COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.09.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Mair Thomas, a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Osian Edwards, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 17eg 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £10,980.08 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £2,646.87 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc bod ddim mwy i adrodd ynglyn ar uchod ddim ond bod Mr. Rob Lewis yn gweithio i gael sustem

yn ei le yn y neuadd.

HAL

Adroddodd y Clerc bod cyfarfod gyda HAL wedi cael ei gynnal ar y 27ain o Orffennaf a wedi cael gwybod bod cynrychiolaeth dda yna ac adroddodd y Clerc bod copi o gofnodion y cyfarfod hwn wedi cael ei anfon ymlaen i’r Aelodau yn barod. ‘Roedd hefyd wedi derbyn gwybodaeth ynglyn ar incwm a gwariant wedi cael ei dorri i lawr oedd wedi ei wneud a’i dderbyn yn mis Gorffennaf ag ‘roedd wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod. Adroddodd y Clerc ymhellach bod cyfarfod wedi cael ei gynnal gyda’r Cynghorau o ardal Ardudwy yn y neuadd bentref, Llanbedr ar y 3ydd o Awst i drafod y ffordd ymlaen rhwng Cynghorau Cymuned yr ardal a HAL. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon cofnodion o’r cyfarfod hwn ymlaen i bob Aelod ag hefyd e-bost oedd Clerc Cyngor Llanbedr wedi ei anfon at HAL. Cafwyd wybod gan y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan HAL nos Iau y 24ain o fis diwethaf yn datgan bod cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yn cael ei gynnal mewn awr. ‘Roedd wedi anfon hwn ymlaen i gynrychiolwyr y Cyngor ag hefyd i bod Aelod. ‘Roedd hefyd wedi cael gwybod bydd cyfarfod arall gyda Chynghorau ardal Ardudwy yn cael ei gynnal yn Llanbedr ar yr 11eg o fis nesa am 7.30 o’r gloch a chytunodd y Cyng. Osian Edwards fynychu y cyfarfod hwn ar ran y Cyngor ag hefyd y cyfarfod nesa rhwng HAL ar Cynghorau Cymuned. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-byst gan rhai o drigolion yr ardal ynghyd ag aelodau cangen Blaid Llafur Ardudwy yn gofyn am gyfarfod cyhoeddus gyda Aelodau o Fwrdd HAL er mwyn cael trafod y sefyllfa diweddaraf ynglyn ar safle yn wyneb y ffaith bydd y caffi yn gorffen darparu bwyd ar y 16eg o’r mis hwn a ddim ond yn darparu diodydd o hyn ymlaen ag hefyd bod y wal ddringo ar gau. Penderfynwyd bod cangen y Blaid Lafur yn gofyn i HAL eu hunain am gyfarfod hefo nhw. 

Seddi Cyhoeddus

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael copi o gatalog SLPW sydd yn dangos y seddi sydd ar gael. Adroddodd y Cyngor Hywel Jones ei fod wedi bod o amgylch y seddi dan sylw a bod angen un newydd yn y fynwent ag hefyd yn Y Maes, Llandanwg ond bod posib iddo drwsio yr un ger Ty Gwyn ag hefyd peintio yr un metal ar ochor y ffordd. Cytunwyd i archebu un ar hyn o bryd a’i gosod yn y fynwent ag i’r Clerc wneud ymholiadau gyda’r cwmni ynglyn a’r pris, cludiant a.y.y.b. Cytunodd y Cyng. Robert Owen i’r sedd hon gael ei danfon i Cae Cethin.

464…………………………………………….Cadeirydd

Share the Post:

Related Posts