wedi cael eu lleoli mewn safle drwg ar aml I groesffordd ag ‘roedd wedi cael gwybod bydd Arolygwr yn mynd o gwmpas yr ardal prynhawn heddiw ac yn gwirio lleoliadau yr arwyddion hyn a ceisio eu symud I leoliad mwy diogel I ddefnyddwyr ffyrdd os bydd angen. O heddiw ymlaen mae’r gwasanaeth bws wedi newid ag yn lle y T38 a 39 mae y bws yn cael ei ail rifo I G23 a bydd yn rhedeg bob awr o ddydd LLun I ddydd Sadwrn ar nifer o deithiau yn cynyddu o 7 I 11.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cyflwyno y gwobrau yn y sioe arddio calan gaeaf ag hefyd yn y gystadleuaeth aquathon a gynhaliwyd yn ddiweddar, ‘roedd wedi cyfarfod Mabon Ap Gwynfor a Liz Saville Roberts a wedi mynd a nhw o gwmpas y dref. Wedi cael rhai cwynion ynglyn a gor-yrru ag oherwydd hyn wedi gofyn I Arrive Alive ddod I’r ardal.

769………………………………………………..Cadeirydd

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £55,005.69 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £11,448.12 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Cae Chwarae Brenin Sior V

Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite bod cwmni Macventure wedi bod yn nol i adnewyddu y zip wire a gosod ramp yn un pen, hefyd cafwyd wybod ganddo ei fod wedi derbyn yr anfoneb terfynol am y gwaith ar y safle uchod a cytunwyd ei fod yn archwilio y zip wire ar ol iddynt gwblhau y gwaith arno cyn talu yr anfoneb hon. Cytunwyd i dderbyn pris Mr. Meirion Evans o £750 i wneud y llwybr o’r ffordd i’r parc chwarae. 

Llochesi Bws

Adroddodd y Cyng. Emma Howie ei bod wedi derbyn pris gan un cwmni o £8,629.20 am ddau loches bws ac adroddodd y Cyng. Tegid John y byddai yn gallu cael pris i gael y ddau loches bws presennol wedi ei adnewyddu.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd eu bod heb dderbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly ni fydd etholiad yn cael ei chynnal. Hefyd yn datgan byddant mewn cysylltiad pellach hefo’r Clerc I adael y Cyngor wybod beth yw y camau nesaf.

HAL

Adroddodd yr Is- Gadeirydd bod ef a’r Cyng. Martin Hughes wedi mynychu y cyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar yr 11eg o fis diwethaf i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Cafwyd wybod bod bob Cyngor wedi penderfynnu i dalu y taliad precept bob mis hyd at ddiwedd Mawrth 2024 onibai bod rhywbeth annisgwyl yn digwydd, bod pawb yn gytun bod angen gweld cynllun busnes a rhoid tan ganol mis Rhagfyr i HAL anfon hwn allan, eu bod yn dal i anfon cyfrifon rheolaidd i’r Cynghorau Cymuned a bod y Cynghorau eisiau gweld unrhyw adroddiad arolwg sydd  wedi cael eu derbyn ganddynt. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn copi o’r e-bost oedd Clerc Cyngor Cymuned Llanbedr wedi ei anfon i HAL ag ei bod wedi anfon hwn ymlaen i bob Aelod.

Ardal Ni

Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Martin Hughes ynglyn ar cyfarfod oedd wedi cael ei gynnal ar y 24ain o fis diwethaf a bod y Cyng. Edwina Evans, Rhian Corps, Mr. Reg Chapman ar ran pwyllgor yr Hen Lyfrgell, Mr. Jim Maxwell ar ran pwyllgor y Neuadd Goffa a Mr. Geraint Williams yn bresennol. Cafwyd wybod ganddo bod Anna Lewis, Swyddog Adfywio Ardudwy wedi cytuno i ddod i’r cyfarfod nesa ond nid oedd dyddiad ar gyfer y pwyllgor hwn wedi cael ei gadarnau eto.

Tir Penygraig

Wedi derbyn e-bost gan Mr. Dylan Edwards, o gwmni Guthrie Jones & Jones Cyfreithwyr yn gofyn am gyfarwyddyd y Cyngor ynglyn ar mater uchod. Adroddod y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon ymlaen yr holl ohebiaeth ynglyn a hyn i bob Aleod ag hefyd ‘roedd wedi derbyn e-bost arall gan Mr. Dylan Edwards yn datgan bod y gwerthwr yn fodlon trosi’r tir am ddim i’r Cyngor ar yr amod bod y Cyngor yn talu £2,000 i ALW am gostau (‘roedd hyn wedi cael ei gytuno mewn cyfarfod o’r Cyngor ar y 4ydd o Ebrill 2022), hefyd yn datgan bod y brydles gyfredol yn terfynu ar yr 20ed o Ionwar 2023, yn datgan er bod y tir yn cael ei gynnig i’r Cyngor am ddim, rhaid gofalu nad oes liabilities yn gysylltiedig a’r tir, ‘roedd gweithredoedd y tir WA912685 wedi eu atodi er gwybodaeth ond oedd Mr. Edwards yn datgan bod nifer fawr o ddogfennau eraill yn gysylltiedig a’r teitl hwn ond nid oeddynt eisiau eu archebu heb gael sicrwydd gan y Cyngor ein bod yn prynu’r eiddo. Hefyd yn awgrymu dylai y Cyngor gario allan asesiad risk o’r eiddo ac efallai cael syfre ohono ag eisiau gwybod o ran diddordeb pan fod y Cyngor yn awyddus i brynu’r tir hwn a pa ddefnydd a wnaed ohono pan oedd y Cyngor yn ei brydlesu. Cytunwyd i gario ymlaen ag i dalu y swm o £2,000 ag hefyd gofyn i Mr. Edwards a fyddai modd iddo drefnu bod y Cyngor yn cael asesiad risc a survey wedi ei gario allan.

770……………………………………………Cadeirydd

Goleuadau Nadolig

Bydd trafodaeth ynglyn ar uchod ar ol cael gwybod bod y cyhoedd o’r farn bod y Cyngor ddim yn cyfranu tuag at y digwyddiad hyn. Cytunwyd anfon llythyr at Mr. Geraint Williams yn gofyn a fyddai modd i’r Cyngor gael yr anfonebau sydd ynghlwm ar digwyddiad hyn er mwyn iddynt gallu gymeradwyo taliadau fel gall y Cyngor ad-dalu costau Mr. Williams.

Creu Tudalen Weplyfr I’r Cyngor

Cafwyd wybod bod tudalen o’r fath wedi cael ei chreu a bod y Cyng. Rhian Corps a Emma Howie yn ofal y dudalen hon ag hefyd cytunwyd ei defnyddio tuag at gwybodaeth yn unig. Cytunwyd bod angen tynnu cyfeiriad e-bost yr Aelodau o wefan y Cyngor.

Scam

Adroddodd y Clerc ei bod wedi ymateb i adroddiad yr Archwiliwr Allanol ynglyn ar mater hyn, ond oherwydd bod yr adroddiad hyn yn un gyfrinachol nid oedd posib cofnodi y drafodaeth a gymerodd lle ynglyn ar adroddiad.  Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Ombwdsman Ariannol ag ei bod wedi cael ateb ganddynt ag oherwydd ei fod yn gyfrinachol nid oedd posib cofnodi ei gynnwys.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Diwygio Amod Rhif 2 (Cynlluniau a gymeradwywyd) ynghlwm i Ganiatâd Cynllunio NP5/61/657A dyddiedig 01/08/2023 ar gyfer newidiadau i bae parcio a gosod paneli solar ar do estyniad deulawr sy’n gwynebu’r de sydd wedi ei gymeradwyo – Aelfor, Ffordd Isaf, Harlech (NP5/61/657B)

Cefnogi y Cais hwn.

Codi garej bae triphlyg ar wahân gyda gweithdy llawr cyntaf – Bryn Gwylan, Ffordd Uchaf, Harlech (NP5/61/479C)

Cefnogi y Cais hwn.

Tystysgrif Defnydd Cyfreithlon (Defnydd Presennol) ar gyfer defnyddio’r hen sgubor fel llety ategol i’r ffermdy -Foel, Harlech (NP5/61/LU608C)

Cefnogi y Cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £15,159.73 yn y cyfrif rhedegol a £101,594.67 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Mr. G. J. Williams                 – £214.00 –  torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed x 2

Mr. Meirion Griffiths        – £2,133.00 – torri gwair y llwybrau cyhoeddus ag o amgylch y rhandiroedd

Mr. Meirion Griffiths        – £2,052.00  – torri gwair y fynwent gyhoeddus ar maes parcio

Mr. Meirion Evans                – £180.00  –  hanner y gost am godi bwlch rhwng tir Mr. Evans ar rhandiroedd

Mr. Tom Edwards                 – £240.00  –   clerio a gwaredu coed ar y Llwybr Natur (gwaith brys e-bost 9.10.23)

Y Lleng Prydeinig                   –   £20.00   –  torch pabi coch

Macventure Playgrounds – £9,120.00   – gweddill taliad offer chwarae cae Brenin Sior**

** Cytunwyd bydd yr anfoneb uchod yn cael ei thalu unwaith fydd y Cyng. Christopher Braithwaite wedi cario allan archwiliad o’r gwaith mae y cwmni wedi ei wneud ar y zip wire.

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750.00 – cynnig precept (taliad misol)

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Tegid John gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Cytunwyd I drosglwyddo £10,000 o’r cyfrif cadw I’r cyfrif rhedegol.

771………………………………………………….Cadeirydd

Adroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Allanol am y flwyddyn ariannol 2020/21 a 2021/22 wedi ei gwblhau a bod rhai materion o bwys yn codi ac fe gafodd y materion hyn eu trafod. 

Awgrymodd y Clerc byddai yn well cael agenda ariannol yn unig ar gyfer cyfarfod mis Ionawr fel y gallai trafod materion ariannol yn fwy trylwyr a cytunodd pawb I hyn.

Derbyniadau yn ystod y mis

Ddim wedi eu derbyn ers y cyfarfod diwethaf.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ar y 9ed o fis diwethaf yn hysbysu y Clerc ei fod wedi derbyn ymholiad drwy Galw Gwynedd yn datgan bod cwsmer wedi cysylltu yn datgan pryder am goed peryglus tu cefn I’w cartref sef Tyddyn Bach, 2 Bron y Graig, Harlech ag yn gofyn a fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu edrych I mewn I hyn cyn gynted a phosib. Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda’r Cyng. Huw Jones am bod y gwaith hyn o natur brys i ofyn iddo gysylltu gyda Mr. Tom Edwards yn gofyn iddo fynd I ymweld ar safle cyn gynted a phosib. Adroddodd y Cyng. Huw Jones ymhellach bod y gwaith o glerio a gwaredu coed peryglus oedd wedi disgyn ar draws y Llwybr Natur wedi cael ei wneud ar yr 20ed o fis diwethaf a bod archwiliad o’r safle wedi cael ei gario allan a bydd angen mwy o waith yna yn y dyfodol.

Cyngor Gwynedd – Adran Economi

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod grantiau ar gael tuag at wella neu creu rhandiroedd. Cytunwyd I geisio am y grant hon.

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod y gwaith canlynol yn mynd I gael ei gario allan yn ystod y mis nesa sef bod y Tim Tacluso Ardal o amgylch y dref o’r 30ain o Hydref hyd at y 3ydd o Dachwedd, bod giat I gerddwyr yn mynd I gael ei gosod ar llwybr cyhoeddus rhif 29, bod torri llystyfiant, gwaith draenio, gwaith walio a gosod 3 giat ceffylau yn mynd I gael ei wneud ar llwybru cyhoeddus rhif 16/23 a bod 2 giat I gerddwyr yn mynd I gael eu gosod ar llwybr cyhoeddus rhif 17.

Cyngor Gwynedd – Adran Economi

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn grant fel rhan o gynllun SPF Gwynedd ar gyfer gweithredu cynlluniau canol tref er mwyn gosod Sylfaen ar gyfer buddsoddiad, balchder a bwrlwm fyddai yn cyfrannu tuag at adfywio canol tref. Yn gofyn a fyddai gan y Cyngor Cymuned ddiddordeb o fod yn rhan o’r cynllun hwn. Cytunwyd bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn y dref.

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd am Ty Clyd yn cael ei chau o’r 7ed o’r mis hwn er mwyn I waith adfer pibell gyfathrebu ar ran Dwr Cymru gael ei gario allan. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost arall yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Pen y Bryn I fyny at Cae Du ar gau ar yr 21ain o’r mis hwn er mwyn I waith o adfer polyn a gweithgareddau ceblau ar ran BT Openreach gael ei gario allan.

Mr. Joe Patton

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn ei gefnogi I geisio am grant I’r ardd flodau gymunedol gan Cadw Cymru’n Daclus. Cytunwyd I wneud hyn. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn y siec o £249.25 gan Mr. Patton a oedd wedi ei gael gan y PCSO lleol i gefnogi yr ardd gymunedol o flodau gwyllt. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i archebu mwy o blanhigion lafant, cenin pedr a nwyddau garddio. Cytunwyd unwaith fydd y siec hon wedi mynd drwy cyfrif y Cyngor i ad-dalu £209.69 i Mr. Patton sef yr hyn mae wedi ei wario er mwyn gallu archebu  bylbiau, pridd ag offer ar gyfer yr ardd gymunedol 

Always Aim High Events

Wedi derbyn e-bost gan Claire Stones ar ran y cwmni uchod yn gofyn a fyddai modd defnyddio cae chwarae Brenin Sior V fel yn y gorffenol ar gyfer parcio yn ystod y Triathlon sydd yn cael ei chynnal ar y13eg ar 14eg o Ebrill 2024. Cytunwyd I roi caniatad iddynt.

772…………………………………………..Cadeirydd

Mr. Giles Bentham

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan bod y Cyngor yn torri dwy gyfraith sef Deddf Llywodraeth Leol ag Etholiadol (Cymru) 2021 a Deddf Llywodraeth Leol (Democratieth) (Cymru) 2013. Mae yn datgan bod hyn yn bodoli lle mae Deddf 2021 yn y cwestiwn o achos bod y Cyngor ddim yn cyhoeddi o fewn 7 diwrnod i’w cyfarfodydd enwau yr Aelodau oedd yn bresennol, ymddiheuriadau, datganiadau buddiant ag unrhyw benderfyniad a wnaed yn y cyfarfod. Ynglyn a Deddf 2013 mae y Cyngor yn torri y gyfraith oherwydd nid ydynt yn cyhoeddi unrhyw wybodaeth am eu Aelodau gan gynnwys os ydynt yn perthyn i unrhyw blaid a bod y Cyngor ddim yn cyhoeddi eu cyfrifon ar eu gwefan. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn e-bost arall gan Mr. Bentham yn gofyn pam ei fod heb gael ateb i’w e-bost gyntaf ag hefyd ei fod wedi cael gwybod gan un o’r Cynghorwyr bod y mater o’r Cyngor yn cydymffurfio a’r Deddf 2021 wedi ei awgrymu yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor ond bod y Clerc wedi gwrthod gwneud hyn. Datganodd y Clerc bod hyn yn anghywir oherwydd mae’r Aelodau oedd wedi penderfynu peidio a gweithredu y Ddeddf hon am eu bod yn gweld bod ddim Cyngor Tref a Chymuned arall yn gwneud. Bu trafodaeth ynglyn ar uchod a nid oedd yr Aelodau yn hapus o gwbwl bod Cynghorydd wedi bod yn ail adrodd busnes y Cyngor i Mr. Bentham cyn bod y cofnodion wedi eu cyhoeddi.

UNRHYW FATER ARALL

Cytunwyd i drafod yr e-bost oedd wedi ei dderbyn gan Mrs Jane Jones yng nghyfarfod nesa y Cyngor a byddai y Cadeirydd yn gadel hi wybod am hyn.

Cafwyd wybod gan y Cyng. Martin Hughes bod y llythyrau o’r blwch post yn y dref yn cael eu casglu yn y prynhawn.

Cytunwyd bod y Cyng. Rhian Corps yn mynychu hyfforddiant anwytho Cynghorydd newydd ar y 6ed o fis nesa.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         773

Share the Post:

Related Posts