September 20, 2022
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 04.04.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Sian Roberts, Emma Howie.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Edwina Evans (Is-Gadeirydd),Ceri Griffiths, RhianCorps, Christopher Braithwaite, Martin Hughes, Tegid John,Thomas Mort, Gordon Howie,Wendy Williams a’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Croesawodd y Cadeirydd Mari Beynon Owen o ChambersConservation ag Elen Hughes o Barc Cenedlaethol Eryri i’r cyfarfod i drafodcynllun newydd Ardal Gadwraeth Harlech. Dywedodd Ms Beynon y byddai’n falch ogael gwybod beth mae yr Aelodau yn feddwl o Harlech ag be ddylai gael eigynnwys yn y cynllun rheolaeth. Datganodd rhai o’r Aelodau bod y dref wedinewid dros y blynydddoedd a bod amryw o fusnesau wedi cau ond eu bod ar yr unpryd yn croesawu y Cynllun Cadwraeth hwn.
Croesawodd y Cadeirydd Mrs Myfanwy Jones a Mrs JaneEmmerson i’r cyfarfod i drafod y gwaith sydd wedi bod yn cel ei wneud ar y darntir ger cae chwarae Llyn y Felin. Datganodd Mrs Emmerson ei bod wedigwirfoddoli i glerio y darn tir yma a dangosodd rhai o’r planhigion oedd ynbwriadu eu plannu yna. Cytunwyd ei bod yn tynnu cynllun allan ag hefyd amcangyfrifo’r gost terfynnol.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 7ed 2022 fel rhaicywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
MATERION YNCODI
Adroddwyd bod £95,121.78(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £22,080.88 o wariant yn fwy na oedd wedi cael ei glustnodiyn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopïau o gynllun gyllideb yCyngor am y flwyddyn 2022/23 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwydi fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
ArwyddionTy Canol
Adroddodd y Clercbod ddim byd pellach i’w adrodd ynglyn ar mater uchod.
713............................................Cadeirydd
Cae Chwarae Brenin Sior V
Tanciau Nwy ar Tir Llwybr Natur
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim ceisiadau wedi eu derbyn ers cyfarfod diwethaf yCyngor.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £51,166.20 yn y cyfrif rhedegola £31,096.10 yn y cyfrif cadw.
Taliadau ynystod y mis
Cyllida Thollad - £110.00 – treth ar gyflog y Clerc
E. W. Owen & Co - £204.00 - cwblhau ag anfon PAYE y Clercar lein
Un Llais Cymru - £310.00 - talaelodaeth am y flwyddyn
Mrs Annwen Hughes - £36.99 – sebon i’r toiledau ger y Castell
Mr. G. J. Williams - £180.00 - torri gwair cae chwarae Brenin Sior ar cae peldroed
Mr.M. J. Kerr - £540.00 - agor bedd y diweddar Mr. Thomas Wyn Richards
Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Mrs Olwen Poole (llwch)
Mr. Lee Warwick - £242.20 – glanhau ac edrych ar ol y toiledau ger yneuadd goffa
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard a Griffiths - £825.00 – claddu y diweddar Mr.Howell Eric Jones
Pritchard a Griffiths - £1,665.00 – claddu y diweddar Mr.Thomas Wyn Richards
Ceisiadau am gymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £10,457.38 – hanner y cynllunprecept.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd –Adran Bwrdeistrefol
Wedi derbyn e-bost gan Mr.Bryn Hughes, Peiriannydd Cynorthwyol o’r adran uchod yn ymddiheuro i’r Cyngorei fod heb drefnu i gyfarfod gyda rhai o’r Aelodau ar safle Parc Bron y Graigeto oherwydd ymrwymiadau eraill yn y gwaith.
Hefyd yn hysbysu yrAelodau eu bod yn gobeithio cychwyn yn fuan ar y gwaith o dorri y gwair a fyddyn cael ei wneud dair gwaith eleni ag yn gobeithio trefnu cyfarfod ar y saflerhywdro ar ol y 1af o Fehefin.
Addysg OedolionCymru
Adroddodd y Clerc eibod wedi derbyn e-bost gan Cath Hicks ar ran yr uchod yn datgan eu bod yn nawrwedi cymryd y camau angenrheidiol i’r Comision Elusenol i gymeradwyo iddyntdrosgwlyddo tir Pen y Graig drosodd i berchnogaeth y Cyngor Cymuned. Oherwyddhyn gall y mater hwn nawr gael ei gymeryd drosodd gan eu cynghorwyr
714............................................Cadeirydd
cyfreithiol, EvershedsSutherland a bod hwy wedi amcangyfrif cost o £4,500 + T.A.W mewn cysylltiad armater yma ag yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau a oeddynt yn fodlon i dalu y costauhyn fel a oedd wedi cytuno mewn gohebiaeth blaenorol. Datganodd y Clerc ei bod wedicael gair gyda’r Cadeirydd ynglyn a hyn ag yr oedd o’r farn bod y gost yn rhyuchel ag ‘roedd y Cyngor wedi datgan byddant yn fodlon i dalu y costau osbyddai y gost yn rhesymol. Cytunwyd i ddweud wrthynt bod y Cyngor yn fodlontalu costau cyfreithiol i fyny at £2,000 ag hefyd gofyn am ddadansoddiad o'rcostau.
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn diweddaru yCyngor ynglyn ar gwaith sydd yn cael ei wneud yn y darn WI gyferbyn a caechwarae Brenin Sior ag yn datgan bod y gwaith yn dod yn ei flaen yn dda.
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am ganiatad y Cyngor i osodmainc er cof am ei Mhab Thomas Wyn Richards yn y fynwent gyhoeddus. Rhoddwyd ganiatad i’rmainc hon gael ei gosod yn y fynwent.
UNRHYW FATER ARALL
Ar ran Cyfeillion Ysgol Tanycastell diolchoddy Cyng. Rhian Corps am y rhodd ariannol oedd y Cyfeillion wedi ei dderbyn ynddiweddar gan y Cyngor.
Cafwyd adroddiad o gyfarfod diweddarUn Llais Cymru gan y Cyng. Martin Hughes.
Datganodd y Cyng. Thomas Mortsiom er ei fod wedi anfon llythyr i ofyn am ganllaw arllwybr cyhoeddus rhif 4 yn 1997 bod un byth wedi cael ei gosod. Hefyd cytunwydgofyn a fyddai’n yn bosib gosod giat ar waelod y llwybr hwn oherwydd ei fod yndod allan yn syth i’r ffordd fawr.
Adroddodd y Clerc bodperchnogion Y Grocer yn gofyn a oedd angen diffibriliwr tu allan i’r siop ag unmor agos wrth y Castell. Cytunwyd bod ddim angen un yn y lleoliad hwn ondbyddai yn well cael un wedi ei osod tu allan i’r Hen Lyfrgell.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
..
DYDDIAD...................................................... 715.