October 4, 2021

Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Llanfair ar 16.09.21

COFNODION O GYFARFOD COFNODION CYNGOR CYMUNED LLANFAIR A GYNHALIWYD YNNEUADD GOFFA, LLANFAIR AM 7.30 O’R GLOCH 16.09.21

 

Cyng. Eurig Hughes (Cadeirydd), David J.Roberts, Osian Edwards.

                       

PRESENNOL

Cyng. Russell Sharp (Is-Gadeirydd), Robert G.Owen, Hywel Jones, Mair Thomas, Dylan Hughes.

 

Ar ran y Cyngor croesawodd y Cadeirydd y Cyng.Hywel Jones i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor ac fe arwyddwyd y Datganiad DerbynSwydd ganddo ar gychwyn cyfarfod swyddogol y Cyngor.

 

Yn absenoldeb y Cadeirydd cymerwyd y Gadairgan yr Is-Gadeirydd.

 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Gorffennaf15ed 2021 fel rhai cywir.

 

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £7,370.09 wedi cael ei wario erscychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £6,016.34 yn llai o wariant nabeth oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. ‘Roedd hyn ynbennaf am bod cyfraniad y Cyngor o £4,000 i Gyngor Gwynedd i gadw y toiledaucyhoeddus yn agored yn Llandanwg heb gael ei dalu.

 

LLinellau Melyn ger stesion LLandanwg

Adroddodd y Clerc ei bod, fel CynghoryddGwynedd yr ardal ei bod wedi cysylltu gyda Iwan Ap Trefor ynglyn ar mater bod ycones ar ochor y ffordd wedi cael ei stacio i fyny ag i ofyn a yw hyn wedi caelei wneud yn swyddogol. Cafodd ateb yn datgan nid oedd hyn wedi cael ei wneud ynswyddogol ag o ganlyniad i hyn byddai yn anfon Swyddog i lawr i ail osod y cones.Cafwyd wybod bod y cones hyn yn dal i gael eu symud o ochor y ffordd. Hefyd adroddoddy Cyng. Hughes ei bod wedi derbyn ateb gan Ms Rosy Berry yn dilyn yr ymateboedd wedi ei anfon ati yn dilyn cyfarfod diwethaf o’r Cyngor ag ei bod yndatgan ei bod yn siomedig bod y Cyngor yn cefnogi cynllun y llinellau melyn abod ddim damweiniau wedi bod ar y ffordd hon.

 

Cyfarfodgyda trigolion Llandanwg – 18.8.21

Adroddodd yClerc fel Cynghorydd Gwynedd yr ardal, ei bod, ar gais rhai o drigolionLlandanwg wedi trefnu cyfarfod safle gyda Mr. Iwan Ap Trefor er mwyn trafodpryderon gor-yrru ar y ffordd. ‘Roedd hyn yn dilyn cyfarfod rhwng y Cyng.Hughes a Trudy Thomson a Marie-Claire Marsden i drafod eu pryderon ynglyn armater hwn. Cafwyd wybod bod y Cyng. Mair Thomas ar Cyng. David John Roberts hefydyn bresennol ar ran y Cyngor Cymuned ag ‘roedd 5 o drigolion Llandanwg ynbresennol. Datganodd y Cyng. Hughes bod pryder ynglyn a gor-yrru lawr y fforddyn Llandanwg wedi cael ei godi nol yn mis Mehefin 2017 ag ei bod yr adeg hynnywedi cyfarfod Mr. Dylan Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaethau Traffic, Cyngor Gwynedda bod cynlluniau i symud yr arwydd 30 m.y.a. yn nes i lawr y ffordd, ond ynanffodus fe gafodd y cynllun hwn ei stopio oherwydd bod Cyngor Gwynedd wediderbyn gwrthwynebiadau i hyn gael ei wneud. Hefyd cafwyd wybod bod yr heddluwedi bod yn cadw golwg ar y gyrru lawr y ffordd hon yr adeg hynny. Yn ycyfarfod gyda Mr. Iwan Ap Trefor cytunwyd bod mesurydd traffic yn cael ei osodar y ffordd yn gyntaf ag hefyd bod arwyddion Araf/Slow yn cael eu gosod ar yffordd gyda cefndir coch bob ochor i’r bont ag arwydd yn dynodi bod bont nesymlaen. Datganodd y Cyng. Hughes ei bod wedi ceisio cysylltu gyda Mr. Iwan ApTrefor er mwyn cael diweddariad yn dilyn y cyfarfod ond nid oedd wedi cael atebganddo eto. Datganwyd y pryder sydd gan drigolion Llandanwg bod y bws sydd yncael ei defnyddio yn lle y tren oherwydd bod lein y Cambrian ar gau am bodgwaith yn cael ei wneud ar Traffont y Bermo ddim yn mynd lawr i Landanwg ond ynhytrach bod unrhyw un sydd angen ei defnyddio yn gorfod cerdded i fyny atFrondeg. Datganodd y Cyng. Annwen Hughes ei bod wedi cysylltu gyda TrafnidiaethCymru ynglyn a hyn mwy nag unwaith ag eu bod wedi datgan eu bod yn nawr ynedrych i mewn i ddefnyddio tacsis i fynd a trigolion i fyny at y bws yn Frondegpan fydd angen.

 

 

 

                                                                                               434............................................Cadeirydd

 

 

CEISIADAU CYNLLUNIO

Adnewyddu strwythurol gan gynnwys gosodcladin allanol ac ailadeiladu balconi a gosod balwstrad allanol gwydr -Dol-y-Cae,Frondeg, Llanfair (NP5/66/271)

Cefnogi y cais hwn.

 

Trosi adeilad allanol o garreg yn fwthynunllawr gyda 1 ystafell wely - Adeilad allanol, Llandanwg Farm, Llandanwg

(NP5/66/275A)

Cefnogi y cais hwn.

Datganodd y Cyng. Mair Thomas ddiddordeb yn ycais uchod ac fe arwyddwyd dogfen Datgan Buddiant Personnolganddi.

 

Dymchwel y ports blaen a’r penty presennol acadeiladu estyniadau unllawr ar y blaen a’r ochr - Hen Gaerffynon, Harlech (NP5/66/278)

Cefnogi y cais hwn.

 

ADRODDIAD Y TRYSORYDD

Adroddodd y Trysorydd bod £14,100.78 yn ycyfrif rhedegol a £5,521.42 yn y cyfrif cadw.

 

Taliadau yn ystod y  mis

Mr. D. A.Thomas       - £540.00 –  torri gwair y fynwent x 2

Mrs AnnwenHughes - £380.00 -   cyflog 3 mis

CyngorGwynedd        - £180.00 -   archwiliad mewnol 20/21

 

Derbyniadau yn ystod y mis

Mr. M. Downey    -        £40.00 – rhent cwt yr hers (Awst)

Cyngor Gwynedd  -     £409.77  - ad-daliad incwm maes parcio Llandanwg

Cyngor Gwynedd  -  £8,000.00  -                Hannery precept

Mr. M. Downey   -        £40.00 – rhent cwt yr hers (Medi)

 

Adroddoddy Trysorydd ei bod wedi derbyn llythyr gan HSBC yn hysbysu y Cyngor eu bod yngwneud newidiadau i’w cyfrif busnes gan gynnwys newidiadau i’r rhai o’igwasanaethau. Fydd y cyfrif cymunedol ddim ar gael rhagor a bydd yn newid icyfrif banc elusenol ond bydd rhif y cyfrif yn aros yr un peth. O’r 1af oDachwedd eleni bydd y newid hyn yn cymeryd lle a bydd y cyfrif newydd hyn yncario taliad misol a bydd newid sieciau neu arian nawr yn godadwy. Y gost fyddgan y cyfrif banc elusenol bydd £5.00 y mis a bydd cost o 40c ar bob siec byddyn cael ei dalu i mewn neu allan o’r cyfrif. Cytunwyd ar hyn o bryd i gario ymlaengyda sieciau.

 

GOHEBIAETH

CyngorGwynedd – Adran Economi a Chymuned                                                                              

Wediderbyn llythyr ag atodiadau gan yr uchod ynglyn ag Ardal Ni 2035 sydd yn datgany byddant yn cychwyn ar gyfnod o drafod ac ymgysylltu gyda’r Cyngor hwn ag yngofyn iddynt ystyried y cwestiynau isod fel grwp cyn i’r Cadeirydd a’r Clercgael cyfarfod gyda Gwen Evans, Swyddog Cefnogi Cymunedau yn rhithiol. Adroddoddy Clerc y byddai yn e-bostio y llythyr ynghyd ar atodiadau hyn i’r Aelodau er mwyncael trafod y mater mwy manwl yng nghyfarfod nesa y Cyngor.

 

Parc Cenedlaethol Eryri

Wediderbyn llythyr gan yr uchod ynglyn a dathliadau penblwydd y Parc yn 70 oed agfel rhan o’r dathliadau maen’t yn cynnig “Pecyn Plannu Coed” i’r Cyngor ag osbydd gan y Cyngor ddiddordeb mewn derbyn y pecyn hwn mae rhaid iddynt gysylltugyda’r Swyddog erbyn y 30ain o Fedi. Ar ol trafodaeth cytunwydgofyn a fyddai yn bosib derbyn 20 o becynnau plannu coed yn lle 70.

 

ParcCenedlaethol Eryri

Wediderbyn llythyr gan yr uchod ynglyn ag Arolwg: Ein defnydd o’r Iaith Gymraegmaen’t yn fwriadau gofyn i’r cyhoedd ei gwblhau dros yr wythnosaf nesa ag yn gofyni aelodau y Cyngor ei gwblhau hefyd. Cytunwyd bod y Clerc yn anfon y llythyrhwn ymlaen at bob Aelod er mwyn iddynt gallu ei gwblhau ar lein os byddant yndymuno.

 

 

435............................................Cadeirydd

UNRHYW FATER ARALL

Cafwyd wybod bod cwyn wedi ei dderbyn bodllwybr cyhoeddus rhif 34 angen ei dorri ac adroddodd y Clerc ei bod wedicysylltu gyda’r contractwr yn barod ynglyn a hyn.

Trafodwyd cyflwr yr hysbysfwrdd sydd yn YMaes, Llandanwg a cytunodd y Cyng. Hywel Jones a Robert G. Owen gael golwgarno.

Cafwyd wybod gan y Cyng. Mair Thomas bod ypolion sydd yn dal arwyddion i lawr y ffordd am Llandanwg wedi cael eu newid.

Cafwyd wybod bod yna or-dyfiant gerRhiwcenglau a cytunwyd i gysylltu gyda’r Adran Priffyrdd ynglyn  a hyn.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Cytunwyd i gynnal cyfarfod nesa y Cyngor panfydd angen

 

 

ARWYDDWYD……………………………………………..Cadeirydd

 

DYDDIAD…………………………………………………….

                                                                                                               436

 

View Files