COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 12.04.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 12.04.23

YMDDIHEURIADAU

Dim.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Hywel Jones, Osian Edwards, Robert G. Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 22ain 2023 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £22,099.10 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,389.28 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2023/24 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi siarad gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma ag ei fod wedi cytuno i edrych am gwahanol opsiynau ar ran y Cyngor.

HAL

Adroddodd y Clerc bod y mater hwn wedi cael ei roi ar yr agenda oherwydd bod gohebiaeth wedi ei dderbyn ganddynt yn datgan hwyrach bydd y pwll nofio yn gorfod cau yn y dyfodol agos oherwydd costau uchel trydan ag nwy ag yr oedd angen gwneud penderfyniad os oedd y Cyngor yn mynd i barhau i fod yn rhan o’r cynllun precept. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn pedwar e-bost gan etholwyr o’r ardal yn datgan eu cefnogaeth i HAL ag eu bod yn barod i gario ymlaen talu ag ‘roedd wedi derbyn dau gais ar lafar yn datgan eu bod ddim yn barod i gario ymlaen talu. Ar ol trafod y mater hwn a cael gwybod beth oedd Cynghorau eraill yr ardal yn ei wneud cytunwyd i dal bob mis iddynt am y 6 mis cyntaf cyn belled a bod yr amodau canlynol mewn lle, sef y canlynol 1) Cael mwy o aelodau ar y Bwrdd a rhai hefo arbennigedd mewn meusydd penodol, 2) Bod cynllun busnes yn cael ei greu, 3) Bod y Cyngor yn cael adroddiad misol ynghyd a mantolen ariannol gan y Bwrdd a 4) Bod y Cyngor yn gallu penodi un Aelod i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd. Cytunwyd i dalu am y 6 mis cyntaf cyn belled a bod yr amodau uchod mewn lle heblaw yr un yn gofyn bod cynllun busnes mewn lle.

Agor Tenderau Torri Gwair

Adroddodd y Clerc er bod hysbyseb wedi bod yn Llais Ardudwy yn gwahodd tenderau i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus, yn anffodus nid oedd wedi derbyn un. Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn pris gan Mr. Arwel Thomas i dorri gwair y fynwent am eleni a bod ef wedi datgan ei fod yn codi £290 y mis eto eleni. Cytunodd pawb i dderbyn y pris hwn. Cytunodd y Cadeirydd ofyn i Mr. Roy Carter a fyddai ganddo ddiddordeb i dorri y llwybrau cyhoeddus eto eleni.

Pwyllgor Neuadd – 23.3.23

Adroddodd y Cyng. Mair Thomas ei bod wedi mynychu y cyfarfod uchod a bod y cyfarfod blynyddol wedi cael ei gynnal yn gyntaf. ‘Roedd 9 yn bresennol ac un ymddiheurad a chafwyd gair byr gan y Gadeiryddes yn diolch i bawb yn enwedig Mrs Ann Lewis am yr holl waith mae hi yn ei wneud gyda’r neuadd. Cafwyd wybod bod rhai mudiadau wedi stopio defnyddio y neuadd ers dechrau’r covid. ‘Roedd mantolen ariannol wedi cael ei gyflwyno ag ‘roedd y sefyllfa yn foddhaol. Aethpwyd ymlaen i gynnal y pwyllgor a cafwyd wybod gan Mrs Ann Lewis beth oedd angen ei wneud yn y neuadd a byddai costau yma yn sylweddol. ‘Roedd y Gadeiryddes Mrs Betty Grant yn dymuno sefyll i lawr a penderfynwyd gofyn i’r Cyng. Robert Owen gymeryd ar swydd a bydd Rosy Berry yn Is-Gadeirydd. ‘Roedd rhai aelodau yn awyddus i gynnal gweithgaredd codi arian a chymdeithasu a cytunwyd i wneud hyn ddechrau Gorffennaf. Bydd y pwyllgor nesa yn cael ei gynnal ar yr 22ain o Fehefin.

459…………………………………………….Cadeirydd

CEISIADAU CYNLLUNIO

Addasiadau a thrwsio i ffermdy presennol – Tyddyn Y Gwynt, Llanfair (NP5/66/272)

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan y Parc Cenedlaethol ynglyn ar cais cynllunio uchod ag yn datgan  yn dilyn trafodaeth gyda’r asiant bod cynllun diwygiedig wedi ei gyflwyno sydd yn dangos piler cerrig i leihau’r gwydr ar yr edrychiad cefn. ‘Roedd y Swyddog Cynllunio yn gofyn am sylwadau y Cyngor ynglyn ar newidiadau hyn ag yn gofyn a oedd dal wrthwynebiad i’r cais oherwydd bod y cynlluniau allan o gymeriad y ty gyda’r holl wydr. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen at yr Aelodau ag ‘roedd mwyafrif wedi ateb yn datgan bod ganddynt ddim gwrthwynebiad i’r cynllun bellach ag felly ‘roedd y sylw hyn wedi cael ei drosglwyddo i’r Swyddog Cynllunio.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £6,594.51 yn y cyfrif rhedegol a £5,542.62 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Cyllid a Thollad             –    £95.00 –   treth ar gyflog y Clerc

E. W. Owen & Co         –  £216.00 –   cwblhau ag anfon PAYE y Clerc ar lein 

Un Llais Cymru             –  £116.00  –  tal aelodaeth

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey      – £40.00  – rhent cwt yr hers (Mawrth) 

Mr. M. Downey      – £40.00  – rhent cwt yr hers (Ebrill) 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Pwyllgor Neuadd Goffa Llanfair – £1,800

Rhannodd y Trysorydd gopïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2023 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc ynghyd ar Ffurflen Flynyddol.

GOHEBIAETH

Mr. Robert Ledger

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn pryderu ynglyn a chais cynllunio i godi mast ffon ar Foel Gerddi ag yn gofyn rhai cwestiynau ynglyn ar mast dan sylw. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost ymlaen i’r Parc Cenedlaethol ag ei bod wedi derbyn ateb yn datgan eu bod yn y broses o ymateb i ymholiad Cyngor Cyn cais.

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod eu contractwr wedi gallu trwsio y fraced gwaelod a gosod 

derbynydd ar y giat sydd ar llwybr cyhoeddus rhif 34 uwchben Tyddyn Llidiart Mawr ag felly maen’t wedi gallu cadw y giat wreiddiol a mae hi yn agor a cau yn dda rwan. Hefyd ‘roedd y contractwr wedi tocio yn nol dipyn o eithin oedd wedi gor-dyfu ar y llwybr hwn. Maen’t yn trefnu i gyfarfod peiriannydd draenio priffyrdd i weld pa waith fyddai yn bosib i wneud ar llwybr cyhoeddus rhif 23.

Rhian Davenport

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn datgan siom bod y Cyngor wedi rhoid y sylw canlynol pan yn trafod ceisiadau ariannol yn y cyfarfod diwethaf – “dim cymorth arianniol i’r Ambiwlans Awyr am nad oedd amryw o flychau wedi eu casglu ers amser maith”. ‘Roedd yn datgan ymhellach bod hi na swyddfa’r Ambiwlans Awyr wedi cael cais i fynd i nol blychau a’i gwagio yn ardal Llanfair ag y byddant yn siwr o newid y blychau cyn gynted a byddant yn cael gwybod fod angen. ‘Roedd yn gofyn am rhester o’r llefydd sydd angen cael blychau wedi eu gwagio cyn gynted a phosib. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi ymateb i’r e-bost hwn a wedi ymddiheuro ar ran y Cyngor am yr hyn 

oedd wedi ei gynnwys yn y Llais ynglyn ar ambiwlans awyr ag yn sicrhau nid oedd yr Aelodau yn meddwl creu enw drwg I’r gwasanaeth  holl bwysig hyn o gwbwl. Hefyd datganodd ymhellach ei bod wedi anfon dy e-bost ymlaen at sylw yr Aelodau gan ofyn iddynt ddod a rhester o lefydd lle maen’t yn honi bod y blychau yn llawn ers peth amser I gyfarfod nesa y Cyngor.

460…………………………………………….Cadeirydd

Pwyllgor Neuadd Goffa

Adroddwyd bod llythyr wedi cael ei dderbyn gan Mrs Ann Lewis ar ran y pwyllgor uchod yn hysbysu y Cyngor bod angen gwaith sylweddol ar y cyflenwad trydan yn y neuadd a byddai y gost yn un sylweddol. Cafwyd 4 copi o’r gwaith oedd angen ei wneud a ‘roedd cyfanswm y gwaith yn dod I £1,872. Cytunwyd am bod y Cyngor heb rhoid cyfraniad ariannol I bwyllgor y neuadd ers rhai blynyddoedd I gyfranu £1,800 tuag at y gwaith hyn.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael ateb gan yr Adran Priffyrdd ynglyn a ochor y ffordd o dan y lloches bws ger groesffordd Caersalem ag yn datgan eu bod yn nodi ein pryder bod ochor y ffordd hon yn cael ei ddifrodi yn sylweddol oherwydd bod amryw o geir yn parcio yna yn ddyddiol a maen’t wedi trefnu bod Arolygwr yn mynd i asesu’r safle a byddant yn trefnu unrhyw waith angenrheidiol. Ynglyn a chyflwr ffordd Sarn Hir ‘roedd wedi cael ateb yn datgan eu bod yn monitro’r sefyllfa gyda’r ffordd yma, a maen’t yn mynd i drefnu codi arwydd arall ochr Llanbedr i hysbysu defnyddwyr fod y ffordd yn anwastad. Maen’t hefyd yn monitro’r penderfyniad gyda’r ffordd osgoi gan ystyried os bydd newid meddwl fydd angen cynnal gwaith ar y rhan yma er llwybr y ffordd newydd. Bydd barn ar y Cyngor os byddant yn ail wynebu ac yna y ffordd osgoi yn cael ei chymeradwyo ar gwyneb newydd yn cael ei godi. Hefyd maen’t yn cadarnhau nid oes unrhyw diffyg wedi ei nodi yn yr archwiliad a gafodd ei wneud yn mis Chwefror. Hefyd adroddodd ei bod wedi cael gwybod bod hwb wedi cael ei sefydlu ar gyfer y Timau Tacluso sydd wedi ei leoli o fewn y Porth Aelodau a bod hwn nawr yn fyw i’r Cynghorwyr yn unig ar hyn o bryd. Bydd yr hwb hwn yn ein galluogi i greu cais am waith, gael mynediad at raglen waith/cylchdeithiau’r Timau, derbyn manylion ynglyn a chynnydd/gwaith y Timau a cyflwyno adborth ar waith y Timau. Hefyd ‘roedd wedi cael gwybod bod gan y Cynghorau Cymuned/Tref yr hawl i ddefnyddio’r linc at y ffurflen cais gwasanaeth – Adrodd problem (llyw.cymru) ag yr hawl i ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost [email protected] os byddant angen adrodd am waith angen ei wneud yn yr ardal.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod peth o’r ffens o amgylch Eglwys Llandanwg angen ei thrwsio a cytunwyd gysylltu gyda Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglyn a hyn.

Cytunwyd i adolygu cyflog y Clerc pan yn trafod y precept am y flwyddyn ariannol 2024/25

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 8ed o Fehefin am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

461

Share the Post:

Related Posts