COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 20.04.22

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 20.04.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Osian Edwards,Dylan Hughes.

PRESENNOL

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Hywel Jones,Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts,

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 16eg 2022fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £21,063.76(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £4,555.10 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodiyn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopïauo gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2022/23 i bob Aelod ac aethpwyddrwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.

Torri Gwair

Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn i Mr.Roy Carter a fyddai ganddo ddiddordeb yn y gwaith o dorri gwair y llwybraucyhoeddus yn yr ardal ag ei fod wedi cytuno i wneud y gwaith hwn am £18 yr awr.Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost oedd wedi ei dderbyn gan yCadeirydd at bob Aelod yn gofyn a oeddynt yn hapus gyda’r pris hwn a bodmwyafrif wedi ei dderbyn ag hefyd yr oedd wedi anfon rhestr o’r llwybrau ynghyda map iddo.

Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod, fel y Cynghorydd Sirlleol wedi cael trafodaeth gyda Mr. Iwan Ap Trefor ynglyn ar mater uchod ag eifod wedi gaddo edrych i mewn i’r mater. Yn anffodus nid oedd wedi clywed ddimbyd ymhellach ganddo a bydd yn cysylltu gyda ef eto ynglyn ar mater hwn.

Pwyllgor Neuadd Goffa – 30.3.22

Adroddodd y Cyng. Mair Thomas a Robert GlynneOwen eu bod wedi mynychu cyfarfod o’r pwyllgor uchod a bod hwn yn gyfarfodblynyddol y pwyllgor. Bydd yr holl Swyddogion yn aros yn eu lle am y flwyddynnesa, bod y polyn fflag wedi cael ei adnewyddu a bydd y fflagiau yn cael eu rhoii fyny ar yr 2il o Fehefin, bod y swyddfa bost rhanbarthol yn dal i ddefnyddioy neuadd ar ddydd Gwener. Hefyd cafwyd wybod bod sefyllfa ariannol y pwyllgoryn iach iawn ac fe gafodd bob Aelod gopi o’r mantolen ariannol. Bydd y pwyllgornesa yn cael ei gynnal ar yr 22ain o Fehefin.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £5,209.31 yn y cyfrifrhedegol a £5,521.84 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mr. D. A. Thomas   –  £290.00 –   torri gwair y fynwentgyhoeddus

E. W. Owen & Co    –  £204.00 –  cwblhau ag anfon PAYE y Clercar lein

Un LlaisCymru       –   £107.00  –  talaelodaeth am y flwyddyn

Cyllida Thollad      –      £95.00  – treth ar gyflog y Clerc

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey            –   £40.00 – rhent cwt yr hers (Ebrill)

446…………………………………….Cadeirydd

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £4,282.19 –hanner y cynllun precept.

Rhannodd y Trysorydd gopïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth2022 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd ycyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yncael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.

Adroddodd y Trysorydd ymhellach i’rpenderfyniad a oedd wedi cael ei wneud yn mhwyllgor diwethaf y Cyngor yr oeddwedi cael ffurflen i’w llenwi er mwyn cael defnyddio y gwasanaeth bancio arlein. Rhoddwyd ganiatad i’r Clerc/Trysorydd, y Cyng. Robert Glynne Owen a DavidJohn Roberts i arwyddo y ffurflen hon ac hefyd er mwyn sefydlu taliadau BACS acytunwyd rhoi uchafswm o wariant yn £5,000.

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael ateb ynghyda llun o’r giat gan Mr. Gwyn Evans y Swyddog Llwybrau ynglyn a llwybr cyhoeddusrhif 23 ag ‘roedd yn datgan ei fod wedi cael cyfle i gael golwg ar y llwybrtroed Llanfair 23, ag yn gofyn am gadarnhad a hon oedd y giat oedd y Cyngor yncyfeirio ato. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon yr e-bost ymlaen i’rCadeirydd ag ei fod wedi cadarnhau mae hon oedd y giat dan sylw. Hefyd ‘roedd MrEvans yn datgan bod perchennog Penrallt wedi cytuno gyda ef i gadw y giat ynagored am y tro gan nad oedd stoc yn y cae, ac fe fyddant yn gweithio gyda’rperchennog yn Penrallt i sicrhau fod giât newydd yn cael ei gosod yno neu fodyr un bresennol yn cael ei atgyweirio.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod yr Asiant, Tom Parry oeddyn gwerthu Capel Bethel wedi datgan yn y disgrifiad bod lle parcio am ddim drwsnesa i’r Capel. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn ahyn oherwydd bod y maes parcio hwn o dan eu perchnogaeth a gofyn iddyntgysylltu gyda’r Asiant yn gofyn iddynt dynnu y cymal hwn o’r disgrifiad.

Eisiau cysylltu a Swyddog Llwybrau CyngorGwynedd i dynnu ei sylw bod llwybr cyhoeddus sydd ynmynd o uwchben chwarel Cae Cethin tuag at Penrallt angen sylw oherwydd ei fodyn wlyb mewn un man. Hefyd cytunodd y Cyng. Robert Glynne Owen i’r SwyddogLlwybrau gysylltu ag ef am fwy o wybodaeth ynglyn ar mater hwn.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

                                                                                                               447

Share the Post:

Related Posts