May 9, 2023

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 05.12.22

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 05.12.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Thomas Mort, Emma Howie, Tegid John.


PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Huw Jones, Gordon Howie, Rhian Corps, Mark Armstrong, Ceri Griffiths, Wendy Williams, Martin Hughes, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd). 


Croesawodd y Cadeirydd Gwyndaf Williams o Grwp Cynefin, Tony Hughes o Williams Homes Bala a Jamie Bradshaw o gwmni Owen Development i’r cyfarfod i drafod y cynllun arfaethedig i adeiladu 21 o dai ar dir gyferbyn ag ystad Penyrhwylfa. Cafwyd wybod bod Grwp Cynefin wedi bod yn chwiio am safle addas yn Harlech ers peth amser a Williams Homes Bala fydd yn gyfrifol o adeiladu y tai. Dangoswyd y cynlluniau arfaethedig i’r Aelodau a datganodd amryw o’r Aelodau os bydd y cais hwn yn cael ei ganiatau bod y tai hyn yn cael eu cynnig i fobl lleol. Darllenwyd llythyr oedd un o’r Aelodau wedi ei dderbyn gan rhai o drigolion ystad Ty Canol yn datgan pryder ynglyn ar sustem garffoshiaeth os byddai y tai hyn yn cael eu adeiladu. Cytunwyd bod Grwp Cynefin yn gofyn i Tai Teg a Chyngor Gwynedd ddod draw i gyfarfod y Cyngor i drafod y gofrestr dai gyda’r Aelodau. Diolchwyd i’r tri am ddod i’r cyfarfod.


COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Tachwedd 7ed 2022 fel rhai cywir.


DATGAN BUDDIANT

Datganodd y Cyng. Wendy Williams ddiddordeb yng nghais cynllunio Tir i gefn Nant-y-Mynydd, Hwylfa'r Nant, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personol ganddi ag nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybod gan Mr. Bryn Hughes o gyngor Gwynedd eu bod wedi clustnodi gwaith i glirio'r llyn ym Mharc Bron Y Graig yn ogystal a chynnal archwiliad o'r coed gyda arbenigwr yn y maes yma. Yn dilyn yr e-bost oedd y Cyng. Christopher Braithwaite wedi ei anfon at yr Adran Briffyrdd ‘roedd hi hefyd wedi cysylltu ag Mr. Adrian Williams, Peiriannydd Ardal Meirionnydd ynglyn a gwaith sydd angen ei wneud ar y dreiniau yn ystad Ty Canol ag eu bod wedi cysylltu hefo Dwr Cymru er mwyn cael gwybodaeth ganddynt o’r rhwystr sydd yn bodoli yna ag hefyd yn datgan eu bod wedi trefnu cyfarfod gyda Dwr Cymru i drafod ardaloedd sydd gyda problemau yn gyffredinol. Yn dilyn yr ymgynghoriad gyda newid yr amser aros ar ochor y ffordd gyferbyn ar Hen Lyfrgell o 2 awr i 1 awr ‘roedd wedi cysylltu ar Swyddog perthnasol yn Gaernarfon yn gofyn beth oedd y canlyniad ag ‘roedd wedi cael gwybod bod eu bod wedi derbyn nifer o wrthwynebiadau i’r cynnig hyn ar cam nesaf byddai i’r Uned Draffig drafod yr holl leoliadau o fewn y Gorchymyn hwn a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Mae’n siwr am bod amryw o wrthwynebiadau wedi cael eu derbyn ni fyddant yn mynd ar cynnig  hwn ymlaen, ond unwaith bydd yr Uned Draffig wedi cynnal cyfarfod bydd yn cysylltu yn nol. Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar y 1af o’r mis hwn pasiwyd i godi premiwm y dreth ar ail gartrefi o 100% i 150% ond bydd premiwm y dreth ar gartrefi gwag yn aros ar 100%, bydd yr arian ychwanegol o hyn yn cael ei wario i leihau digartrefedd yn y Sir.

Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu gwasanaeth Sul y Cofio ar noson goleuo y dref ag hefyd ei fod wedi cael cyfarfod gyda datblygwyr y tai arfaethedig ar y tir gyferbyn ag ystad Penyrhwylfa. Ei fod wedi cael cyfarfod gyda rhai o’r Uned Morwrol i drafod gwella mynedfa i’r anabl nid yn unig yn Harlech ond ar y traethau yn gyffredinol ag eu bod wedi gofyn a fyddai yn bosib gosod diffibriliwr ar y polyn coch ar y traeth a’i symud at y toiledau yn y gaeaf, ond datganwyd nid oedd hyn yn bosib oherwydd bod angen trydan. ‘Roedd wedi cael cyfarfod a Swyddog o Network Rail i drafod y gatiau dros y rheilffordd ag ei fod wedi cael gwybod bod y cliciad wedi cael eu tynnu o safbwynt diogelwch.




736.............................................Cadeirydd




MATERION YN CODI  

Cynllun Cyllideb

View Files