COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 19.07.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 19.07.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Mair Thomas, Hywel Jones. 

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Osian Edwards, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mehefin 8ed 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £5,855.61 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,147.34 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc bod ddim mwy i adrodd ynglyn ar uchod ddim ond bod Mr. Rob Lewis yn gweithio i gael sustem

yn ei le yn y neuadd.

HAL

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan un o Gyfarwyddwyr y Bwrdd ynghyd â chopi o gyfrif elw a cholled y ganolfan ar gyfer mis Mai a chopi o’r dadansoddiad misol o ddefnydd o’r pwll rhwng Ionawr a Mai. Hefyd yn nodi bod y wal ddringo yn dal ar gau ac mae’r caffi yn rhedeg ar amserlen oriau agor llai oherwydd materion staffio. ‘Roedd hefyd wedi derbyn e-bost arall ynghyd a chopi o gofnodion y cyfarfod a gafodd ei gynnal ar y 29ain o fis diwethaf a gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Mai. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn llythyr gan Glerc Cyngor Cymuned Llanbedr yn gwahodd 2 aelod o’r Cyngor i gyfarfod yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst am 7.00 o’r gloch i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL.

Pwyllgor Neuadd – 06.07.23

Yn absenoldeb y Cyng. Mair Thomas adroddwyd ar ei rhan ynglyn ar pwyllgor uchod – bod hi ar Cyng. Robert Owen wedi mynychu y cyfarfod uchod ar y 6ed o’r mis hwn a bod insiwrans y neuadd ychydig dros £1,000 a bod y sefyllfa ariannol yn foddhaol. Mae yna trefnu rota i roi blodau ar y gofeb tu allan i’r Neuadd a bydd y Neuadd ar gau trwy mis Awst a gobeithir cael cwblhau’r gwaith trydannol. Bydd cyfarfod o’r pwyllgor nesa yn cael ei gynnal ar yr 28ain o Fedi. Cafwyd wybod bod y mater rhwng aelod o’r cyhoedd yn atal plant rhag chwarae yn y cae chwarae yn gefn y neuadd yn nwylo yr Heddlu.

Seddi Cyhoeddus

Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd ei bod wedi cael gwybod bod rhai angen sylw ag ei bod wedi bod o amgylch yr ardal yn tynnu lluniau o’r seddi oedd angen sylw. Cytunwyd i ofyn barn y Cyng. Hywel Jones ynglyn a chyflwr y seddi hyn ag hefyd cytunwyd i newid rhai am rhai wedi eu gwneud o ddeunydd plastic ail gylchu ag ei drafod ymhellach yn mis Medi.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol bod ddim enwau wedi eu dderbyn ganddo ynglyn ar sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor ag felly nawr mae gan y Cyngor yr hawl I gyfethol Aelod o’r Cyngor. 

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

462………………………………………….Cadeirydd

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £10,369.26 yn y cyfrif rhedegol a £5,561.18 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mr. Arwel Thomas  –    £290.00 –   torri gwair y fynwent 

Cyllid a Thollad        –      £95.00  –  treth ar gyflog y Clerc

Dwr Cymru               –      £15.07  – tap y fynwent

Cyngor Gwynedd   – £4,000.00  –   cyfraniad at gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cadeirydd, y Cyng. Eurig Hughes a wnaeth yr Is-Gadeirydd y Cyng. Russell Sharp gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey          – £40.00  –  rhent cwt yr hers (Gorffennaf) 

Cyngor Gwynedd  – £1,171.68  –  ad-daliad incwm maes parcio Llandanwg

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £714 (cyfraniad misol)

Fe adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor hwn yn cael archwiliad llawn eleni ag ei bod wedi paratoi y dogfennau angenrheidiol ag wedi eu anfon i Archwilio Cymru yn Gaerdydd.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi cael llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd gwaith draenio yn cael ei wneud ar llwybr cyhoeddus rhif 23 (Penrallt) yn ystod y mis hwn.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn bod yr arwydd pyst pren wedi diflanu o ben lwybr zig-zag ag un metal wedi ei osod yn ei le ag ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn ag yn disgwyl ateb gan Rhys Roberts. Hefyd ‘roedd wedi cael gwybod gan y Swyddog Llwybrau bod y canllaw ar gyffordd lwybr troed rhif 52 a 53 Llanfair nawr wedi ei roi yn ei le. ‘Roedd wedi cael ateb gan y Swyddog yn datgan byddai y gordyfiant yn maes parcio Y Maes yn cael ei dorri ond yn anffodus nid yw y gwaith hyn byth wedi cael ei wneud a mae hi wedi cysylltu gyda nhw eto. Hefyd adroddodd bod y gwaith o atgyweirio y kerbs ger Hillside wedi cael ei wneud.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen  ei fod wedi cael cais am linellau melyn dwbwl ger y groesffordd wrth droi i mewn i’r pentref ond ei fod angen barn yr Aelodau ynglyn a hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd bod y Cyngor Cymuned ddim yn cefnogi y cais hwn ond y bydant yn cadw llygaid ar y broblem. Cafwyd wybod bod y fflagiau ar traeth Llandanwg yn dynodi lle i gwn fynd wedi eu malu yn y tywydd ag ei fod wedi gofyn am rhai newydd. Datganodd bod ad-drefnu gorsafoedd tan yn mynd i gael ei gynnal a bydd hyn ddim yn effeithio ar Wynedd.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod polyn giat yr eglwys angen sylw a cytunwyd gofyn i’r Cyng. Hywel Jones gael golwg arno.

Angen ail beintio y llinellau gwyn ar groesffordd Penrhiwgoch a cytunwyd cysylltu ar Adran Priffyrdd unwaith eto ynglyn a hyn. Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu ar Adran Priffyrdd ynglyn a hyn yn barod.

Llwybr cyhoeddus rhif 34 o Penrallt i Pensarn angen ei dorri a cytunodd y Cadeirydd adael i Mr. Roy Carter wybod am hyn.

Datganwyd pryder gan un Aelod ei fod wedi derbyn holiadur gwarthus gan Gyngor Gwynedd ag ei fod wedi ei anfon ymlaen at sylw yr Aelod Seneddol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar y 14eg o Fedi am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….                                       463

Share the Post:

Related Posts