COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 0’R GLOCH 20.10.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 0’R GLOCH 20.10.21

ANNWEN HUGHES 20.10.21

YMDDIHEURIADAU

Dim

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp(Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Hywel Jones, Mair Thomas, David j. Roberts,Osian Edwards, Dylan Hughes.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 16eg 2021 felrhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod €8,470.09wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn€6,855.34 yn llai o wariant na beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllidebam y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf am bod cyfraniad y Cyngor o €4,000 i GyngorGwynedd i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored yn Llandanwg heb gael ei dalu.

LLinellau Melyn ger stesionLLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod, fel Cynghorydd Gwynedd yrardal ei bod wedi cysylltu gyda Iwan Ap Trefor ynglyn ar mater uchod ond bodddim diweddariad wedi cael ei dderbyn. Hefyd adroddodd ei bod wedi cysylltu etogyda Mr. Ap Trefor i ofyn pryd fyddai adroddiad y cynllun hwn yn mynd o flaenpwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd. Cafwyd wybod gan y Cyng. Hughes ei bod wedicael gwybod gan Mr. Ap Trefor bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod bob ochori’r bont ar ffordd Llandanwg a mi fydd yr arwyddion newydd yn cynnwys arwydd irybuddio gyrrwyr O’r bont yn ogystal ag arwyddion o dan yr arwydd i ofyn iyrrwyr i “Arafwch Nawr”

Ardal Ni 2035

Cafwydwybod bod rhai O’r Aelodau wedi bod trwy’r ddogfen ynglyn ar uchod a cytunwyd ypetha da am yr ardal yw y canlynol — iaith, tirwedd, pobl yn cefnogi ei gilydda diwylliant yr ardal. Y petha sydd ddim mor dda yw y canlynol — diffygtrafnidiaeth, prisiau tai uchel a ddim cyfle i fobl ifanc yr ardal brynnu ty,gofal plant, gymaint o ail gartrefi a swyddi safon uchel yn yr ardal.

Pwyllgor y Neuadd — 29.9.21

Adroddodd y Cyng. Mair Thomas ei bod wedi mynychu ycyfarfod uchod ac adroddod fel a ganlyn — bod cofnodion O’r cyfarfod blaenorolwedi cael eu darllen ag eu bod wedi cael gwybod gan Mrs Ann Lewis bod defnyddyn cael ei wneud O’r neuadd unwaith eto. Hefyd mae’r Swyddfa Bost eithiol wedidechrau yn y neuadd ar ddydd Gwener rhwng 12.15 a 1.45 a mae angen hysbysu hyni gadw y gwasanaeth i fynd. Mae y gwaith o beintio y tu allan wedi ei gychwyn.’Roedd rhai defnyddwyr O’r neuadd wedi mynegu diolchiadau i Mrs Ann Lewis ambeintio y gegin ar toiled a bod y ddau le yn edrych yn dda. ‘Roedd trafodaethwedi bod ynglyn a chynnal y Cadoediad a penderfynwyd cynnal gwasanaeth byr ynyr awyr agored a gosod y torchau ar Sul y Cofio a cytunodd y Cadeirydd osod unar ran y Cyngor Cymuned. Bydd y pwyllgor nesaf yn cael ei gynnal ar y 12ed oIonawr 2022.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi ei derbyn ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £13,040.78 yn y cyfrifrhedegol a £5,521.56 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Cyliid a Thollad         £95.00-   treth ar gyflog y Clerc

Mr. J. Coleman   –       £90.00 –     torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Mr.D. A. Thomas – £830.00— torri gwair y fynwent a mieri yn mynwent Llandanwg

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr.M. Downey            £40.00 — rhent cwt yrhers (Hydref)

Ceisiadau am gymorthariannol

Hamdden Harlech acArdudwy – £4.153.43 — hanner y cynnig precept

Adroddodd yClerc/Trysorydd ei bod wedi cael ffurflen gan y banc i wneud mandate newydd i’rCyngor fel a oedd wedi ei gytuno yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor fel bydd pawbyn gallu Ilofnodi sieciau a nid dau Gynghorydd ar Clerc yn unig. Cytunwyd pawbi lofnodi y mandate newydd hyn yn unol ar cyfarwyddiadau ag fe’i Ilofnodwyd gany Cadeirydd ar Clerc.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd — AdranPriffyrdd

Wedi derbyn Ilythyr ganyr uchod yn gofyn a oes gan y Cyngor finiau halen angen eu Ilenwi cyn y tywyddoer ac os oes angen ail lenwi unrhyw bin a fyddant yn cysylltu gyda’r Adranerbyn y laf o Dachwedd er mwyn iddynt gael trefnu’r gwaith. Y gost o lenwi unbin halen yw £46.00. Cytunodd y Cyng. Osian Edwards gael golwg ar un ger Rhiwgochar Cyng. Hywel Jones gael golwg ar rhai Pensarn.

Liz Saville Roberts A.S

Wedi derbynIlythyr gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn ymateb i ymgynghoriad AdranDrafnidiaeth Llywodraeth y DG ar y ddefnydd peryglus o fadau dwr personol aganfon eu sylwadau i’r linc canlynol https://www.gov.uk/governme nt/consuftations/_stre ngtheni ng-enforceme nt-of-the-dangerous-use-ofrecreational-and-pe rsonal-watercraft Cytunwyd i anfon yre-bost hwn ymlaen i bob Aelod.

Aaron Wynne

Wedi derbyn e-bost gan yruchod yn gofyn i’r Cyngor Cymuned gefnogi deiseb sydd wedi cael ei threfnu ganMabon Ap Gwynfor AS a Liz Saville Roberts AS ynglyn a phenderfyniad diweddarHSBC i gyflwyno costau newydd i gyfrifon banc grwpiau cymunedol. Cytunwyd ianfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod.

Mrs Sue Travis

Wedi derbyn Ilythyr ganyr uchod ar ran Sefydliad y Merched Llanfair yn hysbysu y Cyngor eu bod wediarchebu a gosod mainc newydd ger wal yr Eglwys.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod ygor-dyfiant ger Rhiwcenlau a Castellfryn byth wedi cael ei dorri.

Datganwyd pryder bodddim darpariaeth gwasanaeth tan 24 awr yn yr ardal.

Datganodd y Cyng. HywelJones ei fod wedi mynd a drws hysbysfwrdd Llandanwg adra i’w drwsio.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnalcyfarfod nesa y Cyngor pan fydd angen

Share the Post:

Related Posts