ADRODDIAD BLYNYDDOL ANNUAL REPORT CYNGOR CYMUNED HARLECH HARLECH COMMUNITY COUNCIL 2022/202

ADRODDIAD BLYNYDDOL ANNUAL REPORT CYNGOR CYMUNED HARLECH HARLECH COMMUNITY COUNCIL 2022/202

ANNWEN HUGHES

Dwi bellach yn gadeirydd  ar  Gyngor Cymuned Harlech ers y 9ed o Fai 2022 a hoffwn gymeryd y cyfle yma I ddiolch I’r Cyn Gadeirydd, y Cyng. Huw Jones am ei waith diflino I’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.

Ers mis Ebrill y llynedd ‘rydym wedi gallu mynd yn nol I gynnal ein cyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal ar y nos Lun cyntaf o bob mis ag eithrio mis Mai pan mae y cyfarfod yn cael ei gynnal ar yr ail nos Lun oherwydd gwyl y banc yn yr Hen Lyfrgell yn y dref. ‘Rydym yn ddiolchgar I bwyllgor y band am adael I ni gael cynnal ein cyfarfodydd yn Ystafell y Band pan oedd angen I bawb gadw peth pellter o’I gilydd. Cyn hynny ‘roedd y Cyngor yn cynnal ei gyfarfodydd dros zoom.

Yn dilyn yr etholiadau lleol ar y 5ed o Fai y llynedd mae gan y Cyngor bellach dau Gynghorydd yn cynrychioli’r ardal ar Gyngor Gwynedd sef y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen. Hefyd fe gafodd y Cyng. Mark Armstrong ei ethol fel Aelod o’r Cyngor Cymuned oherwydd bod Ms Sian Roberts ddim yn sefyll yn yr etholiad lleol yn mis Mai. Mae pawb arall oedd ar y Cyngor cyn yr etholiadau lleol yn aros yr un peth, sef:-

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd) 

Cyng. Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd)

Cyng. Rhian Corps

Cyng. Ceri Griffiths

Cyng. Emma Howie

Cyng. Gordon Howie

Cyng. Martin Hughes

Cyng. Tegid John

Cyng. Huw Jones

Cyng. Thomas Mort

Cyng. Wendy Williams

Yn ystod y flwyddyn mae y Cyngor dal wedi bod yn brysur yn gwnaed gwelliannau I’r toiledau cyhoeddus ger y Neuadd Goffa yn y dref ar ol iddynt eu cymeryd drosodd gan Gyngor Gwynedd beth amser yn nol. Cafodd y toiledau hyn eu hagor I’r cyhoedd yn mis Medi 2021. Hefyd mae y Cyngor wedi trwsio ag archebu offer newydd yn parc chwarae Brenin Sior V ag wrthi ar hyn o bryd yn gwneud gwellianau I’r parc chwarae hwn a fydd y gwellianau hyn yn cael eu cario ymlaen yn ystod y flwyddyn ariannol nesa a maen’t wedi gosod offer newydd yn mharc chwarae Llyn y Felin. 

CYLLIDEB

Cyllideb y Cyngor yw £70,000 a mae yn cael ei glustnodi fel a ganlyn:-

Yn cyfranu £10,000 i Gyngor Gwynedd at gadw’r toiledau cyhoeddus yn agored (rhai yn maes parcio Bron y Graig Isaf a rhai ger tafarn y Queens yn agored drwy’r flwyddyn a rhai yn maes parcio Min y Don yn agored am 6 mis o’r flwyddyn)

Hefyd yn cyfrannu £20,914.76 I Hamdden Harlech ac Ardudwy (HAL) er mwyn cadw y pwll nofio yn agored.   

Wedi archebu 1 defib arall tuag at y 2 sydd gan y Cyngor yn barod a mae’r Cyngor wedi gwario £5,336 ar defibs hyd yma. Mae rhain wedi eu gosod yn Garej y Morfa, yn y kiosk ger Capel Engedi ag ar wal yr Hen Lyfrgell yn y dref. 

Hyd yma wedi gwario £9,419 at gynnal y toiledau cyhoeddus ger y Neuadd Goffa, ag hefyd mae y Cyngor wedi talu £2,635 I ofalwr am lanhau y toiledau hyn yn ddyddiol. Mae y Cyngor yn cau y toiledau hyn dros tymor y gaeaf fel y gallant wneud mwy o waith cynnal a chadw arnynt.

Wedi archebu hysbysfwrdd newydd ar gost o £3,232 a’i osod ger Siop y Morfa oherwydd bod yr un arall mewn cyflwr drwg. Mae gan y Cyngor hysbysfwrdd o’r deunydd hwn wedi ei leoli ger Y Gofeb yn y dref a wedi archebu hwn ers rhai blynyddoedd.

Mae y Cyngor yn gwario swm sylweddol I dorri gwair y fynwent gyhoeddus, parc chwarae Llyn y Felin a Brenin Sior V yn rheoliadd bob pythefnos yn ystod Ebrill I Hydref. Hefyd mae gwair amrywiol lwybrau cyhoeddus yn cael ei dorri beth bynnag ddwy waith y flwyddyn. Y gost o wneud y gwaith hwn I gyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon oedd £5,276.

Yn cyfranu I wahanol fudiadau yn yr ardal yn flynyddol a wedi cyfranu £5,000 eleni fel cyfraniad I Ysgol Ardudwy am ddatblygu y cae aml bwrpas ar llain yr hen gyrtiau tenis a fydd ar gael I’r Gymuned ehanach ei ddefnyddio, £1,000 i Ysgol Hafod Lon, Penrhyndeudraeth tuag at archebu beic arbennig I plant iau gyda anableddau, £3,000 I Gyfeillion Ysgol Tan y Castell tuag at greu ardaloedd offer cadw’n iach tu allan I bob oedran ag hefyd adnewyddu’r ardal dosbarth tu allan ar gyfer y cyfnod Sylfaen, wedi cyfranu £1,000 I Ambiwlans Awyr Cymru a £250 I CFFI Meirionnydd. Er mae ddim ond £5,000 sydd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb tuag at gyfraniadau, mae y Cyngor wedi mynd dros hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon oherwydd ‘roedd yr Aelodau yn teimlo ei bod hi yn bwysig I gyfranu i’r mudiadau oedd yn gofyn ag hefyd cyfraniadau unwaith fydd I Ysgol Ardudwy ag Ysgol Hafod Lon. Mae £2,000 yr un yn flynyddol yn cael ei gyfranu at gadw y Neuadd Goffa ar Hen Lyfrgell oherwydd bod y Cyngor Cymuned yn Ymddiredolwyr ar y ddau sefydliad hyn. Mae y cyfraniadau hyn yn cael eu cynnwys yn precept y Cyngor.

Hyd yma mae y Cyngor wedi cyfranu £3,000 tuag at y goleuadau nadolig yn yr ardal.

Yn anffodus ganol mis Rhagfyr gafodd y Cyngor ei dwyllo yn ariannol allan o £9,000 gan berson oedd yn honni ei fod yn mynd I gario allan gwaith yng mharc chwarae Brenin Sior V. Yn anffodus mae y Cyngor wedi cael gwybod na fydd ad-daliad o’r arian hwn yn cael ei wneud iddynt oherwydd nid yw yr arian hyn yn gyfrif banc y twyllwr rhagor. Oherwydd y digwyddiad anffodus hwn mae y Cyngor wedi trafod sut I dynhau eu rheolau cyllidol ag yn enwedig wrth wneud taliadau ar lein fel a ddigwyddodd yn yr achos hwn. 

Gwaith y Cyngor a cyfrifoldebau

Rheoli eiddo 

2 barc chwarae sef Brenin Sior V a LLyn y Felin

Y Fynwent Gyhoeddus

Y Llwybrau Cyhoeddus

Llwybr Natur Bron y Graig

Llochesi Bws yn yr ardal

Plinth yn Pen y Graig

Yr Hen Ladd-dy

Seddi Cyhoeddus

Gweinyddiaeth

Penodwyd Cyngor Gwynedd fel archwiliwr Mewnol 2022/23

Lwfansau – adolygu dim newid, dim taliadau 

Gwefan y Cyngor

Cadw asesiad risg.

Cadw cofnod buddiant

A WORD FROM THE CHAIRMAN – CLLR. EDWINA EVANS

I am now chair of Harlech Community Council since 9th May 2022 and would like to take this opportunity to thank the former Chairman, Cllr. Huw Jones for his tireless work for the Council over the past few years.

Since April last year we have been able to go back to holding our meetings which are held on the first Monday of every month apart from May when it is held on the second Monday because of the may day bank holiday in the Old Library in the town. We are grateful to the band committee for allowing us to hold our meetings in the Band Room when everyone needed to keep some distance from each other.

Following the local elections on 5th May last year the Council now has two Councillors representing the area on Gwynedd Council namely Cllr. Annwen Hughes and Cllr. Gwynfor Owen. Also Cllr. Mark Armstrong was elected as a Member of the Community Council because Ms Sian Roberts was not standing in the local election in May. Everyone else who was on the Council before the local elections remains the same, namely:-

Cllr. Edwina Evans (Chairman) 

Share the Post:

Related Posts