ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR CYMUNED LLANFAIR 2022/2023

GAIR GAN Y CADEIRYDD – Y CYNG. EURIG HUGHES

ANNWEN HUGHES

Dwi bellach yn gadeirydd  ar Gyngor Cymuned Llanfair ers rhai blynyddoedd bellach a hoffwn ddiolch I’r Is Gadeirydd, y Cyng. Russell Sharp am ddod I’r adwy yn fy absenoldeb nawr ag yn y man. Etholaeth gymharol fach I’w Llanfair gyda tua 350 o etholwyr, nid oes ddim siop na tafarn yn y pentre a nid yw y Cyngor yn gyfrifol am barc chwarae ag felly nid yw gwariant y Cyngor yn fawr.

Mis Ebrill 2021 fe gynhaliwyd cyfarfod o’r Cyngor tu allan yn yr awyr iach yn maes parcio y pentref ac yn dilyn hyn ‘rydym wedi gallu mynd yn nol I gynnal ein cyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal bob rhyw 5-6 wythnos ag fel arfer ar nos Fercher neu Iau yn y Neuadd Goffa yn Llanfair. 

Yn dilyn yr etholiadau lleol ar y 5ed o Fai y llynedd mae gan y Cyngor bellach dau Gynghorydd yn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd sef y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen. Mae pawb oedd ar y Cyngor cyn yr etholiadau lleol yn aros yr un peth, sef:-

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd)

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd)

Cyng. Osian Edwards

Cyng. Dylan Hughes

Cyng. Hywel Jones

Cyng. Robert Owen

Cyng. David John Roberts

Cyng. Mair Thomas

Yn ystod y flwyddyn mae y Cyngor wedi archebu defib, yn dilyn digwyddiad casglu arian gan un o etholwyr yr ardal a mae hwn  wedi ei osod ar wal caffi’r Maes yn Llandanwg. ‘Roedd y Cyngor wedi bod yn brwydro ers rhai blynyddoedd, gyda chymorth y Cynghorydd Sir ar y pryd, y Cyng. Annwen Hughes, I gael y llinellau melyn dwbwl wedi ei ymestyn I lawr y ffordd o stesion Llandanwg tuag at Glan Gors oherwydd pryder gan rhai trigolion oedd yn byw yn yr ardal bod rhai yn parcio ar ochor y ffordd newydd ddod dros y bont I ddal y tren. ‘Roedd y Cyngor yn falch o gael gwybod bod y gwaith o osod y llinellau melyn dwbwl hyn wedi cael ei gwblhau ddechrau’r flwyddyn eleni.

CYLLIDEB

Cyllideb y Cyngor yw £16,000 a mae yn cael ei glustnodi fel a ganlyn:-

Yn cyfranu £4,000 i Gyngor Gwynedd at gadw’r toiledau cyhoeddus yn Llandanwg yn agored drwy’r flwyddyn.

Hefyd yn cyfrannu £8,564.38 I Hamdden Harlech ac Ardudwy (HAL) er mwyn cadw y pwll nofio yn agored.   

Mae y Cyngor yn gyfrifol am dorri gwair amrywiol o lwybrau cyhoeddus yn yr ardal beth bynnag ddwy waith y flwyddyn ag hefyd yn gyfrifol am dorri gwair a chynnal y fynwent gyhoeddus yn y pentre. Y gost o wneud y gwaith hwn I gyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon oedd £2,360.

Yn cyfranu I wahanol fudiadau yn yr ardal yn flynyddol a wedi cyfranu £500 eleni fel cyfraniad I Ysgol Ardudwy am ddatblygu y cae aml bwrpas ar llain yr hen gyrtiau tenis a fydd ar gael I’r Gymuned ehanach ei ddefnyddio a £500 i Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth tuag at archebu beic arbennig I plant iau gyda anableddau. Cyfraniadau unwaith fydd I Ysgol Ardudwy ag Ysgol Hafod Lon. 

Gwaith y Cyngor a cyfrifoldebau

Rheoli eiddo 

Y Fynwent Gyhoeddus

Y Llwybrau Cyhoeddus

Llochesi Bws yn yr ardal

Seddi Cyhoeddus

Gweinyddiaeth

Penodwyd Cyngor Gwynedd fel archwiliwr Mewnol 2022/23

Lwfansau – adolygu dim newid, dim taliadau 

Gwefan y Cyngor

Cadw asesiad risg.

Cadw cofnod buddiant

Share the Post:

Related Posts