May 9, 2023
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 03.10.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Huw Jones, Mark Armstrong, Tegid John, Gordon Howie.
PRESENNOL
Cyng. Edwina Evans (Cadeirydd), Christopher Braithwaite (Is-Gadeirydd), Emma Howie, Ceri Griffiths,
Rhian Corps, Martin Hughes, Thomas Mort, Wendy Williams a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
Croesawodd y Cadeirydd Donna Marie Morris Collins, Rheolwr Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod i drafod y gwaith diweddaraf sydd yn mynd ymlaen yn y ganolfan. Cafwyd wybod bod y pwll wedi ail agor ers mis Awst a bod cyrsiau achubwyr bywyd yn mynd i gael eu rhedeg a bod rhai lleol yn mynd i wneud rhain. Cafwyd wybod hefyd bod llawer o weithgareddau yn mynd i gael eu cynnal ar y safle a bod mwyafrif o’r llefydd ar y gweithgareddau hyn yn llawn yn barod. Y gost mwyaf fydd rhaid ei wneud ar hyn o bryd yw archebu roliwr a gorchudd newydd i roi dros y pwll a byddant yn mynd allan am noddwyr i godi arian i archebu rhain. Wrth gael gorchudd dros y pwll byddai hyn yn arbed tua 30-40% ar y costau gwresogi. Hefyd maen’t yn gweithio yn agos iawn hefo Ysgol Ardudwy. Diolchwyd iddi am ddod atom a rhoi adroddiad ynglyn ar diweddaraf sydd yn mynd ymlaen gyda’r safle. Hefyd datganwyd bydd y taliad olaf o’r cynllun precept yn cael ei dalu y mis hwn a cyn i’r Cyngor osod ei brecept yn mis Ionawr bydd rhaid cynnal cyfarfod cyhoeddus gyda HAL fel a wnaethpwyd o’r blaen.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 5ed 2022 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddaint ar unrhyw fater.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Gwynfor Owen ag Annwen Hughes – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi derbyn cwyn bod llanast wedi cael ei adael wrth ochor y toiledau cyhoeddus yn maes parcio Bron y Graig Isaf ag ei bod wedi ymweld ar lle a tynnu lluniau a’i anfon i Steffan Jones, Pennaeth Priffyrdd a oedd yn mynd i gael y Swyddog Gorfodaeth i ddilyn y mater i fynnu a chymeryd y camau angenrheidiol gyda’r achos. Hefyd ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Adran Cludiant ynglyn a llochesi bws ail law, ond yn anffodus nid oedd rhai ar gael ar hyn o bryd. ‘Roedd yn falch o weld bod 4 gwifren trydan cerbydau wedi cael eu gosod yn maes parcio Bron y Graig Uchaf ag yn edrych ymlaen i weld rhain yn cael eu defnyddio. Oherwydd diffyg ymateb gan rhai o Swyddogion Cyngor Gwynedd i faterion ‘roedd wedi cysylltu gyda’r Prif Weithredwr ag o ganlyniad ‘roedd wedi cael yr ateb canlynol ynglyn a groesffordd ystad dai Ty Canol – bod y cynllun hwn yn rhan annatod o’r cynllun Gronfa Ffyniant Cyffredin sydd wedi cael ei gyflwyno i’r Llywodraeth yn San Steffan. Hefyd mae hwn yn cynnwys gwelliannau i’r safleoedd bws,cyflwyno peiriannau gwefru, creu llwybrau Teithio Llesol newydd yn ogystal ag cyflwyno gwelliannau i lwybrau cerdded a beicio presennol o fewn y cymunedau ar hyd y Coridor y A496 yn ardal Ardudwy. Mae’r Adran hefyd yn gweithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun i leihau cyfyngiadau cyflymder o 30mya i 20mya o fewn y cymunedau. Mae’r cynllun wedi cael sêl bendith Aelodau y Senedd, a maen’t wedi cael gwybod bod y newidiadau yn dod i rym yn yr Hydref 2023. Fel rhan o’r cynllun canlynol, mae’r gwasanaeth yn rhoi sylw penodol i gyfyngiadau ar y ffordd ger Tŷ Canol. Maen’t yn llwyr ddeallt bod y materion hyn dipyn o amseri ffwrdd ag felly, yn y cyfamser, mae y Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau wedi cytuno i osod arwyddion dros dro i ddynodi bod plant yn croesi’r ffordd ger ystad Ty Canol a mae’r trefniadau i osod yr arwyddion canlynol wrth law ac mi fydd Swyddog o’r gwasanaeth Traffig a Phrojectau yn cysylltu yn ôl a mi yn fuan i roi fwy o wybodaeth ar bryd bydd yr arwyddion yn cael eu gosod ar y safle. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen bod cyfarfodydd Cyngor Gwynedd i gyd wedi cael eu gohirio tan y 26ain o
730..........................................Cadeirydd
fis diwethaf yn dilyn marwolaeth y Frenhines. Cafwyd wybod bydd 20 m.y.a yn dod i rym y flwyddyn nesa lle mae plant yn croesi am ysgol, wrth ymyl meddygfa ag ysgol ag felly bydd Ffordd y Morfa o ystad Ty Canol draw am y rheilffordd yn 20 m.y.a. Dywedodd ei fod wedi bod yn bleser mynychu agoriad swyddogol yr Hen Lyfrgell. Cafwyd wybod ei fod wedi derbyn llawer o gwynion ynglyn a diffyg llinellau melyn dwbwl mewn gwahanol lefydd ar Ffordd Uchaf. Cafwyd wybod oherwydd yr argyfwng costau byw bydd costau Cyngor Gwynedd yn codi £3 miliwn, a bod yn bosib i rhai sydd ar fudd-daliadau gael £200 gan Gyngor Gwynedd tuag at wresogi eu cartref. Mae yn mynd i gael cyfarfod gyda’r Gwasanaeth Cymdeithasol ynglyn ar gwasanaeth gofal cartref ag hefyd mae ymgynghoriad yn cychwyn ar godi y dreth 300% ar ail gartrefi a cartrefi gwag hir dymor.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £23,732.54 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £22,349.84 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
Arwyddion Ty Canol
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Iwan Ap Trefor o Gyngor Gwynedd ynglyn ar arwyddion uchod ond yn dal heb glywed ganddo. Datganwyd siom enbyd ynglyn ar mater hwn.
Cae Chwarae Brenin Sior V
Adroddodd y Cyng. Christopher Braithwaite bod cwmni G. L. Jones wedi gosod rhai offer newydd yn y parc chwarae uchod ond bod y gwaith heb ei orffen ag eu bod wedi gaddo dod yn nol yr wythnos hon. Datganwyd bod yr arian gan y Clwb Beicio byth wedi cael ei drosglwyddo. ‘Roedd y Cyng. Christopher Braithwaite wedi cysylltu a chwmni MacVenture, Llangefni a fe ddangosodd luniau o wahanol offer a fyddai yn addas i’r parc chwarae er mwyn gallu gwella y cyfleusterau sydd ar gael yna. Ar ol trafodaeth cytunwyd i archebu dringwr aml-chwarae a 25m rhedfa o'r awyr. Adroddodd y Cyng. Emma Howie y byddai hithau yn edrych a oedd gan gwmniau eraill rhai tebyg er mwyn cymharu prisiau. Adroddodd y Clerc bod Mr. Meirion Evans wedi adnewyddu ardaloedd y goliau a bod yn rhaid iddynt gael llonydd am dipyn. Adroddodd y Clerc ei bod wedi archebu hysbysfwrdd newydd fel yr un yn y dref er mwyn cael ei osod ar y llecyn tir ger Siop y Morfa a bydd yn cael eu anfon yr wythnos yn cychwyn y 14eg o Dachwedd ag yn cael ei ddanfon i Garej Morfa.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Diwygiad ansylweddol i Ganiatâd Cynllunio NP5/61/637 dyddiedig 07/10/2020 i dynnu ffenestr ochr - Beaumont, Hen Ffordd Llanfair, Harlech (NP5/61/637A)
Cefnogi y cais hwn.
Adeiladu estyniad cefn unllawr – 9 Pant yr Eithin, Harlech (NP5/61/559B)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £116,247.66 yn y cyfrif rhedegol a £31,107.62 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad - £110.00 – treth cyflog y Clerc
Cyngor Gwynedd - £107.00 - costau etholiad 2022
Mr. G. J. Williams - £180.00 - torri gwair y cae peldroed a cae chwarae Brenin Sior
Mr. Meirion Evans - £420.00 - llenwi o flaen y goliau yn cae chwarae Brenin Sior
Travis Perkins - £204.00 - urinal i’r toilet ger y Neuadd Goffa
Derbyniadau yn ystod y mis
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf
731.........................................................Cadeirydd
Ceisiadau am gymorth ariannol
Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000.00
Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000.00
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £10,457.38 – hanner y cynnig precept
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd – Adran Cyfreithiol
Wedi derbyn e-bost ynghyd a mapiau gan yr Adran uchod yn dangos lle maen’t yn bwriadu gosod llinellau melyn dwbwl yn yr ardal. Maen’t yn bwriadu gosod rhai ar hyd dwy ochor ffordd Pen y Bryn o’i gyffordd gyda Phendref i gyfeiriad y gogledd am bellter o oddeutu 24 metr ag ar ochor gorllewinol y ffordd gyferbyn a mynedfa Pant Mawr.
UNRHYW FATER ARALL
Datganwyd pryder am y diffyg i gael apwyntiad yn y meddygfa ond cafwyd wybod bod yn yn digwydd yn bob meddygfa.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 732.