COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR 14.4.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YN MAES PARCIO Y PENTREF, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.4.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIRA GYNHALIWYD YN MAES PARCIO Y PENTREF, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 14.4.21

YMDDIHEURIADAU

Dim.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G.Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts, Osian Edwards.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y golled diweddar oedd y Cyngor wedi ei gaelyn dilyn marwolaeth y Cyng. Gerallt Jones. ‘Roedd y Cyng. Gerallt Jones wedibod yn Aelod gwerthfawr o’r Cyngor am flynyddoedd lawer ag yn weithgar iawngyda’r Cyngor ar hyd y blynyddoedd hyn. Estynwyd cydymdeimlad dwys y Cyngor aMrs Bet Wyn Jones a’r teulu yn eu profedigaeth. Cytunwyd cyfranu £100.00 ercof.

Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Osian Edwards i’w gyfarfod cyntafswyddogol o’r Cyngor.

Estynwyd longyfarchiadau y Cyngor i’r Caderiydd, y Cyng. Robert G. Owenag i’r Clerc ar enedigaeth wyresau yn ddiweddar.

Ar ran y Cyngor dymunwyd wellhad buan i Mrs Gwyneth Roberts, Uwchglan.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion 14eg o Fedi, 23ain o Hydref, 5ed o Ragfyr 2020,15ed o Ionawr a 16eg o Fawrth 2021 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £18,594.21 wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddynariannol newydd a bod hyn yn £6,934.27 yn llai o wariant na beth oedd wedi caelei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. Rhannodd y Clerc gopiau o gynllungyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2021/22 i bob Aelod a aethpwyd drwy’r cynllunhwn.  Cytunodd pawb i fabwysiadu ycynllun hwn am y flwyddyn i ddod.

LLinellau Melyn ger stesion LLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod byth wedi derbyn diweddariad ynglyn ar cynllunuchod gan Gyngor Gwynedd a chytunwyd ei bod yn cysylltu gyda hwy unwaith ynrhagor. Bu trafodaeth o’r posibilrwydd o gael peiriant talu ag arddangos wediei osod ar ochor y ffordd cyn cyrraedd y maes parcio oherwydd bod gymaint ogeir yn parcio ar y darn yma o’r ffordd yn rheolaidd.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Golygfa, LLandanwg

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £4,366.10 yn y cyfrif rhedegol a £5,521.14 yny cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Cyllid a Thollad                 – £95.00 –   treth ar gyflog yClerc

Un Llais Cymru                -£103.00 –   tal aelodaeth am y flwyddyn

E. W. Owen a’i Chwmni – £204.00 – darparu ag anfon PAYE y Clerc ar lein

Llais Ardudwy                 –   £10.00  – hysbyseb tenderau torri gwair y llwybrau cyhoeddus

Pritchard a Griffiths       -£100.00  –   rhodd er cof am y diweddar Gyng. GeralltJones

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey – £40.00 – rhent cwt yr hers (Ebrill)

Rhannodd y Trysorydd gopiau o gyfrifon y Cyngor yn diweddu 31ain o  Fawrth 2021 i bob Aelod. Fe aethpwyd drwy’rcyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau.Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’rClerc.

GOHEBIAETH

Nid oedd unrhyw ohebiaeth wedi ei dderbyn ers y cyfarfod diwethaf.

UNRHYW FATER ARALL

Datganwyd pryder bod goleuadau ar ffordd Sarn Hir ers peth amser erbynhyn ag eglurodd  y Clerc ei bod wedicysylltu ar Adran Priffyrdd yn barod ynglyn a hyn.

Datganwyd bod y gwair angen ei dorri ar ochor y ffordd ag eglurodd yClerc ei bod wedi cael gwybod bydd y gwaith hwn yn cael ei gario allan yn ystody mis hwn.

Ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor aeth yr Aelodau draw i edrych ar porth yreglwys a oedd angen sylw.  Cytunwyd bodangen peintio blaen a tu ol y porth ynghyd ar giat ar railings. Penderfynwydgofyn i Mr. Euron Richards wneud y gwaith.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor pan fydd angen

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

Share the Post:

Related Posts