September 20, 2022
COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.07.22
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Osian Edwards, Hywel Jones, Dylan Hughesa’r Cyng. Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd)
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp(Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts a’r Cyng. AnnwenHughes (Cyngor Gwynedd).
Estynodd yCadeirydd longyfarchiadau y Cyngor i’r Clerc/Cyng. Annwen Hughes ar gael eiethol y ddynes gyntaf i fod yn Gadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mehefin 8ed 2022fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £7,115.76(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydda bod hyn yn £6,316.24 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn ygyllideb am y flwyddyn.
Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg
Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei fodwedi cael gwybod bod un gwrthwynebiad wedi cael ei dderbyn ynglyn a gosod yllinellau melyn uchod a bod y Swyddogion angen mwy o wybodaeth ynglyn ar gwrthwynebiadhwn oherwydd nid oeddynt yn sicr na gwrthwynebiad neu sylw oeddynt wedi eidderbyn. Byddant yn darparu cones fel y llynedd dros gyfnod yr haf.
Pwyllgor Neuadd – 22.6.22
Adroddodd y Cyng. Mair Thomas a Robert G. Oweneu bod wedi mynychu y cyfarfod uchod ond bod ddim llawer wedi ei drafod ynddoheblaw am y ffaith bod y pwyllgor wedi archebu microdon at ddefnydd y neuadd ynlle defnyddion y popty stof. Bydd y pwyllgor nesa yn cael ei gynnal ar yr 28aino Fedi.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Ddim wedi dod i law ers y cyfarfod diwethaf.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £9,823.35 yn y cyfrifrhedegol a £5,522.53 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Mr. D. A. Thomas - £580.00 - torri gwair y fynwent gyhoeddusx 2
Cyllid a Thollad - £94.80 - treth ar gyflog y Clerc
R. Jones Electrician - £148.00 - gosoddefib yn Llandanwg
Neuadd Goffa Llanfair - £150.00 – llogi ystafell bwyllgor am y flwyddyn
Derbyniadau yn ystod y mis
Mr. M. Downey - £40.00 – rhentcwt yr hers (Mehefin)
Cyngor Gwynedd - £1,367.00 - ad-daliad incwm maes parcioLlandanwg
Pritchard& Griffiths - £856.00 – cladduy diweddar Mrs Doreen Jerram
Pritchard & Griffiths - £566.50– claddu y diweddar Mr. John Houliston (llwch)
Pritchard & Griffiths - £2,058.50– claddu y diweddar Mrs Gwyneth Roberts
Mr.M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Gorffennaf)
451.......................................Cadeirydd
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd –Adran Priffyrdd
Adroddoddy Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi ymweld ar safle ger groesffordd Frondeg awedi anfon e-bost ynghyd a lluniau at yr Adran uchod. ‘Roedd wedi cael ateb yndatgan bod Swyddog o’r Adran wedi asesu a mesur y safle ag eu bwriad yw gosodpalmant isel yma er cynorthwyo’r cerddwyr. Mae’r gwaith wedi ei gynwys ar eu rhaglenwaith a bydd yn cael ei weithredu yn ystod yr haf pan fydd adnoddau ar gael.
Cyngor Gwynedd – Adran CefnogaethCorfforaethol
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod ynghyd agholiadur ynglyn ag Ymgynghori ar Gynlun Gwella Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd agyn datgan eu bod yn awyddus i dderbyn sylwadau y Cyngor am y ddogfen drwy lenwiholiadur.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost o’rAdran uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn bwriadu cyflwyno cais i GronfaFfyniant Bro Gwynedd - CynllunGwelliannau Trafnidiaeth coridor A496 Ardudwy ag yn gofyn am lythyr cefnogaethgan y Cyngor. Adroddodd y Clerc ymhellach bod y llythyr cefnogeth i fod i mewnerbyn y 30ed o mis diwethaf ag ei bod wedi llunio llythyr ar ran y Cyngor a’ianfon i’r Swyddog perthnasol.
Cyngor Gwynedd – Adran Economi
Wedi derbyn e-bost o’r adran uchod ynglyn aGweithdai Ardal Ni 2035 ag yn datgan eu bod yn bwriadu cynnal y Gweithdai hyn ymhobardal ag yn gofyn i’r Cyngor benodi 2 Aelod i fynychu rhain ar ran y Cyngor.Cytunwyd bod y Cadeirydd a’r Cyng. Dylan Hughes yn cynrychioli’r Cyngor yn ygweithdy hwn.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod gan y Cyng. Annwen Hughes bod ydefib wedi cael ei osod ar wal caffi’r Maes yn Llandanwg ganol mis diwethaf.
Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod giat apostyn newydd wedi cael eu gosod ar y llwybr Taith Ardudwy ger Y Maes ynLlandanwg.
Datganwyd pryder bod rhai yn gadael bagiau bawcwn ar hyd Y Maes a cytunwyd cysylltu gyda’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ynglyna hyn a gofyn iddynt osod mwy o arwyddion.
Cafwyd wybod bod angen torri gwair y llwybrsydd yn mynd o Benrallt draw am Pensarn a cytunodd y Cadeirydd gysylltu gydaMr. Roy Carter ynglyn a hyn.
Datganwyd siom bod y Cynghorau Cymuned hebgael cyfle i ymgynghori ar y cynnig i ddod ar cyflymder gyrru i lawr i 20 m.y.aa cytunwyd anfon at Un Llais Cymru ynglyn a hyn.
Cafwyd wybod bod y giat ar llwybr cyhoeddus 23byth wedi cael ei ail gosod yn iawn.
Datganodd y Cyng. Annwen Hughes ar ran y Cyng.Gwynfor Owen bod gwaith atgyweirio yn mynd i gael ei gario allan yn y toiledaucyhoeddus yn Llandanwg.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
452