COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.03.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.03.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Ceri Griffiths, Thomas Mort.  

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Huw Jones, Tegid John, Gordon Howie, Rhian Corps, Mark Armstrong, Emma Howie, Wendy Williams, Martin Hughes, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 6ed 2023 fel rhai cywir.

DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Edwina Evans ddiddordeb yng nghais ariannol Yr Hen Lyfrgell a Neuadd Goffa ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddi a ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

Datganodd y Cyng. Rhian Corps ddiddordeb yng nghais ariannol Ysgol Tan y Castell ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddi a ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ddiddordeb yng nghais ariannol Yr Hen Lyfrgell ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddo a ni chymerodd ran yn y drafodaeth.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi gofyn i’r Tim Tacluso Ardal Ni gario allan gwaith ar y llwybr rhwng cae chwarae Y Waun ar tai ag hefyd wedi gofyn iddynt dacluso o amgylch y cafan ceffyl yn y dref a mae’r gwaith hwn wedi cael ei wneud ganddynt. ‘Roedd wedi cael gwybod bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno bid am arian i greu croesfan newydd ger ystad dai Ty Canol a mae’r cais wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru trwy ffynhonnell ariannol llwybrau diogel i’r ysgol. ‘Roedd wedi derbyn sylw bod o amgylch y blwch post ar ystad Y Waun yn mynd yn fwdlyd yn ystod tywydd gwlyb a mae Cyngor Gwynedd yn mynd i osod slab yna, mae yr Adran Priffyrdd yn monitro’r sefyllfa ar yr A496 wrth Garej Morfa a mae trafodaethau wedi bod hefo Dwr Cymru oherwydd bod pryder bod eu peipen yn colli dwr ag yn golchi allan o dan y ffordd. Cafodd wybod bydd yr Arolygydd Priffyrdd yn trefnu ymweliad arall yr wythnos hon er mwyn casglu mwy o dystiolaeth.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod Cyngor Gwynedd mewn cyfarfod o’r Cyngor llawn ar yr 2il o Fawrth wedi codi treth y Cyngor 5% am y flwyddyn ariannol nesa. Cafwyd wybod ei fod wedi derbyn llawer o gwynion am lanast ar y traeth a bod CNC a Chyngor Gwynedd yn cydweithio i’w glerio, hefyd bod y llinellau melyn dwbwl oedd i fod i gael eu gosod ar Ffordd Uchaf wedi cael ei wneud.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £83,217.47 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £4,891.71 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Arwyddion Ty Canol

Adroddodd y Clerc ei bod wedi sylwi bod polion yr arwyddion hyn i fyny ers dipyn o amser ag ei bod wedi cael gwybod gan Iwan Ap Trefor fod yr arwyddion heb gyrraedd y gweithdy’r Adran Priffyrdd eto ag oherwydd hyn nid yw y gwaith wedi ei rhaglennu eto ond byddant yn sicrhau bod yr arwyddion yn cael eu gosod cyn gynted a byddant wedi cyrraedd.

Cae Chwarae Brenin Sior V

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi cael gwybod gan gwmni McVenture y byddant yn cychwyn ar y gwaith yn y cae chwarae uchod ar y 10ed neu’r 17eg o Ebrill. Hefyd cafwyd wybod ei fod wedi archebu y bollards ond ddim wedi eu derbyn eto.

745………………………………………Cadeirydd

HAL

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Mrs Donna Morris-Collins, Rheolwr HAL a Chadeirydd y Cyngor Cymuned  a bod y dyddiad o 21ain o’r mis hwn wedi cael ei gytuno i gynnal cyfarfod cyhoeddus. Fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn y Neuadd Goffa ag i gychwyn am 7.30 o’r gloch. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon e-bost i bob Aelod yn barod yn eu hysbysu o’r cyfarfod hwn ag hefyd wedi gosod hysbyseb yn Llais Ardudwy ag ar yr hysbysfyrddau.

Agor Tenderau Torri Gwair

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn 1 tender ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. Meirion Griffith, Islwyn Talsarnau am £13.50 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus ar fynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn y tender hon. Hefyd cytunwyd i dderbyn pris Mr. Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed eto eleni sydd yn £62 am dorri y cae peldroed, £38 am dorri o amgylch y swings ag £90 i dorri gweddill y cae. Cytunwyd i dderbyn y tender hon.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Estyniad deulawr yn y cefn, gosod simnai allanol ac ail-leoli’r corn simnai bresennol, dormer newydd a balconi llawr cyntaf ar y drychiad blaen. Gwaith peirianyddol i greu man parcio a wal gynnal newydd – Aelfor, Ffordd Isaf, Harlech (NP5/61/657)

Cefnogi y cais hwn.

Dymchwel yr ystafell haul ac adeiladu estyniad unllawr ar yr ochr (Cais diwigiedig) – Ynys y Niwl (Buckland), Hen Ffordd Llanfair, Harlech (NP5/61/548B)

Cefnogi y cais hwn.

Newidiadau i ledu’r fynedfa gerbydol bresennol 1.3medr – Eryl Y Môr, Heol Y Bryn, Harlech (NP5/61/659)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £66,860.90 yn y cyfrif rhedegol a £31,186.32 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Mrs Annwen Hughes – £1,844.55 – cyflog a chostau 6 mis

Cyngor Gwynedd        – £1,500.00 –  rhoi i fyny a tynnu lawr goleuadau nadolig

Mr. G. J. Williams        –      £56.00 –  rowlio cae peldroed

Travis Perkins           –    £109.20 –  flushpipe i’r toiledau ger y Neuadd Goffa

Derbyniadau yn ystod y mis

Pritchard a Griffiths – £1,726.50 –  claddu y diweddar Mr. Norman John Povey

Cyllid a Thollad         – £2.111.60  –  ad-daliad T.A.W

Ceisiadau am gymorth ariannol

Ysgol Ardudwy                      – £5.000

Cyfeillion Ysgol Tanycastell – £3,000

Pwyllgor Neuadd Goffa     –   £1,000    

Ysgol Hafod Lon                  –   £1,000

CFFI Meirionnydd               –      £250

Ambiwlans Awyr Cymru    –   £1,000

Pwyllgor Hen Lyfrgell     –  £1,000

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi gofyn i Ms Luned Fon Jones o Adran Cyllid, Cyngor Gwynedd a fyddai yn fodlon gweithredu fel Archwiliwr Mewnol y Cyngor eto eleni ag ei bod wedi cytuno i hyn.

746……………………………………………..Cadeirydd

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar ardal o’r 27ain tan y 31ain o’r mis hwn.

Cyngor Gwynedd – Adran Gyfreithiol

Wedi cael llythyr yn datgan bydd ffordd y stryd fawr gyferbyn a Byrdir yn cael ei chau ar yr 21ain o’r mis hwn er mwyn gallu cario gwaith o adfer pibell gyfathrebu sydd yn gollwng ar ran Dwr Cymru. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon copi o’r llythyr hwn i’r Aelodau yn barod.

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a pwyntiau gwefru i gerbydau trydan ag yn gofyn os byddai cyfle i ddenu arian grant yn y dyfodol ar gyfer cyflwyno rhagor o bwyntiau gwefru ar lecynnau tir sydd o dan cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned neu y gymuned leol byddant yn hynod ddiolchgar os fyddai y Cyngor Cymuned yn gallu enwebu rhain. Cytunwyd rhoi enw Hamdden Harlech ac Ardudwy iddynt.

Ms Rachel Heal

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod sydd yn riant i blentyn sydd yn mynychu Ysgol Hafod Lon yn gofyn a fyddai y Cyngor yn fodlon rhoid cyfraniad ariannol tuag at archebu beic arbennig i blant yn Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth. Cytunwyd i gyfrznu £1,000.

Ms Lydia Pierce

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn cysidro ail beintio llinellau y cwrt tenis ger ystafell y band. Hefyd datganodd bod yna gwmni yn ail beintio llinellau maes parcio y golf ar hyn o bryd ag ei bod wedi gofyn iddynt a fyddant yn fodlon gwneud llinellau y cwrt tenis a maen’t wedi datgan eu bod yn fodlon gwneud hyn am bris o £200. Ar ol trafodaeth cytunwyd i beidio a chymryd y cynnig hwn i fyny oherwydd bod gwaith tacluso angen ei wneud ar y cwrt tenis i gychwyn a bod ddim digon o amser ar hyn o bryd i wneud y gwaith hwn. Cytunwyd i dacluso a peintio y llinellau erbyn yr haf a rhoi y mater hwn ar agenda mis nesa.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Huw Jones bod gwaith yn cael ei gario allan yn y toiledau ger y Neuadd Goffa ar hyn o bryd ag ei fod yn gobeithio y byddant yn cael eu ail agor erbyn y pasg.

Datganwyd pryder bod ysbwriel yn dod i fyny o’r ffosydd o amgylch Ysgol Ardudwy yn ystod tywydd gwlyb a cytunodd y Clerc gael gair gyda’r Pennaeth ynglyn a hyn.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         747

Share the Post:

Related Posts