COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 12.01.23

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 12.01.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Dylan Hughes.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Osian Edwards, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 7ed 2022 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ers dechrau Ebrill 2022 a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd mis Rhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol.  Adroddwyd bod £19,280.54 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,078.84 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy y gwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar y cynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.

Wi-Fi yn y Neuadd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Mrs Ann Lewis ynglyn ar mater uchod ag ei bod wedi cael gwybod bod croeso i’r Cyngor Cymuned osod darpariaeth wi-fi yn y neuadd ond ar gostau eu hunain oherwydd bod pwyllgor y neuadd ar hyn o bryd yn gwario mwy na maen’t yn ei dderbyn i mewn. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Mr. Rob Lewis ynglyn ar mater yma.

Cyllideb y Cyngor am 2023/24

Dosbarthwyd copiau o’r uchod I bob Aelod oedd yn bresennol yn dangos cyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2022 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – insiwrant y Cyngor £450, cyflog y Clerc £1,900, costau y Clerc £300, treth ar gyflog y Clerc £380, Cyfrifydd y Clerc £204, cyfraniadau £1,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £8,821.90, pwyllgor neuadd Goffa £1,000,  costau fynwent £1,800, torri gwair y mynwentydd £2,100, torri gwair y llwybrau £800, Dwr Cymru £40, biniau halen £300, cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus Llandanwg yn agored £4,000, Un Llais Cymru £100, llogi ystafell bwyllgor £200, archwilwyr £600, amrywiol £1,000, cynnal a chadw gwahanol eitemau £1,200, costau banc £100.

Precept y Cyngor am y flwyddyn 2023/24

Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Wrth edrych ar y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, cytunwyd I godi y precept o £16,000 I £17,000.

Polisi Asesiad Risg y Cyngor

Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn. 

Panel Cyfrifiad Annibynnol 

Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni  a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda Swyddog o Gyngor Gwynedd ynglyn a hyn a wedi cael gwybod bod y rhybudd i mewn yn y papurau newydd diwedd yr wythnos yr 21ain o Ragfyr. Nawr bydd angen arostan ar ol yr 18ed o’r mis hwn i weld a oes unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn ganddynt. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi derbyn copi o e-bost gan Rosy Berry mae hi wedi ei anfon at Gyngor Gwynedd yn datgan ei bod yn gobeithio bod y syniad hwn wedi cael ei ollwng neu o leiaf na fydd y llinellau yn ymestyn i’r bont. Hefyd yn datgan os bydd y llinellau yn ymestyn at y bont bydd yna sefyllfa chwerthinllyd lle fydd pobl o Lanfair yn methu parcio i ddefnyddio eu gorsaf leol yn ystod yr haf, a bod mwyafrif ohonynt yn defnyddio’r trên i osgoi traffig gwyliau a’r problemau parcio sydd yn bodoli ym Mhorthmadog a’r Bermo. Cytunwyd i gario ymlaen i gael y llinellau melyn hyn.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adeiladu estyniad ochr unllawr newydd gyda’r estyniad ochr presennol wedi’i ymgorffori yn yr estyniad newydd – 

Hen Gaerffynon, Harlech (NP5/66/T278A)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £7,881.07 yn y cyfrif rhedegol a £5,529.72 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Cyllid a Thollad                       – £95.00 – treth cyflog y Clerc

Mrs Wendon Wigglesworth – £37.00 – sticer bin brown y fynwent

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyngor Gwynedd – £260.00 –  ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus

Mr. M. Downey      – £40.00  – rhent cwt yr hers (Ionawr) 

Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor wedi dan wario £5,078.84 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ag ei bod yn rhagweld byddai £11,641.50 yn cael ei gario drosodd ar y 31ain o Fawrth 2023. Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf £1,589.29 o wariant angen ei wneud erbyn diwedd Mawrth 2023 a ddim ond £120.00 i ddod i mewn (ar hyn o byrd) ag byddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf 2023/24 oherwydd bod £8,821.90 wedi cael ei glustnodi ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy a £4,000 wedi cael ei glustnodi  i Gyngor Gwynedd fel cyfraniad y Cyngor i gadw y toiledau cyhoeddus yn Llandanwg yn agored sydd yn gwneud cyfanswm o £12,821.90 heb gynnwys ddim gwariant arall fyddai y Cyngor yn ei wneud. Felly wrth gofio y byddai hwyrach £11,641.50 yn cael ei gario drosodd a bod y precept  yn aros ar £16,000 (£11,641.50 + £16,000 = £27,641.50 – £1,589.29 = £26,052.21) hwyrach bydd y Cyngor yn iawn gyda’i gwariant am y flwyddyn ariannol 2023/24.  Bydd yr Aelodau yn gallu gweld y rhagolygon ariannol am y flwyddyn i ddod yn well diwedd Mawrth 2023. 

GOHEBIAETH

Llywodraeth Cymru

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2022/23 fydd £9.93 yr etholwr.  Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 332 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £3,296.76 i gyrff allanol.

UNRHYW FATER ARALL

Datganodd y Cyng. Osian Edwards bod Mr. John Thomas yn fodlon ymgymryd a’r gwaith i glerio y tywod a chasglu yr anifeiliad marw sydd yn cael eu golchi i fyny ar y traeth a datganodd y Cyng. Gwynfor Owen iddo basio y manylion ymlaen iddo.

455………………………………………Cadeirydd

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod ganddo ddim i’w adrodd y tro hwn ond bydd adroddiad o’r arbedion a sefyllfa ariannol Cyngor Gwynedd ganddo erbyn y cyfarfod nesa.

Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cael gwybod gan Swyddog y Tim Tacluso Ardal eu bod wedi cwblhau y gwaith o dacluso y maes parcio ag hefyd yn gofyn a oes rhywle arall yn yr ardal sydd angen sylw. Cafwyd wybod ei bod wedi derbyn sawl cwyn bod y biniau halen o gwmpas yr ardal wedi cael eu gwagio ag ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt ail lenwi y biniau halen yn dilyn y tywydd oer diweddar a bod y gwaith hyn wedi ei wneud erbyn hyn. ‘Roedd wedi derbyn cwyn bod y goriad ddim yn gweithio i agor drws y toiled anabl lawr yn Llandanwg ond mae y mater hwn wedi ei ddatrys erbyn hyn.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor ar yr 22ain o Chwefror am 7.30 o’r gloch

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

Share the Post:

Related Posts