Cofnodion Cyngor Cymuned Llanfair 02.06.21

Cofnodion Cyngor Cymuned Llanfair 02.06.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGORCYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR  AM 7.30 O’R GLOCH 02.06.21

YMDDIHEURIADAU

Dim.

PRESENNOL

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), Russell Sharp(Is-Gadeirydd), Robert G. Owen, Mair Thomas, Dylan Hughes, David J. Roberts,Osian Edwards.

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 14eg2021 fel rhai cywir.

MATERION YN CODI

Ethol Swyddogion am y flwyddyn 2021/22

Cadeirydd:-       Cyng. Eurig Hughes

Is-Gadeirydd:-  Cyng. Russell Sharp

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £512.00 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £10,041.43 yn llai o wariant nabeth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn ynbennaf am bod cyfraniad y Cyngor o £4,153.43 i Hamdden Harlech ac Ardudwy ddimyn cael ei dalu tan mis yma, nag oedd £4,000 fel cyfraniad i Gyngor Gwynedd igadw y toiledau cyhoeddus yn agored yn Llandanwg heb gael ei dalu.

LLinellau Melyn ger stesion LLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod, fel Cynghorydd Gwyneddwedi bod ar ol y mater uchod ag ei bod wedi derbyn yr ateb canlynol gan Iwan ApTrefor o Gyngor Gwynedd – eu body n llwyr ddeall ein pryderon mewn perthynas adiffyg cynnydd yn y mater canlynol ond gan fod Dylan Wyn Jones wedi gadael yCyngor a’r sefyllfa Covid presennol, tydi hi ddim yn debygol y bydd modd i;rgwasanaeth dderbyn penderfyniad i’r cais yn y tymor byr. Er hynny maen’t ynobeithiol gellir rhoi sylw i’r mater yn mis Hydref eleni. Er eu bod yn deallttydi hyn ddim am ddatrys y broblem ar gyfer y cyfnod yr haf yma, fellymaen’t  yn ein hysbysu y byddant ynedrych ar opsiynau dros dro yn yr ardal i geisio annog pobl i beidio parcio ary rhan yma o’r ffordd dros gyfnod yr haf. Byddant yn cysylltu yn ol yn fuan iegluro beth sydd yn bosib i’r gwasanaeth ei gynnig . Eglurodd y Clerc ei bodwedi cysylltu a Iwan Ap Trefor i ofyn am ddiweddariad ond nid oedd wedi caelymateb eto. Cytunwyd i ofyn iddynt wneud rhywbeth i rwystro rhai rhag parcio yny safle hwn oherwydd bod y ffordd yn gul a byddai y gwasanaethau brys methupasio.

EtholCynghorydd

Adroddodd y Clerc ei bod wedi cysylltu arSwyddog Etholiadol yn Gaernarfon yn ei hysbysu bod sedd wag yn bodoli ar yCyngor ag ei bod wedi derbyn rhybudd i’w osod i fyny. Bydd y rhybudd hwn yn dodi ben ar y 25ain o’r mis hwn  ag os nafydd neb wedi anfon ei enw ymlaen bydd gan y Cyngor yr hawl i gyfethol.

CEISIADAU CYNLLUNIO

Estyniad deulawr yn y cefn – Rhiwgoch,Harlech (NP5/66/266C

Cefnogi ycais hwn.

Dtganodd y Cyng. Osian Edwards ddiddordebyn y cais cynllunio uchod ag nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y cais.

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £11,979.10 yn ycyfrif rhedegol a £5,521.28 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y  mis

Mr.Arwel  Thomas    – £415.00 – torri gwair y fynwent, torrieiddew a drain a chwistrellu

Mr. M. J.Kerr              –   £90.00 – agor bedd y diweddar Mr. Gerallt Hywel Jones (llwch)

BHIBLtd                       – £358.00-  insiwrant y Cyngor

Mrs AnnwenHughes – £380.00 – cyflog 3 mis

429……………………………..Cadeirydd

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey          – £40.00 – rhent cwt yr hers (Mai)

Pritchard a Griffiths – £495.00 – claddu llwchy diweddar Mr. Gerallt Hywel Jones

Mr. M. Downey          – £40.00 – rhent cwt yr hers (Mehefin)

Ceisiadauam gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy – £4,153.43 –hanner y cynnig precept

Adroddoddy Trysorydd ei bod wedi cwblhau y Ffurflen Flynyddol i fyny hyd at 31ain oFawrth 2021, fe aeth yr Aelodau drwy y ffurflen hon ac fe gytunwyd i’wchymeradwyo ag hefyd cytunwyd bod y Cadeirydd ar Clerc/Trysorydd yn ei llofnodiar ran y Cyngor.

GOHEBIAETH

Mr.Euron Richards

Adroddodd yClerc ei bod wedi derbyn pris o £542.50 gan yr uchod i gario allan y gwaith opeintio giat porth yr eglwys, y gatiau ar railings yn Eglwys Llanfair a bod ypris hwn yn cynnwys llafur (£500) a deunyddiau (£42.50. Cytunwyd i dderbyn ypris hwn.

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd aBwrdeistrefol

Wediderbyn dogfen ynglyn ag Ymgynghoriad Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GDMC):Rheoli Cŵn gan yr adran uchod ag yn datgan bod Cyngor Gwynedd yn cario allanymgynghoriad statudol er mwyn ystyried a ddylid cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)ar gyfer rheoli cwn ag yn datgan bod unrhyw un yn gallu cynnig sylwadau ar y Gorchymynarfaethedig wrth lenwi’r holiadur ar lein a dyma’r linc i’r fersiwn ar y wesydd yn cynnwys yr holiadur www.gwynedd.llyw.cymru/ymgynghoriadrheolicwn. Hefyd yn datgan ei bod yn bwysigdarllen y wybodaeth sydd yn y Pecyn Gwybodaeth cyn llenwi’r holiadur. Os oesunrhyw un angen mwy o wybodaeth am yr Ymgynghoriad neu unrhyw gwestiynnau maeposib e-bostio[email protected] neu ffonio 01766 771000. Rhaidcyflwyno pob sylw cyn 21ain o Mehefin, 2021 ac yna bydd yrymatebion yn cael eu hystyried yn ofalus cyn y bydd adroddiad pellach yn caelei gyflwyno i Gabinet y Cyngor am benderfyniad ar y ffordd ymlaen. Adroddodd yClerc ei bod wedi anfon y ddogfen hon ymlaen i bob Aelod drwy e-bost.

UNRHYW FATER ARALL

Eisiau anfon at yr Adran Priffyrdd i ofyniddynt docio y coed sydd yn tyfu ar ochor y ffordd rhwng Argoed a Pensarnunwaith yn rhagor.

Cafwyd wybod bod y gwair ar hyd ochor y fforddo Castellfryn i fyny at groesffordd Caersalem angen ei dorri a cytunwydcysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn a hyn.

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod yrhysbysfwrdd sydd i lawr yn Y Maes, Llandanwg angen sylw a cytunwyd gofyn i Mr.Hywel Jones gael golwg arno i weld beth fyddai orau ei wneud a cytunodd y Cyng.Robert G. Owen gysylltu ag ef.

Eisiau gofyn i’r Adran Forwrol a fyddant yncario allan arolwg o’r beltiau bywyd er mwyn cael gweld a oes digon ohonynt ary traeth yn Llandanwg.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

DYDDIAD…………………………………………………….

                                                                                                               430

Share the Post:

Related Posts