COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.12.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.12.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Huw Jones, Emma Howie, Tegid John.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Ceri Griffiths, Thomas Mort, Gordon Howie, Rhian Corps, Martin Hughes, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

‘Roedd 2 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 6ed 2023 fel rhai cywir. 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Adroddodd y Clerc ei bod heb dalu anfoneb Macventure Playgrounds eto oherwydd ei bod heb glywed gan yr Is-Gadeirydd oedd yn iawn iddi wneud hyn. 

Fe wnaeth y Cyng. Martin Hughes holi a oedd Cynghorydd yn gorfod datgan buddiant os oedd yn cynrychioli y Cyngor ar unrhyw bwyllgor allanol.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes bod y cofnod ynglyn ar scam ddim yn glir iawn.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

Adroddiad a dderbyniwyd gan yr Archwiliwr Allanol

Adroddodd y Clerc nid yw yn bosib trafod yr adroddiad uchod oherwydd bod y Rhybudd angenrheidiol heb gael ei i gyhoeddi yn y Cambrian News yn hysbysu y cyhoedd bod yr uchod yn cael ei drafod er bod y Clerc wedi ei anfon atynt. Bydd yn rhaid nawr ei drafod yngh nghyfarfod nesa y Cyngor ar yr 8ed o Ionawr.

Datganwyd gan aelod o’r cyhoedd ei fod ddim yn hapus bod rhybudd heb gael ei roi ar dudalen we y Cyngor na’r dudalen weblyfr yn datgan bod y mater hwn wedi cael ei ohirio.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi derbyn cwynion am or-yrru lawr ffordd glan y mor ag ei bod wedi pasio y cwynion hyn ymlaen a wedi gofyn am arwyddion 20 m.y.a gael eu gosod ar y ffordd yn enwedig wrth ymyl yr Ysgol ag ‘roedd wedi codi y mater hwn mewn cyfarfod diweddar hefo’r Heddlu yn Bermo. ‘Roedd wedi cael gwahoddiad gan yr Heddlu, yn  dilyn y ddamwain ddifrifol ger LLanfrothen, I fynychu cyfarfod i gael sgwrs anffurfiol a oedd yn cael ei gadeirio gan Llinos Davies o Heddlu Gogledd Cymru. Bydd parcio am ddim ar gael yn bob maes parcio dan berchnogaeth Cyngor Gwynedd rhwng y 9ed ar 26ain o Ragfyr er mwyn hyrwyddo siopa’n lleol.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu gwasanaeth Sul y Cofio, y ffair grefftau ar noson goleuo nadolig, ‘roedd rhan fwyaf o’I amser yn mynd yn mynychu gwahanol gyfarfodydd hefo’r Awdurdo Tan.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £61,603.69 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £7,333.62 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Cae Chwarae Brenin Sior V

Cafwyd wybod gan y Cyng. Christopher Braithwaite bod Mr. Meirion Evans wedi cwblhau y llwybr o’r ffordd i’r parc chwarae ag hefyd bod y gwaith ar y zip wire wedi ei gwblhau ag ei fod yn hapus bod yr anfoneb yn cael ei thalu. ‘Roedd Mr. Meirion Evans wedi gosod y bollards a datganodd y Cadeirydd ei bod wedi derbyn galwad ffon gan person lleol yn diolch i’r Cyngor am osod y bollards hyn a bod y gwaith yn edrych yn dda.

774…………………………………………….Cadeirydd

Llochesi Bws

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite bod ganddo ddim byd pellach i’w adrodd ynglyn ar uchod.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd eu bod wedi derbyn dau enwebiad ar gyfer y sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly fydd etholiad yn cael ei chynnal ar y 14eg o’r mis hwn.

HAL

Adroddodd yr Is- Gadeirydd bod ef a’r Cyng. Martin Hughes wedi mynychu y cyfarfod rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL ar y 23ain o fis diwethaf ag ‘roedd y Clerc wedi anfon copi o gofnodion y cyfarfod hwn, a oedd wedi eu derbyn gan Glerc Cyngor Cymuned Llanbedr, at bob Aelod. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copiau o gyfrifon HAL i fyny at ddiwedd mis diwethaf i bob Aelod a datganodd bod cyfarfod arall yn cael ei gynnal rhwng y Cynghorau Cymuned a HAL ar y 14eg o’rmis hwn am 7.00 o’r gloch ac hefyd adroddodd bod cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal yn neuadd bentref Llanbedr ar y 18ed o’r mis hwn.

Tudalen We y Cyngor 

Yn absenoldeb y Cyng. Emma Howie cafwyd wybod gan y Clerc bod y Cyng. Emma Howie wedi anfon e-bost iddi yn datgan bod Mrs Kim Howie wedi cytuno i lunio wefan newydd i’r Cyngor am bris o £500 ag ei bod wedi anfon yr e-bost ynglyn a hyn ymlaen i bob Aelod. Cytunwyd bod Mrs Howie yn gwneud y gwaith hyn i’r Cyngor.

Tir Penygraig

Adroddodd y Clerc ei bod wedi gofyn i Mr. Edwards a fyddai modd iddo drefnu bod y Cyngor yn cael asesiad risc a survey wedi ei gario allan ag yr oedd wedi derbyn ateb yn datgan iddynt gysylltu a Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Mr. Arwel Williams o gwmni Tom Parry i ofyn a fyddai yn gallu gwneud y gwaith hwn.

E-bost Mrs Jane Jones

Adroddodd y Cadeirydd ei bod wedi cysylltu ar uchod i ddiolch iddi am y gwaith mae hi wedi ei wneud ac adroddwyd bod bob Aelod wedi cael copi o e-bost yr uchod. Nododd Mrs Jones ei fod ddim yn hapus yn y ffordd oedd cyfrifon y Cyngor a materion eraill yn cael ei gwneud a cytunwyd byddai yr is-bwyllgor Y Ffordd Ymlaen yn cyfarfod i drafod hyn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Gosod tanc olew 1300 litr – Tir yn Morfa Newydd, Ffordd Glan Môr, Harlech (NP5/61/505D)

Cefnogi y cais hwn.

Newidiadau i flaen siop i greu drws newydd i ddarparu mynediad ar wahân i fflat llawr cyntaf, ynghyd â chodi porth a grisiau newydd – Rosslyn House, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/113C)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £20,034.98 yn y cyfrif rhedegol a £91,763.79 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Mr. Joe Patton                   –    £209.69   –   archebu blodau, pridd a nwyddau i’r ardd gymunedol

Mr. M. J. Kerr                     –      £90.00   –   agor bedd i gladdu llwch David a Caerwen Williams

Mr. G. J. Williams                 – £152.00    –  torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed x 2

Mr. Lee Warwick                –   £258.22    –  glanhau toiledau ger y castell (taliad 2 fis)

Mr. Meirion Evans           –  £1,620.00   –   creu llwybr yn cae chwarae Brenin Sior a gosod 3 bollard ger Llyn y Felin

Brown and Wolfe                –  £260.00   –   cynnal wefan y Cyngor

Tindle Newspapers             –  £369.60   –   rhybudd adroddiad archwiliad allanol

Macventure Playgrounds – £9,120.00   – gweddill taliad offer chwarae cae Brenin Sior

775…………………………………………….Cadeirydd

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £1,750.00 – cynnig precept (taliad misol)

Pwyllgor Hen Lyfrgell                  –    £650.00  – archebu 2 plac glas (cytunwyd yng nghyfarfod mis diwethaf)

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan yr Is-Gadeirydd, y Cyng. Christopher Braithwaite a wnaeth y Cyng. Ceri Griffiths gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Heddlu Gogledd Cymru – £249.25 – grant PACT

Pritchard a Griffiths    – £1,204.00 – claddu llwch y diweddar David a Caerwen Williams

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd o Awelfryn, Ffordd Uchaf yn cael ei chau o’r 13eg o’r mis hwn ar sail iechyd a diogelwch I’r cyhoedd yn ystod gwaith ar geblau uwchben. Nodwyd mae yn cymuned Llanfair oedd y gwaith hyn yn cael ei gario allan.

Mr. Joe Patton

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu’r Cyngor bod cais grant Cadwch Cymru’n Daclus ar gyfer y pecyn sedd blodau gwyllt wedi bod yn llwyddianus ac roedd am gyfleu ei ddiolch a’i werthfawrogiad i Aelodau’r Cyngor Cymuned am ei wneud yn bosibl i’r grant hwn gael ei gael.

Mr. Owen Brown

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a yw’r Cyngor yn hapus i fwrw ymlaen â’r gwaith cynnal wefan y Cyngor ar gyfer eleni a hefyd yn nodi ei fod wedi anfon e-bost at Webflow yn gofyn faint o amser sydd yna pe bai angen canslo’r cynllun. Cytunwyd I dalu am gynnal y wefan am flwyddyn eto.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod y ffos ger Siop y Morfa angen ei glanhau a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cafwyd wybod bod angen atgyweirio y ffens sydd ger y ffos hon.

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ei fod ddim yn hapus bod yr ymateb a anfonwyd i’r Archwiliwr Allanol mewn ymateb i’r adroddiad a dderbyniwyd heb gael ei anfon i’r holl Gynghorwyr cyn ei anfon ymlen i’r Archwiliwr Allanol a ddim ond wedi cael ei hanfon i’r Cadeirydd ar Is-Gadeirydd.

Cafwyd wybod bod angen cynrychiolydd o’r Cyngor fynd ar Gorff Llywodraethwyr Ysgol Tan y Castell ag ar ol trafodaeth cytunodd y Cyng. Wendy Williams fod yn gynrychiolydd y Cyngor.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         776

Share the Post:

Related Posts