March 22, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YSTAFELL Y BAND, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 01.11.21
Annwen Hughes 01.11.21
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Tegid John.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Edwina Evans (Is-Gadeirydd),Sian Roberts, Christopher Braithwaite, Martin Hughes, Ceri Griffiths, Rhian Corps,Gordon Howie, Thomas Mort, EmmaHowie, Wendy Williams.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 4ydd 2021 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
MATERION YNCODI
Adroddwydbod £49,566.88 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bodhyn yn £8,765.02 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllidebam y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod y swm o £10,000 i Gyngor Gwyneddfel partneriaeth i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored heb gael ei dalu.
Rhandiroedd
Adroddodd yClerc ei bod wedi rhoi y mater hwn ar yr agenda oherwydd ei bod wedi derbynsawl cwyn bod y safle yn mynd i edrych yn fler oherwydd diffyg ymddoriad gan rhaio’r tenantiad ddim yn edrych ar ol eu rhandir. Cytunwyd i ddechrau codi rhent eto o fisEbrill 2022.
Tir Pen y Graig
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bostgan Tina Jones ar ran Cath Hicks o Addysg Oedolion Cymru yn gofyn a fyddai ynbosib i rhywu ei chyfarfod ar y safle fel ei bod yn gallu gweld pa waith fyddangen ei wneud yna ac wedyn fyddai yn gallu trefnu rhywun i wneud y gwaith.Cytunodd y Cadeirydd gyfarfod Tina Jones ar y safle.
697.............................................Cadeirydd
Arwyddion Ty Canol
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
ADRODDIAD YTRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £81,530.91 yn y cyfrifrhedegol, £31,094.82 yn y cyfrif cadw, £100.00 yng nghyfrif y Cadeirydd a £2.82 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
Zoom - £143.88 – archebu rhaglen zoom am flwyddyn arall
Y Lleng Prydeinig £17.00 - torch pabi coch
Cyngor Gwynedd - £10,000.00- cyfraniad i gadwy toiledau cyhoeddus yn agored yn yr ardal
Mr. Meirion Griffiths - £1,725.00 –torri gwair y fynwent gyhoeddus
Mr. Meirion Griffiths - £1,945.00 – torri gwair y llwybrau cyhoeddus
Mr. G. J. Williams - £144.00 – torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar caepeldroed
Sovereign Play Ltd - £5,217.48 - deunyddiau trwsio offer chwarae Llyn y Felin(gweddill y taliad)
Mr. Meirion Griffiths - £25.00 – gosod polyn i ddal bin baw cwn ar llwybr yNant
Derbyniadau yn ystod y mis
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfoddiwethaf.
GOHEBIAETH
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu yCyngor eu bod yn sefydlu Fforwm Ceymunedol Safle Treftadaeth y Byd TirweddLlechi Gogledd Orllewin Cymru ag yn gwahodd un cynrychiolaeth o’r Cyngor adirprwy i fod yn rhan o’r Fforwm hwn a bydd y cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnalyn mis Ionawr 2022. Adroddodd y Clerc ei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i’rAelodau yn barod. Cytunodd y Cyng. Thomas Mort gynrychioli i Cyngor yn y Fforwmhwn a cytunodd y Cyng. Martin Hughes fod yn ddirprwy.
Mr. Graham Perch
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ar ran y Clwb Rygbi yn hysbysu y Cyngoreu bod wedi bod yn llwyddianus i gael grant gan Gronfa Eryri ar gyfer ailddatblygu y cae hyfforddi a bod disgwyl iddynt gwblhau y gwaith erbyn diwedd Mawrth 2022.Maen’t yn gobeithio gosod ffens o gwmpas y cae hyfforddi er mwyn sicrhau nafydd anifeiliad o unrhyw fath yn anflonyddu a difetha’r gwaith ag i’r perwylhyn yn gofyn a oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau ynglyn a hyn. Datganwyd bodgan y Cyngor ddim sylwadau i’w wneud ar y mater hyn heblaw eu bod yn bryderusoherwydd y moch daear sydd syth tu ol i T3 ar dir y golff y byddant yn dod idyllu y tir newydd a fyddai wedi cael ei drin.
UNRHYW FATERARALL
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod ef ar Cyng.Christopher Braithwaite wedi bod o amgylch y biniau halen a bod angen gwagio yrhalen presennol sydd wedi mynd yn galed a rhoid halen newydd yn bob un.
Cafwyd wybod bod y bin yn caechwarae Llyn y Felin heb gael ei gwagio a bod ysbwriel yn mhob man. Cytunwyd igysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn.
Cafwyd wybod gan y Cadeiryddbod Cyngor Gwynedd yn mynd i osod 3 blwch trydan ychwanegol a un ger ystad TyCanol a gosod goleuadau ar gost o £1,020. Cytunodd pawb i’r taliad unwaith agam byth hyn i gael ei wneud pan yn briodol.
698.............................................Cadeirydd
Cafwyd wybod bod cais wedi eidderbyn yn gofyn am oleuadau ar y cae peldroed ond datganwyd bod y Clwb Rygbiwedi gosod goleuadau ar y cae hyfforddi a bod yn bosib defnyddio y safle hyn.Hefyd cytunwyd i beidio a gosod goleuadau ar y cae peldroed am bod na ddim timpeldroed yn yr ardal ar hyn o bryd.
Datganwyd pryder bod gyrrwrgyda carafan wedi dod lawr Twtil oherwydd bod ddim arwydd ar ben y ffordd ynganol y dref yn datgan bod y ffordd yn anaddas.
Cafwyd wybod gan y Cyng. SianRoberts a Christopher Braithwaite eu bod yn cynnal cyfarfod dydd Iau y 4ydd o’rmis hwn gyda Gwen Evans er mwyn trafod Ardal Ni 2035 ag yn gofyn a oedd ganrhywun unrhyw sylwadau ynglyn ar mater hwn.
Cafwyd wybod bod giat mochyn syddrhwng Pant Mawr a lle Madley Evans angen sylw a dywedodd y Cyng. Martin Hughesei fod yn mynd i gysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn.
Cafwyd wybod gan y Cyng. MartinHughes ei fod wedi cyfarfod a Mr. Tony Stringfellow ynglyn ar theatr.
Cafwyd wybod gan y Cyng. MartinHughes ei fod wedi mynychu cyfarfod blynyddol yr Hen Lyfrgell ag eu bod yn diolcham y cyfarniad a gafwyd gan y Cyngor.
Bu trafodaeth ynglyn a datblygucwrs beicio yng nghae chwarae Brenin Sior a cytunodd y Cadeirydd gael gair hefoTracy Dawson ynglyn a hyn.
Adroddodd y Cyng. Edwina Evansei bod wedi mynychu cyfarfod Bwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy ar ran y Cyngor afe gafwyd adroddiad manwl ganddi o beth oedd wedi cael ei drafod.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 699.