YMDDIHEURIADAU
Cyng. Ceri Griffiths, Wendy Williams, Gordon Howie, Mark Lewis, Simon Turner
PRESENNOL
Cyng. Christopher Braithwaite (Cadeirydd), James Maxwell (Is-Gadeirydd), Tegid John, Edwina Evans, Rhian Corps, Reg Chapman, Martin Hughes, a’r Cyng. Annwen Hughes a Gwynfor Owen (Cyngor Gwynedd).
‘Roedd 7 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar gychwyn y cyfarfod.
Cwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd
Cafwyd cwestiynau a sylwadau gan rai o'r cyhoedd gan ddweud ei fod yn braf gweld bod y pwyllgor yr Eisteddfod lleol wedi cymryd y amser i anfon llythyr o ddiolch, gofynnwyd pam nad oedd gohebiaeth diweddar yn gofyn am slot gael ei gynnwys yn yr agenda ynglyn a cyfranogiad cyhoeddus wedi cael ei gynnwys yn gohebiaeth mis Mawrth, ac eglurwyd fod hyn wedi’i drafod ar ddechrau cyfarfod mis Mawrth. Gofynnwyd pam roedd aelodau’r cyhoedd wedi’u heithrio o’r cyfarfod pan agorwyd y tendrau am dorri’r glaswellt ac eglurwyd fod hyn oherwydd cyfrinachedd, gofynnwyd am enwau’r Cynghorwyr sydd wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant i’w cynnwys yn yr adran taliadau pan fydd yr anfoneb yn cael ei thalu, gofynnwyd pam nad oedd ffens o gwmpas y tanciau nwy yn Pant Mawr ac eglurwyd bod y darn hwn o dir wedi’i werthu i berchnogion Pant Mawr ac felly nid oedd yn gyfrifoldeb y Cyngor Cymuned.
Gofynnwyd y cwestiwn ynglŷn â’r cwrt tenis a pha waith cynnal a chadw oedd i’w wneud iddo, dywedwyd bod map y dref yn maes parcio Bron y Graig isaf angen ei ddiweddaru a mynegwyd pryder am gyflwr bler yr hen siop deledu.
CYHOEDDIADAU Y CADEIRYDD
Croesawodd y Cadeirydd y Cyng. Tegid John yn nol fel Aelod o’r Cyngor ag fe arwyddwyd dogfen derbyn swydd gan y Cyng. John ar gychwyn y cyfarfod.
Ar ran y Cyngor cydymdeimlodd y Cadeirydd ar Cyng. Edwina Evans yn dilyn marwolaeth ei brawd.
Dywedodd bod cais rhyddid gwybodaeth wedi cael ei dderbyn yn ddiweddar a bod yr holl wybodaeth a ofynwyd am wedi cael ei anfon i’r unigolyn.
Cafwyd diweddariad ar y ddogfen cynnydd y Ffordd Ymlaen.
COFNODION
Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod Mawrth 3ydd 2025 fel rhai cywir.
MATERION YN CODI O’R COFNODION
Cytunwyd dylai bod gohebiaeth oedd wedi ei dderbyn gan Mrs Sue Travis ynglyn a gofyn am slot ar yr agend am gyfranogiad cyhoeddus wedi gael ei gynnwys yn cofnodion mis Mawrth.
DATGAN BUDDIANT
Datganodd y Cyng. Edwina Evans ddiddordeb yn llythyr Teulu Castell ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddi a ni chymerodd ran pan drafodwyd y mater.
Datganodd y Cyng. Tegid John ddiddordeb yng nghais cynllunio Foel, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddo a ni chymerodd ran pan drafodwyd y cais.
Datganodd y Cyng. Christopher Braithwaite ddiddordeb yng nghais cynllunio Foel, Harlech ag fe arwyddwyd Dogfen Datgan Buddiant Personnol ganddo a ni chymerodd ran pan drafodwyd y cais.
MATERION CYNGOR GWYNEDD
Fe dderbyniwyd yr adroddiad canlynol gan y Cyng. Annwen Hughes ar Cyng. Gwynfor Owen – Adroddodd y Cyng. Annwen Hughes ers y cyfarfod diwethaf ei bod wedi ei bod wdi bod mewn cyfarfod gyda’r Heddlu yn Bermo ar y 7ed o’r mis diwethaf a bod cyflwyniad wedi ei gael gan Swyddog Gan Bwyll ag yn egluro nid oedd yn gallu dod i’r ardal
gyda’r cerbyd Gan Bwyll oherwydd bod ddim archwiliad traffic heb gael ei gario allan ers pan mae yr 20 m.y.a wedi dod i rym. Mae yn gobeithio bydd yr archwiliad hwn yn cael ei gario allan yn fuan ag wedyn byddai yn gallu dod yn nol i’r ardal. Hefyd carwyd wybod bod yn bosib adrodd am broblemau baw cwn i’r Swyddog Gorfodaeth a’r app Gwynedd. Cafwyd wybod gan yr Heddlu bod mwy o ymddygiadau gwrthgymdeithasol wedi bod yn ystod y flwyddyn diwethaf rhwng Harlech a Bermo ag hefyd bod yr achosion o droseddau yn yr ardal wedi codi yn ystod y flwyddyn diwethaf. ‘Roedd wedi gofyn i’r Heddlu unwaith yn rhagor a fyddai yn bosib iddynt ofyn i’r Warden Traffic ymweld ar dref oherwydd bod rhai yn parcio ar hyd y stryd fawr trwy’r dydd. ‘Roedd hefyd wedi cael cwynion am gyflwr y llwyni sydd wedi gor-dyfu yn maes parcio Bron y Graig isaf ag ei bod wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglyn a hyn.
Adroddodd y Cyng. Gwynfor Owen ei fod wedi mynychu agoriad yr ardd yn cae chwarae Brenin Sior ag eisiau llongyfarch Mr. Joe Patton, ‘roedd wedi cael ei ddewis i eistedd ar y pwyllgor sydd yn ymchwilio i ddiogelu yn yr ysgolion, ‘roedd wedi derbyn cwynion ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y coed ger y llwybr natur.
MATERION YN CODI
Cynllun Cyllideb
Adroddwyd bod £80,011.63 (a oedd yn cynnwys costau banc) wedi cael ei wario ers cychwyn y flwyddyn ariannol newydd a bod hyn yn £37,545.37 o wariant yn llai na oedd wedi cael ei glustnodi yn y gyllideb am y flwyddyn. (Mae hyn ar ol i’r gyllideb gael ei ail wneud). ‘Roedd y Clerc wedi anfon copïau o gynllun gyllideb y Cyngor am y flwyddyn 2025/26 i bob Aelod ac aethpwyd drwy’r cynllun hwn. Cytunwyd i fabwysiadu y cynllun hwn am y flwyddyn i ddod.
Rhandiroedd
Adroddodd y Clerc ei bod wedi cael gwybod bod Mr. Meirion Evans wedi cwblhau y gwaith oedd i fod i wneud ar y safle uchod. Adroddodd y Cyng. Reg Chapman bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol i greu is-bwyllgor ag fe gytunwyd bod tenantiad y rhandiroedd yn gallu bod yn rhan o’r is-bwyllgor hwn ag y byddant yn gallu ceisio am grantiau.
Gwefan y Cyngor
Adroddodd y Clerc bod yr Is-Gadeirydd a hithau wedi cael cyfarfod gyda Mr. Owen Brown dydd Gwener diwethaf a bod y wefan yn edrych yn dda ar gobaith ydi bydd y wefan yn fyw erbyn cyfarfod nesa y Cyngor. Fe ddangoswyd llun o sut byddai clawr y wefan yn edrych i’r holl Aelodau ag fe gytunwyd i ofyn os byddai yr agenda a chofnodion yn cael eu rhestru.
Cynllun Rheolaeth Llwybr Natur
Adroddodd y Clerc bod Mr. Tom Edwards wedi cysylltu a hi yn dweud ei fod wedi bod i fyny ar y safle uchod a wedi ei gerdded a bod dipyn o waith angen ei wneud yna ag ‘roedd wedi derbyn pris gan Mr. Edwards i gario y gwaith angenrheidiol allan yn unol ag yr adroddiad oedd wedi ei dderbyn gan y Parc Cenedlaethol.
. ‘Roedd pawb yn cytuno i dderbyn y pris o £5,750 am bod y gwaith hwn yn cael ei adnabod fel gwaith brys. Hefyd cafwyd wybod bod y Parc Cenedlaethol wedi cytuno i gyfranu i fyny hyd at £2,500 i gario y gwaith hwn allan.
Tir Penygraig
Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod wedi anfon yr e-bost isod ymlaen i bob Aelod ar ol cyfarfod mis Mawrth ag fe gytunwyd i ateby cwestiynua oedd yn cael eu gofyn fel a ganlyn:-
1. A fyddwch chi yn cyfarwyddo syrfewr i wneud y canlynol?: Cytunwyd gofyn i Mr. Edwards a oedd yn gwybod am surfeiwr addas
i. I ganfod a yw`r tir yn ddiogel yn ffisegol i`w brynu;
ii. I wneud asesiad risg o`r safle;
iii. I ganfod a yw`r eiddo yn peryglu eiddo cyfagos;
iv. I adrodd a oes neu a fydd gwariant angenrheidiol ar yr eiddo yn y dyfodol i`w gadw yn ddiogel.
2. Atodwn gopi o TP1 y gofynnir ichi ei harwyddo maes o law. Cyfeireiwn yn benodol at y cymalau canlynol (ond dylech ei darllen i gyd yn ofalus): 4.1.1; 4.1.2; 4.1.3; 4.1.4; a 4.1.4.
5. Cyfeiriwn at gymal 5.4. A wyddoch am unrhyw `Notice`? Na
6. Bydd y terfynau rhwng yr eiddo hwn a`r eiddo sydd ym meddiant y gwerthwr nas gwerthir ichi yn derfynau a gedwir ar y cyd - cymal 6.3. Ia
f) Glanhau traeth Harlech (ardal gogleddol)
Yn absenoldeb y Cyng. Simon Turner gafodd yr adroddiad canlynol ei ddarllen allan ar ei ran – ei fod yn cael trafferth I ddod o hyn I berson lleol hefo tractor a trelar I yrru ar y traeth a bod y Cyng. Mark Lewis yn holi rhywun oedd yn ei adnabod.
Yn y disgwyliad o ddatrys hyn, roedd wedi trefnu'r canlynol:
Bydd Canolfan Ailgylchu Harlech yn derbyn y tractor a'r trelar i ddympio'r eitemau a gasglwyd. Byddant yn didoli ac yn ailgylchu.
Cytunwyd ar fynediad i'r traeth gyda swyddog traeth Porthmadog yng Nghyngor Gwynedd.
Mae cwmni o'r enw 'Waffle & Graze' wedi cytuno i gwrdd â'r gwirfoddolwyr glanhau traeth yn y maes parcio cyhoeddus ar ôl y clirio a 'gwobrwyo' eu hymdrechion gyda choffi a waffl Gwlad Belg ar gost fras o £280.
Byddai unrhyw help i ddod o hyd i berchennog tractor / trelar yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Cytunwyd bod angen dadansoddiad o'r costau gwirioneddol gan Waffle & Graze ag hefyd i awgrymu ei fod yn gofyn i’r golff os oeddynt yn gallu helpu hefo tractor a trelar.
Ffens ar hyd yr A496
Am bod ddim ateb wedi ei dderbyn gan berchnogion y tir ynglyn ar ffens uchod cytunwyd gofyn i Mr. Meirion Evans am bris i dynnu y ffens i lawr.
Cae Chwarae Brenin Sior
Adroddodd y Clerc ei bod wedi derbyn e-bost gan Mr. Joe Patton yn hysbysu y Cyngor ei fod wedi cael sgwrs gyda Gwenno Jones o’r Parc Cenedlaethol ynglyn a grant Cronfa Cymunedau Eryri sydd i fod i agor unwaith fydd cyfanswm y grant wedi cael ei adnabod a bod y grant hwn ar gael i gymunedau sydd yn awyddus i wella mynediad i lefydd chwarae. ‘Roedd Mr. Patton eisiau caniatad y Cyngor i rhoid grant i mewn i alluogi archebu rowndabout fyddai’n addas i gymeryd cadair olwyn ar gost o £21,120 a’i osod o fewn yr ardal chwarae. Adroddodd y Clerc ymhellach bod Mr. Patton wedi cael pris gan gwmni G. L. Jones i gario allan y gwaith hwn. Cytunwyd i rhoid caniatad i Mr. Patton geisio am grant ag hefyd dymuna y Cyngor ddiolch i Mr. Patton am yr holl waith caled mae yn ei wneud gyda cae chwarae Brenin Sior.
HAL
Adroddodd y Cyng. Reg Chapman bod deialog barhaus yn mynd rhagddo gyda'r ddau barti a bod y Bwrdd yn aros am adroddiadau ariannol l ganddynt a byddai diweddariad yn cael ei roi yng nghyfarfod nesaf y Cyngor.
CEISIADAU CYNLLUNIO
Gosod 12 panel solar ar y ddaear (3.6kw) Foel, Harlech (NP5/61/608E)
Cefnogi y cais hwn
Codi porth a balconi i’r tŷ presennol ac ailosod storfa allanol bresennol i greu cegin allanol newydd a phorth car dan do Erinfa, Stryd Fawr, Harlech (NP5/61/669)
Cefnogi y cais hwn
Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer sy’n sefyll ar ben ei hun o fewn y cwrtil cefn 27 Glan Gors, Harlech (NP5/61/673)
Adroddodd y Clerc bod y cais uchod ddim ond wedi cael ei derbyn bore heddiw ag felly byddai yn ei anfon ymlaen i bob Aelod yfory.
ADRODDIAD Y SWYDDOG ARIANNOL CYFRIFOL
Adroddodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol bod £12,078.16 yn y cyfrif rhedegol a £83098.41 yn y cyfrif cadw.
Taliadau yn ystod y mis
Cyllid a Thollad - £110.00 - treth ar gyflog y Clerc
Un Llais Cymru - £370.00 – tal aelodaeth am y flwyddyn
Un Llais Cymru - £80.00 – hyfforddiant Cynghorwyr
Woodland Trust - £1.20 - rhent arwydd yn Coed Llechwedd
Mr. G. J. Williams - £202.00 - torri gwair cae chwarae Brenin Sior
Mr. Meirion Evans - £720.00 - creu llwybr cerdded o amgylch y rhandiroedd
Cyngor Gwynedd – £960.86 – gwagio biniau ysbwriel y ddau barc chwarae
Mr. M. J. Kerr - £470.00 - agor bedd y diweddar Mrs Sarah Catherine Bridle
Cytunwyd byddai yr anfoneb oedd y Cadeirydd wedi ei dderbyn gan Mr. Lee Warwick am lanhau y toiledau cyhoeddus ger y castell yn cael ei dalu unwaith fyddai wedi cael ei anfon ymlaen i’r Swyddog Ariannol Cyfrifol
Ceisiadau am gymorth ariannol
CFFI Meirionnydd - £500
Teulu Castell – £500
CFFI Ardudwy - £500
Cytunwyd bod yr is-bwyllgor Cyllid yn datblygu gweithdrefnau clir ar gyfer ystyried ceisiadau grant a dderbynnir yn y dyfodol i'r Cyngor eu cymeradwyo. Yn y dyfodol, rhaid i ymgeiswyr nodi'r diben y gofynnir am grant ar ei gyfer a darparu cyfrifon a gwybodaeth cefndirol arall. Byddai'r Is-bwyllgor Cyllid yn cynnal yr asesiad cychwynnol o geisiadau am grant ac yn gwneud argymhellion priodol i'r Cyngor i'w penderfynu yn y dyfodol
Fe gafodd y taliadau uchod eu prosesu gan y Cyng. Tegid John a wnaeth y Cyng. James Maxwell gymeradwyo’r taliadau ag fe roddwyd ganiatad I’r Clerc/Trysorydd I’w talu ar lein neu drwy siec ar ddiwedd y cyfarfod.
‘Roedd y Swyddog Ariannol Cyfrifol wedi anfon copïau o gyfrifion y Cyngor yn diweddu 31ain o Fawrth 2025 i bob Aelod yn barod. Fe aethpwyd drwy’r cyfrifon yn ofalus ag fe gymeradwyddwyd y cyfrifon yn unfrydol gan yr Aelodau. Cytunwyd gan pawb bod y llyfr cyfrifon yn cael ei arwyddo gan y Cadeirydd a’r Clerc.
Adroddwyd bod yr is-bwyllgor cyllid wedi cyfarfod dydd Mercher diwethaf ag hefyd ‘roedd y Clerc yn bresennol a dangosodd y Cyng. Martin Hughes y taenlen ynglyn a sut fydd yr incwm ar gwariant yn cael ei gadw yn y dyfodol i’r holl Aelodau.
Derbyniadau ers y cyfarfod diwethaf
Cyllid a Thollad - £540.31 – ad-daliad TAW
Pritchard a Griffiths - £945.00 – claddu y diweddar Mrs Sarah Catherine Bridle
Anfonebau angen eu talu ers y cyfarfod diwethaf
Catrin Soraya Williams – £145.00 - gwasanaeth cyfieithu
GOHEBIAETH
Parc Cenedlaethol Eryri
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod Ymgynghoriad Cyhoeddus Canllaw Cynllunio Atodol Drafft ynglyn a rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau (ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr) yn cael ei gynnal a bydd rhaid anfon unrhyw sylwadau erbyn y 14eg o’r mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r llythyr hwn i bob Aelod yn barod.
Eisteddfod Ardudwy
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn diolch am y rhodd ariannol a dderbyniwyd ganddynt yn ddiweddar.
Teulu Castell
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol. Cytunwyd i gyfranu £500 iddynt.
CFFI Meirionnydd
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol. Cytunwyd i gyfranu £500 iddynt.
CFFI Ardudwy
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn gofyn am gyfraniad ariannol. Cytunwyd i gyfranu £500 iddynt.
Gwynedd Council – Legal Department
Wedi derbyn llythyr gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bydd Ffordd Glan y Mor yn cael ei chau ar y 30ain o’r mis hwn o Tan y Castell draw am Trem y Wawr er mwyncysylltu gwasanaethau newydd ar ran Dwr Cymru. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r llythyr hwn i bob Aelod yn barod. Datganwyd pryder bod y ffordd hon yn cael ei chau ar adeg prysur i ymwelwyr a cytunodd y Cadeirydd gysylltu gyda Chyngor Gwynedd i ddatgan hyn.
Cyngor Gwynedd – Adran Priffyrdd
Wedi derbyn llythyr gan yr Adran uchod yn hysbysu y Cyngor bydd y Tim Tacluso Ardal Ni yn ymweld ar ardal rhwng y 7ed ar 18ed o’r mis hwn. ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r llythyr hwn i bob Aelod yn barod.
Cyngor Gwynedd - Adran Etholiadol
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad cymunedol o dan adrannau 25 a 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a bod hyn yn golygu ystyried newidiadau posib i ffiniau rhai cymunedau penodol o fewn Gwynedd a wardiau pob cymuned. Mae’r adroddiad yn cynnwys cynigion drafft y Cyngor ar gyfer gwneud newidiadau, ynghyd â manylion yr adolygiad a bydd cyfnod ymgynghori cyhoeddus ar y cynigion drafft yn cael ei gynnal rhwng yr 28ainth o fis diwethaf ar 23ain o Fai eleni, ‘Roedd y Clerc wedi anfon copi o’r llythyr hwn i bob Aelod yn barod.rd of May this year. Roedd y Clerc wedi anfon yr e-bost hwn ymlaen i bob Aelod yn barod
Un Llais Cymru
Wedi derbyn e-bost gan yr uchod yn hysbysu y Cyngor bod gweminar yn cael ei gynnal ynglyn a dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecoystemau. Adroddodd y Clerc ymhellach ei bod hi wedi cofrestru i fynychu y gweminar hwn yn barod ar yr 14eg o’r mis hwn.th of this month.
Ieuenctid Gwynedd
Wedi derbyn e-bost gan Mrs Nia Rees, Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yn gofyn am ganiatad y Cyngor i ddefnyddio cae chwarae Brenin Sior i wneud chwaraeon bob nos Iau o 6.30 tan 8.00 o’r gloch ag yn dechrau ar ol y Pasg. Cytunwyd rhoid caniatad iddynt.