March 22, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YSTAFELL Y BAND, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.12.21
Annwen Hughes 06.12.21
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Sian Roberts, Tegid John, GordonHowie.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Is-Gadeirydd), Christopher Braithwaite,Martin Hughes, Ceri Griffiths, Rhian Corps, Thomas Mort, Emma Howie, Wendy Williams a’r Cyng.Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadair gan yrIs-Gadeirydd.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 1af 2021 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
MATERION YNCODI
Adroddwyd bod £68,844.24 wedi cael ei wario ers cychwyn yflwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,946.34 o wariant yn fwy na oedd wedicael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Nid oeddhyn yn reswm i bryderu am bod y sefyllfa ariannol yn iach iawn.
ArwyddionTy Canol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn y cynlluniau gan y Cyng. Christopher Braithwaite ag ei bod wedi cwblhauy cais cynllunio am yr arwyddion uchod ac wedi ei anfon i’r Parc Cenedlaethol.
Tir Pen y Graig
Adroddodd y Clerc bod ddim gwybodaeth pellachynglyn ar mater uchod.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Cais am ganiatâd materion a gadwyd yn ôl i godi tŷ(Marchnad Agored) - Morfa Newydd, Ffordd Glan Môr, Harlech (NP5/61/PIAW505B)
700………………………………..Cadeirydd
Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer - Rhiwlas, 4Bronwen Terrace, Harlech (NP5/61/L315A)
Cefnogi y cais hwn.
Trosi rhan o adeilad, oedd wedi ei ddefnyddio felbloc toiled, yn uned gwyliau i greu un uned gyda’r uned gwyliau wedi caelcaniatâd eisoes oddi fewn yr un adeilad. Newidiadau i’r cynllun ffenestri adrws - Woodlands CaravanPark, Harlech (NP5/61/43W)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £53,160.95 yn y cyfrifrhedegol, £31,095.08 yn y cyfrif cadw, £100.00 yng nghyfrif y Cadeirydd a £2.82 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
ParcCenedlaethol Eryri - £60.00 – cyflwyno cais cynllunio am arwyddionTy Canol
Mr. Lee Warwick - £255.88 – glanhau ac edrych ar ol y toiledauger y neuadd goffa
Play Inspection Company - £240.00 –archwiliad y ddau barc chwarae
Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £990.35 – ad-daliad am dorri gwair yllwybrau cyhoeddus.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Adroddoddy Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Gwyn Evans, Swyddog Llwybrau ynhysbysu y Cyngor bod y giat ar ben llwybr cyhoeddus rhif 28 wedi cael ei ailosod o’r diwedd ag yn diolch i’r Cyngor am ddod ar mater hwn i’w sylw.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Adroddoddy Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Bryn Hughes o’r adran uchod ynglyn aParc Bron y Graig ag yn hysbysu y Cyngor ei fod wedi cael sawl cyfarfod gydagwahanol Swyddogion er mwyn cael gwybod beth yw’r gwaith safonol y mae CyngorGwynedd yn ei gyllido ar gyfer y Parc hwn. Hefyd yn datgan bod y gwaith odacluso y llyn ac o’i gwmpas wedi ei raglennu i ddigwydd dwy waith y flwyddyn amae yn bwriadu cynnal cyfarfod gyda ni ar safle y Parc cyn cychwyn tymor ygwanwyn os yw y Cyngor yn cytuno i hyn. Cytunodd yr Aelodau i fynychu cyfarfodpan fydd y dyddiad wedi ei gytuno.
Parc Cenedlaethol Eryri
Adroddoddy Clerc ei bod wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn ac Ardaloedd Cadwraethsy’n addas ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain (Blwyddyn 1) ag yn hysbysu yCyngor eu bod yn cychwyn ar brosiect newydd i reoli 14 Ardal Gadwraeth Eryri abod Harlech yn un o rhain. Hefyd yn datgan bydd y prosiect hwn yn rhedeg rhwngHydref 2021 a Mawrth 2022 gyda’r nod o weithio gyda cymunedau lleol a grwpiau adiddordeb yr Ardaloedd Cadwraeth i ddatblygu Gwerthusiad a Chynlluniau Rheoli.
Mr. Graham Perch
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn llythyrgan Mr. Michael Griffiths yn cyflwno ei hun fel y Rheolwr newydd i’r safleuchod. Hefyd yn diolch i’r Cyngor am eucefnogaeth gyda’r cymorth ariannol sydd yn cael ei roi iddynt bob blwyddyn amae hyn wedi diogelu y pwll nofio i’r gymuned leol. Yn datgan ymhellach ei fodyn barod i ddod i un o gyfarfodydd y Cyngor gyda un o’r Cyfarwyddwyr i ddiweddaruyr Aelodau a chymryd unrhyw gwestiynau. Cytunwyd i wahodd Mr. Griffiths igyfarfod mis Chwefror o’r Cyngor.
701.........................................Cadeirydd
UNRHYW FATERARALL
Adroddodd y Clerc bod y Cyngor wedi bod yn llwyddianus gyda cais grant caechwarae Llyn y Felin o Gronfa Cae Chwarae Cyfalaf Cyngor Gwynedd ond yn anffodus ddim yn llwyddianus gyda chais grant cae chwaraeBrenin Sior V oherwydd nid oedd digon o arian ar ol yn y gronfa i ariannu yprosiect hwn ag hefyd oedd y Cyngor wedi derbyn grant o’r Gronfa hon i’r caechwarae hwn nol yn mis Rhagfyr 2020. Hefyd yn datgan bydd croeso i’r Cyngor ailgyflwyno’r cais pan fydd y Gronfa yn agored eto. Cytunodd y Cyng. ChristopherBraithwaite gysylltu gyda chwmni G. L. Jones ynglyn a gosod yr offer yng nghaechwarae Llyn y Felin ac fe arwyddwyd y Ffurflen Derbyn Grant gan y Cadeirydd arClerc.
Adroddodd y Clerc bod y Cyngor wedi bod yn llwyddianus gyda cais grantcae chwarae Brenin Sior V o Gronfa Grant Prosiectau Cymunedol Bychain y ParcCenedlaethol ag yn mynd i dderbyn £418.87 o grant unwaithfydd y gwaith wedi ei gario allan, ond bod Etta Trumper, SwyddogGwirfoddoli a Lles y Parc yn awgrymu dylai un bwrdd picnic fod yn addas igadair olwyn wedi ei leoli yn y cae chwarae.
Datganwydpryder bod gymaint o faw cwn ar hyd y palmant ger ysgol Tan y Castell.
Datganwydpryder bod y goleuadau ar hyd ochor y ffordd am y pwll nofio ddim yn gweithio.
Cafwydwybod gan y Cyng. Martin Hughes ei fod wedi cysylltu a Chyngor Gwynedd ynglyn arllwybr cyhoeddus uwch ben ystad Heol y Bryn a datganodd y Clerc bod y SwyddogLlwybrau wedi bod mewn cysylltiad a hi ynglyn ar mater hwn.
Cafwydwybod bod ymholiad wedi cael ei dderbyn yn gofyn a fyddai modd cael coeden i’wphlannu yn y llain gwyrdd ger cae chwarae Llyn y Felin.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 702.