COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 09.09.20

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 09.09.20

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Gerallt Jones, DylanHughes.

PRESENNOL

Cyng.  Russell  Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, MairThomas, David J. Roberts.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod  Chwefror 26ain 2020 fel rhai cywir.

MATERION YNCODI        

CynllunCyllideb

Adroddwyd bod £6,215.24 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd, a bod hyn yn £7,126.00 o wariant yn llai naoedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennafoherwydd bod y £4,000 oedd wedi cael ei glustnodi ar gyfer partneriaeth ytoiled Llandanwg heb gael ei dalu a wedi cael ei glustnodi ar gyfer mis Mai.

Llinellau Melyn gerstesion Llandanwg

Adroddodd y Clercoherwydd y feirws corona nid oedd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddim ondnewydd ail gychwyn cynnal cyfarfodydd. Hefyd adroddodd ei bod wedi gofyn IGyngor Gwynedd pryd byddai’r adroddiad ynglyn ar uchod yn mynd o flaen pwyllgorcynllunio y Sir ar ateb oedd wedi ei dderbyn nid oeddynt yn gwybod ar hyn obryd.

Defibrillator lawr yn LLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. JohnHouliston ar y 27ain o Orffennaf yn gofyn a oedd y Cyngor Cymuned wedi cysidrogosod defibrillator lawr yn Llandanwg ag ei bod wedi anfon yr e-bost ymlaen ibawb. Cytunwyd i wneud ymholiadau i osod defibrillator mewn lleoliad yn nes amy traeth  ag hefyd gwneud ymholiadau osydi  yn gweithio gyda rhywun sydd wediboddi. Agenda y cyfarfod nesa.

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc eibod wedi derbyn llythyr gan Mr. Caerwyn Roberts yn datgan ei fod wedipenderfynnu ymddeol fel Aelod o’r Cyngor. Cytunwyd anfon y llythyr ymlaen at y Swyddog Etholiadol ynGaernarfon.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Ddim wedi dod ilaw.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £13,680.07 yn y cyfrifrhedegol, a £5,520.86 yn y cyfrif cadw.

Taliadau ynystod y mis

Mr. Arwel Thomas      –  £540.00–  torri gwair y fynwent

Mrs Annwen Hughes   – £380.00   – cyflog 3 mis

Pwyllgor Neuadd Goffa – £40.00 –   llogi ystafell bwyllgor am y flwyddyn

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M.Downey          –          £40.00 –  rhent cwt yr hers (Awst(

CyngorGwynedd    –    £11,000.00 –  hanner y precept

Mr. M.Downey          –          £40.00 –  rhent cwt yr hers (Medi)

422……………………………………..Cadeirydd

Adroddodd yTrysorydd er bod copiau o gyfrifon y Cyngor wedi cael eu hanfon at bob Aeloddechrau mis Ebrill, nid oeddynt wedi cael eu cymeradwy  am y flwyddyn ariannol 2019/20 ag hefyd oeddangen I ardystio y ffurflen flynyddol er mwyn gallu anfon y dogfennau priodolymlaen i’r Archwiliwr Allanol. Adroddod y Trysorydd ymhellach oherwydd y feirwsbod y dyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf ArchwilioCyhoeddus (Cymru) 2004 wedi cael ei symund eleni, ar dyddiad newydd yw rhwng y1af ar 28ain o Fedi 2020. O Fedi’r 29ain hyd nes bydd yr archwiliad wedi eigwblhau fe fydd gan etholwyr y Gymuned yr hawl i gwestiynu’r ArchwilyddCyffredinol am y cyfrifon. Cytunodd pob Aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyoy cyfrifon ag hefyd ardystio y ffurflen flynyddol ag i’r Cadeirydd a’rClerc/Trysorydd arwyddo y cyfrifon, y ffurflen flynyddol ar llyfr cyfrifon arran y Cyngor.

GOHEBIAETH

Cyng. Mair Thomas

Cafwyd lluniau gan y Cyng. Thomas yn dangos y golwg bler oedd wedi  mynd o amgylch y Maes, Llandanwg a cytunwydeu hanfon ymlaen i’r Adran priodol yng Nghyngor Gwynedd.

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod Mr. Hywel Jones wedi trwsio yrhysbysfwrdd ar y Maes ag ei fod wedi gwneud gwaith da.

Cafwyd wybod bod sedd o dan Ty Gwyn angen sylw a cytunwyd gofyn i Mr.Hywel Jones gael golwg arni.

Cafwyd wybod bod y bonbren wedi ei thrwsio ond, yn anffodus nid oedd ytwll sydd ger y giat mochyn rhwng Argoed ag Ymwlch heb gael ei lenwi. Cytunwydanfon at yr Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.

Dyddiad y Cyfarfod Nesa

Cytunwyd i beidio a gosod dyddiad ar hyn o bryd  ond aros nes bydd mater o bwys yn dod i law.

ARWYDDWYD……………………………………….Cadeirydd  

DYDDIAD………………………………………………                   423.

Share the Post:

Related Posts