COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA LLANFAIR AM 7.30 0’R GLOCH 01.12.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA LLANFAIR AM 7.30 0’R GLOCH 01.12.21

ANNWEN HUGHES 01.12.21

YMDDIHEURIADAU

Eurig Hughes (Cadeirydd),Hywel Jones, Osian Edwards.

PRESENNOL

Cyng. Russeii Sharp(Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts, Dylan Hughes.

Yn absenoldeb y Cadeiryddcymerwyd y Gadair gan yr Is-Gadeirydd.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion ogyfarfod Hydref 20ed 2021 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £13,138.52wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £8,617.34yn llai o wariant na beth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am yflwyddyn. ‘Roedd hyn yn bennaf am bod cyfraniad y Cyngor o £4,000 i GyngorGwynedd i gadw y toiledau cyhoeddus yn agored yn Llandanwg heb gael ei dalu.

LLinellau Melyn ger stesionLLandanwg

                                                  Adroddodd y Clerc ei bod, fel Cynghorydd Gwynedd yr ardal ei bod wedicysylltu gyda Iwan Ap Trefor ynglyn ar mater uchod ond bod ddim diweddariadwedi cael ei dderbyn. Hefyd adroddodd ei bod wedi cysylltu eto gyda Mr. ApTrefor i ofyn pryd fyddai adroddiad y cynllun hwn yn mynd o flaen pwyllgorcynllunio Cyngor Gwynedd. Cafwyd wybod gan y Cyng. Hughes ei bod wedi caelgwybod gan Mr. Ap Trefor bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod bob ochor i’rbont ar ffordd Llandanwg a mi fydd yr arwyddion newydd yn cynnwys arwydd irybuddio gyrrwyr O’r bont yn ogystal ag arwyddion o dan yr arwydd i ofyn iyrrwyr i “Arafwch Nawr” a dangoswyd cynllun O’r arwyddion. Hefyd’roedd y Cyng. Hughes wedi cael canlyniadau y mesurydd traffic oedd wedi caelei osod ar y ffordd i lawr am Landanwg rhwng y 26ain o Awst ar laf o Fedi agoedd hwn yn darllen bod cyfartaledd y cyflymder yn 25.6 m.y.a a bod 85% o geiryn trafeilio ar neu o dan 30.4 m.y.a

CEISIADAU CYNLLUNIO

Newidiadau i’r garei atodol presennol i ymgorfforito brig gyda Ilechit gosod dormer a rhoi ffenestr a drws newydd ar y drychiadGorllewinol – Mayfield, Llandanwg (NP5/66/280)

Cefnogi y caishwn.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod£12,605.78 yn y cyfrif rhedegol a £5,521.56 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y. mis

CyngorGwynedd –    £4,000.00 — cyfraniad i gadw toiledauLlandanwg yn agored Mrs Annwen Hughes – £380.00 –   cyflog 3 mis

Mr.M. J. Kerr               – £450.00   agor bedd y diweddar Mr. Morris Eurwyn Evans

YLleng Prydeinig               £40.00 -torch pabi coch (cytunwyd i gyfranu mwy na’r gofyn yn Ile y £l7 arferol)

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr.M. Downey       £40.00 — rhent cwt yr hers(Tachwedd)

Cyngor Gwynedd  – £90.00 — ad-daliad am dorri gwairy llwybraucyhoeddus Mr. M. Downey      -£40.00 —rhent cwt yr hers (Rhagfyr)

GOHEBIAETH

Ddim wedi dod i law ers ycyfarfod diwethaf

UNRHYWFATER ARALL

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod pantiau mawrsydd yn Ilenwi hefo dwr a mwd o amgylch y giat mochyn sydd rhwng Argoed agYmwlch ar y clawdd llanw.

Cafwyd wybod bod rheolwr newydd sef Mr. Michael Griffithwedi cychwyn yn Hamdden Harlech ac Ardudwy ag ei fod yn awyddus i ddod i un ogyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

MATERIONCYNGOR GWYNEDD

Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes bod pawb mae’n siwr wediclywed erbyn hyn pan gafwyd cyhoeddiad ar y laf o  Dachwedd gan Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yLlywodraeth bod cynllun ffordd osgoi Llanbedr wedi cael ei stopio. Cafwyd wybodgan y Cyng. Hughes ei bod wedi cychwyn deiseb yn gofyn i’r Llywodraeth newid eumeddyliau a bod hon wedi cyrraedd bron i 2,000 erbyn hyn ag hefyd bydd cyfarfodcyhoeddus yn cael ei gynnal yn hanger T2 ar y maes awyr dydd Gwener y 10ed O’rmis hwn am 2.00 0’r gloch.

Dvddiady cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor pan fydd angen

ARWYDDWYD   Cadeirydd

DYDDIAD

440

Share the Post:

Related Posts