Cofnodion cyfarfod Cyngor Cymuned Harlech – 07/10/24

COFNODION O GYFARFOD CYNGOR CYMUNED HARLECH A GYNHALIWYD YN YR HEN LYFRGELL, HARLECH AM 7.30 O’R GLOCH 07.10.24

YMDDIHEURIADAU

Cllrs. Rhian Corps, Ceri Griffiths, Gordon Howie.

 

PRESENNOL

Cyng. Christopher Braithwaite (Cadeirydd), Edwina Evans, Martin Hughes, Giles Bentham, Reg Chapman, James Maxwell, Wendy Williams, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).

‘Roedd 10 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar gychwyn y cyfarfod.

Croesawodd y Cadeirydd Mr. Simon Dawson a Ms Jodie Pritchard, dau o Gyfarwyddwyr Bwrdd HAL i’r cyfarfod i drafod dyfodol y ganolfan nawr bod y safle wedi cau. Diolchwyd am y cyfraniad yr oeddynt wedi ei gael am Awst a Medi gan y Cyngor ag yn gofyn a fyddai y Cyngor Cymuned yn cario ymlaen i gyfranu er mwyn cadw y ganolfan yn solvent oherwydd mae gan Gyngor Gwynedd dri mis i wneud penderfyniad i ateb i ddweud os ydynt yn fodlon cymeryd y ganolfan drosodd. ‘Roedd gwirfoddolwyr yn cadw golwg ar y safle ag yn gwneud yn siwr bod y lle yn cael ei gadw yn daclus. ‘Roeddynt angen cyflogi Cyfreithiwr i wneud yn siwr bod pob dim yn cael ei wneud yn iawn. Datganodd y Cadeirydd bod y Clerc wedi anfon ar yr Archwiliwr Mewnol ag Un Llais Cymru ar gais un o’r Cynghorau eraill i ofyn a oedd yn iawn i gario ymlaen cyfranu yr arian precept i HAL nawr bod y lle wedi cau ag ei bod wedi cael ateb gan yr Archwiliwr Mewnol yn datgan “os mae’r safle wedi cau, a nid oes disgwyl i'r lle ail agor eto, yna mae natur y berthynas wedi newid, h.y. mae’r bwriad gwreiddiol o gyfrannu arian "er mwyn cadw y pwll nofio yn agored" ddim yno bellach, a felly does dim sail i barhau y cyfraniadau gan fod gan y Cyngor ddyletswydd i warchod arian cyhoeddus” ag ‘roedd Un Llais Cymru yn cefnogi hyn. Gwrthwynebodd y Cyng. Martin Hughes hyn a nododd nad oedd hyn yn berthnasol i Gyngor Cymuned Harlech gan fod y pwll nofio o fewn ffiniau'r Cyngor ac yn ased i'r gymuned gan gynnwys y ffordd fynediad. Roedd yn lleoliad strategol a oedd yn parhau i gael ei ddefnyddio fel pwll nofio a’i peidio. Pe bai HAL yn cael mynd yn fethdalwr yna ni fyddai'r gymuned yn cael unrhyw ddylanwad dros yr hyn a ddigwyddodd iddi. Nid oedd rhai o’r Aelodau eraill yn hapus gyda’r ateb hwn ag yn datgan bod yr e-bost hwn heb gael ei anfon ar ran Cyngor Cymuned Harlech ag yn awgrymu bod y Clerc yn cysylltu gyda’r Archwiliwr Mewnol ag Un Llais Cymru unwaith yn rhagor gan ofyn y cwestiynau canlynol – “A oes gan Gyngor Cymuned Harlech y pŵer i barhau i ariannu HAL ar hyn o bryd i sicrhau bod y cyfleusterau yn aros er budd y gymuned” a “A yw'n dderbyniol nawr i fod yn talu'r arian precept er nad oes unrhyw wasanaethau yn cael eu darparu”. Hefyd cytunwyd bod Bwrdd HAL yn cynnwys datganiad i’w anfon at yr Archwiliwr Mewnol ag Un Llais Cymru.

 

CYHOEDDIADAU Y CADEIRYDD

Roedd gwaith brys wedi gorfod cael ei wneud ar un o’r toiledau oedd yn gollwng yn y toiledau cyhoeddus ger y neuadd goffa ag hefyd mae y gwaith trydanol yn cael ei gario allan yn y toiledau ar hyn o bryd gan A1 Electrical. ‘Roedd Mr. Martin Hanks yn ymddiheuro ei fod ddim yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heno ond ei fod yn mynd i anfon copi o’i adroddiad iddo ef ar Clerc a mae yn gobeithio mynychu cyfarfod y Cyngor yn mis Tachwedd. Mae Prosiect Celf Harlech yn dod yn ei flaen yn dda ond maen’t wedi gorfod rhoid cais cynllunio i mewn ag hefyd yn gorfod cael archwiliad coed wedi ei gario allan a cafwyd wybod eu bod wedi derbyn llythyrau cefnogaeth gan y rhai perthnasol. Mae angen cadw y cyfarfodydd i amser o ddim mwy na 2 awr fel sydd wedi cael ei ddatgan yn y Rheolau Sefydlog. ‘Roedd y Cadeirydd yn gofyn i bawb gadw at y Cod Ymddygiad yn enwedig rhai Aelodau.

 

COFNODION

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Medi 2il 2024 fel rhai cywir.

 

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Datganodd y Cyng. Martin Hughes ei fod heb glywed dim ynglyn ag archebu lle yn cynadledd flynyddol Un Llais Cymru ar yr 16eg o’r mis hwn a datganodd y Clerc bod ei le wedi ei archebu a bydd yr anfoneb yn cael ei thalu heno.

 

DATGAN BUDDIANT

Nid oedd yr un Aelod yn datgan buddiant ar unrhyw fater.

 

MATERION CYNGOR GWYNEDD

Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi cael gwybodaeth ynglyn a Gofal Cartref yn ardal Penrhyndeudraeth a Harlech ag eu bod wedi bod yn gweithio yn agos iawn gyda’r darparwr gofal, ‘Gofal Seibiant’ oherwydd cyfnod heriol i’r cwmni wrth fethu recriwtio. Yn anffodus oherwydd hyn mae’n ymddangos na fydd modd i’r gwasanaeth barhau a bydd cytundeb “Gofal Seibiant” yn dod i ben dros y misoedd nesaf. Er mwyn sicrhau bod darpariaeth gofal yn dal ar gael yn yr ardal maen’t yn derbyn cefnogaeth gan gwmni gofal “Meddygcare” a mae rhai achosion yn yr ardal wedi eu trosglwyddo iddynt yn barod. Mae modd defnyddio tocynnau bws ar y trenau lleol tan fis Mawrth nesaf ond nid ar trenau Ysgol. ‘Roedd wedi ymweld a maes parcio Min y Don a wedi sylw bod un o’r bollards ar tar wedi malu o’I gwmpas ag oherwydd hyn yn gwneud y bollard yn rhydd ag hefyd ‘roedd darn o’r ffens sydd yn rhedeg o giat mynedfa I’r traeth draw am y biniau wedi cael ei difrodi ag ‘roedd wedi anfon lluniau o rhain ymlaen I Gyngor Gwynedd. Yn dilyn diwrnod o gyfweliadau I benodi Prif Weithredwr newydd I Awdurdod y Parc Cenedlaethol yr wythnos diwethaf, ar diwedd y dydd fe gafodd Mr. Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheolaeth Tir, ei benodi yn Brif Weithredwr newydd yr Awdurdod. Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod ddim yn hapus yn y ffordd oedd y Cadeirydd yn ymateb iddo heno ag hefyd ddim yn hapus hefo’r erthygl yn Llais Ardudwy ynglyn a HAL. ‘Roedd wedi derbyn e-bost ynglyn ar math o ffens oedd ei angen lawr yn cae chwarae Brenin Sior, wedi mynychu y cyfarfod gyda Cyfeillion Ellis Wynne. Yn ystod cyfarfod y Cyngor yr wythnos diwethaf ‘roedd rhybudd o gynnig wedi cael ei wneud ynglyn ag ystad y goron a bod Cyngor Gwynedd yn mynd I ysgrifennu atynt yn gofyn I beidio talu iddynt. ‘Roedd rhybudd o gynnig wedi cael ei wneud ynglyn a tlodi tanwydd yn gofyn I Gyngor Gwynedd ysgrifennu at y Prif Weinidog Sir Kier Starmer yn gwrthwynebu hyn.

 

MATERION YN CODI

Cynllun Cyllideb

Adroddwyd bod £33,793.42 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £28,414.18 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. (Mae hyn ar ol i’r gyllideb gael ei ail wneud). Cytunwyd i ychwanegu enw y Cyng. James Maxwell i is-bwyllgor ariannol y Cyngor.

 

Ethol Cynghorydd

Adroddodd y Clerc bod y rhybudd oedd wedi cael ei roi i fyny ar y ddau hysbysfwrdd a gwefan y Cyngor yn hysbysebu y sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor wedi dod i ben ar y 9ed o fis diwethaf ag ‘roedd wedi cael gwybod gan y Swyddog Etholiadol ei fod heb dderbyn ddim enw yn datgan diddordeb ag felly bydd rhybudd arall yn cael ei baratoi ganddo yn y dyfodol agos a bydd yn gadael y Clerc wybod pryd fydd angen rhoid hwn i fyny. Hefyd ‘roedd y Clerc wedi derbryn hysbyseb ynglyn ar sedd wag arall sydd ar y Cyngor yn dilyn ymddiswyddiad Mr. Tegid John ag bydd y rhybudd hwn yn dod i ben ar y 25ain o’r mis hwn. Fel y sedd wag arall sydd yn bodoli os bydd cais am etholiad yn cael ei dderbyn gan y Swyddog Etholiadol byddai etholiad am y ddwy sedd wag sydd yn bodoli ar y Cyngor yn cael ei gynnal ar y 12ed o Ragfyr. Cytunwyd rhoid ethol Is-Gadeirydd ar yr agenda at mis nesa.

 

Public Benches

Adroddodd y Cyng. Wendy Williams ei bod wedi bod yn siarad hefo Mr. Lee Warwick ynglyn a peintio rhai o’r seddi ag ei fod ddim yn gallu gwneud dim ar hyn o bryd a cytunwyd i adael peintio y seddi tan y gwanwyn. Adroddodd y Cyng. Reg Chapman ei fod wedi cael prisiau am seddi wedi eu gwneud o ddeunydd ail gylchu a cytunwyd archebu 3 o rhain am bris o gwmpas £370.89 yr un a cytunodd y Cadeirydd i ddelio hefo’r mater o gael lle i’w cadw nes bydd eu angen.

 

Goleuadau Nadolig

Cafwyd wybod bod y goleuadau dal yn adeilad y scowts a bod angen trydanwr ddod i’w testio. Datganodd y Cadeirydd bod Mr. Tegid John yn barod i storio y goleuadau hyn a cytunwyd talu iddo am wneud hyn a chytunwyd i’r Clerc gysylltu gyda Mr. Tomos Slattery ynglyn a gosod y goleuadau hyn i fyny ar y polion trydan a gofyn iddo gysylltu gyda’r Cyng. Reg Chapman ynglyn a hyn.

 

Cyfeillion Ellis Wynne

Adroddodd y Cadeirydd bod y cyfarfod â'r uchod wedi cael ei gynnal ar yr 17eg o fis diwethaf a datganodd y Cadeirydd bod y Cyfeillion yn gofyn a fyddant yn cael cefnogaeth gan y Cyngor.’ Roedd y lle yn costio £5,000 i’w redeg yn flynyddol a bod ganddynt £35,000 yn y banc, bod y Cyfeillion yn Ymddiriedolwyr Rheoli a bod y Cyngor Cymuned yn Ymddiredolwyr Ceidwadol. ‘Roedd ddim cytundeb ffurfiol mewn lle a bod tri opsiwn ar gael sef cario ymlaen fel ag y maent, gwerthu y les neu bod y Cyngor Cymuned yn eu cefnogi. ‘Roedd y Cadeirydd wedi cael y ddogfen ynglyn ar Cofrestru Tir a cytunwyd i fynd ar ddogfen hon at Gyfreithiwr y Cyngor.

 

Hysbysfwrdd Cae Chwarae Brenin Sior

Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Joe Patton ynghyd a cynllun o’r uchod er mwyn ei osod yng nghae chwarae Brenin Sior a fydd yr hysbysfwrdd hyn yn egluro defnydd y safle ynghyd a’i hanes. Cytunodd pawb bod yn iawn i Mr. Patton gario ymlaen i archebu yr hysbysfwrdd hyn. Cytunwyd bod angen archebu nets newydd i’r goliau yn y cae chwarae hwn.

 

Rhandiroedd

Cafwyd wybod gan y Cyng. Giles Bentham bod y gwaith ar y safle uchod i fod i gychwyn y mis hwn.

 

Cynllun Rheolaeth Llwybr Natur

Adroddodd y Cadeirydd bod cyfarfod o is-bwyllgor yr uchod sef ef, ar Cyng. James Maxwell a Reg Chapman yn cyfarfod dydd Gwener yr 11eg o’r mis hwn i drafod y safle uchod.

 

Car Parks

Cytunwyd bod angen anfon at Gyngor Gwynedd yn gofyn beth oedd incwm y meusydd parcio yn y dref am y flwyddyn ariannol diwethaf ag eisiau gofyn i un o’r Swyddogion dod i gyfarfod o’r Cyngor er mwyn trafod y cynlluniau ynglyn a maes parcio Bron y Graig Uchaf. Cytunwyd bod angen anfon at Gyngor Gwynedd ynglyn a chyflwr bler Parc Bron y Graig.

 

Cofrestr Asedau y Cyngor

Cytunwyd sefydlu is-bwyllgor tasg a gorffen a cytunodd y Cyng. James Maxwell a Giles Bentham fod yn rhan o’r is-bwyllgor hwn

 

Cynllun hyfforddiant y Cyngor

Cytunwyd bod angen creu cynllun hyfforddiant y Cyngor a’i rhoid ar wefan y Cyngor.

 

Mynediad o bell yng nghyfarfodydd y Cyngor

Cafwyd wybod bod deunydd wedi cael ei archebu gan bwyllgor yr Hen Lyfrgell tuag at gallu gwneud hyn a cytunwyd gofyn beth arall oedd angen er mwyn gallu ei ddefnyddio.

 

Rheolau Ariannol

Cytunwyd bod yr Is-bwyllgor ariannol yn trafod yr uchod pan maen’t yn cyfarfod.

 

Gwahanol Adroddiadau

Oherwydd bod ddim digon o amser i drafod y mater uchod heno, bod y mater yn cael ei symud i agenda mis nesa.

 

Translator

Oherwydd bod ddim digon o amser i drafod y mater uchod heno, bod y mater yn cael ei symud i agenda mis nesa.

 

CEISIADAU CYNLLUNIO

Newid defnydd modurdy presennol yn windy Llanllwyni, Harlech. (NP5/61/92C)

Cefnogi y cais hwn

 

Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer allanol ar yr edrychiad gorllewinol 32 Y Waun, Harlech (NP5/61/668)

Cefnogi y cais hwn

 

Caniatâd Hysbyseb ar gyfer gosod arwyddion newydd - 1 piler mynediad ac 1 totem (y ddau wedi'u goleuo) ac 1 arwydd cyfeiriadol (heb ei oleuo) Garej Toyota, Ffordd Newydd, Harlech (NP5/61/AD20J)

Cefnogi y cais hwn

 

ADRODDIAD Y SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL

Adroddodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol bod £29,104.26 yn y cyfrif rhedegol a £103,146.71 yn y cyfrif cadw.

Taliadau yn ystod y mis

Mrs Kim Howie - £55.99 - taliad misol am gynnal gwefan y Cyngor a gwaith ychwanegol ar y wefan

Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc

Mr. Joe Patton - £30.55 - ad-daliad itemau I’r ardd gymunedol

Cameron May - £80.00 - amnewid fflysio wedi torri yn y toiledau ger y Neuadd Goffa

Un Llais Cymru - £95.00 - mynychu cynhadledd flynyddol Un Llais Cymru

Cyngor Gwynedd - £99.00 - rhent toiledau cyhoeddus ger y Neuadd Goffa

J. B. Pest Control - £50.00 - gwaredu nyth gwenyn yn y fynwent gyhoeddus

Mr. G. J. Williams - £260.00 - torri gwair cae Brenin Sior ar cae pel droed

Mr. M. J. Kerr - £480.00 - agor bedd y diweddar Mrs Melanie Amber Griffiths

Mr. M. J. Kerr - £90.00 - agor bedd y diweddar Ms Rhian Wyn Roberts (llwch)

 

Ceisiadau am gymorth ariannol

Hamdden Harlech ac Ardudwy - £1,824.75 – cynnig precept (taliad misol)*

*Cytunwyd i aros am ateb gan Un Llais Cymru ag yr Archwiliwr Mewnol cyn gwneud penderfyniad ynglyn a talu yr uchod.

Pwyllgor Neuadd Goffa - £1,000

Pwyllgor Hen Lyfrgell - £1,000

Eisteddfod Ardudwy - £500

Ysgol Tan y Castell - £500

Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Edwina Evans a wnaeth y Cyng. Wendy Williams gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.

 

Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf

Travel Chapter £1,000.00 - grant i’r ardd gymunedol

Parc Cenedlaethol Eryri - £500.00 – grant i’r ardd gymunedol

Pritchard a Griffiths - £945.00 – claddu y diweddar Mrs Melanie Amber Griffiths

Cyllid a Thollad - £182.36 - ad-daliad T.A.W

 

Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf

Catrin Soraya Williams – £145.00 - gwasanaeth cyfieithu

 

GOHEBIAETH

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd ger bolardiau Bron y Graig, Harlech I fyny hyd at Pant Mawr, Harlech ar gau ar y 7ed o’r mis hwn ar sail iechyd a diogelwch I’r cyhoedd yn ystod gwaith ar ran Dwr Cymru.

Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd

Wedi derbyn llythyr gan yr uchod ynglyn ar rhaglen waith am mis Hydref ag yn datgan bydd y Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar ardal rhwng y 28ain o’r mis hwn ar 1af o Dachwedd.

Cyngor Gwynedd – Adran Amgylchedd

Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y ffordd yr A496, Harlech o bwynt ger cyffordd Ffordd Isaf (B4573) hyd at bwynt gyferbyn ag Aldburie, Harlech ar gau ar yr 16eg mis hwn ar sail iechyd a diogelwch I’r cyhoedd yn ystod gwaith ar ran Scottish Power.

Sut gallwn ni eich helpu chi heddiw

Dewiswch wasanaeth gan ddefnyddio'r gwymplen ar y dde
cyCymraeg