September 20, 2022
COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN NEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 08.06.22
LLOFNODIDATGANIAD DERBYN SWYDD
Rhanodd yClerc yr uchod i bob Aelod a oedd yn bresennol er mwyn iddynt eu harwyddo cyndechrau cyfarfod cyffredinol y Cyngor. Hefyd fe gwblhaodd yr Aelodau euffurflen “Cofrestr Buddiant Personol”.
YMDDIHEURIADAU
Dim.
PRESENNOL
Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp(Is-Gadeirydd), Hywel Jones, Robert G. Owen, Mair Thomas, David J. Roberts, OsianEdwards, Dylan Hughes
Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd gyda’rCyng. David John Roberts a’r teulu yn dilyn marwolaeth sydyn ei wraig MrsGwyneth Roberts.
Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Gwynfor Owen i’wgyfarfod cyntaf o’r Cyngor fel un o’r Cynghorwyr Gwynedd newydd dros wardHarlech a Llanbedr.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 20ed 2022fel rhai cywir.
MATERION YN CODI
Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2022/23:-
Cadeirydd:- Cyng. Eurig Hughes
Is-Gadeirydd:- Cyng. Russell Sharp
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £4,991.79(a oeddyn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannolnewydd a bod hyn yn £7,220.40 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodiyn y gyllideb am y flwyddyn.
Llinellau Melyn ger Stestion Llandanwg
Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei fodwedi derbyn llythyr ynghyd a map yn datgan cyfyngiadau parcio arfaethedig – ArdalMeirionnydd (9) 2022 Llandanwg yn datgan oherwydd materion yn ymwneud adiogelwch ar y ffyrdd ac yn dilyn archwiliadau diweddar bod y Gwasanaeth hwn ynystyried cyflwyno cyfyngiadau parcio yn Llandanwg fel a sydd wedi ei ddangos ary map ag yn datgan y byddant yn falch o dderbyn unrhyw sylwadau o fewn 28diwrnod ag os na fyddai ymateb yn cael ei dderbyn eu bod yn cymeryd ynganiataol bod ddim gwrthwynebiad. Adroddodd y Cyng. Hughes ymhellach ei bod uno drigolion Llandanwg wedi cysylltu a hi yn gofyn a fyddai modd ymestyn yllinellau melyn ychydig lawr y ffordd ag ei bod wedi cysylltu gyda ChyngorGwynedd ynglyn a hyn ag ei bod wedi derbyn llythyr ynghyd a map yn dangos ynewid hwn. Hefyd adroddodd ei bod wedi derbyn un gwrthwynebiad i’r llinellaumelyn hyn gael eu rhoi lawr y ffordd i gyd a bod y person hwn yn gofyn a fyddaimodd cadw lle i un neu dau o geir barcio ar ol y bont.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Adeiladu sied amaethyddol - FronOleu, Fron Hill, Llanfair (NP5/66/162B)
Dymchwel y storfa caiac, siediau storfaac ystafelloedd newid presennol, ailwampio'r safle a chodi adeiladgweithgareddau awyr agored. Trosi'r swyddfeydd presennol yn storfa caiac acoffer - Cei Pensarn, Llanbedr (NP5/66/8H)
Cefnogi y cais hwn.
448.....................................................Cadeirydd
Adeiladu storfa ysgubor newydd- Pen y Garth Isaf, Llanbedr (NP5/66/281A)
Cefnogi y cais hwn.
Codi estyniad yn y cefn a thynnu simdde- 3 Llwyn y Gadair, Llanfair (NP5/66/229A)
Adroddodd y Clerc ei bod newydd dderbyn y caisuchod yn ystod y dydd a byddai yn anfon y cais ymlaen i’r Aelodau.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £7,059.32 yn y cyfrifrhedegol a £5,521.84 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
BHIB Ltd - £395.30- insiwrant y Cyngor
Mr. D. A. Thomas - £360.00 - torri gwair y fynwent gyhoeddus a chwynstrelluchwyn
Mrs Annwen Hughes - £380.00 – cyflog3 mis
Dwr Cymru - £12.47 - tap yfynwent
Mr. M. J. Kerr - £430.00 – agor bedd y diweddar Mrs Doreen Jerram
Mr. M. J. Kerr - £90.00 – agor bedd y diweddar Mr. John Houliston(llwch)
Mr. M. J. Kerr - £450.00 – agorbedd y diweddar Mrs Gwyneth Roberts
Derbyniadau yn ystod y mis
Cyngor Gwynedd - £8,000.00 – hanner y precept
Mr. M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)
Mr.M. Downey - £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)
Feadroddodd y Trysorydd bod yr Archwiliad Mewnol wedi cael ei gwblhau a bod dimmaterion arwyddocaol yn codi heblaw am y ffaith bod methiant wedi bod i gyhoeddiDatganiad o Daliadau Blynyddol ar gyfer taliadau a wneir i Aelodau ar y wefan.
GOHEBIAETH
Cyngor Gwynedd –Adran Amgylchedd
Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes ei bod wedicysylltu gyda’r adran uchod ynglyn a phryderon yr Aelodau yn y cyfarfoddiwethaf bod yr Asiant oedd yn gwerthu y cyn Gapel Bethel gerllaw yn hysbysubod lle parcio am ddim ar gael drws nesa i’r capel ag hefyd yn gofyn iddyntaddasu yr arwydd presennol sydd yn y maes parcio i gynnwys y cymal “dim aros drosnos” at yr arwydd presennol. ‘Roedd Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wneud hyn aghefyd wedi hysbysu y Cyng. Hughes bod yr arwydd wedi cael ei addasu.
Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd
Adroddodd y Clerc/Cyng. Annwen Hughes yn dilyne-bost yr oedd wedi ei dderbyn gan y Cyng. Mair Thomas ynghyd a lluniau, ei bodwedi cysylltu a Chyngor Gwynedd ag ei bod wedi cael ateb gan Mr. Rhys GwynRoberts ar ran yr uchod ynglyn ar arwyddion ger Y Maes, Llandanwg ag yn datganei fod yn anfon rhywun yna i sortio yr arwydd ar giat mochyn oedd ar llwybr yrarfordir rhwng Argoed ag Ymwlch. Hefyd yn datgan eu bod wedi bod yna yn triotrwsio y giat ond yn amlwg oedd hyn heb weithio ag felly byddant yn gosod giatnewydd yna.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wediderbyn llythyr gan yr adran uchod yn hysbysu y Cyngor eu bod yn mynd i dorrigwair yn yr ardal ag hefyd gosod canllaw newydd ar llwybr cyhoeddus rhif 53 gerTy Gwyn, Llanfair yn ystod mis Mehefin.
UNRHYW FATER ARALL
Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod angenarwydd yn dangos lle mae angen troi i gerddwyr sydd yn defnyddio llwybrcyhoeddus rhif 24 lle i droi er mwyn cario ymlaen a cytunwyd bod y Cyng. Mair Thomasyn anfon map o’r llwybr hwn i’r Clerc.
449.....................................................Cadeirydd
Cafwyd wybod bod angen lleihau uchdwr ypalmant ger mynedfa i ystad dai Frondeg oherwydd bod un cerddwr wedi caeldamwain wrth ddod oddi ar y palmant dan sylw. Adroddodd y Cyng. Annwen Hughesei bod wedi ymweld ar safle a wedi tynnu lluniau a bydd yn anfon rhain ymlaen i’rAdran Priffyrdd.
Cafwyd wybod bod y giat sydd ar BontCoronation ddim yn cau yn iawn.
Dyddiad y cyfarfod nesaf
Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen
ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd
DYDDIAD…………………………………………………….
450