May 17, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YSTAFELL Y BAND, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 07.03.22
Annwen Hughes
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Ceri Griffiths, RhianCorps, SianRoberts, Emma Howie.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Is-Gadeirydd), Christopher Braithwaite,Martin Hughes, TegidJohn, Thomas Mort, Gordon Howie, Wendy Williams a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Chwefror 7ed 2022 felrhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Thomas Mort ddiddordeb yng nghaisariannol Yr Hen Lyfrgell ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddoa ni chymerodd ran yn y drafodaeth.
Datganodd y Cyng. Martin Hughes ddiddordeb yng nghaisariannol Yr Hen Lyfrgell ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddoa ni chymerodd ran yn y drafodaeth.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen – Cafwydwybod, mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn bod penderfyniad wedi cael ei wneud igael trafnidiaeth am ddim o fis Medi eleni i blant sydd yn mynychu ColegMeirion Dwyfor, bod treth y Cyngor yn codi 2.9%. Bydd gwaith o uwchraddiostesion Harlech yn cael ei wneud yn y dyfodol. Dywedodd y Cyng. Owen bod dipyno’i amser yn mynd i helpu unigolion hefo ceisiadau grantiau ag hefyd yn deliohefo cwynion gan denantiad ADRA. Fydd ddim yn cynnal cymorthfeydd yn mis Ebrilla Mai oherwydd yr etholiad.
MATERION YNCODI
Adroddwyd bod £83,381.69 (a oedd yn cynnwys costau banc)wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £16,431.79o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
ArwyddionTy Canol
Adroddodd y Clercei bod byth wedi clywed gan Mr RichardJohn ynglyn ar mater uchod ond ei bod wedi cael sgwrs gyda Mr. Aled Lloyd o’rParc Cenedlaethol ynglyn ar mater a bod ef yn mynd i drafod y mater gyda Mr. Johna gofyn iddo rhoi cynlluniau i mewn cyn gynted a phosib. Adroddodd y Clercymhellach ei bod wedi cael gwybod erbyn hyn bod y cynlluniau wedi cael eu rhoii mewn i’r Parc Cenedlaethol.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur
Adroddodd y Clerc ei bod hebglywed ddim ynglyn ar mater uchod ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.
710..........................................Cadeirydd
Agor TenderauTorri Gwair
Adroddodd y Clercei bod wedi derbyn 1 tender ynglyn a cario allan y gwaith uchod gan Mr. MeirionGriffith, Islwyn Talsarnau am £13.00 yr awr i dorri gwair y llwybrau cyhoeddus arfynwent gyhoeddus. Cytunwyd i dderbyn y tender hon. Hefyd cytunwyd i dderbynpris Mr. Gareth John Williams i dorri gwair cae chwarae Brenin Sior ar caepeldroed eto eleni sydd yn £58 am dorri y cae peldroed, £36 am dorri o amgylchy swings ag £84 i dorri gweddill y cae.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diwygio Amod Rhif 1 o Ganiatâd CynllunioNP5/61/134D dyddiedig 13 Mawrth 2012 i ymestyn y cyfnod dechrau gwaith am 5mlynedd ychwanegol - Morfa Newydd,Ffordd Glan Môr, Harlech (NP5/61/134F)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £43,915.29 yn y cyfrif rhedegola £31,095.86 yn y cyfrif cadw.
Taliadau ynystod y mis
Cyngor Gwynedd - £1,500.00- trydan i’r goleuadau nadolig
Mrs Annwen Hughes - £1,832.44 – cyflog a costau 6 mis
Mr. M. J. Kerr - £540.00 - agor bedd y diweddar Mr. RichardPowell Williams
Mr. Lee Warwick - £167.70– glanhau ac edrych ar ol y toiledau ger yneuadd goffa
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard a Griffiths - £1,665.00 – claddu y diweddar Mr.Richard Powell Williams
Cyllid a Thollad - £2,419.00 - ad-daliad T.A.W
Ceisiadau am gymorth ariannol
Cyfeillion Ysgol Tanycastell -£2,000
Cylch Meithrin Harlech - £2,000
Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000
Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000
CFFI Meirionnydd - £250
Ambiwlans Awyr Cymru - £500
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd– Adran Amgylchedd
Wedi derbynllythyr ynghyd a map gan yr uchod ynglyn a cyfyngiadau parcio Arfaethedig ag yngofyn a oes gan yr Aelodau unrhyw sylwadau i’w rhoi ar osod llinellau melyndwbwl gyferbyn a mynediad Pant Mawr.
Ms LeahJohn
Wedi derbyn e-bostgan yr uchod yn gofyn am ganiatad i osod sedd yn Penygraig er cof am ei Mham.Cytunwyd i roi caniatad iddi osod y sedd hon.
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddai y Cyngor yn cysidroplannu blodau gwyllt yn darn y WI ger cae chwarae Brenin Sior. Cytunwyd i hyngael ei wneud a gofyn i Mr. Patton fod yn gyfrifol am y cynllun.
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gofyn yn ffurfiol a fyddai yCyngor yn cytuno i rhyddhau y taliad cyntaf o’r cynllun precept mis Ebrilleleni yn lle mis Mai. Cytunwyd i hyn.
711.....................................Cadeirydd
UNRHYW FATERARALL
Cafwyd wybod bod cyfarfod i Ymgysylltu gyda’rGymuned yn cael ei gynnal gan Hamdden Harlech ac Ardudwy am 7.30 o’r gloch aryr 17eg o’r mis hwn.
Cafwyd wybod bod rhai yn holios oedd y ffos sydd yn rhedeg o Siop y Morfa tuag at y Golff wedi cael eiglanhau a cadarnhawyd bod hyn wedi cael ei wneud.
Cafwyd wybod gan y Cyng. MartinHughes bod cyfarfod o bwyllgor Ardal Meirionnydd o Un Llais Cymru yn cael eigynnal ar y 9ed o’r mis hwn.
Cafwyd wybod bod coeden wedidod i lawr ar draws y llwybr uchaf yn Llwybr Natur Bron y Graig.
Cytunwyd i ail gychwyn ycyfarfodydd yn yr Hen Lyfrgell o mis nesa ymlaen.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 712.