September 20, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 06.06.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Gordon Howie a’r Cyng.Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd),Huw Jones, Ceri Griffiths, Rhian Corps, Emma Howie,Mark Armstrong, Martin Hughes, Tegid John, Thomas Mort, Wendy Williams a’r Cyng. Annwen Hughes (CyngorGwynedd).
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mai 9ed 2022 fel rhaicywir.
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Wendy Williams fuddiant yng nghaiscynllunio tir i gefn Nant-y-Mynydd, Hwylfa'r Nant, Harlech ac fearwyddwyd ffurflen Datgan Buddiant Personnol ganddi ag nid oedd yn bresennolpan drafodwyd y cais.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag AnnwenHughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wediholi yn ystod pwyllgor cynllunio diwethaf y Parc Cenedlaethol ynglyn a caiscynllunio y cyn Gapel Tabernacl ag ei bod wedi derbyn ateb ei fod yn debygolfydd y cais yn cael ei ystyried yn y pwyllgor cynllunio nesaf ar y 29ain o’r mis hwn. Hefyd ‘roedd wedi holiynglyn a chais cynllunio Merthyr Isaf yn yr un cyfarfod ag ei bod wedi derbynateb bod yr ymgeisydd yn asesu hyfywedd y bwriad ar angen i ddarparu taifforddiadwy. Hefyd dywedodd y Cyng. Hughes ei bod wediderbyn cwynion am gor-yrru lawr ffordd y traeth a'i bod hefyd yn siomedig iawno weld bod un o'r meinciau ym mharc chwarae Brenin Sior V wedi ei ddifrodi, ondbydd y mater hwn yn cael ei drafod yn helaeth yn ddiweddarach yn y cyfarfod. Hefydadroddodd ei bod wedi derbyn yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen – Eifod wedi derbyn cwynion am gyflwr y cysgodfannaubws yn gwaelod Harlech a wedi cwyno i Gyngor Gwynedd a wedi cael ateb yn datganmae cyfrifoldeb y Cyngor Cymuned yw y cysgodfannau hyn ag eu bod ar hyn o bryd ynrhoi llochesi newydd ar drywydd llwybrau y Sherpa a Trawscymru ar hyn o bryd arol derbyn arian gan Llywodraeth Cymru ag o ganlyniad i hyn mae rhai llochesi argael i’w ailgylchu ag yn cynnig cadw y safleoedd hyn mewn cof os fyddai rhai argael. Yn marn y Cyng. Owen mae y cysgodfannau rhain yn creu argraff ddrwg iawni Harlech. Mae wedi cael rhai enwau gwirfoddolwyr sydd eisiau cymeryd rhan yn ycynllun "Speed Watch" a bydd yn pasio rhain ymlaen i'r Heddlu. ‘Roeddwedi derbyn cwynion ynglyn a waliau cerrig yn disgyn i'r ffordd ar ffordd topHarlech a bod Cyngor Gwynedd yn dweud mai cyfrfioldeb y tir feddianwr yw euhatgyweirio. ‘Roedd wedi cael cyfarfod ar y cyd gyda Hamdden ac Ardudwy a Byw'nIach ond heblaw agwedd bositif tuag at gydweithio dim byd gwell ganddo i'w adrodd.‘Roedd wedi mynychu y digwyddiad Roc yn y Castell.Digwyddiad o bwisigrwydd mawr i Harlech a dylid llongyfarch y trefnwyr yn enwedgJim a Sheila Lees am drefnu digwyddiad mor anhygoel.
MATERION YNCODI
Adroddwyd bod £17,113.45(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £15,478.93 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodiyn y gyllideb am y flwyddyn.
Arwyddion TyCanol
Adroddodd y Clercbod y cais cynllunio ynglyn ar uchod wedi cael ei gofrestru gan y ParcCenedlaethol ar y 10ed o fis diwethaf ond nid oedd penderfyniad wedi cael eiwneud ar y cais hyd yma.
720........................................Cadeirydd
Cae Chwarae Brenin Sior V
Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur
CEISIADAU CYNLLUNIO
Caniatâd Hysbysebion i arddangos 2 arwydd diogelwchffyrdd - Myndefa i Stad Ty Canol, Harlech (NP5/61/AD651)
‘Roedd yn rhaid i’r Cyngor fel Corff ddatgan buddiantpersonol yn y cais uchod oherwydd mae nhw oedd wedi rhoi y cais i fewn ag fellyni fu trafodaeth ar y cais ag arwyddwyd ffurflen DatganBuddiant Personnol gan y Cadeirydd ar ran y Cyngor.
Adeiladu tŷ fforddiadwy deulawr ar wahân - Tir i gefn Nant-y-Mynydd, Hwylfa'r Nant, Harlech (NP5/61/580L)
Cefnogi y cais hwn cyn belled a mae amod 106 yn cael eiroi ar y cais.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £66,771.62 yn y cyfrif rhedegola £31,098.63 yn y cyfrif cadw.
Taliadau ynystod y mis
Mr. G. J. Williams - £180.00 - torri gwair y cae peldroed a cae chwarae Brenin Sior
Mr. T.Edwards - £280.00 - tynnu canghenau peryg arLlwybr Natur Bron y Graig
Mrs Yvonne Jones - £112.70– glanhau ac edrych ar ol y toiledau ger y neuaddgoffa
Mr.Meirion Evans - £144.00 - codi wal ar llwybr natur Bron y Graig
Mr. Chris Braithwaite - £338.87- teclynau dal papur toiled
Jane Emmerson - £162.25 - planhigion a mulch i’r ardd ger cae chwaraeLlyn y Felin
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. Mark Brooks - £80.00– rhent rhandirrhif 11 a 12
Ms Melissa Morgan - £80.00 – rhent rhandir rhif 17 a 18
GOHEBIAETH
Jane Emmerson
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn amlinellu y gwaithsydd wedi cael ei gario allan ganddi yn y darn tir ger cae chwarae Llyn y Felinag yn datgan ei bod wedi tynnu y pilen a wedi dechrau palu y pridd oddi tano.Mae y sglodion coed wedi cael eu casglu (gwydr a poteli wedi torri oedd ymwyafrif) a’i bagio a wedi mynd i’r skip. Mae hi hefyd wedi dechrau plannuplanhigion a ddangosodd pan ddaeth i gyfarfod y Cyngor yn ddiweddar a mae hi yngobeithio erbyn wythnos nesaf bydd rhan fwyaf o’r gwaith wedi cael ei wneud. I’rperwyl hyn hyd yma mae hi wedi gwario £117.30 ar blanhigion a £44.95 ar mulch.Nid yw gweddill y tir wedi ei ddechrau eto a mae hi yn bwriadu gweithio ar hwnyn yr hydref. Cytunwyd i dalu yr hyn mae hi wedi ei wario hyd yma sef £162.25iddi.
721........................................Cadeirydd
UNRHYW FATER ARALL
Adroddodd y Cyng. Emma Howie bod yn bosibcael grant “comic relief” i fyny hyd at £50,000 er mwyn gwneud gwelliannau yngnghae chwarae Brenin Sior a bod hi ar Cyng. Rhian Corps a ChristopherBraithwaite wedi bod yn trfod y mater hwn. Cytunwyd bod y tri yn trafod ag yncael cynllun wedi ei wneud o’r hyn byddai yn addas yn y cae chwarae i blant agoedolion.
Cafwyd wybod bod coeden berygyn tyfu i’r ffordd o 48 Cae Gwastad a cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’rperchennog ynglyn a hyn.
Gofynodd y Cyng. Thomas Mort afyddai yn iawn iddo dorri yr eithin sydd yn gordyfu ar ochor y ffordd am y pwllnofio a cytunwyd i hyn.
Datganodd y Cyng. Huw Jonesbryder yn nghyflwr peth o’r offer yn y toiledau ger y Neuadd Goffa sydd danberchnogaeth y Cyngor Cymuned erbyn hyn ag yn datgan bod angen dau wryddolnewydd yn toiledau y dynion am bod y rhai presennol wedi rhydu a cytunwyd iarchebu rhain a’i gosod yn y toiled diwedd tymor yr haf. Hefyd cytunwyd bodangen cau y toiledau am gyfnod diwedd y flwyddyn er mwyn cario gwaith uwchraddioarno. Bu trafodaeth bod angen cael glanhawr wrth gefn i edrych ar ol y toiledauhyn pan mae y glanhawr arferol yn cymryd gwyliau neu ddim yn dda a datganodd yCyng. Huw Jones bod Mrs Yvonne Jones yn barod i gario allan y gwaith hwn acytunwyd pawb i hyn.
Datganwyd pryder bod y pwllnofio byth wedi ail agor.
Datganwyd pryder bod y tir gerSiop y Morfa ar hysbysfwrdd yn edrych yn fler.
Adroddodd y Clerc bod y diffibriliwryn mynd i gael ei osod ar wal yr Hen Lyfrgell dydd Mawrth y 14eg o’r mis hwn a cytunwydiddo gael ei osod ar dalcen y wal wrth ddod i fyny y ramp.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 722.