COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 20.10.22

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 20.10.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd).

PRESENNOL

Cyng. Robert G. Owen, Osian Edwards, Hywel Jones,  Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

Yn absenoldeb y Cadeirydd ar Is-Gadeirydd cymerwyd y Gadair gan y Cyng. Robert G. Owen.

Croesawyd Donna Marie Morris Collins, Rheolwr Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod i drafod y gwaith diweddaraf sydd yn mynd ymlaen yn y ganolfan. Cafwyd wybod bod y pwll wedi ail agor ers mis Awst a bod cyrsiau achubwyr bywyd yn mynd i gael eu rhedeg a bod rhai lleol yn mynd i wneud rhain. Cafwyd wybod hefyd bod gwersi nofio yr ysgolion wedi cychwyn yn nol ynghyd a llawer o weithgareddau yn mynd i gael eu cynnal ar y safle a bod mwyafrif o’r llefydd ar y gweithgareddau hyn yn llawn yn barod. Y gost mwyaf fydd rhaid ei wneud ar hyn o bryd yw archebu roliwr a gorchudd newydd i roi dros y pwll a byddant yn mynd allan am noddwyr i godi arian i archebu rhain. Wrth gael gorchudd dros y pwll byddai hyn yn arbed tua 30-40% ar y costau gwresogi. Hefyd maen’t yn gweithio yn agos iawn hefo Ysgol Ardudwy. Diolchwyd iddi am ddod atom a rhoi adroddiad ynglyn ar diweddaraf sydd yn mynd ymlaen gyda’r safle. Hefyd datganwyd bydd y taliad olaf o’r cynllun precept yn cael ei dalu y mis hwn a cyn i’r Cyngor osod ei brecept yn mis Ionawr bydd rhaid cael gwybod os yw yr etholwyr eisiau cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 14eg 2022 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £9,522.76 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £7,493.43 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod bod y mater gyda’r Gwasanaeth Cyfreithiol a dylai ymghynghoriad cyhoeddus ddigwydd yn y dyfodol agos. ‘Roedd hefyd wedi cysylltu gyda’r Adran Gyfreithiol a wedi cael gwybod eu bod yn gobeithio y gallant ddrafftio Gorchymyn a’r Rhybudd a’i roi yn y papur newydd o fewn y pythefnos nesa.

Pwyllgor Neuadd Goffa – 28.9.22

Adroddodd y Cyng. Mair Thomas a Robert G. Owen eu bod wedi mynychu y cyfarfod uchod. Cafwyd wybod bod sefyllfa ariannol y pwyllgor yn iach a bydd prisiau llogi y neuadd yn codi. Bydd y cyfarfod nesa yn cael ei gynnal ddechrau’r flwyddyn nesa. Bu trafodaeth ynglyn a Sul y Cofio a cafwyd wybod bydd  gwasanaeth yn cael ei gynnal tu mewn i’r neuadd ar y 13eg o Dachwedd a cytunwyd bod y Cyng. Eurig Hughes yn gosod y dorch ar ran y Cyngor. Cytunodd y Clerc i gysylltu ag ef ynglyn a hyn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £15,796.35 yn y cyfrif rhedegol a £5,523.90 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Cyllid a Thollad         –       £95.00  –  treth ar gyflog y Clerc

Cyngor Gwynedd      –    £107.00  –  costau etholiad 2022

Cyngor Gwynedd     –  £4,000.00  –  cyfraniad i gadw y toiled cyhoeddus yn agored yn Llandanwg

Mr. M. J. Kerr             –      £90.00  –  agor bedd y diweddar Mr a Mrs William Greenwood (llwch)

453………………………………………….Cadeirydd

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey              –   £40.00    –  rhent cwt yr hers (Hydref) 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy   –  £4,282.19  – hanner y cynnig precept

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Cyfreithiol

Wedi cael e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd gyferbyn a Bron y Garth, Llanbedr hyd at Hen Bandy, Llanbedr ar gau ar y 24ain o Hydref er mwyn i BT gael adnewyddu polyn diffygiol ag hefyd gwneud gwaith ar geblau ar hyd y ffordd.

Mr. David Young – Snowdonia Aerospace

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn awgrymu y byddai yn syniad da i gynnal cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yr ardal er mwyn cael rhoid cyflwyniad byr o beth sydd yn mynd ymlaen yn y maes awyr yn Llanbedr. Adroddodd y Clerc ei bod wedi awgrymu wrtho byddai cynnal cyfarfod yn y maes awyr ddechrau’r flwyddyn nesa yn fuddiol.

Network Rail

Wedi derbyn e-bost gan Phil Caldwell o’r cwmni uchod ynglyn a gosod offer “Whistle Boards” ger groesfan “Harlech Cliffs” oherwydd bod damweiniau wedi bron a digwydd yna yn ystod y flwyddyn hon gyda rhai yn croesi y groesfan a tren yn dod yn agos ag yn gofyn am farn y Cyngor Cymuned ynglyn a gosod y math yma o beth, a fyddant yn cefnogi hyn, a ydynt yn meddwl ei fod yn syniad da ag a ydynt yn meddwl y byddai gosod rhain yn gwneud gwahaniaeth. Hefyd bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn gorfod cael ei gynnal. Cytunwyd bod yn syniad da i’r gwaith yma gael ei wneud.

UNRHYW FATER ARALL

Nid oedd unrhyw fater arall gan neb i’w drafod.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Gofynodd y Cyng. Gwynfor Owen am gefnogaeth y Cyngor gyda cadw yr ambiwlans awyr yn Dinas Dinlle a cytunwyd anfon llythyr yn cefnogi hyn. Cafwyd wybod bod cyfarfod ynglyn a costau ynni yn cael ei gynnal yn Harlech ar yr 22ain o Dachwedd.

Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes bod y gwaith o ostwng y palmant ger groesffordd ystad dai Frondeg wedi cael ei gwblhau, bod y coed ar hyd ochor y ffordd o Pensarn am Argoed wedi cael eu torri. ‘ Roedd wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn a tacluso y maes parcio ond nid oedd wedi cael ateb eto.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 7ed o Ragfyr am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

452

Share the Post:

Related Posts