September 20, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 09.05.22
LLOFNODI DATGANIAD DERBYNSWYDD
Rhanodd y Clerc yr uchod i bob Aeloda oedd yn bresennol er mwyn iddynt eu harwyddo cyn dechrau cyfarfod cyffredinoly Cyngor. Hefyd fe gwblhaodd yr Aelodau eu ffurflen “Cofrestr Buddiant Personol”.
Ar ran y Cyngor croesawodd y Cadeiryddy Cyng. Mark Armstrong i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor a dymunwyd y gorau iddo.
YMDDIHEURIADAU
Dim.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Edwina Evans (Is-Gadeirydd),Ceri Griffiths, RhianCorps, Christopher Braithwaite, EmmaHowie, Mark Armstrong, Martin Hughes, Tegid John, ThomasMort, Gordon Howie, WendyWilliams a’r Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 4ydd 2022 fel rhaicywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Cafwyd wybod gan y ddau Gynghorydd eu bod wedi cael euethol yn ddiwrthwynebiad a bod y Wardiau wedi newid ag eu bod yn cynrychioli WardLlanbedr hyd at Ward Talsarnau ar Gyngor Gwynedd ag eu bod yn cychwyn ynswyddogol ar hyn ar ol hanner nos heno. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod,oherwydd salwch ddim wedi gallu bod o amgylch y Ward yn ddiweddar ond ei fodwedi bod yn delio gyda problemau drwy e-byst ar ffon a bod mwyafrif o’rproblemau hyn i wneud hefo budd-daliadau. Cafwyd wybod bod cynllun grant iwresogi ty ar gael ond bod dipyn o ganllawiau i’w dilyn. Adroddodd ei fod wedicael cais i gwtogi yr amser aros o dan yr Eglwys i 30 munud ag eisiau gwybod barny Cyngor ynglyn a hyn a cytunwyd, ar ol trafodaeth i ofyn i’r amser gael eigwtogi o ddwy awr i un awr er mwyn cydfynd hefo amser aros yn gweddill y dref.Cafwyd wybod bod y ddau Gynghorydd wedi cyfarfod a PCSO Paula Stewart er mwyncael gwybod sut i ddefnyddio teclyn yn dangos cyflymder gyrrwyr ag eisiaugwybod a oedd gan yr Aelodau ddiddordeb i gymeryd rhan yn y cynllun hwn. Ar oltrafodaeth cytunwyd y byddai yn well gofyn am fwy o Heddlu Traffic i ymweld aHarlech a cytunwyd anfon at Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Gweithredol yr Heddluynglyn a hyn.
MATERION YNCODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2022/23:-
Cadeirydd:- Cyng. Edwina Evans
Is-Gadeirydd:- Cyng. ChristopherBraithwaite
Aelodau Is-Bwyllgorau – Fynwent– casglu unrhyw 6 Cynghorydd ynghyd
Cynllunio – casglu unrhyw 6 Cynghorydd ynghyd
Llwybrau - Cyng. Thomas Mort a unrhyw 5 Gynghorydd arall
Neuadd Goffa – Cyng. Edwina Evans a CeriGriffiths
Cae Chwarae – Cyng. Emma Howie a unrhyw 5Gynghorydd arall
Hen Lyfrgell – Cyng. Thomas Mort, Edwina Evansa Martin Hughes
Un Llais Cymru – Cyng. Thomas Mort a MartinHughes
Seddi Cyhoeddus – Cyng. Thomas Mort a RhianCorps.
716........................................................Cadeirydd
Rhandiroedd – Cyng. Huw Jones a Tegid John
Llwybr Natur Bron y Graig – Cyng. Huw Jones,Thomas Mort a Martin Hughes
Hamdden Harlech ac Ardudwy – Cyng. EdwinaEvans a Gordon Howie
Llywodraethwyr Ysgol Tan y Castell – Cyng. MarkArmstrong
Wrth ymadael arGadair diolchodd y cyn-Gadeirydd i’w gyd Gynghorwyr am eu cymorth yn ystod yddwy flynedd diwethaf ag am y fraint o gael bod yn Gadeirydd yn Cyngor. Hefyddiolchodd i’r Clerc am ei holl waith a dymunodd yn dda i’r Cadeirydd newydd.Wrth gymeryd y Gadair diolchodd y Cadeirydd i’r cyn Gadeirydd am ei waithdiflino i’r Cyngor ar hyd y ddwy flynedd diwethaf ag hefyd diolchodd i’w chydGynghorwyr am y fraint o gael ei ethol yn Gadeirydd.
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £12,204.57 (a oedd yn cynnwys costau banc)wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,392.57o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf am bod y Cyngor wedi talu allantaliad precept HAL yn mis Ebrill a nid yn mis Mai fel arfer.
Arwyddion TyCanol
Adroddodd y Clercbod ddim byd pellach i’w adrodd ynglyn ar mater uchod.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur
Tir Pen yGraig
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn ateb gan Cath Hicks arran Addysg Oedolion Cymru yn datgan eu bod yn barod i dalu'r ffioedd cyfreithiolychwanegol sy'n fwy na cyfraniad y Cyngor o £2,000 ag ei bod yn cyfarwyddo eu cynghorwyrcyfreithiol i ddatblygu'r mater hwn yn unol â hynny.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Lleoli4 pod glampio o fewn yr ardd gwrw gefn a defnydd o’r cyn adeilad selar/storfa iddarparu cyfleusterau toiled/cawod - Lion Hotel,Harlech (NP5/61/L80G)
Creu agoriad newydd gydadrysau dwbl i’r wal dalcen De. Gwaith allanol arfaethedig i ymestyn uchder yparapet yng nghlwm a balwstrad gwydr ‘modern’ o amgylch to’r storfa lefel llawrcyntaf, i ffurfio teras uwchben storfa gyda drws patio 1.5m x 2.0m oddi ar y talcenDe. Gwaith trwsio blaen siop ar ddrysau, tynnu caeadau allanol ai
717……………………………………………….Cadeirydd
gosod oddi fewn. Tynnucaeadau ffenestri sydd ar lefel y llawr cyntaf drychiad Gorllewinol ac ail agoragoriadau ffenestri llawr daear, gosod ffenestri codi fertigol traddodiadolcyffelyb a ffenestri gwreiddiol. Gosod 2 flwch adar y to union dan y bondo. Ffurfioffenestr gromen to llithrig ar y to ochr Gorllewinol yn ogystal â 2 ffenestr tomath cadwraeth nail ochr y to Gorllewinol a Dwyreiniol (Cyfanswm o 4)- Siop Spar, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/LB280A a 280B)
Adroddoddy Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Aled Lloyd, Parc Cenedlaethol Eryriyn hysbysu y Cyngor bod y simdde nawr ddim yn cael ei thynnu I lawr ag yn gofyna oedd yr Aelodau yn dal I wrthwynebu y cais hwn. Adroddodd y Clerc ymhellachei bod wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen I bob Aelod a bod y mwyafrif wedi ymatebyn datgan eu bod yn nawr yn cefnogi y cynllun ond eu bod yn dal eisiau gweld amod106 yn cael ei roi ar y fflat ag yr oedd wedi hysbysu Mr. Lloyd o’r penderfyniadhwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £71,081.63 yn y cyfrif rhedegola £31,097.35 yn y cyfrif cadw.
Taliadau ynystod y mis
Cyngor Gwynedd - £833.66 – gwagio biniau y caeau chwarae am y flwyddyn
Defib Store - £1,485.84- diffibriliwr newydd ger yr Hen Lyfrgell
BHIB Insurance Ltd - £1,713.93 – insiwrant y Cyngor
Mr. Lee Warwick - £215.95 – glanhau ac edrych ar ol y toiledau ger yneuadd goffa
Cyngor Gwynedd - £53.50 - treth cwrt tennis
Mr. G. J.Williams - £144.00 - torri gwair y cae peldroed acae chwarae Brenin Sior
Mr. M. J. Kerr - £450.00 - agor bedd y diweddar Mr. Howell Eric Jones
Derbyniadau yn ystod y mis
Ms Olwen Richards -£50.00 – rhent rhandir rhif 2
Ms PaulaIreland - £30.00– rhent rhandir rhif 7
Mr. Gareth Jones - £40.00 – rhent rhandir rhif 15
Cyngor Gwynedd -£35,000.00 - hanner y precept
ParcCenedlaethol Eryri - £418.87 – grant offer i gae chwarae Brenin Sior
Mr.Lee Warwcik - £60.00 – rhent rhandir rhif 13 a 14
Mrs Stephanie Evans - £40.00– rhent rhandir rhif 5 a 10
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd –Adran Priffyrdd
Wedi cael ateb gan ySwyddog Llwybrau ynglyn a gosod canllaw ar llwybr cyhoeddus rhif 4 sydd yn myndi lawr o Pencerrig at Tegfan ag yn datgan ei fod wedi archwilio’r llwybr dansylw ag er yn cytuno byddai canllaw ger y llwybr yn fendithiol yn anffodus nidoes cyllid ar gael ar hyn o bryd ar gyfer gwelliannau o’r math yma. Hefyd yndatgan nid ydynt yn gallu awdurdodi giat newydd ar waelod y llwybr hwn oherwyddbod awdurdodi giatiau a chamfeydd newydd yn gyfyngedig iawn dan adran 147 o’r DdeddfPriffyrdd 1980 a mae’r hawl wedi ei gyfyngu i dir sy’n cael ei ddefnyddio argyfer amaethyddiaeth yn unig.
Ms Fiona Porter
Wedi derbyn e-bost ganyr uchod yn gofyn a fyddai yn bosib gosod plac ar un o’r meinciau ger yr Eglwyser cof am ei Thad. Cytunwyd i roi caniatad i’r plac yma gael ei osod.
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn a fyddaimodd tocio coed sydd yn gor-dyfu o llwybr natur Bron y Graig drosodd i’w garddac adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi ymweld ar safle. Cytunodd y Cyng.Huw Jones ddelio gyda’r mater hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Cytunwyd i anfon gair o ddiolch at Ms Sian Robertsam ei gwaith diflino fel Aelod o’r Cyngor dros y blynyddoedd diwethaf.
718……………………………………………….Cadeirydd
Bu trafodaeth ynglyn a gosodarwyddion 20 m.y.a ar y ffordd i lawr am Ysgol Tan y Castell a cytunodd y Clercgysylltu gyda Mrs Shirley Williams ynglyn a hyn.
Datganwyd bod pryderon wedi euderbyn bod y toiledau ger y Queens yn cael eu cau yn gynnar a cytunwyd gofyn afyddai modd eu cau yn hwyrach yn enwedig nawr bod hi yn dymor yr ymwelwyr.
Datganwyd siom bod enw Gwesty’rLion wedi cael ei newid i “Harlech House”.
Cafwyd wybod bod angen teclynaui ddal papur toiled yn nholedau ger y Castell a cytunodd y Cyng. ChristopherBraithwaite ddelio gyda’r mater hwn.
Cafwyd wybod gan y Cyng. HuwJones ei fod wedi cael gwybod bod wal i lawr ar y Llwybr Natur ag ei fod wedigofyn i Mr. Meirion Evans ei drwsio fel mater o frys oherwydd ei fod wrth ymylty preifat.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 719.