Cofnodion o gyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair a gynhaliwyd ar 15.07.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 15.07.21

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), DylanHughes.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Robert G.Owen, Mair Thomas, David J. Roberts, Osian Edwards.

Estynwyd longyfarchiadau y Cyngor i’r Cyng.Osian Edwards a’i wraig Mererid ar enedigaeth merch fach.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mehefin 2il 2021fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £5,908.43 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £5,837.00 yn llai o wariant nabeth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn ynbennaf am bod cyfraniad y Cyngor o £4,000 i Gyngor Gwynedd i gadw y toiledaucyhoeddus yn agored yn Llandanwg heb gael ei dalu.

LLinellau Melyn ger stesion LLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod, fel CynghoryddGwynedd ei bod wedi derbyn yr ateb canlynol gan Iwan Ap Trefor o Gyngor Gwynedd– ei fod wedi gofyn am ganiatad i osod y cones melyn ar y ffordd yn Llandanwgac os byddai caniatad yn cael ei roi byddant yn trefu i osod y cones dydd Llun(Mehefin 21ain). Datganwyd pryder bod y cones, erbyn hyn wedi cael eu stacio ifyny a cytunwyd bod y Cyng. Annwen Hughes yn cysylltu gyda Iwan Ap Trefor iofyn a yw hyn wedi cael ei wneud yn swyddogol.

EtholCynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gany Swyddog Etholiadol yn Gaernarfon bod neb wedi anfon ei enw ymlaen ag fellymae gan y Cyngor yr hawl i gyfethol. Cytunwyd ei bod yn gofyn i Mr. HywelJones, Uwch y Sarn yn gyntaf a oes ganddo ddiddordeb a wedyn gofyn i Mr. GuySlater, Haulfryn.

MaesParcio Llandanwg

Bu trafodaeth ynglyn ar ffaith bod y taliadauparcio yn y maes parcio uchod wedi codi ers y 30ain o Fehefin i £5.50 am 12 awra £11 am 24 awr a bod anfodlonrwydd ynglyn a hyn wedi bod gan aelodau o’rcyhoedd.  Adroddodd y Cyng. Annwen Hughesei bod wedi cysylltu gyda Mr. Dafydd Wyn Williams o Gyngor Gwynedd yn syth panglywodd am y hyn gan ofyn iddo a fyddai modd rhoi dewis arall o bris yna hefyder mwyn y rhai sydd eisiau ddim ond mynd lawr yna am amser byr ag ei fod wedicytuno edrych i mewn i rhoi opsiwn o 2 awr am £1 a 4 awr am £2. Datganodd  y Cyng. Hughes ei bod wedi cyfarfod Mr.Dafydd Wyn Williams ynghyd ar Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd y Cyng. GarethGriffiths i drafod y mater hwn ymhellach ag i sicrhau bod y prisiau newydd hynyn cael eu cyflawni. ‘Roedd yn falch o gael adrodd bod cytundeb wedi dod a bodCyngor Gwynedd yn gobeithio bydd yr opsiwn newydd yn weithredol erbyn diwedd ymis hwn (Gorffennaf) oherwydd bydd rhaid newid meddalwedd y peiriant talu aghefyd cael arwyddion newydd wedi cael eu gwneud. Ar ran y Cyngor diolchodd yCyng. Mair Thomas i’r Cyng. Annwen Hughes am weithredu ar y mater hwn mor sydynag am gael Swyddogion Cyngor Gwynedd i ail edrych ar y taliadau parcio.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Caniatâd Adeilad Rhestredig i drosiAdeilad Amaethyddol yn uned gwyliau gan adeiladau estyniad cyntedd ochrGorllewin, unllawr waliau cerrig to llechi newydd lleol. Bwriedi’r cloddio’rllawr presennol a gosod llawr concrid newydd, ynysu a chylfwyno system gwrestan llawr gorffeniad wyneb llechen. Cynllun llawr daear arfaethedig i gynnwyslolfa rhan De or beudy, culhau’r agoriad drws presennol sydd yn arwain  atleoliad grisiau, ystafell gawod a ystafell fwyta\cegin ty hwnt. Adeiladai’r walflociau ar wyneb waliau allanol rhan Gogledd beudy uchaf gyda wal rhannol ynestyn i’r nenfwd lle lleoli’r ystafell wely 2, ystafell cyfleusterau toiled arlanfa’r grisiau sydd yn arwain i ystafell wely 1 nenfwd Deheuol y beudy.Gosodi’r gwresogydd o fewn yr estyniad gyda’r ffliw drwy’r wal dalcen De.Gosodi’r ffenestr wydr  drychiad Dwyrain a ffenestr adeinog draddodiadoldrychiad Gogledd gyda chaeadau

                                                                                               431……………………………….Cadeirydd

allanol. Adferi’r strwythur a gorffeniady to yn y dull traddodiadol gyda ffenestri to math cadwraeth naill ochr toDrychiad Dwyrain, Drychiad Gorllewin yn ogystal a nwyddau dwr glaw alwminiwm.Bydd y datblygiad arfaethedig i gynnwys gwaith gwasanaethau trydanol,carthffosiaeth sydd bellter i’r De Orllewin, yr holl waith draenio gan gynnwysy ffos gerrig hyd fon y wal drychiad Dwyreiniol ar tanc tanwydd olew I’w leolifon y wal derfyn syn arwain at y fynedfa bresennol Gogledd Ddwyrain- Beudy Allt y Môr, Llandanwg (NP5/66/LB186)

Cefnogi ycais hwn ond bod yr Aelodau yn bryderus bod ddim rhybudd o’r cais cynllunio i’wweld wedi cael ei osod ger y safle.

Newid defnydd a throsi AdeiladAmaethyddol yn uned gwyliau gan adeiladau estyniad cyntedd unllawr ar yr ochrGorllewin gyda waliau cerrig a tho llechi lleol newydd. Cynllun llawr daeararfaethedig i gynnwys lolfa yn rhan De o’r beudy, grisiau, ystafell gawod acystafell fwyta/cegin tŷ hwnt. O fewn y nenfwd lleoli’r ystafell wely 2,ystafell cyfleusterau toiled ar lanfa’r grisiau sydd yn arwain i ystafell wely1 nenfwd Deheuol y beudy.  Gosodi’r ffenestr wydr ar ddrychiad Dwyrain affenestr adeiniog draddodiadol ar y drychiad Gogledd gyda chaeadau allanol.Adferi’r strwythur a gorffeniad y to yn y dull traddodiadol gyda ffenestri tomath cadwraeth naill ochr to’r drychiad Dwyrain a drychiad Gorllewin yn ogystalâ nwyddau dŵr glaw alwminiwm. Bydd y datblygiad arfaethedig i gynnwys gwaithgwasanaethau trydanol, carthffosiaeth sydd bellter i’r De Orllewin, yr hollwaith draenio gan gynnwys y ffos gerrig hyd fôn y wal drychiad Dwyreiniol ardanc tanwydd olew i’w leoli yn fôn y wal derfyn sy’n arwain at y fynedfabresennol Gogledd Ddwyrain – Beudy Allt y Môr, Llandanwg (NP5/66/LB186A)

 Cefnogiy cais hwn ond bod yr Aelodau yn bryderus bod ddim rhybudd o’r cais cynllunioi’w weld wedi cael ei osod ger y safle.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £7,082.67 yn ycyfrif rhedegol a £5,521.42 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mr. D. A.Thomas       -£415.00 –  torri gwair y fynwent x 3

Cyllid aThollad          –   £94.80 –  treth ar gyflog y Clerc

Mr. EuronRichards   –  £542.50 – peintio porth yr eglwys, y giat ar railings

DwrCymru                 –    £14.36 –  tap y fynwent

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey   – £40.00 – rhent cwt yr hers (Gorffennaf)

Feadroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dimmaterion arwyddocaol yn codi heblaw am y ffaith bod methiant wedi bod i gynnalcyfarfod blynyddol y Cyngor cyn y 31ain o Ragfyr 2020 yn unol a RheoliadauAwdurdodau Lleol  (Coronafirws)(Cyfarfodydd) (Cymru) 2020. Eglurwyd bod y Cyngor wedi cytuno, oherwydd COVID19 bod yr holl Swyddogion yn aros yn eu swyddi tan mis Mai 2021. Bod methiant igefnogi pob taliad gyda anfonebau gwreiddiol ac adroddodd y Trysorydd eu bod yncyfeirio at yr anfoneb ynglyn a bin brown y fynwent. Bod methiant i gyhoeddicofrestr o fuddiannau aelodau yn unol a Deddf Llywodraeth Leol 2000) ac adroddoddy Trysorydd ymhellach bod rhain yn cael eu cadw ganddi ond eu bod yn rhy fawri’w cyhoeddi ar y wefan. Hefyd yn datgan nad oedd holl gofnodion cyfarfodydd ynelectronig ar y tudalen we. Adroddodd y Clerc ei bod yn anfon cofnodion ogyfarfodydd y Cyngor yn fisol er mwyn iddynt gael eu gosod ar wefan y Cyngor ondnid oedd wedi anfon crynodeb o faterion y Cyngor a oedd yn cael eu hanfon atbob Aelod yn ystod yr amser oedd y Cyngor ddim yn cyfarfod ond nid oedd wedianfon crynodeb o faterion y Cyngor a oedd yn cael eu hanfon at bob Aelod ynystod yr amser oedd y Cyngor ddim yn cyfarfod.

GOHEBIAETH

Ms Rosy Berry

Wediderbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn gallu edrych eto ar ymatter o osod llinellau melyn ar ochor y ffordd o dan stesion Llandanwg a giatYmwlch ag yn datgan os byddai y llinellau hyn yn cael eu peintio byddai ynamhosib i fobl sydd yn dymuno defnyddio y stesion barcio. Hefyd yn datgan bod,yn enwedig yn ystod tymor yr haf, bobl lleol yn defnyddio y tren i fynd i wneudeu siopau oherwydd bod y ffyrdd mor brysur ag hefyd

432……………………………….Cadeirydd

byddaiddim lle i rhai fydd yn gweithio i gynnal a chadw y stesion i barcio na y rhaisydd wedi mabwysiadu y stesion sydd yn gwirfoddoli i wneud y stesion edrych yndaclus. Datganodd Ms Berry ei fod hi ddim yn deg i gysidro dymuniadau un neuddau o’r preswylwyr sydd yn byw lawr Llandanwg uwchben anghenion gymaint obreswylwyr ag hefyd y byddai yn siom pan fydd y stesion yn ail agor bodpreswylwyr o Llanfair methu defnyddio y stesion oherwydd problem parcio.Cytunwyd i ymateb gan ddatgan ei fod yn fwriad gan y Cyngor i ddal i garioymlaen gyda’r cynllun o osod y llinellau melyn hyn.                                                                          

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bodcyfarfod o bwyllgor y neuadd wedi cael ei gynnal ar y 14eg o’r mis hwn acadroddodd fel a ganlyn – mae Swyddogion y pwyllgor oedd Mrs Betty Grant,Cadeirydd, Mrs Ann Lewis, ysgrifennyddes a Mrs Teresa Lambert, trysorydd.‘Roedd y neuadd wedi bod ar gau o’r 23ain o Fawrth 2020 hyd at yr 17eg o Fai2021 oherwydd y covid, cafwyd gopi o fantolen ariannol y pwyllgor a mae ysefyllfa cyllidol yn iach iawn. Ddim ond un gweithgaredd sydd yn cael ei gynnalyn y  neuadd mewn diwrnod a mae rhain yncynnwys y grwp lace, arlunio a blodau, yn anffodus mae cangen Sefydliad yMerched Llanfair ddim yn bodoli rhagor ag ‘roeddynt yn gefnogol iawn i’r neuaddpan yn bodoli, ond byddant yn dal i osod blodau ar y Gofeb tu allan i’r neuaddac hefyd cafwyd wybod bod y fainc newydd wedi cyrraedd yn barod yw gosod yn ypentre. Mae pwyllgor y neuadd wedi penderfynnu derbyn yr amcan bris am beintiotu allan y neuadd i gyd a mae y pris hwn yn cynnwys sgaffold i wneud y ffenestuwchben y porch. Cafwyd wybod bod ymholiad wedi dod gan Y Swyddfa Bost deithiolbod ganddynt ddiddordeb mewn defnyddio’r neuadd a bydd Mrs Ann Lewis yncyfarfod y swyddog i drafod hyn a cytunwyd byddai hyn yn werth ei gysidro felgwasanaeth i’r pentref, ond yn anffodus fydd ddim tal i’w gael gan y SwyddfaBost am ddefnyddio y neuadd. Datganodd aelodau y pwyllgor gwerthfawrogiad owaith Mrs Ann Lewis i gynnal a chadw y neuadd yn enwedig drwy’r cyfnod clo.Bydd cyfarfod nesa o bwyllgor y neuadd yn cael ei gynnal ar y 29ain o Fedi.

Cafwyd wybod bod y cerrig ar ddechrau y llwybrcyhoeddus ger Capel Caersalem wedi cael eu trwsio ag hefyd bod y llwybr sydd ynmynd i fyny ochor y chwareol draw am Uwchglan wedi cael ei dacluso.

Cytunwyd gofyn i Mr. Jason Coleman a fyddai ynbosib iddo dorri y llwybr sydd yn mynd o Penrallt lawr am Pensarn.

Datganwyd pryder bod cwn i’w gweld bob ochori’r traeth yn Llandanwg  er eu bod ddim ifynd i’r ochor chwith yn ystod tymor yr haf a cytunwyd cysylltu gyda’r SwyddogMorwrol i ofyn a fyddai modd cael arwyddion mwy clir wedi eu gosod.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

                                                                                                               433

Share the Post:

Related Posts