September 20, 2022

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.07.22

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.07.22

YMDDIHEURIADAU

Cyng. Emma Howie, Ceri Griffiths,

 

PRESENNOL

Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd),Huw Jones, Gordon Howie, RhianCorps, Mark Armstrong, MartinHughes, Tegid John, Thomas Mort,Wendy Williams a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mehefin 6ed 2022 fel rhaicywir.

 

DATGAN BUDDIANT

Datganoddy Cyng. Tegid John ddiddordeb yng nghais cynllunio gorsaf dan Harlech ac fearwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddo.

Datganodd y Cyng. ChristopherBraithwaite ddiddordeb yng nghais cynllunio gorsaf dan Harlech ac fe arwyddwydDogfen Datgan Buddiant Personnol ganddo.

 

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag AnnwenHughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn y gwyn a dderbynioddynglyn a rhywun wedi rhoi sticer dros y gair NOT ar yr arwydd ar waelod rhiwTwtil at yr adran priffyrdd yn gofyn iddynt weithredu cyn gynted a phosib aghefyd wedi gofyn iddynt osod arwydd ar dop rhiw Twtil yn ganol y dref. Weditrefnu bod y llwybr cyhoeddus sydd yn mynd i fyny am ffordd Pendref gael ei dorriyfory. Wedi gwneud ymholiadau i ofyn a fyddai modd gadael y toiledau ger yQueens yn agored yn hwyrach dros gyfnod yr haf ond wedi cael gwybod bod hynddim yn bosib. Oherwydd hyn wedi gofyn iddynt osod arwydd ar y drysau yn datganbod y toiled agosaf lawr ffordd Glan y Mor yn maes parcio Min y Don a mae hwnyn agored 24 awr. Wedi bod yn helpu i osod y defib sydd tu allan i’r HenLyfrgell a hefyd yn cael cyfle i gerdded o amgylch y dref a cwrdd a gwahanolfobl. Llwyddodd i lanhau gwydr yr hysbysfwrdd ar ôl i rywun osod sticeri ar ytu allan i'r drysau. Datganodd wrth yr Aeloldau bod newidiadau mewn ambellAdran yn Cyngor Gwynedd oherwydd bod Mr. Huw Williams, Pennaeth YGC yn ymddeolbydd yr Adran hon yn mynd drosodd i’r Adran Priffyrdd dan reolaeth Mr. SteffanJones a bydd rheoli ysbwriel yn trosglwyddo o’r Adran hon i’r Adran Amgylchedddan reolaeth Mr. Dafydd Wyn Williams. Bydd adroddiad ar y cyfarfod ym MharcBron y Graig yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owenei fod wedi cael gwybod bod darn o offer chwarae yn mharc chwarae ystad dai YWaun wedi malu tra oedd plentyn yn chwarae arno ag ei fod wedi cysylltu gydaChyngor Gwynedd yn syth ag eu bod wedi bod yna yn ei dynnu i ffwrdd a’i waredu.Dywedodd bod gwaith yn mynd i gael ei wneud ar y toiledau cyhoeddus yn maesparcio Min y Don ag hefyd yn datgan ar ol i’r tywod gael ei glerio ar y llwybri’r traeth ei bod wedi dod yn amlwg bod y llwybr pren mewn cyflwr gwael ag eifod wedi cael ei dynnu o’r safle erbyn hyn. ‘Roedd wedi derbyn cwynion amor-dyfiant ar ochor y ffordd o Harlech am Llanfair ond yn anffodus nid oeddCyngor Gwynedd yn mynd i weithredu ar hyn o bryd.

MATERION YNCODI        

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £18,382.67(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £17,427.71 o wariant yn llai naoedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.

Arwyddion TyCanol

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod gan GyngorGwynedd nad ydynt yn fodlon i’r Cyngor Cymuned osod yr arwyddion hyn agoherwydd mae arwyddion priffyrdd ydynt bydd Cyngor Gwynedd yn gwneud y gwaitham ddim. Felly bydd y cais cynllunio yn cael ei dynnu yn nol ag hefyd dylai yrarwyddion fod yn eu lle ddechrau mis nesa.

 

 

723..............................................Cadeirydd

Cae Chwarae Brenin Sior V

Adroddodd y Cyng.Christopher Braithwaite ei fod yn dal i aros am gwmni G. L. Jones i ddod i atgyweirio'roffer angenrheidiol yng nghae chwarae Brenin Sior. Datganwyd siom nid oedd ynbosib cael grant “Comic Relief” am bod y Cyngor ddim yn ateb gofynion y grant. Hefydcafwyd wybod gan y Cyng. Braithwaite bod cwmni McVenture yn paratoi pris ogynlluniau ar gyfer y cae. Cafwyd wybod bod y byrddau picnic yn eu lle acytunodd y Cyng. Huw Jones gysylltu gyda Mr. Geraint Williams i ofyn iddowaredu tyrchod o’r safle.

Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur

Adroddodd y Clerc bod y materuchod wedi cael ei gwblhau a bod yr arian am gwerthiant y tir wedi mynd i mewni gyfrif banc y Cyngor.

 

Parc Bron yGraig

Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnalar y safle uchod ar y 1af o’r mis hwn gyda y Cadeirydd, Is-Gadeirydd ar Cyng.Annwen Hughes yn bresennol ynghyd a Mr. Bryn Hughes a Mr. Clive Jones o Gyngor Gwynedd.Cafwyd wybod bod Cyngor Gwynedd yn torri y gwair yn Mharc Bron y Graig dairgwaith y flwyddyn ag os oedd y Cyngor Cymuned eisiau ei dorri yn fisol byddaiyn rhaid iddynt dalu am y torriadau ychwanegol a fyddai yn costio £530.14 + TAWy torriad. Cytunwyd cyn derbyn cynnig Cyngor Gwynedd i ofyn i Mr. MeirionGriffith a Mr. Gareth John Williams am bris i dorri y gwair yn y parc uchod.

 

CEISIADAU CYNLLUNIO

Dymchwel y tŵr ymarfer presennol ac adeiladu tŵrymarfer ffram ddur newydd gyda golau cysylltiedig - Gorsaf Dân, Harlech (NP5/61/434B)

Cefnogi y cais hwn.

Cais ôl-weithredol i gadwi’r teras wedi ei godisydd o flaen y brif fynedfa - Lion Hotel, Harlech: (NP5/61/L80H)

Cefnogi y cais hwn.

Darparu canllawiau gwarchod dur di-staen gydachanllawiau pren ar lwybrau cerdded lefel uchel i berimedr y castell, gosod dwygiât a newidiadau i'r grisiau a landin i'r porthdy i gwrt y ward fewnol, gosod1 giât i waelod tŵr y Gogledd-ddwyrain, a gosod 1 giât i waelod tŵr y DeDdwyrain - Castell Harlech, Harlech (NP5/61/LB73B)

Cefnogi y cais hwn.

 

Trosi sgubor yn anecs un ystafell wely ynghyd âchodi estyniad a gosod 4 ffenestr to (3 ar y drychiad blaen ac 1 ar y drychiadcefn) - Foel, Harlech (NP5/61/608A)

Adroddodd y Clerc mae newydd dderbyn y cais cynllunio uchod oedd hi abyddai yn anfon ymlaen i’r Aelodau yfory ag os bydd ganddynt unrhyw sylwadau i’wgwneud eu hanfon i’r Clerc erbyn yr 22ain o’r mis hwn.

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £86,469.81yn y cyfrif rhedegol a £31,099.95 yn y cyfrif cadw.

 

Taliadau ynystod y mis

Cyllid a Thollad           -  £109.80   - treth cyflog y Clerc

Mr. G. J. Williams      -   £144.00 -   torri gwair y cae peldroed acae chwarae Brenin Sior

R. Jones Electrician    - £271.00  -   gosoddefib ar wal yr Hen Lyfrgell

Mr. M. J. Kerr              - £430.00  -   agor beddy diweddar Mrs Keturah Lewis

Mrs Yvonne Jones    -      £70.00 –   gosodoffer dal papur toilet yn y toiledau ger y neuadd goffa

 

Derbyniadau yn ystod y mis

Cyllid a Thollad                     - £450.58 – ad-daliad T.A.W

Mrs Sue Grooms                    - £25.00– rhent rhandir rhif 9

Cyngor Gwynedd           - £10,411.83 – ad-daliad incwm o’rmeusydd parcio

Guthrie Jones& Jones  - £10,000.00  – gwerthiant darn tir llwybr natur i Pant Mawr

 

 

724..............................................Cadeirydd

 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylcheddol

Wedi derbyn copi o gais am drwydded eiddo ganCaffi Llew Glas, Harlech gan yr Adran Trwyddedu y Cyngor ag yn gofyn a oedd gany Cyngor unrhyw sylwadau i’w wneud ar y cais hwn. Nid oedd gan y Cyngor unrhywsylwadau i’w gwneud.

 

Cyngor Gwynedd – Adran CefnogaethCorfforaethol

Wedi derbyne-bost gan yr uchod ynghyd ag holiadur ynglyn ag Ymgynghori ar Gynlun GwellaHawliau Tramwy Cyngor Gwynedd ag yn datgan eu bod yn awyddus i dderbyn sylwadauy Cyngor am y ddogfen drwy lenwi holiadur. Datganodd y Clerc ei bod wedi anfonyr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod ag aethpwyd drwy’r holiadur er mwyn i’r Clercgael ei lenwi ar ran y Cyngor.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Economi

Adroddodd yClerc ei bod wedi derbyn e-bost o’r Adran uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod ynbwriadu cyflwyno cais i Gronfa Ffyniant Bro Gwynedd  - Cynllun Gwelliannau Trafnidiaeth coridor A496Ardudwy ag yn gofyn am lythyr cefnogaeth gan y Cyngor. Adroddodd y Clercymhellach bod y llythyr cefnogeth i fod i mewn erbyn y 30ed o mis diwethaf agei bod wedi llunio llythyr ar ran y Cyngor a’i anfon i’r Swyddog perthnasol.

 

Cyngor Gwynedd – Adran Economi

Wedi derbyne-bost o’r adran uchod ynglyn a Gweithdai Ardal Ni 2035 ag yn datgan eu bod ynbwriadu cynnal y Gweithdai hyn ymhob ardal ag yn gofyn i’r Cyngor benodi 2Aelod i fynychu rhain ar ran y Cyngor. Cytunodd y Cyng. Christopher Braithwaitea Mark Armstrong gynrychioli y Cyngor yn y gweithdy hwn.

 

Parc Cenedlaethol Eryri

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu yCyngor bod ymgeisydd cais cynllunio Caffi Weary Walkers, Harlech wedi gwenudapel ynglyn a phenderfyniad gwrthod y caniatad cynllunio gan yr Awdurdod ag yngofyn os oedd gan y Cyngor unrhyw sylwadau i’w gwneud eu bod yn eu anfon at yrArolygwr Cynllunio yn Gaerdydd. Hefyd yn nodi bydd y sylwadau mae y Cyngor wediei wneud ynglyn ar cais hon yn cael eu hanfon ymlaen i’r Arolygwr.

 

Mrs karen Lucas

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diolch i’rCyngor am wneud y gwaith ar y coed sydd ar y llwybr natur ger eu ty 18 ParcBron y Graig, ond yn gofyn a fyddai modd chwynnu y chwyn sydd ar y llwybr cyhoeddusger ochor eu ty. Cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Griffith i strimio y llwybr hwn.

 

Annie O’Brien

Wedi cael e-bost gan yr uchod yn hysbysu yCyngor bod Nyrs Arbenigol BIPBC ar gyfer pobl ifanc â dementia wedi cysylltu ânifer o drigolion lleol yn ddiweddar a bydd yn ymwneud â threfnu GarddGymunedol â thema Geltaidd yn Llanaelhaern. Ymwelwyd â hyn gan deuluoedd sy'nbyw gyda dementia yn Harlech a awgrymodd y byddent yn croesawu rhywbeth tebygyn ardal Harlech. Cynhelircyfarfod arall ddydd Mercher 13eg o Orffennaf am 12.00 yng nghaffi HAL ag yngofyn a fyddai rhywun o'r Cyngor Cymuned yn gallu bod yn bresennol iarchwilio'r posibilrwydd o ardd sy'n ystyriol o ddementia yn ardal Harlech? Maecyllid ar gael, ond byddai angen tir a chymorth. Cytunodd y Cyng. ChristopherBraithwaite gynrychioli’r Cyngor yn y cyfarfod hwn.

Mr. Graham Perch

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ar ran Clwb Rygbi Harlech yn diolch i’r Cyngor amei gefnogaeth parhaol gyda

ymdrech y Clwb yn datblygu y darn hyfforddiar gae chwarae Brenin Sior, ond yn anffodus yn rhy hwyr yn hadu y cae cyn ytywydd braf dechrau mis Ebrill a byddant ddim yn hadu y cae yn nawr tan yn hwyryn mis Medi pan fydd y tywydd yn well. Oherwydd hyn un o’r problemau maen’twedi dod ar ei draws yw bydd yr hadau gwair angen eu dyfrhau a bydd angenmynediad at gyflenwad dwr i hyn a bydd y gost o ddarparu cyflenwad dwr i’r caeyn costio £2,500. Hefyd yn datgan bod y Clwb wedi cytuno eu bod yn gallucyfarfod y gost o ddarparu cyflenwad dwr i’r cae g yn fodlon talu am ddefnydd ydwr, ond yn y dyfodol pan mae y darn hyfforddi wedi ei ddatblygu yn gofyn i’rCyngor a fyddant yn fodlon cyfranu at gostau y bil dwr. Cytunwyd i hyn mewnegwyddor ond bod yr Aelodau eisiau gwybod beth oedd y gost yn debygol o fod yngyntaf.

 

 

725..............................................Cadeirydd

 

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod Mr. Geraint Williams eisiau dodi gyfarfod ar Cyngor i drafod goleuadau nadolig a cytunwyd ei wahodd i gyfarfodmis Medi y Cyngor am 7.00 o’r gloch.

Cafwyd wybod gan y Cyng. HuwJones fod rhai o’r Aelodau wedi derbyn e-byst sgam yn ei enw yn ddiweddar ag osbyddant yn derbyn rhai eto iddynt eu anwybyddu.

Eisiau anfon at yr AdranPriffyrdd yn gofyn iddynt dorri y drain sydd yn gor-dyfu i’r plamant o’r ystadddiwydiannol.

Ymddiheurodd y Cyng. MartinHughes ei fod wedi methu cyfarfod Un Llais Cymru.

Eisiau gwybod beth oedd ydiweddaraf ynglyn a ail wneud y gwelliannau a oedd wedi cael eu gwneud yn maesparcio Bron y Graig uchaf a cafwyd wybod bod Cyngor Gwynedd ddim yn mynd iwneud dim ar hyn o bryd.

Cafwyd wybod bod Siop y Morfayn fodlon i’r Cyngor osod hysbysfwrdd newydd wrth ymyl y siop yn lle yr un presennol.

Datganwyd bod y Cyngor yn falcho weld bod rheolwr newydd wedi dechrau gyda Hamdden Harlech ac Ardudwy ond boddal pryder eu bod byth wedi ail agor y pwll nofio.

Cafwyd wybod bod perchennogCaffi Llew Glas wedi gofyn a fyddai yn bosib gosod biniau ysbwriel ar llwybr yreglwys fel oedd y cyn berchennog yn ei wneud. Ar ol trafodaeth cytunwyd i hynar rhediad prawf hefo amodau e.e bod y biniau yn cael eu symud os bydd angladdyn cymeryd lle yn yr eglwys, bod y biniau yn cael eu sgrinio fel eu bod ddim ynamlwg i’r cyhoedd.

Cafwyd wybod bod pryderon wedicael eu derbyn bod rhai yn parcio yn y llecyn “dim parcio” lawr ffordd Penllechger cae chwarae Llyn y Felin a cytunwyd i archebu bollards i’w gosod yna felbod hyn ddim yn digwydd eto.

 

 

ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd  

 

DYDDIAD......................................................                   726.

     

 

 

View Files