August 1, 2021
Cofnodion Cyngor Cymuned Harlech 10.05.21
COFNODIONO GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH AGYNHALIWYD YN YSTAFELL Y BAND, HARLECH AM7.30 O’R GLOCH 10.05.21
YMDDIHEURIADAU
Cyng. SianRoberts, Gordon Howie.
PRESENNOL
Cyng. Huw Jones (Cadeirydd), Edwina Evans, CeriGriffiths, Gordon Howie,Thomas Mort. Martin Hughes, Rhian Corps, Tegid John, Joe Patton, WendyWilliams.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Ebrill 12ed 2021 fel rhai cywir.
DATGAN BUDDIANT
Nid oedd neb yn datgan buddiant ar unrhyw fater.
MATERION YNCODI
Ethol Swyddogion am yflwyddyn 2021/22:-
Cadeirydd:- Cyng. Huw Jones
Is-Gadeirydd:- Cyng. Edwina Evans
Aelodau Is-Bwyllgorau – Fynwent – casglu unrhyw 6 Cynghorydd ynghyd
Cynllunio – casglu unrhyw 6 Cynghorydd ynghyd
Llwybrau - Cyng. Thomas Mort a unrhyw 5 Gynghorydd arall
Neuadd Goffa – Cyng. Edwina Evans a CeriGriffiths
Cae Chwarae – Cyng. Joe Patton a unrhyw 5Gynghorydd arall
Hen Lyfrgell – Cyng. Thomas Mort, Edwina Evansa Martin Hughes
Un Llais Cymru – Cyng. Thomas Mort, Joe Pattona Martin Hughes
Seddi Cyhoeddus – Cyng. Thomas Mort, RhianCorps a Joe Patton
Rhandiroedd – Cyng. Huw Jones a Tegid John
Llwybr Natur Bron y Graig – Cyng. Huw Jones,Thomas Mort a Martin Hughes
Hamdden Harlech ac Ardudwy – Cyng. Joe Pattona Gordon Howie
Llywodraethwyr Ysgol Tan y Castell – Cyng.Sian Roberts a Rhian Corps (wrth gefn)
CynllunCyllideb
Adroddwyd bod £3,048.00 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £84.00 o wariant yn fwy na oeddwedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn.
FforwmCymunedol Harlech
Ni dderbyniwyd adroddiad y Cyng. Freya Bentham ynglyn ar Fforwm uchod.
Defribillator
Cafwyd wybod gan yCyng. Sian Roberts bod defribillator gan CADW wedi cyrraedd i’w osod ger y ganolfanymwelwyr wrth y Castell. Adroddodd y Clerc y ddau defribillator wedi cael eugosod ar y 16eg o Ebrill yn y ddau leoliad sef y blwch ffon ger groesfforddPenrhiwgoch a Garej Morfa. Hefyd adroddodd y Clerc bod Tomos Hughes o AmbiwlansCymru wedi gofyn a fyddai yn fodlon gweithredu fel gwarchodwr i’rdefribillators hyn a’i archwilio pan fydd yn cael galwad ganddo ag ei bod wedicytuno i hyn. Hefyd adroddodd y Clerc bod perchnogion Y Grocer wedi cynnig idefribillator gael ei osod ger y siop pan fydd wedi agor a cytunodd y Cyngor ihyn gael ei wneud a diolch iddynt am eu cynnig caredig.
LLwybr Natur Bron y Graig
Adroddodd y Cadeirydd ei fod wedi cysylltugyda Mr. Meirion Evans ag ei fod wedi cael gwybod ei fod yn mynd i gario allany gwaith o osod pont newydd ar y llwybr uchod yn y dyfodol agos.
681........................................Cadeirydd
Swyddfa BostHarlech
Cafwyd wybod bydd y swyddfa bost newydd yn agor yn y Wilderness yn misMehefin.
Toiledau ger y Castell
Adroddodd y Cadeirydd bod CameronMay wedi cychwyn ar y gwaith o dynnu allan yr hen sustem golchi dwylo yn ysafle uchod ag eu bod yn nawr yn disgwyl am brisiau gan ddau gwmni am sustemgolchi dwylo newydd. Hefyd cytunwyd bod y Cadeirydd yn gofyn i Mr. Lee Warwicklanhau yr adeilad cyn iddo ail agor.
Parti yn y Parc
Cafwyd wybod gan y Cyng. Joe Patton bod y trefniadauynglŷn ar digwyddiad uchod yn mynd ymlaen yn dda a bod gwahanol fudiadau wedicael gwahoddiad fel adloniant i blant. Cytunwyd cael stondin gan y Cyngor Cymuned.
ArchwiliadauMisol
Adroddodd y Cyng. Joe Patton ei fod wedi cario allan archwiliad misol o gaeauchwarae Brenin Sior V a Llyn y Felin ynghyd a safle Penygraig. Adroddodd fel aganlyn yn dilyn archwiliad mis diwethaf – bod pob safle mewn cyflwr da a bodsafle Penygraig yn iawn a bod y cerrig oedd wedi cael eu tynnu o dan y plinth wedicael eu gosod yn nol, hefyd adroddodd y Cyng. Joe Patton ei fod wedi anfon atSwyddog Llwybrau, Cyngor Gwynedd i’w hysbysu am y dwr glaw oedd wedi golchi ycerrig o wyneb y llwybr sydd yn mynd lawr o Penygraig i’r ffordd fawr. Mae yrardal chwarae yng nghae chwarae Brenin Sior V mewn cyflwr da ag hefyd nawr body gwair wedi cael ei dorri mae hyn wedi helpu i wasgaru y pridd oedd wedi caelei ddifrodi gan y moch daear a cytunodd y Cadeirydd cael gair gyda Mr. Gareth John Williams er mwyn cael gwybodbeth fyddai y ffordd orau ymlaen i adfer y llanast ar y cae. Mae cae chwarae Llyn y Felin yn iawn arwahan ifaterion bach angen sylw fel bod y rhaff ar un darn o’r offer pren angen einewid ag hefyd bod pren wedi torri o un o’r stepiau pren.
MATERION CYNGORGWYNEDD
Ni dderbyniwyd adroddiad gan y Cyng. Freya Bentham ynglyn a materion Cyngor Gwynedd.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Trosi’r hen arddangosleceir a’r siop partiau ceir ar y llawr isaf yn siop gyfleus ar y lloriau daearac isaf, creu 2 fflat ar y llawr cyntaf (Marchnad agored) ynghyd ac amnewid yffenestri UPVC diawdurdod gyda rhai gwydr dwbl efo ffrâm bren fain - Cyn Gapel Tabernacl, Stryd Fawr, Harlech(NP5/61/T558D)
Cefnogi y cais hwn.
ADRODDIAD Y TRYSORYDD
Adroddodd y Trysorydd bod £78,165.45 yn y cyfrifrhedegol, £31,093.26 yn y cyfrif cadw, £100.00 yng nghyfrif y Cadeirydd a £2.82 yn nghyfrif y fynwent.
Taliadau ynystod y mis
Cyngor Gwynedd - £792.00 – gwagio biniau y caeau chwarae
BHIB Insurance Ltd - £1,550.35 – insiwrant y Cyngor
Mr. G. J. Willaism - £144.00 – torri gwair caechwarae Brenin Sior
Mr. Rhys Jones - £459.83 – gosod trydan yn yddau diffibrilator
Mr. M. J. Kerr - £500.00 - agor bedd y diweddar Mr. John PhilipGriffiths
Derbyniadau yn ystod y mis
Pritchard aGriffiths - £1,530.00 – claddu y diweddar Mr. John Philip Griffiths
Cyllid a Thollad - £599.80 - T.A.W yn ol
Cyngor Gwynedd -£35,000.00 - hanner y precept
Ceisiadau amgymorth ariannol
Hamdden Harlech ac Ardudwy - £10,142.95 – hanner y cynnigprecept
682...........................................Cadeirydd
GOHEBIAETH
Ms Jodie Pritchard
Wedi derbyne-bost gan yr uchod ar ran Hamdden Harlech ac Ardudwy yn hysbysu y Cyngor bod ypostyn ar net yn y cwrt tenis wedi cael ei fandaleiddo ag yn gofyn a oes gan y Cyngor Cymuned unrhyw insiwrant argyfer hyn ag a fyddai y Cyngor yn gallu talu am ei drwsio.
Addysg Oedolion Cymru
Wedi derbyne-bost gan Cath Hicks ar ran yr uchod ynglyn a Pen y Graig ag yn datgan eu bodhwy yn dal y les ar y tir ond sydd yn cael ei leisio i’r Cyngor hwn am 7mlynedd o 1af Ebrill 2015 a bod y les hon wedi cael ei arwyddo ar yr 21ain oIonawr 2016. Mae Prif Weithredwr AOC wedi trafod y mater hwn gyda’r Cyng. FreyaBentham ar posibilrwydd i “anrhegu” y tir i’r Cyngor hwn yn barhaol, ag erbynhyn maen’t mewn sefyllfa i drafod y mater ymhellach. Maen’t eisiau gwybod afyddai gan y Cyngor ddiddordeb i wneud hyn ar yr amod bod y Cyngor yn talucostau cyfreithiol pawb. Cytunwyd gofyniddynt beth fyddai hyn yn olygu i’r Cyngor Cymuned os byddant yn cytuno igymeryd drosodd y safle fel “anrheg” ag hefyd gofyn am gopi o’i asesiad risco’r safle cyn i’r Cyngor ddod i benderfyniad terfynol.
Parc CenedlaetholEryri
Wediderbyn llythyr gan yr uchod yn gwahodd Aelodau y Cyngor i gyfarfod rhwng y Parcar Cynghorau Tref a Cymuned sydd ynardal De y Parc ar nos Iau yr 20ed o’r mis hwn am 7.00 o’r gloch er mwyn caelrhannu gwybodaeth sut mae yr Awdurdod a’i bartneriad wedi rhoi mesurau yn eulle ar gyfer rheoli ymwelwyr wrth i Eryri ail agor wedi’r cyfnod clo. Cytunwydbod y Cyng. Martin Hughes yn cynrychiol’r Cyngor yn y cyfarfod hwn.
Ms Natallie Griffiths
Wedi derbyn llythyr ynghyd a lluniau gan yr uchod ar ranteulu y diweddar Mr. John Philip Griffiths yn gofyn am ganiatad i osod sedd ercof amdano yn y fynwent gyhoeddus ag yn dangos ar y lluniau lle fyddai y teuluyn dymuno i’r sedd yma gael ei gosod. Cytunwyd rhoi caniatad iddynt osod seddyna ond ddim yn y lleoliad yr oeddynt wedi ei ddangos yn y lluniau. Cytunodd yCadeirydd gyfarfod Ms Griffiths ar y safle er mwyn egluro y sefyllfa iddi.
UNRHYW FATERARALL
Adroddodd y Cyng. Wendy Williams ei bod wedi cyfarfod aMrs Myfanwy Jones a trigolyn lleol a oedd eisiau trin darn o dir ger caechwarae Llyn y Felin a plannu blodau yna. Datganwyd bod y tir dan sylw braiddyn serth i gario gwaith allan arno. Ar ol trafodaeth cytunwyd bod y Cyng. JoePatton yn cael gair hefo cwmni insiwrant y Cyngor ynglyn a lle fyddai y Cyngoryn sefyll os byddant yn rhoi caniatad i’r gwaith hwn gael ei wneud a damwain yndigwydd ar y safle.
Adroddodd y Cyng. Martin Hughes a Joe Patton eu bod wedicyfarod a Mr. a Mrs Maxwell ar y 7ed o’r mis hwn i drafod cyfanosddiadau yr HenLyfrgell ar Neuadd Goffa.
Datganwyd pryder am or-yrru ar Ffordd y Morfa wrth ddod imewn i Harlech o gyfeiriad Talsarnau a cytunwyd bod angen gwneud rhywbeth iarafu y gyrrwyr. Cytunwyd bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynGaernarfon ynglyn a hyn.
Eisiau tynnu sylw yr Adran Priffyrdd bod y palmantgyferbyn a Gwesty y Queens angen sylw.
Gofynnwyd i’r Clerc edrych i mewn i weld beth oedd yndigwydd gyda’r arwydd “plant yr chwarae” ar ystad Cae Gwastad.
Eisiau gofyn i Mr. Mark Jenkins docio nol y gwrych syddwedi gor-dyfu ger ei dy oherwydd diffyg gwelededd.
Eisiau gadael yr Adran Priffyrdd wybod bod angen torri ydrain sydd yn gor-dyfu o’r ystad ddiwydianol ar Ffordd y Nant.
Datganwyd pryder bod gwelededd ddim yn glir i yrrwyr syddyn dod i fyny o Pentre’r Efail i ffordd y dref oherwydd bod deunydd o siopgerllaw yn ei flocio.
ARWYDDWYD..............................................Cadeirydd
DYDDIAD...................................................... 683.