May 9, 2023
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 07.11.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Mark Armstrong, Ceri Griffiths, Wendy Williams, Gordon Howie.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Huw Jones, Tegid John, Emma Howie, Rhian Corps, Martin Hughes, Thomas Mort, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Hydref 3ydd 2022 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddaint ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod hithau hefyd wedi cysylltu gyda’r Post Brenhinol ynglyn a symud y blwch post o’r stryd fawr. Fe gafwyd cyfarfod gyda Swyddog o’r Post Brenhinol a CADW ar yr 21ain o fis diwethaf ag fe gytunwyd bod y blwch yn cael ei ail osod ger y Castell. Mae y blwch nawr gyferbyn ar cyn neuadd yr eglwys ers y 26ain o fis diwethaf. ‘Roedd hefyd wedi bod yn cael sgwrs gyda Mr. Clive Jones o CADW ynglyn ar meinciau sydd ar hyd ochor y wal o flaen y castell ag ‘roeddynt wedi cytuno i’w adnewyddu ar y cyd. ‘Roedd wedi mynychu Fforwm Pobl Hyn Meirionnydd ar y 24ain o fis diwethaf gyda Cadeirydd y Cyngor hwn ag yr oedd yn gyfarfod buddiol dros ben. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod yn derbyn y cwynion arferol drwy e-bost a ffon ag hefyd fe restrodd y cyfarfodydd gwahanol oedd wedi ei fynychu ynghyd a dyddiadau y cyfarfodydd hyn. Cafwyd wybod bydd Cyngor Gwynedd yn gwynebu diffyg ariannol o £10 miliwn ag fydd y sefyllfa yn waeth yn ystod y flwyddyn ariannol 2023/24.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £38,443.95 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £27,903.81 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Arwyddion Ty Canol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Iwan Ap Trefor o Gyngor Gwynedd ynglyn ar arwyddion uchod ag ei bod wedi derbyn ateb yn datgan bod yr arwyddion hyn wedi eu archebu ond, yn anffodus nid ydynt wedi cyrraedd y gweithlu yn Nolgellau. Unwaith bydd yr arwyddion hyn gan yr Adran Priffyrdd bydd yn sicrhau bod gosod yr arwyddion yn cael eu blaenoriaethu.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite ei fod wedi cysylltu a chwmni MacVenture, Llangefni a fe ddangosodd luniau o wahanol offer a fyddai yn addas i’r parc chwarae gyda’r arian grant o Grwp Beicio Harlech ac Ardudwy. Ar ol trafodaeth cytunwyd i archebu hyfforddwr seiclo a recumbent seiclo. Cytunwyd i dynnu cynllun allan o’r ardal chwarae er mwyn cael gweld lle fyddai bob offer yn mynd. Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod yr hysbysfwrdd newydd wedi cyrraedd Garej Morfa a cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Evans ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa a cytunodd y Cyng. Tegid John a Christopher Braithwaite fod yng nghofal hyn.
Cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL – dyddiad i’w benodi
Adroddodd y Clerc ei bod wedi rhoi yr item uchod ar yr agenda oherwydd bod amser i gynnal cyfarfod cyhoeddus i weld a yw y Cyngor yn mynd i barhau gyda’r gytundeb precept gyda HAL am bod y gytundeb 5 mlynedd presennol wedi dod i ben. Cytunwyd i gynnal y cyfarfod cyhoeddus yn y neuadd goffa a dyddiad i’w bennu yn y flwyddyn newydd.
733.........................................Cadeirydd
CEISIADAU CYNLLUNIO
Amrywio Amodau Rhif 3 & 4 ynghlwm i Rybudd Caniatâd Cynllunio NP5/61/T2E dyddiedig 16/06/2008 i ymestyn y man eistedd y tu allan i’r cwrt cyfan a newid oriau agor y cwrt i 0930 i 2200 - Llew Glas, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/T2H)
Cefnogi y cais hwn.
Dymchwel yr ystafell haul ac adeiladu estyniad unllawr gyda to gwastad ar yr ochr - Buckland (hefyd yn cael ei adnabod fel Ymyl y Niwl), Ffordd Uchaf, Harlech (NP5/61/548A)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £102,556.53 yn y cyfrif rhedegol a £31,115.55 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £10,000.00 - cyfraniad i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored
Greenbarnes - £2,632.10 - hysbysfwrdd newydd ger Siop y Morfa
Mr. G. J. Williams - £144.00 - torri gwair y cae peldroed a cae chwarae Brenin Sior
Mr. Meirion Griffith - £1,925.00 - torri gwair y fynwent gyhoeddus
Mr. Meirion Griffith - £2,035.00 - torri gwair y llwybrau cyhoeddus
Y Lleng Prydeinig - £20.00 - torchen pabi coch
Derbyniadau yn ystod y mis
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf
GOHEBIAETH
Mr. David Young - Snowdonia Aerospace
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn awgrymu y byddai yn syniad da i gynnal cyfarfod gyda’r Cynghorau Cymuned yr ardal er mwyn cael rhoid cyflwyniad byr o beth sydd yn mynd ymlaen yn y maes awyr yn Llanbedr. Adroddodd y Clerc ei bod wedi awgrymu wrtho byddai cynnal cyfarfod yn y maes awyr ddechrau’r flwyddyn nesa yn fuddiol.
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a newid yr amser aros cyfyngedig 2 awr lawr i 1 awr ar ochor y ffordd gyferbyn ar cyn Gapel Tabernacl ag yn datgan os oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau i hyn iddynt gysylltu a hwy ag os na fyddant wedi derbyn unrhyw sylwadau o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y llythyr hwn, cymerir yn ganiataol bod dim gwrthwynebiad.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar ardal yn ystod y mis hwn.
Mr. Geraint Williams
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a Ffair Mop Fictorianaidd Harlech ag yn datgan bod y cyllid i gynnal y Ffair hon wedi dod i ben ag yn gofyn a fyddai yn bosib i’r Cyngor Cymuned gyllido y Ffair. Cytunodd yr Aelodau i hyn gael ei wneud a datganwyd bod hyn wedi cael ei drafod yn barod gyda Mr. Williams pan ddaeth i gyfarfod ar Cyngor yn mis Medi.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Martin Hughes am y cyfarfod Trefi Taclus Greddfol oedd wedi ei fynychu yn ddiweddar ag hefyd cafwyd wybod bod Cadeirydd y Cyngor wedi mynychu y cyfarfod hwn hefyd.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Martin Hughes y bydd yn mynychu cyfarfod Pwyllgor Ardal Meirionnydd o Un Llais Cymru ar y 9ed o’r mis hwn.
734.........................................Cadeirydd
Adroddodd y Cyng. Martin Hughes bod ganddo sylwadau i’w gwneud ynglyn ar adroddiad oedd yr Aelodau wedi ei dderbyn gan Hamdden Harlech ac Ardudwy a datganwyd wrtho i gysylltu hefo Rheolwr y safle yn uniongyrchol.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 735