COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 09.01.23

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 09.01.23

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort, Mark Armstrong, Emma Howie.

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Huw Jones, Tegid John, Gordon Howie, Rhian Corps, Ceri Griffiths, Wendy Williams, Martin Hughes, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 

Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd a Mrs Bet Roberts a’r teulu yn dilyn marwolaeth Mr. Caerwyn Roberts a fu yn aelod gweithgar o’r Cyngor hwn am dros 40 o flynyddoedd.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 5ed 2022 fel rhai cywir.

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi bod yn delio gyda ychydig o wahanol bethau yn y Ward, ond yn gyffredinol bod y mis diwethaf wedi bod yn weddol distaw oherwydd gwyliau’r nadolig. Cafwyd wybod ei bod wedi derbyn sawl cwyn bod y biniau halen o gwmpas yr ardal wedi cael eu gwagio ag ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd i ofyn iddynt ail lenwi y biniau halen yn dilyn y tywydd oer diweddar a bod y gwaith hyn wedi ei wneud erbyn hyn. Hefyd cafwyd wybod bod Swyddog o’r Tim Tacluso Ardal wedi bod mewn cysylltiad yn gofyn a fyddai modd iddi adael iddo wybod lle sydd angen sylw yn Harlech. Atgoffodd pawb am y diwrnod agored mae Grwp Cynefin, Williams Homes (Bala) Tai Teg  yn ei gynnal yn y neuadd goffa dydd Iau y 12ed rhwng 2.30 a 6 o’r gloch er mwyn cael y cyfle i drafod y datblygiad o adeiladu 21 o dai fforddiadwy ar darn o dir ar Ffordd Morfa.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi cael gwybod gan y Swyddogion Morwrol yn dilyn y cyfarfod diwethaf eu bod yn edrych am diffibriliwr sydd yn rhedeg heb drydan i’w osod ar y traeth, hefyd ei fod wedi tynnu lluniau o’r dwr oedd ar ffordd y gwahanol ystadau yn y dref yn dilyn y glaw trwm diweddar. Hefyd atgoffodd pawb am y cyfarfod dydd Iau yn y neuadd goffa.

MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £69,362.06 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £3,809.70 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. 

Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2023/24

Dosbarthodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2022 i bob aelod er mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaeth ynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gan y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa – insiwrant y Cyngor £2,000, cyflog y Clerc £2,200, costau y Clerc £1,800, costau swyddfa £500, treth ar gyflog y Clerc £440, Cyfrifydd y Clerc £204, cyfraniadau £5,000, Hamdden Harlech ac Ardudwy £21,543.62, pwyllgor neuadd Goffa £2,000,  pwyllgor Hen Lyfrgell £2,000, costau fynwent £3,500, torri gwair y mynwentydd £2,000, torri gwair y llwybrau £2,500, torri gwair cae chwarae Brenin Sior £1,500, Llwybr Natur Bron y Graig £2,000, Dwr Cymru £800, biniau halen £400, goleuadau nadolig £2,000, meinciau £1,000, gwagio biniau caeau chwarae £1,000, cynnal a chadw y parciau chwarae £10,000, archwiliad y parciau chwarae £300,  cynnal a chadw toiled ger y Neuadd Goffa £8,000, cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus yn agored £10,000, Un Llais Cymru £300, llogi ystafell bwyllgor £200, gwefan y Cyngor £120, treth cwrt tennis £120, archwilwyr £600, amrywiol £1,000, cynnal a chadw gwahanol eitemau £500, costau banc £150.

739………………………………………..Cadeirydd

Precept y Cyngor am 2023/24

Fe dderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod.  Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld beth fyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael y precept  ar £70,000.

Polisi Asesiad Risg y Cyngor

Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennol a gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisi hwn. Cytunwyd i ychwanegu y toiledau ger y neuadd goffa a twyll i’r polisi hwn.

Effeithiolrwydd Rheola Mewnol

Trafodwyd yr uchod yn fanwl eto eleni a penderfynwyd bod y drefn bresennol yn foddhaol lle mae y Trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol ynghyd a chopi o gysoni banc y Cyngor i’r Aelodau bob mis ag hefyd yn cofnodi y taliadau ar derbyniadau sydd yn cael eu gwneud ynghyd ar sefyllfa ariannol bob mis.

Panel Cyfrifiad Annibynnol

Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bob Cynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn cael ei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costau yn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costau arwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheol taliadau ar gyfer costau eto eleni  a cytunwyd bod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bod pawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.

Arwyddion Ty Canol

Adroddodd y Clerc ers y cyfarfod diwethef ei bod wedi cael sgwrs ar y ffon gyda Iwan Ap Trefor o Gyngor Gwynedd ynglyn ar arwyddion hyn ag ei fod wedi ymddiheuro bod y mater hwn yn cymeryd cymaint o amser ag oedd hyn oherwydd bod dryswch wedi bod gyda’r arwyddion. Erbyn hyn mae wedi dylunio arwyddion fyddai yn dynodi’r ardal fel parth 20mya anffurfiol ar hyn o bryd nes byddai yn cael ei ffurfoli gyda chynllun Llywodraeth Cymru yn mis Medi eleni ag hefyd wedi cynnwys symbol o blant yn chwarae i roi eglurhad dros pwrpas dynodiad y parth. Dangosodd y Clerc luniau o’r arwyddion arfaethedig i’r Aelodau.  Yn gobeithio fydd yr arwyddion hyn i fyny erbyn diwedd y mis hwn.

Cae Chwarae Brenin Sior V

Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi rhoi archeb i mewn gyda chwmni MacVenture, Llangefni ag ei fod yn aros am ddyddiad cychwyn y gwaith ag hefyd ei fod yn mynd eu cyfarfod ar y safle. Eisiau talu blaendal 30% am yr offer ar gwaith a cytunwyd gwneud hyn yn syth ddaw yr anfoneb i law. Cafwyd wybod bod yr arian grant o Grwp Beicio Harlech ac Ardudwy wedi ei dderbyn. Cafwyd wybod bod Mr. Meirion Evans wedi gosod yr hysbysfwrdd ar y llecyn tir ger Siop y Morfa ag hefyd cafwyd wybod gan y Cyng. Braithwaite bydd yn archeub y bollards i’w gosod ger cae chwarae Llyn y Felin yr wythnos hon.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Dymchwel adeiladau presennol ac adeiladu ty menter gwledig deulawr newydd ar wahân – Ty’n y Gwater, Harlech (NP5/61/647)

Cefnogi y cais hwn.

Adeiladu lle parcio newydd, teras wedi ei godi, grisiau a wal gynnal – Llys Maelor, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/639)

Cefnogi y cais hwn.

Newidiadau allanol – Hafod y Bryn, Harlech (NP5/61/365B)

Cefnogi y cais hwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £78,825.61 yn y cyfrif rhedegol a £31,140.06 yn y cyfrif cadw.

740…………………………………Cadeirydd

Taliadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad                      – £110.00 – treth cyflog y Clerc

Mr. M. J. Kerr                         –  £540.00  – agor bedd y diweddar Mr. Norman John Povey

Brown and Wolfe                   – £165.00 – edrych ar ol y wefan

Mr. Meirion Evans                  – £600.00 – darparu lle a gosod hysbysfwrdd newydd

Macventure playgrounds – £11,826.00 – 30% blaendal am offer chwarae newydd

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad – £1,416.84 –  ad-daliad T.A.W

Clwb Beicio        – £4,800.00 –   grant ar gyfer offer chwarae

Cyngor Gwynedd –  £990.35 –  ad-daliad am dorri gwair y llwybrau cyhoeddus

Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor, yn anffodus wedi cael ei sgamio allan o £9,000 gan person o’r enw Oluwafeni Odunuga yn honi ei fod yn mynd i gario allan gwaith ymgynghorol i’r Cyngor ag ei fod angen taliad o flaen llaw. ‘Roedd y Trysorydd wedi ffonio adran dwyll y banc a mae y mater yn cael ei ddelio ganddynt ar hyn o bryd. 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ei bod wedi derbyn llythyr gan banc HSBC yn dweud ei fod yn edrych fel bod y Cyngor wedi dioddef sgam “taliad gwthio awdurdodedig” a’u bod nawr yn edrych i mewn i hyn a chysylltu gyda banc y twyllwr. Bydd banc HSBC yn cysylltu â’r Trysorydd o fewn y 15 diwrnod gwaith nesaf i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y mater hwn.

Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor wedi dan-wario £3,809.70 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2022 ag ei bod yn rhagweld byddai £107,250.17 yn cael ei gario drosodd ar y 31ain o Fawrth 2023. Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf £4,442.00 o wariant angen ei wneud erbyn diwedd Mawrth 2023 a ddim ond £1,726.50 i ddod i mewn (ar hyn o byrd) ag byddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf 2023/24 oherwydd bod £21,543.62 wedi cael ei glustnodi ar gyfer Hamdden Harlech ac Ardudwy a £10,000 wedi cael ei glustnodi  i Gyngor Gwynedd fel cyfraniad y Cyngor i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored ag hefyd £8,000 i gynnal a chadw y toiledau ger y Neuadd Goffa sydd yn gwneud cyfanswm o £39,543.62 heb gynnwys ddim gwariant arall fyddai y Cyngor yn ei wneud. Felly wrth gofio y byddai hwyrach £107,250.17 yn cael ei gario drosodd a bod y precept  yn aros ar £70,000 (£107,250.17 + £70,000 = £177,250.17 – £39,543.62 = £137,706.55) hwyrach bydd y Cyngor yn iawn gyda’i gwariant am y flwyddyn ariannol 2023/24.  Bydd yr Aelodau yn gallu gweld y rhagolygon ariannol am y flwyddyn i ddod yn well diwedd Mawrth 2023.

GOHEBIAETH

Llywodraeth Cymru

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodol o dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 y Terfyn ar gyfer 2023/24 fydd £9.93 yr etholwr.  Adroddodd y Clerc y rhif diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 1,136 ag felly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £11,280.48 i gyrff allanol.

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y Tim Tacluso Ardal Ni yn yr ardal o’r 9ed hyd at y 20ed o’r mis hwn. Hefyd bod yr adran yn mynd i atgyweirio canllaw ag ail adeiladu wal ar llwybr cyhoeddus rhif 37.

UNRHYW FATER ARALL

Cytunwyd i anfon llythyr o ddiolch i Mr. Geraint Williams (Benji) am yr holl waith mae wedi ei wneud gyda’r coed ag addurniadau nadolig yn y dref.

Datganwyd pryder mawr bod y cae peldroed unwaith yn rhagor mewn cyflwr drwg iawn oherwydd bod adar brain wedi bod yn difrodi y cae.

Eisiau rhoi HAL ar agenda mis nesa.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd   

DYDDIAD………………………………………………         741

Share the Post:

Related Posts