May 10, 2021
COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN RHITHIOL DRWY ZOOM AM 7.30 O’R GLOCH 12.04.21
COFNODIONO GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH AGYNHALIWYD YN RHITHIOL DRWY ZOOM AM 7.30O’R GLOCH 12.04.21
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Freya Bentham (Is-Gadeirydd) Edwina Evans, CeriGriffiths, Gordon Howie,Thomas Mort.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd),Martin Hughes, Sian Roberts, Rhian Corps, Tegid John, JoePatton, Wendy Williams.
Cyn cychwyn cyfarfod swyddogol y Cyngor croesawodd yCadeirydd Ms Jodie Pritchard o Fwrdd Hamdden Harlech ac Ardudwy i’r cyfarfod idrafod y safle o amgylch yr adeilad ag hefyd y ffordd sydd yn arwain at yganolfan. Datganodd bod angen cario allan gwelliannau i’r ffordd ag hefydedrych i mewn i’r posibiliadau o osod llinellau melyn dwbwl ar hyd ochor yffordd i stopio ceir rhag parcio arni, yn enwedig rhai yn ystod tymor yr hafsydd yn parcio yna i fynd lawr i’r traeth. Hefyd mae aelodau y Bwrdd yn edrychi mewn i’r gwahanol fathau o beiriannau talu ag arddangos i’w gosod yn maesparcio y ganolfan. Gofynnwyd sut mae Hamdden Harlech ac Ardudwy yn bwriadu gwarchody cyhoedd pan maen’t yn cerdded ar hyd y ffordd am y ganolfan. Hefyd datganwydgan Ms Pritchard eu bod yn gobeithio ail agor y ganolfan pan fydd y canllawiauyn caniatau.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 1af 2021 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION YNCODI
CynllunCyllideb
Adroddwyd bod £70,539.13 wedi cael ei warioers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £1,881.05 o wariant yn llaina oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd y Clerc wedianfon copïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2021/22 i bob Aelod acaethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyni ddod.
FforwmCymunedol Harlech
Ni dderbyniwyd adroddiad y Cyng. Freya Bentham ynglyn ar Fforwm uchod.
Defribillator
Cafwyd wybod gan yCyng. Sian Roberts bod CADW yn gwneudtrefniadau i osod un o’r uchod ger y ganolfan ymwelwyr wrth y Castell. Adroddoddy Clerc ei bod wedi cysylltu gyda Mr Tomos Hughes o Ambiwlans Cymru ag ei bodwedi cael gwybod bydd y ddau defribillator yn cael eu gosod ar y 16eg o’r mishwn a bydd yr arwyddion o amgylch y kiosk yn cael eu gosod ar y 13eg o’r mishwn. Cytunwyd dalu am y gost o osod y defribillator ger Garej Morfa.
LLwybr Natur Bron y Graig
Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cysylltu gydaMr. Meirion Evans ag ei fod wedi cael gwybod ei fod yn rhy brysur ar hyn o brydi gario allan gwaith ar y llwybr uchod. Hefyd cafwyd wybod bod y coed oeddangen cael eu torri er mwyn diogelwch a bod y gwaith hwn wedi cael ei wneud ganTree Fella. Datganwyd pryder bod canol y bont ar y llwybr hwn angen sylw brys acytunodd y Cadeirydd ofyn i Mr. Meirion Evans a fyddai yn bosib iddo wneudgwaith dros dro ar y bont.
Swyddfa BostHarlech
Ddim mwy o wybodaethynglyn ar uchod wedi ei dderbyn ers y cyfarfod diwethaf.
678............................................Cadeirydd
Toiledau ger y Castell
Adroddodd y Cadeirydd bod CameronMay wedi cychwyn ar y gwaith o dynnu allan yr hen sustem golchi dwylo yn y safleuchod. Hefyd adroddodd y Cadeirydd eifod yn y broses o archebu offer golchi dwylo newydd i’r tri toiled.
Parti yn y Parc
Cafwyd wybod gan y Cyng. Joe Patton bod y trefniadau ynglŷnar digwyddiad uchod yn mynd ymlaen yn dda a bod gwahanol fudiadau wedi caelgwahoddiad fel adloniant i blant. Cytunodd y Clerc ofyn i Bennaeth YsgolArdudwy a fyddai modd ddefnyddio safleYsgol Ardudwy fel maes parcio ar y diwrnod. Hefyd cytunodd y Clerc gysylltugyda’r Pennaeth ynglŷn ar gystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblionuwchradd.
ArchwiliadauMisol
Adroddodd y Cyng. Joe Patton ei fod wedi cario allan archwiliad misol o gaeauchwarae Brenin Sior V a Llyn y Felin ynghyd a safle Penygraig. Adroddodd fel aganlyn yn dilyn archwiliad mis diwethaf – bod pob safle mewn cyflwr da a bodsafle Penygraig yn iawn arwahan bod y cerrig oedd wedi cael eu tynnu o dan yplinth byth wedi cael eu gosod yn nol a cytunodd y Cadeirydd gyda Mr. MeirionEvans ynglŷn a hyn, hefyd ‘roedd dwr glaw wedi golchi y cerrig o wyneb y llwybrsydd yn mynd lawr o Penygraig i’r ffordd fawr. Mae ychydig o bethau angen sylwyng nghae chwarae Brenin Sior V sef bod y ddeaer nawr yn ddigon sych i ail osody ffens ar giât sydd rhwng y clwb golff ar cae chwarae a cytunwyd peidio a ailgosod y giât a ddim ond codi ffens yn unig. Cafwyd wybod bod y si-so newyddwedi ei osod ag yn boblogaidd iawn gyda plant ag hefyd mae seddi y siglen wedieu adnewyddu. Datganwyd siom bod yr arwyddion “ddim ysmygu” wedi cael eu tynnui lawr yn syth ar ôl eu gosod i fyny. Mae cae chwarae Llyn y Felin yn iawnarwahan i faterion bach angen sylw fel y bin ysbwriel dal angen ei gwagio, bod rhywunsydd yn byw gerllaw wedi datgan pryder bod y gwair wedi gor-dyfu ond nid oedd hwn ddim gwahaniaeth i lefydderaill.
MATERION CYNGORGWYNEDD
Ni dderbyniwyd adroddiad gan y Cyng. Freya Bentham ynglyn a materion Cyngor Gwynedd.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Gosod grisiau allanolnewydd ynghyd a newidiadau allanol yn cynnwys ehangu ffenestr bresennol i’wdroi yn ddrws - Eisteddfa,Styrd Fawr, Harlech (NP5/61/55B)
Cefnogiy cais hwn.
Gosod grisiau allanol ialluogi mynedfa i’r balcony presennol – Pwll Nofio, Ffordd Glan yMor,Harlech (NP5/61/532C)
Cefnogiy cais hwn
Datblygiad preswyl saithuned (3 fforddiadwy a 4 marchnad agored) yn cynnwys tri phar o dai un talcen acun ty arwahan, creu mynedfa cerbydau newydd a thirlunio cysylltiol – Merthyr Isaf,Hwylfa’r Nant, Harlech (NP5/61/632)
Cefnogiy cais hwn
Adeiladuty deulawr arwahan gyda garej (marchnad agored) – 68 Cae Gwastad, Harlech(NP5/61/469Y)
Cefnogi y cais hwn
Codi estyniad mewnlenwi ary blzen a’r cefn, ail-gladio rhanol, gosod dormer newydd a ffensestri to,adeilad gardd a newidiadau i’r teras – Tri Deg Tri, Hen Ffordd Llanfair,Harlech (NP5/61/642)
Cefnogi y cais hwn.
Newid defnydd o gartref gofal rhestredig i ddau dy ynghyd a dymchwelestyniad to gwastad – Plas Amherst, Harlech (NP5/61/68G)
Cefnogiy cais hwn.
679.............................................Cadeirydd
ADRODDIAD YTRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £47,662.45 yn y cyfrifrhedegol, £31,093.00 yn y cyfrif cadw, £100.00 yng nghyfrif y Cadeirydd a £2.82 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
Cyllid a Thollad - £110.00 – treth cyflog y Clerc
Un Llais Cymru - £300.00 - tal aelodaeth
E. W. Owen a’i Chwmni - £204.00 – darparu ag anfon PAYE y Clerc arlein
Tree Fella - £350.00 - torri coed yn Bron y Graig
G. L. Jones Playground - £1,692.00– trwsio siglen yn cae Chwarae Brenin Sior
Humphreys Signs - £372.00 - arwyddion defribillator ar ykiosk
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard aGriffiths - £1,530.00 – claddu y diweddar Mr. John Philip Griffiths
‘Roedd y Trysoryddwedi anfon copïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2021 i bobAelod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon ynunfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael eiarwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.
GOHEBIAETH
MrsMyfanwy Jones
Wedi derbyne-bost gan yr uchod yn gofyn i rhai o Aelodau y Cyngor gael golwg ar darn o dirgyferbyn a cae chwarae Llyn y Felin. Cytunodd y Cyng. Wendy Williams fynd igyfarfod Mrs Jones a gofynnwyd i’r Clerc ddatgan bod materion mewn llaw.
Mr.Steffan Chambers
Wedi derbyne-bost gan yr uchod ynglyn a pel droed yn ardal Ardudwy ac yn gofyn a fyddaigan rhai ddiddordeb i fynychu cyfarfod i drafod sefydlu clwb a fyddai yncynnwys holl ardaloedd Ardudwy. Bydd y cyfarfod dros zoom nos Iau y 15ed o’rmis hwn. Cytunodd y Cadeirydd a’r Cyng. Joe Patton ei fynychu.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod y wal derfyn yn y rhandiroedd wedi caelei thrwsio.
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod Mr. Meirion Evans yn mynd i gario allany gwaith o adnewyddu y wal ger Noddfa.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Joe Patton bod y giât mynedfa newydd i’rtraeth i rhai anabl wedi cael ei agor yn swyddogol gan Mr. Delwyn Evans,Cadeirydd Pwyllgor Anabl Meirionnydd.
Angen gofyn i Gyngor Gwynedd a fyddai yn bosib gwneud mynedfa i’r anablyn toilet cyhoeddus maes parcio Min y Don neu hwyrach a fyddai modd adeiladu bloctoiled o’r newydd ar y safle.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Joe Patton ei fod yn mynd i drefnu ymgyrch “codibaw cwn”.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Joe Patton a Martin Hughes eu bod wedi gohiriocyfarfod a Mr. a Mrs Maxwqell i drafod dogfen Comisiwn Elusen yr Hen Lyfrgellar Neuadd Goffa nes bydd canllawiau yn caniatáu.
Eisiau gwybod a oes arwydd “plant yn chwarae” yn mynd i gael ei osodger ystâd Cae Gwastad a cytunodd y Cyng. Wendy Williams gysylltu gyda y Cyng.Freya Bentham ynglŷn a hyn.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 680.