May 9, 2023
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 05.09.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Mark Armstrong, Tegid John, Gordon Howie.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Huw Jones, Emma Howie, Ceri Griffiths,
Rhian Corps, Martin Hughes, Thomas Mort, Wendy Williams a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Croesawodd y Cadeirydd Mr. Geraint Williams i’r cyfarfod i drafod goleuadau nadolig. Cafwyd wybod ganddo ei fod wedi archebu y coed nadolig yn barod a bod dau o’r goleuadau wedi cael eu difrodi yn y storm mis Mawrth diwethaf ag felly bydd angen archebu mwy o oleuadau. Eisiau gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai’n bosib i gau allan peth o faes parcio Bron y Graig Isaf ar y 26ain o Dachwedd pan fydd gorymdaith y noson nadolig yn digwydd yn y dref. Trafodwyd y Ffair Mop sydd yn digwydd diwedd Gorffennaf bob blwyddyn a cafwyd wybod bod yr un diwethaf wedi bod yn lwyddiant. Cytunwyd i gyfranu £1,500 i Mr. Williams eleni er mwyn iddo archebu mwy o oleuadau nadolig.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf 4ydd 2022 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddaint ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ar ol trafodaethau gyda Bryn Hughes o Gyngor Gwynedd bod y toiledau ger y Queens yn cael eu gadael yn agored yn hwyrach na 6.00 o’r gloch a bod hyn yn help mawr gyda gymaint o ymwelwyr o gwmpas. Hefyd bod Phil Caldwell o Network Rail wedi bod mewn cysylltiad a hi gyda pryderon mawr bod dwy ddamwain bron a digwydd ar y rheilffordd ger gwaelod llwybr cyhoeddus zig-zag ar y 9ed ar 31ain o fis Gorffennaf gyda person yn croesi gyda ci a tren yn dod a mi gafodd y mater hwn dipyn o hysbysrwydd yn y papurau ag ar y cyfrynghau cyhoeddus. Mewn cyfarfod diweddar gyda Adrain Williams a Dafydd Jones o’r Adran Priffyrdd ‘roedd wedi datgan pryder bod ddim rhwystr ar hyd ochor y ffordd ger Llechwedd Du Bach a bod y ddau wedi cytuno fynd i ymweld ar safle. Wedi cael gwybod gan Swyddog o Gyngor Gwynedd bod y Cyngor wedi ceisio am grant gan Llywodraeth Cymru i newid y llochesi bws ar hyd llwybr 38 a fyddai yn galluogi i gael llochesi bws newydd yn lle y rhai presennol yn Harlech, ond yn anffodus nid oeddynt wedi bod yn llwyddianus y tro hwn. O ganlyniad i hyn ‘roedd wedi bod mewn trafodaethau gyda’r Swyddog a mae ef wedi awgrymu bod y Cyngor yn cysylltu gyda chwmni “Bus Shelter Specialists” i archebu rhai newydd ag hefyd ‘roedd hi wedi cysylltu gyda Swyddog o’r Adran Cludiant yn gofyn a oes llochesi bws ail law ar gael, ond nid yw y Swyddog yn gweithio tan wythnos nesa. Wedi cysylltu gyda Shirley Williams, Swyddog Diogelwch y Ffyrdd, Cyngor Gwynedd i ofyn a fyddai yn bosib cael arwyddion 20 m.y.a ger Ysgol Tanycastell a fyddai yn weithredol oriau ysgol yn unig, ond yn anffodus nid oedd Iwan Ap Trefor, Rheolwr Traffic a Phrosiectau, Cyngor Gwynedd yn hapus i hyn gael ei wneud ag felly yn dal mewn trafodaethau ynglyn a hyn. ‘Roedd hi wedi ymweld â'r Hen Lyfrgell i weld y ffair grefftau a oedd yn cael ei chynnal yna gydol mis Awst ac ‘roedd rhai eitemau diddorol iawn ar werth ac ‘roedd hefyd wedi ymweld ag Arddangosfa Grŵp Celf Llanfair ddechrau mis Awst ac fe gawson nhw arddangosfa lwyddiannus iawn eleni. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi bod i ffwrdd o’r wlad yn ystod mis Awst. Adroddodd bod pryder ynglyn a costau byw ag ei fod yn dal i gael trafferth gyda ADRA. ‘Roedd wedi mwynhau digwyddiad Roc Ardudwy ar y 3ydd o’r mis hwn. Cafwyd wybod bod lein y Cambrian yn cau ar y 12ed o’r mis hwn tan y 14eg o fis Hydref. Gofynodd y Cyng. Christopher Braithwaite beth oedd yn digwydd hefo ail ddatblygu maes parcio Min y Don ag hefo’r groesfan ger ystad Ty Canol ac addawodd y Cyng. Owen i edrych i mewn i hyn erbyn y cyfarfod nesa.
727.............................................Cadeirydd
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £19,918.96 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £22,241.42 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Arwyddion Ty Canol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Iwan Ap Trefor o Gyngor Gwynedd ynglyn ar arwyddion uchod ond yn dal heb glywed ganddo.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite bod cwmni G. L. Jones wedi gaddo dod i drwsio yr offer oedd angen ei atgyweirio yr wythnos hon ag unwaith fydd yr arian gan y Clwb Beicio wedi cael ei drosglwyddo bydd yn bosib archebu offer ymarfer ffitrwydd ag hefyd fydd yn dod ar cynllun o’r hyn sydd ei angen ei wneud i’r Cyngor er mwyn i’r Aelodau gael ei weld. Adroddodd y Cyng. Emma Howie ei bod wedi bod yn edrych i mewn i weld a oedd grantiau ar gael. Bu trafodaeth ynglyn a gosod bollards ger cae chwarae Llyn y Felin ac adroddodd y Cyng. Braithwaite ei fod yn dal i aros i glywed ynglyn ar mater hwn. Eisiau gwybod a yw ardaloedd y goliau wedi cael ei adnewyddu a cytunodd y Cyng. Huw Jones edrych i mewn i hyn. Cytunwyd i archebu hysbysfwrdd newydd fel yr un yn y dref er mwyn cael ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa.
Rhandiroedd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mrs Stephanie Evans yn datgan bod hi a Mr. Lee Warwick yn bwriadu hysbysebu bod rhandiroedd ar gael yw rhentu ag angen gwybod rhifau y rhai oedd ar gael. Adroddodd y Clerc ymhellach ynglyn a hyn a datganodd ei bod wedi cael gair gyda’r Cadeirydd ag ei bod yn meddwl byddai well aros nes byddai y safle wedi cael ei dacluso cyn hysbysebu, ond ‘roedd hysbyseb wedi cael ei rhoi ar y weblyfr yn barod. Hefyd adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan Ms Paula Ireland ei bod wedi cysylltu gyda Mr. Meirion Griffith ynglyn a tacluso y safle. Cafwyd wybod gan y Cyng. Huw Jones bod rhai a diddordeb mewn rhentu rhandir a cytunwyd iddynt wneud hyn.
Parc Bron y Graig
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd yn datgan bod y Cyngor yn mynd i ofyn i gontractwyr lleol dorri y gwair cyn derbyn cynnig Cyngor Gwynedd. Adroddodd ymhellach ei bod wedi cael ateb gan Gyngor Gwynedd yn datgan nad oeddynt yn fodlon i gontractwyr allanol dorri y gwair oherwydd materion i wneud hefo insiwrans ag iechyd a diogelwch ag y byddant yn torri y parc nesa yn mis Medi. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r e-bost hwn i bod Aelod. Cytunwyd i aros hefo’r un penderfyniad a wnaethpwyd yn y cyfarfod diwethaf a gadael i Gyngor Gwynedd yn unig ei dorri a peidio mynd i mewn i gytundeb hefo nhw.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Codi ystafell ardd unllawr newydd ar slab concrit presennol a gwaith tirwedd gysylltiedig - Hafod Wen, Harlech (NP5/61/329B)
Cefnogi y cais hwn.
Adeiladu tŷ gyda lefelau ar wahân (marchnad agored) – Tir i gefn Dol Aur, Hen Ffordd Llanfair, Harlech (NP5/61/649)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £121,061.52 yn y cyfrif rhedegol a £31,103.66 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £228.00 - archwiliad mewnol 2021/22
Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Mrs Jennifer O’Callaghan (llwch)
Mrs Annwen Hughes - £1,702.21 – cyflog a chostau 6 mis
728............................................Cadeirydd
Mr. Gareth Jones - £234.00 - gosod byrddau picnic yng nghae chwarae Brenin Sior
Mr. Chris Braithwaite - £166.03 - papur toiled i’r toiledau ger y castell
Dwr Cymru - £19.71 - tap y rhandiroedd
Dwr Cymru - £195.63 - gwasanaeth dwr i’r toiledau ger y castell
Mr. G. J. Williams - £288.00 - torri gwair y cae peldroed a cae chwarae Brenin Sior x 2
Mr. Lee Warwick - £382.28 - glanhau toiledau ger y neuadd goffa (Gorffennaf ag Awst)
Mr. Geraint Williams - £1,500.00 - goleuadau nadolig
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard a Griffiths - £856.00 – claddu y diweddar Mrs Keturah Mary Lewis
Mr. C. F. Edwards - £57.00 - gosod plac er cof am y diweddar Mrs Gwen Edwards
Cyngor Gwynedd - £35,000.00 – hanner y precept
Pritchard a Griffiths - £215.00 – claddu llwch y diweddar Mrs Jennifer O’Callaghan
Adroddodd y Trysorydd ei bod wedi cael gwybod yn ystod mis diwethaf bod y Cyngor yn cael archwiliad llawn eleni ag ei bod wedi paratoi y dogfennau oedd ei angen ag y bydd yn mynd a nhw i Gaernarfon yfory.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr adran uchod ynglyn ar diweddaraf gyda Tim Tacluso Ardal Ni ag yn hysbysu y Cyngor bod y gweithlu wedi ei benodi erbyn hyn a byddant yn dechrau ar eu gwaith yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd yn bosib derbyn ceisiadau drwy sustem fewnol y Cyngor o’r enw FFOS drwy ddilyn y ddolen http://www.gwynedd.llyw.cymru/timtacluso. Byddant yn gweithredu y gwaith hwn oddi fewn i ardaloedd 30 m.y.a
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn gwahodd yr Aelodau i’r cyfarfod blynyddol sydd yn cael ei gynnal rhwng y Parc Cenedlaethol ar Cynghorau Cymuned a bydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal dros zoom eleni ar y 25ain ar 27ain o Hydref. Cytunwyd i anfon y llythyr hwn ymlaen i bob Aelod.
Hen Lyfrgell Harlech
Wedi derbyn llythyr gan ysgrifennydd yr elusen uchod yn gwahodd pawb i’r diwrnod ail agor ag arddangosfa ar yr 22ain o’r mis hwn. Cytunwyd i anfon y llythyr hwn ymlaen i bob Aelod.
Mr. Graham Perch
Wedi derbyn ateb gan yr uchod ar ran Clwb Rygbi Harlech i’r costau fyddai rhaid i’r Cyngor ei dalu am y cyflenwad dwr i’r darn hyfforddi ag yn datgan bod Dwr Cymru yn rhagweld byddai cost blynyddol tâl sefydlog o gwmpas £168.00, ond ei bod hi yn anodd iawn rhoi pris ar faint o ddwr fyddai yn cael ei ddefnyddio unwaith byddai y Cyngor yn cymeryd drosodd anfoneb y darlleniad mesurydd ond byddai y Clwb Rygbi yn gallu edrych ar gael clo tap wedi ei osod er mwyn rheoli defnydd o’r tap dwr os byddai hyn o help.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod bydd yn rhaid cau y toiledau ger y neuadd goffa diwedd mis yma er mwyn cael cario gwaith allan arnynt.
Datganwyd pryder bod y llinellau gwyn ar rhai o’r groesffyrdd ar ystad dai Cae Gwastad angen ei adnewyddu.
Eisiau gwneud yn siwr bod ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei chynnal cyn bod llwybrau cyhoeddus yn cael eu gwneud yn rhai aml ddefnydd.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 729.