March 22, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YSTAFELL Y BAND, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 10.01.22
Annwen Hughes 10.01.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Tegid John, Thomas Mort.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Edwina Evans (Is-Gadeirydd),Christopher Braithwaite, Sian Roberts, Martin Hughes, Ceri Griffiths, Rhian Corps,Gordon Howie, EmmaHowie, Wendy Williams a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Rhagfyr 6ed 2021 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen – Eifod wedi bod o amgylch yr ardal gyda Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd ag hefydgyda Peiriannydd Ardal Meirionnydd ag eu bod wedi nodi bod y llinellau gwyn hebgael gorffen eu gosod ger groesffordd Bron y Graig. ‘Roedd pryder bod rhai syddyn gaeth i’w cartrefi heb gael eu brechlyn diweddaraf. Cafwyd wybod byddgangiau cymunedol yn ail gychwyn yn Wynedd yn fuan a bydd 2 gang ynMeirionnydd. Mae wedi bod o amgylch y dref gyda Swyddog o Lywodraeth Cymru ihyrwyddo y gymraeg ag hefyd mae wedi bod yn hyrwyddo Llwybr Meirion.
MATERION YNCODI
Dosbarthwyd copiau o’r uchod yn dangos y gwahaniaethau yn y gwariant aoedd wedi cael ei wneud i fyny hyd at y 31ain o Ragfyr 2021 ers dechrau Ebrill 2021a beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y cynllun cyllideb hyd at diwedd misRhagfyr i bob aelod oedd yn bresennol. Adroddwydbod £69,353.12 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn yflwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,165.22 o wariant yn fwy na oedd wedicael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Aeth yr aelodau drwy ygwahaniaethau yn y gwariant a oedd wedi cael ei wneud a beth oedd i lawr ar ycynllun cyllideb fesul un. Cytunwyd i dderbyn yr uchod.
Etholiad Cynghorau Cymuned Mai 2022
Adroddodd y Clerc ei bod wediderbyn e-bost gan yr Adran Etholiadol, Cyngor Gwynedd yn hysbysu yr Aelodauoherwydd bod etholiadau yn cael eu cynnal yn mis Mai 2022 bod yn rhaid i bobCyngor Tref a Chymuned glustnodi £1,500 - £2,000 yn eu cyllideb rhag ofn byddaietholiad yn cael eu gynnal yn eu Cyngor Cymuned.
Cyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2022/23
Dosbarthoddy Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor i fyny at y 31ain o Ragfyr 2020 i bob aeloder mwyn iddynt gael gweld beth oedd y sefyllfa ariannol. Fe gafwyd trafodaethynlgyn ar mater uchod a penderfynwyd fod amcangyfrif o’r gwariant canlynol gany Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa - insiwrant y Cyngor £2,000, cyflog yClerc £2,200, costau y Clerc £1,800, costau swyddfa £500, treth ar gyflog yClerc £440, Cyfrifydd y Clerc £204, cyfraniadau £5,000, Hamdden Harlech acArdudwy £20,914.76, pwyllgorneuadd Goffa £2,000, pwyllgor HenLyfrgell £2,000, costau fynwent £3,500, torri gwair y mynwentydd £2,000, torrigwair y llwybrau £2,500, torri gwair cae chwarae Brenin Sior £1,000, LlwybrNatur Bron y Graig £2,000, Dwr Cymru £40, biniau halen £400, goleuadau nadolig£2,000, meinciau £1,000, gwagio biniau caeau chwarae £1,000, cynnal a chadw yparciau chwarae £10,000, archwiliad y parciau chwarae £300, cynnal a chadw toiled ger y Neuadd Goffa £8,000,cyfraniad i gadw toiledau cyhoeddus yn agored £10,000, Un Llais Cymru £300, llogiystafell bwyllgor £200, gwefan y Cyngor £120, treth cwrt tennis £120, archwilwyr£600, amrywiol £1,000, cynnal a chadw gwahanol eitemau £500, etholiadau CyngorCymuned £1,500.
703…………………………………………………Cadeirydd
Precept y Cyngor am 2022/23
Fedderbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd ynglyn ar mater uchod. Ar ol trafod y gyllideb a rhagweld bethfyddai gwariant y Cyngor am y flwyddyn ariannol nesa, penderfynwyd gadael yprecept ar £70,000.
Polisi Asesiad Risg y Cyngor
Dosbarthwyd copiau o’r uchod i bob aelod a oedd yn bresennola gafodd bob eitem a oedd arno ei drafod arwahan. Penderfynwyd derbyn y polisihwn.
Effeithiolrwydd Rheola Mewnol
Trafodwyd yruchod yn fanwl eto eleni a penderfynwyd bod y drefn bresennol yn foddhaol llemae y Trysorydd yn rhoi adroddiad ariannol ynghyd a chopi o gysoni banc yCyngor i’r Aelodau bob mis ag hefyd yn cofnodi y taliadau ar derbyniadau syddyn cael eu gwneud ynghyd ar sefyllfa ariannol bob mis.
Panel Cyfrifiad Annibynnol
Adroddodd y Clerc bod yn rhaid arwyddo ffurflen gan bobCynghorydd ynglyn ar uchod eto eleni. Mae angen rhestru bob rheol sydd yn caelei mabwysiadu yn cofnodion y Cyngor ag os bydd rheol taliadau ar gyfer costauyn cael ei mabwysiadu bydd angen i’r Cynghorwyr sydd DDIM am hawlio costauarwyddo ffurflen yn datgan hyn. Ar ol trafodaeth cytunwyd i fabwysiadu y rheoltaliadau ar gyfer costau eto eleni a cytunwydbod pawb oedd eisiau hawlio costau yn gwneud hynny ond ei fod yn bwysig bodpawb yn ei anfon yn nol i’r Clerc ar ol ei cwblhau.
ArwyddionTy Canol
Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi derbyn llythyr gan y Parc Cenedlaethol yn datganbod y cais a oedd wedi cael ei gyflwyno ddim yn gyflawn oherwydd bod rhaipwyntiau heb eu cwblhau a bod y cynlluniau ddim i’r safon derbyniol. Cytunwydbod y Cadeirydd yn cysylltu gyda Mr. Richard John i ofyn iddo dynnu cynlluniau allanag hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi gorfod rhoi hysbysiad dan erthygl 10 “gaisam ganiatad cynllunio” yn y Cambrian News.
Tir Pen y Graig
Adroddodd y Cadeirydd bod y gwaith o glerio ydarn tir uchod wedi ei gwblhau..
Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur
CEISIADAU CYNLLUNIO
Newiddefnydd rhan o’r bwyty ar y llawr gwaelod o A3 (Gwerthiant bwyd) i C3 (Preswyl)- Y Plas, High Street, Harlech (NP5/61/LB32K)
Gwrthwynebuy cais cynllunio uchod oherwydd bod yr Aelodau o’r farn bod yr adeilad erioedwedi bod yn dy ag hefyd yn pryderu bydd y dref yn colli busnes arall. Hefyd ‘roeddgan yr Aelodau bryderon am bod problem parcio yn bodoli yn y dref yn barod abod yr adeilad mewn ardal Gadwraeth.
CaniatâdAdeilad Rhestredig am waith mewnol i gymhwyso newid defnydd y bwyty ar y llawrgwaelod o A3 (Gwerthiant bwyd) i C3 (Preswyl) - Y Plas, High Street,Harlech (NP5/61/LB32L)
704…………………………………………………Cadeirydd
Codiestyniad unllawr ar yr ochr a gosod ffenestri to - Hiraethog, Stryd Fawr,Harlech (NP5/61/599D)
Cefnogi y cais hwn.
Lleoli4 pod glampio o fewn yr ardd gwrw gefn a defnydd o’r cyn adeilad selar/storfa iddarparu cyfleusterau toiled/cawod - Lion Hotel,Harlech (NP5/61/L80G)
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £52,842.89yn y cyfrif rhedegol, £31,095.34 yn y cyfrif cadw, £92.00 yng nghyfrif yCadeirydd a £0.00 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
Mr.Lee Warwick - £160.30 – glanhau ac edrych ar ol y toiledau ger yneuadd goffa
Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc
Tindle Newspapers Wales - £456.00 –hysbyseb cais cynllunio
Derbyniadau yn ystod y mis
Pant Mawr Residential Park - £290.00 - rhent tanciau nwy ar dir llwybr natur
Cyllid a Thollad - £3,365.97 - ad-daliad T.A.W.
Adroddodd y Trysorydd bod y Cyngor wedi gor-wario£6,165.22 ers cychwyn y flwyddyn ariannol hon hyd at y 31ain o Ragfyr 2021 agei bod yn rhagweld byddai £84,363.20 yn cael ei gario drosodd ar y 31ain oFawrth 2022. Rhaid cofio hefyd bydd o leiaf £4,478.00 o wariant angen ei wneuderbyn diwedd Mawrth 2022 a ddim ond £5,030.97 i ddod i mewn (ar hyn o byrd) agbyddai gan y Cyngor wariant sylweddol i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannolnesaf 2022/23 oherwydd bod £20,914.76 wedi cael ei glustnodi ar gyfer HamddenHarlech ac Ardudwy a £10,000 wedi cael ei glustnodi i Gyngor Gwynedd fel cyfraniad y Cyngor i gadwy toiledau cyhoeddus yn agored ag hefyd £8,000 i gynnal a chadw y toiledau gery Neuadd Goffa sydd yn gwneud cyfanswm o £38,914.76 heb gynnwys ddim gwariantarall fyddai y Cyngor yn ei wneud. Felly wrth gofio y byddai hwyrach £84,363.20yn cael ei gario drosodd a bod y precept yn aros ar £70,000 (£84,363.20 + £70,000 = £154,363.20- £38,914.76 = £115,448.44) hwyrach bydd y Cyngor yn iawn gyda’i gwariant am yflwyddyn ariannol 2022/23. Bydd yrAelodau yn gallu gweld y rhagolygon ariannol am y flwyddyn i ddod yn well diweddMawrth 2022.
GOHEBIAETH
Llywodraeth Cymru
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor mae y swm priodolo dan Adran 137(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Gwariant Adran 137 yTerfyn ar gyfer 2022/23 fydd £8.82 yr etholwr. Adroddodd y Clerc y rhif o diweddaraf o etholwyr sydd genni yw 1,136 agfelly mae gan y Cyngor hawl i gyfranu hyd at £9,553.76 i gyrff allanol.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod yn hysbysuy Cyngor, fel ychwanegiad i’r gwasanaeth cynnal yn y gaeaf byddant yn darparuhalen i’r biniau halen pwrpasol sydd yn y gymuned yn ddi-dal o hyn allan.
705…………………………………………………Cadeirydd
UNRHYW FATERARALL
Cafwyd wybod bod angen peintioy toiledau ger y castell a bod Mr. Lee Warwick yn mynd i wneud y gwaith.
Datganwyd pryder bod gymaint ofaw ci o amgylch yr ardal mewn sawl man.
Adroddodd y Clerc ei bod wedicyfarfod a Mr. Alan Hughes, WardenGorfodaeth Stryd, Cyngor Gwynedd ynglyn a gosod bin baw ci ar Ffordd Glan y Moryn dilyn cais gan etholwr ag ei fod wedi cytuno i osod un ger y giat fawr syddyn mynd i mewn i gae chwarae Brenin Sior V.
Cafwyd trafodaeth ynglyn a cae chwarae Brenin Sior V arcwynion oedd ynglyn ar diffyg offer oedd yno i blant hyn, ag hefyd y ffaith bodyr offer sydd yna yn barod ddim i fyny i safon. Cytunodd y Cyng. ChristopherBraithwaite ofyn i gwmni G. L. Jones, Bethesda gael golwg ar yr offer ag hefydcytunwyd i archebu offer a fyddai yn addas i blant hyn.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 706.