October 6, 2020
COFNODION O GYFARFOD ARBENNIG CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YSTEFELL Y BAND, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 10.08.20
Annwen Hughes
YMDDIHEURIADAU
Cyng. Freya Bentham (Is-Gadeirydd), Judith Strevens, Caerwyn Roberts, GordonHowie, Elfyn Anwyl.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Sian Roberts, Edwina Evans, Wendy Williams, CeriGriffith, Thomas Mort, Martin Hughes.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 2il 2020 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION YNCODI
CynllunCyllideb
Adroddwyd bod £24,702.80 wedi caelei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd, a bod hyn yn £12,981.79 owariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.‘Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod y £10,000 oedd wedi cael ei glustnodi argyfer partneriaeth y toiledau heb gael ei dalu a wedi cael ei glustnodi ar gyfer mis Mai.
FforwmCymunedol Harlech
Oherwydd bod y Cyng. Freya Bentham ar gyfnod mamolaeth nid oedd adroddiad argael.
Toiledau ger yCastell
Adroddodd yCadeirydd ei fod yn dal i geisio cael ateb gan y cwmni sydd yn gwerthu yrunedau golchi dwylo yn y toiledau uchod ag os na fydd yn cael ateb hwyrach fyddrhaid meddwl am osod basin golchi dwylo a sychwr dwylo arwahan yna. Cytunwydbod y Cadeirydd yn dal i geisio cael ateb gan y cwmni dan sylw a peidio agor ytoiledau nes fydd y darpariaeth yma wedi ei osod ynddynt.
Seddi Cyhoeddus
Adroddodd y Cadeirydd bod y Cyngor wedi archebu tair seddnewydd ag eu bod wedi cael eu gosod arPen y Graig, Twtil a ger Pant Mawr (yn lle yr un hen presennol) ag hefyd bodMr. Gareth Jones wedi tynnu yr un ar rhiw Dewi Sant er mwyn ei adnewyddu.Cafwyd wybod gan y Cadeirydd ei fod wedicyfarfod a cynrychiolaeth o’r Pwyllgor Twristiaeth ynglyn ag archebu seddi i’w gosod ar Penllech agei fod heb glywed ddim yn mhellach ganddynt ynglyn a hyn.
Gwefan y Cyngor
Adroddodd yCadeirydd ei fod heb gysylltu gyda Mr. Owen Brown i drafod y mater hwnymhellach ac adroddodd y Clerc bod y Cyng. Judith Strevens wedi cytuno gosoddeunydd ar y wefan. Eglurodd y Clerc bod rhaid gosod y deunydd angenrheidiol arwefan y Cyngor dan y rheolau i wneud gyda’r Archwiliad Mewnol ag Allanol.
MATERION CYNGORGWYNEDD
Oherwydd bod y Cyng. Freya Bentham ar gyfnod mamolaeth nid oedd adroddiad argael.
655................................................Cadeirydd
CEISIADAU CYNLLUNIO
Mae pob cais cynllunio a dderbyniwyd ar ol y cyfarfod diwethaf yn misMawrth wedi eu hanfon ymlaen i chi fel Aelodau.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £49,397.97 yn y cyfrifrhedegol, £31,090.94 yn y cyfrif cadw, £100.00 yng nghyfrif y Cadeirydd a £2.82 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
Mr. G. J. Williams - £216.00 – torri gwair parc chwarae,cae peldroed a gweddill cae Brenin Sior
Dwr Cymru - £43.63 - tap dwr y rhandiroedd
Derbyniadau yn ystod y mis
Ddim wedi eu derbyn
Adroddodd yTrysorydd er bod copiau o gyfrifon y Cyngor wedi cael eu hanfon at bob Aeloddechrau mis Ebrill, nid oeddynt wedi cael eu cymeradwy am y flwyddyn ariannol 2019/20 ag hefyd oeddangen I ardystio y ffurflen flynyddol er mwyn gallu anfon y dogfennau priodolymlaen i'r Archwiliwr Allanol. Adroddod y Trysorydd ymhellach oherwydd y feirwsbod y dyddiad penodi ar gyfer arfer hawliau etholwyr o dan Ddeddf ArchwilioCyhoeddus (Cymru) 2004 wedi cael ei symund eleni, ar dyddiad newydd yw rhwng y1af ar 28ain o Fedi 2020. O Fedi’r 29ain hyd nes bydd yr archwiliad wedi eigwblhau fe fydd gan etholwyr y Gymuned yr hawl i gwestiynu’r Archwilydd Cyffredinolam y cyfrifon. Cytunodd pob Aelod a oedd yn bresennol i gymeradwyo y cyfrifonag hefyd ardystio y ffurflen flynyddol ag i’r Cadeirydd a’r Clerc/Trysoryddarwyddo y cyfrifon, y ffurflen flynyddol ar llyfr cyfrifon ar ran y Cyngor.
GOHEBIAETH
Ms Roslynne McAlister
Wediderbyn e-bost gan yr uchod ynglyn a coed yn gor-dyfu o dir 14 Parc Bron y Graigdrosodd i’r llwybr cyhoeddus sydd yn rhedeg i fyny i ffordd Pendref ag yndatgan bod y coed hyn yn tyfu mor isel drosodd i’r llwybr bod hi yn anodd eupasio. Mae hi wedi yn y gorffennol wedi cysylltu gyda gwraig perchennog y ty agmae hi wedi eu torri yn nol yn syth, ond erbyn hyn mae wedi siarad gyda’rperchennog ei hun yn datgan y byddai yn cario allan y gwaith pan ddim yn brysurneu iddi hi wneud y gwaith ei hun. Byddai yn falch o gael cadarnhad cyfrifoldebpwy yw torri y coed hyn yn nol. Cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Griffith i docio ycoed dan sylw yn nol ag hefyd i dacluso y llwybr yn gyffredinol.
Baileys & Partners
Wedi derbyn y llythyr canlynol gan Jodie Pritchard arran y cwmni uchod ynglyn a chais cynllunio NP5/61/560D – cartref newydd 3ystafell wely rhwng Trem Arfor a Hiraethog, Stryd Fawr, Harlech ag yn gofyn I’rCyngor Cymuned ail ystyried y penderfyniad a wnaethpwyd ganddynt nol yn misHydref y llynedd oherwydd bod gwybodaeth newydd wedi dod I law. Mae'r wybodaethychwanegol hon yn ymwneud yn benodol â gofyniad newydd am Asesiad o'r Effaithar Dreftadaeth (yr Asesiad). Ymgysylltwyd ag arbenigwr treftadaeth arbenigol ibaratoi'r Asesiad atodol a rhoddwyd hwn i CADW fel yr ymgynghorai statudol mewnperthynas â threftadaeth. Maent wedi cadarnhau eu bod yn fodlon â'r wybodaeth ofewn yr Asesiad ac yn cytuno â'i gasgliadau. Hefyd mae eu cleient wedi ceisiorhoi sylw i bryderon eraill a godwyd ers hynny gan wrthwynebwyr sef -
● Cysylltwydag arbenigwr ar glymog Japan a derbyniwyd cadarnhad ysgrifenedig ynglŷn â'rdriniaeth sydd ei hangen i gael gwared â'r rhywogaeth ymledol hon o'r safle.
● Parcio - Ofewn y cais NP5/61/560D cynigir y bydd lle parcio ar gael o hyd ar safle'r tŷnewydd ar gyfer yr eiddo gyferbyn. Nid yw'r tîm priffyrdd wedi codi materionsydd angen sylw yn y cynnig ac mae'r ymgeisydd wedi gofyn i'r awdurdodcynllunio a ydynt yn dymuno trafod y pryderon a godwyd gan y Cyngor Cymuned.
● Edrych dros eiddo - Mae'r tŷ newydd arfaethedigwedi'i leoli fel nad oes ganddo ffenestri sy'n edrych yn uniongyrchol ar ycartrefi eu hunain. Caiff y ffenestri isaf eu sgrinio gan y gwrych presennol nachynigir ei dynnu. Cytunwyd ar ol derbyn y wybodaeth ychwanegol hyn I ail gysidroy penderfyniad a wnaethpwyd yn mis Hydref ag I gefnogi y cais hwn.
656................................................Cadeirydd
UNRHYW FATER ARALL
Datganodd y Cadeirydd ei bod hi yn braf gweld y rhandiroedd i gyd ynllawn ar lle yn edrych yn daclus ag hefyd cafwyd wybod bod rhestr aros amrandiroedd yn bodoli ar hyn o bryd.
Croesawyd yn fawr y newyddion bod siop grocer newydd yn mynd i agor yny cyn Gapel Tabarnacle gwanwyn 2021 a dymunwyd yn dda i’r perchnogion newyddgyda’r fenter hon.
Cafwyd wybod gan y Cadeirydd bod Mr. Geraint Williams yn honi bod yCyngor wedi talu gormod am osod y goleuadau nadolig ar y polion trydan yn ydref nadolig diwethaf ag ei fod yn mynd i edrych i mewn i’r mater. Hefydcytunwyd gofyn i CADW a fyddai’n bosib i ail leoli y goeden nadolig sydd ger ycastell.
Datganwyd pryder bod ymwelwyr yn parcio yn mhobman pan maen’t yn ymweldar traeth a maes parcio’r traeth yn llawn.
Cafwyd wybod bod y cyn Theatr Ardudwy a rhan o safle y cyn GolegHarlech i fyny mewn arwerthiant.
Datganwyd pryder bod, yn ystod nos Sul a bore Llun y 9ed a 10ed o Awst bod12 car wedi aros dros nos yn maes parcio’r traeth ag hefyd 3 “camper van”.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 657.